Mae helpu i ddiogelu Cymru rhag ymosodiadau seiber, creu swyddi newydd sydd â llif o dalent yn y dyfodol ar gyfer ecosystem seiber sy'n tyfu'n gyflym yn y DU wrth wraidd Cynllun Gweithredu Seiber newydd i Gymru, sy'n cael ei lansio heddiw gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
- Pedair blaenoriaeth mewn Cynllun Gweithredu Seiber newydd i Gymru: Tyfu'r sector seiber, adeiladu llif o dalent, hybu seibergadernid, a diogelu gwasanaethau cyhoeddus.
- Mae'r cynllun yn tynnu ynghyd y llywodraeth, y diwydiant, y byd academaidd a gorfodi'r gyfraith.
- Mae'r cynllun yn bwrw ymlaen â'r Strategaeth Ddigidol i Gymru sydd wedi'i chynllunio i greu gwasanaethau sy'n fwy ystyriol o ddefnyddwyr mewn economi ddigidol gryfach.
Mae'r cynllun newydd yn nodi sut y gall sector seiber flaenllaw Cymru gefnogi twf economi Cymru, gan sicrhau y gall Cymru ffynnu drwy seibergadernid, talent, ac arloesedd.
Mae pandemig Covid-19 wedi cyflymu amlygrwydd a phwysigrwydd y byd digidol ym mywydau pobl Cymru. Mae'r ddibyniaeth hon wedi arwain at gynnydd o ran y risg o ymosodiadau seiber mwy cyffredin a soffistigedig.
Mae Strategaeth Ddigidol i Gymru Llywodraeth Cymru yn pennu gweledigaeth i wella bywydau pawb drwy gydweithio, arloesi, a gwasanaethau cyhoeddus gwell.
Mae seiberddiogelwch a seibergadernid effeithiol, sector busnes seiber cryf a phobl, busnesau a gweision cyhoeddus sy’n ymwybodol o faterion seiber yn hanfodol er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon.
Tra bod seibergadernid a seiberddiogelwch wrth wraidd cynllun newydd Llywodraeth Cymru, mae seiber hefyd yn cynnig cyfleoedd economaidd o bwys wrth i'r sector sy'n tyfu yng Nghymru arwain y ffordd ledled y DU.
Mae'r cynllun yn pennu gweledigaeth ar gyfer seiber yng Nghymru a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ar draws sectorau gan gynnwys:
- Diogelwch a chadernid – sicrhau bod busnesau, sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus yn cymryd camau i leihau’r risgiau ac i baratoi ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau seiber, delio â hwy ac adfer ar eu hôl.
- Yr economi – yn ddiwydiant hanfodol yn y dyfodol gyda chyrhaeddiad byd-eang, gall seiber gefnogi twf economi Cymru. Mae swyddi o safon uchel mewn gyrfaoedd sy'n caniatáu i bobl ifanc gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru yn hanfodol i'n ffyniant yn y tymor hir.
- Sgiliau – sicrhau bod gan Gymru y doniau iawn i gefnogi busnesau a gwasanaethau cyhoeddus gyda'r sgiliau seiber sydd eu hangen arnynt.
- Ecosystem seiber – Mae Cymru’n arwain rhai o’r datblygiadau mwyaf arloesol yn y byd seiber, gydag un o’r ecosystemau seiber mwyaf yn y DU. Mae’n gartref i chwaraewyr byd-eang yn y diwydiant seiber. Mae'r Cynllun Gweithredu Seiber yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan geisio harneisio'r cyfleoedd trawsbynciol o weithio mewn partneriaeth agos.
Mae'r Cynllun yn canolbwyntio ar fanteisio i’r eithaf ar fuddsoddiadau a phartneriaethau presennol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i Gymru drwy gynyddu cydweithio a dulliau cydgysylltiedig.
Yn y Cynllun Gweithredu, mae i “seiber” sawl ystyr:
- Bod pawb yn teimlo’n hyderus i fod mor ddiogel â phosibl ar-lein
- Bod ein busnesau mor gynhyrchiol, effeithlon a chadarn â phosibl
- Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol ac mae’r bobl sy’n eu defnyddio yn ymddiried ynddynt
- Trawsnewid economi Cymru yn y tymor hwy drwy feithrin diwydiannau’r dyfodol a gweithlu digidol medrus.
Yn rhan o lansiad y cynllun, ymwelodd y Gweinidog ag ITSUS Consulting o Gaerdydd, sef BBaCh sydd â pheirianwyr systemau arbenigol. Mae ITSUS yn arbenigo mewn seiber a deallusrwydd, profi a gwerthuso, ac integreiddio systemau i ddarparu atebion arloesol, diogel, a chost-effeithiol i gwsmeriaid ar draws y byd.
Caiff y Cynllun ei gyhoeddi cyn i'r Hyb Arloesedd Seiber newydd gael ei agor yng Nghaerdydd yn swyddogol yn hwyrach heddiw, sy'n dod â phartneriaid yn y diwydiant, y llywodraeth, amddiffyn a’r byd academaidd at ei gilydd i dyfu sector seiberddiogelwch Cymru. Mae'r Hyb yn creu dull cydlynol o ymdrin â sgiliau, arloesi a menter newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £3 miliwn yn yr hyb newydd hwn.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae seiber eisoes yn un o gryfderau mawr Cymru, ac mae gennym un o'r ‘ecosystemau’ seiber cryfaf yn y DU. Rydym yn gyffrous am botensial seiber i gynnig gyrfaoedd i bobl ifanc o bob cefndir sy'n gallu cynllunio eu dyfodol yng Nghymru gydag uchelgais gwirioneddol.
“Mae'r Cynllun Gweithredu Seiber rwy'n ei lansio heddiw yn adeiladu ar y llwyddiant rydyn ni wedi'i weld eisoes ac yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i dyfu'r sector hyd yn oed ymhellach. Rydym wedi ymrwymo i lunio sector mwy amrywiol sy'n cael ei lywio gan dalent ac nad yw'n cael ei ddal yn ôl gan nenfydau gwydr. Mae Cymru eisoes yn gosod esiampl gref gydag un o'r clystyrau ‘Merched mewn Seiber’ mwyaf gweithgar yn y DU.
“Mae'r arloesedd ar draws ein sector yn gwneud Cymru yn ddeniadol i'r rhai sy'n gweithio ym maes seiber ac yn lle gwych i adeiladu busnesau yn y diwydiant. Yn ogystal â chreu cyfleoedd a swyddi, mae'n ysgogi’r broses o ddatblygu sgiliau seiber sydd yn eu tro yn gwneud ein busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus yn fwy gwydn yn erbyn bygythiadau seiber.”
“Drwy uno o amgylch meysydd blaenoriaeth y Cynllun Gweithredu Seiber, gallwn sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i Gymru drwy gadernid, talent ac arloesedd.”