Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynllun gweithgynhyrchu newydd i sbarduno'r diwydiant a’i helpu i fodloni heriau y dyfodol yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Ken Skates Gweinidog yr Economi yn siarad am ei gynlluniau ar gyfer y cynllun newydd yn yr Uwchgynhadledd Foduro yng Nghastell Hensol yn ddiweddarach heddiw.

Bydd yn bartneriaeth rhwng diwydiant, y byd academaidd a llywodraeth a bydd yn crynhoi'r ymdrechion ar sicrhau bod gallu gweithgynhyrchu Cymru yn addas at y dyfodol.

Bydd y cynllun yn nodi'r camau sydd eu hangen i ddatblygu sector gweithgynhyrchu cadarn, datblygedig, a gweithlu sydd â sgiliau cryf, diweddaraf i ddarparu'r cynnyrch a'r technolegau ar gyfer economi gysylltiedig a chynaliadwy. Y bwriad yw cyhoeddi'r cynllun ym mis Ebrill 2020.

Bydd yr uwchgynhadledd yng Nghastell Hensol, 'Y Ffordd Ymlaen ar gyfer Gweithgynhyrchu Symudedd', yn dod â'r prif chwaraewyr at ei gilydd i drafod y ffordd orau o warchod a datblygu gweithgynhyrchu yn y diwydiant moduro yng Nghymru, gan bod y ffordd y mae pobl yn teithio yn newid wrth ymateb i ddatblygiadau amgylcheddol a thechnolegol.

Bu i'r sector moduro yng Nghymru elwa o dwf mewn cynhyrchiant yn y DU rhwng 2010 a 2017, ond mae'r diwydiant bellach yn wynebu heriau sylfaenol yn enwedig yn dilyn cyhoeddiadau a wnaethpwyd yn ddiweddar gan Ford i gau eu canolfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr a gan Honda, i gau eu gweithfeydd yn Swindon, fydd yn cael effaith ar y gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Rydym yn benderfynol o ddatblygu cynllun gweithgynhyrchu sy'n ddatganiad gwirioneddol o fwriad gan Lywodraeth Cymru a'r camau sydd angen eu cymryd gan ddiwydiant a llywodraeth i addasu a newid i fodloni anghenion a chyfleoedd y dyfodol.

"Mae'r sector moduro, sy'n cael ei drafod heddiw, yn wynebu heriau mewn sawl maes. Mae symudedd i fynd yn rhatach, yn fwy cyfleus, yn brofiad gwell, yn fwy diogel, a glanach. Mae angen i Gymru, fel yn y diwydiant yn fyd-eang, ymateb yn ddoeth i'r datblygiadau hyn.

"Mae unrhyw un o'r tueddiadau hynny yn tarfu arnom, ond o'u casglu ynghyd maent yn golygu trawsnewidiad mawr. Bydd cerbydau awtomatig, cysylltiedig wedi'u trydaneiddio, yn galw am ddyluniadau newydd, technolegau newydd, cadwyni cyflenwi newydd a syniadau newydd.

"Gyda newid, daw cyfle, ac rydym yn gweithio'n galed i gyflwyno Cymru fel lleoliad ar gyfer y technolegau newydd fydd y sector yn galw amdanynt.

"Dewisodd Aston Martin Parc Busnes Bro Tathan i ddod yn gartref ar gyfer eu rhaglen drydaneiddio, ac rydym am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy annog eraill i ddilyn.

"Drwy adeiladu ar ragoriaeth diwydiannol ac academaidd presennol Cymru, gallwn chwarae rôl hanfodol yn y genhedlaeth nesaf o roboteg ac awtomatiaeth, symudedd carbon isel a chynhyrchu ynni.

"Bydd ein cynllun newydd yn amlwg iawn yn nyfodol y diwydiant gweithgynhyrchu ac economi Cymru, ac rwy'n awyddus i glywed barn pawb ynghylch sut y dylid llunio'r cynllun.