Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei dogfen ategol sy'n cyd-fynd â chynllun y DU ar gyfer mynd i’r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymyl y ffordd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ddogfen yn amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar bum safle sydd o fewn Rhwydwaith Ffyrdd a Reolir Llywodraeth Cymru ac mewn dwy ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Nod y camau yw cyflawni'r terfynau cyfreithiol o ran NO2 cyn gynted â phosibl, ac yn bwysicach fyth ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Cafodd terfynau cyflymder dros dro o 50 milltir yr awr eu cyflwyno mewn pum rhan o'r Rhwydwaith Traffyrdd a Chefnffyrdd ym mis Mehefin lle roedd y lefelau'n uwch na'r terfynau cyfreithiol o ran NO2 . Mae'r cynllun yn cynnig trefnu bod y terfynau cyflymder hyn yn rhai parhaol a hefyd yn cynnig cyflwyno gwyriadau newidiol yng Nghasnewydd. Caiff y terfynau cyflymder a'r gwyriadau eu hadolygu'n rheolaidd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod Cyfarwyddyd ar Gyngor Caerdydd a Chyngor Caerffili i gynnal asesiad erbyn 30 Mehefin 2019 er mwyn pennu'r opsiwn gorau ar gyfer cyflawni terfynau statudol o ran NO2 o fewn y cyfnod byrraf posibl.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi neilltuo £20 miliwn er mwyn cynorthwyo'r ddau awdurdod lleol i sicrhau cydymffurfiaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi Cynllun Aer Glân i Gymru y flwyddyn nesaf a fydd yn pennu llygryddion allweddol, eu heffeithiau ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd naturiol yng Nghymru a pha gamau y mae angen eu cymryd er mwyn gwella ansawdd yr aer.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:

"Mae gan bawb yng Nghymru hawl i aer glân. Rydym yn mynd ati'n ddyfal ar y cyd â gwledydd eraill y DU er mwyn trawsnewid ein trefi a'n dinasoedd mwyaf llygredig yn lleoedd dinesig glân ac iach.

"Er mai prif nod y cynllun yw lleihau crynodiadau o NO2  o amgylch ffyrdd lle y mae'r lefel yn uwch na'r terfyn cyfreithiol, rydym hefyd yn datblygu gwahanol fesurau eraill er mwyn gwella ansawdd yr aer. Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd yr aer yng Nghymru drwy fesurau cynllunio, seilwaith, rheoleiddio a chyfathrebu o ran iechyd."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Cafodd terfynau cyflymder dros dro o 50 milltir yr awr eu cyflwyno mewn pum rhan o'r Rhwydwaith Traffyrdd a Chefnffyrdd er mwyn ceisio gwella ansawdd yr aer ar unwaith. Mesur dros dro oedd hyn wrth i ragor o waith gael ei wneud yn y maes.

"Mae'n bwysig cofio bod lefelau uchel o NO2 am gyfnod hir yn gyfrifol am oddeutu 23,500 o farwolaethau yn y DU bob blwyddyn.  "Mae'n rhaid i ni felly sicrhau bod camau'n cael eu cymryd er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau cyfreithiol a hefyd sicrhau'r amodau cywir ar gyfer gwell iechyd a llesiant."