Adeiladu sector manwerthu mwy cadarn sy’n darparu ar gyfer cymunedau, busnesau a gweithwyr sydd wrth wraidd Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer Manwerthu sy’n cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru a Fforwm Manwerthu Cymru.
- Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer Manwerthu, sydd wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol, sy’n cynnwys camau gweithredu sy’n cyfrannu at gyflawni gweledigaeth a rennir o sector manwerthu mwy teg a chadarn.
- Nod y cynllun yw gwella rhagolygon y sector manwerthu a’r rheini sy’n gweithio ynddo.
- Camau gweithredu allweddol i gryfhau’r sector yn ystod cyfnod o newid sylweddol.
Mae Cydweithio er budd manwerthu: cynllun gweithredu fforwm manwerthu Cymru yn nodi camau gweithredu, a rennir gan yr holl bartneriaid cymdeithasol, a fydd hefyd yn sicrhau bod y sector yn cynnig gwaith teg, diogel a gwerthfawr.
Mae’r sector manwerthu yn un o’r cyflogwyr sector preifat mwyaf yng Nghymru, yn darparu swyddi i 139,000 o bobl (2021) ac yn ymestyn i gymunedau ledled y wlad.
Mae’n sector amrywiol sy’n allweddol o ran darparu cyfleoedd a gwasanaethau cyflogaeth sydd yn hanfodol i fywiogrwydd canol trefi a chymunedau gwledig Cymru.
Mae’r cynllun yn nodi’r tir cyffredin lle gall y sector ddod ynghyd i wella’i ragolygon, yn ogystal â gwella rhagolygon y rheini sy’n gweithio ynddo.
Mae camau gweithredu ar y cyd a amlinellir yn y cynllun yn cynnwys:
- hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu ar bob lefel
- gwreiddio egwyddorion gwaith teg drwy hyrwyddo’r Cyflog Byw Gwirioneddol, manteision y Contract Economaidd a rôl yr undebau llafur
- hyrwyddo manteision gyrfaoedd yn y sector
- asesu sgiliau a darpariaeth hyfforddi
- mabwysiadu’r polisi Canol Trefi yn Gyntaf wrth gynllunio
- lleihau adeiladau gwag yng nghanol trefi drwy gefnogi Awdurdodau Lleol i baru busnesau â hwy neu eu hannog i’w defnyddio at ddibenion cymunedol neu ddibenion gwerth chweil eraill
- cydweithio i hyrwyddo digwyddiadau canol trefi/ar y stryd fawr er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr
- creu amgylchedd gwaith mwy diogel
- annog y sector manwerthu i symud tuag at sero net.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio dulliau fel y Warant i Bobl Ifanc a chynlluniau cymorth cyflogaeth, cyllid Trawsnewid Trefi, cymorth Busnes Cymru a rhyddhad Ardrethi Annomestig er mwyn cefnogi twf y sector.
Lansiodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething y cynllun yn ystod ymweliad â chanol tref Llandudno a rhai o brif fanwerthwyr y dref, gan gynnwys New Look ac M&S.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
Mae gan ein sector manwerthu gyfraniad hanfodol i’w wneud i ganol ein trefi a’n dinasoedd, ein cymunedau gwledig, a’n llesiant ehangach, a ddaeth yn fwy amlwg nag erioed yn ystod pandemig Covid-19, pan fu manwerthwyr yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl a chymunedau ledled Cymru.
“Mae’r cynllun hwn yn cael ei lansio ar adeg pan fo’r sector yn wynebu newidiadau sylweddol sy’n effeithio ar weithrediadau busnes, y gweithlu, ymddygiad defnyddwyr a’r cyd-destun a’r rhagolygon economaidd ehangach. Ar ben hynny mae heriau’r argyfwng costau byw ac argyfwng costau gwneud busnes, a’r holl ansicrwydd sy’n deillio o hynny.
“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sgwrs barhaus, drwy’r Fforwm Manwerthu, i lywio’n hymateb i’r heriau a’r cyfleoedd presennol a’r rhai y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol.”
Mae’r cynllun yn adlewyrchu’r egwyddorion a nodir yn Natganiad Sefyllfa Canol Trefi Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o adfywio canol trefi, ond hefyd yn cefnogi’r amcanion sydd yn y Genhadaeth Economaidd, y dull gweithredu o ran yr Economi “Sylfaenol” leol bob dydd, a nodau ehangach, mwy strategol, Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:
Mae’r camau gweithredu hyn yn cael eu rhannu gan holl bartneriaid cymdeithasol y Fforwm Manwerthu ac maent yn dangos gwerth partneriaeth gymdeithasol yn glir. Rydym yn ddiolchgar i aelodau’r Fforwm am eu cymorth ac am gymryd rhan ac am ymrwymiad ein holl bartneriaid i gydweithio er mwyn cyflawni’r Cynllun hwn.
“Mae’r sector manwerthu yn ffynhonnell swyddi hanfodol, ac yn allweddol mewn perthynas â’n huchelgeisiau ar gyfer Cymru sy’n cynnig gwaith teg. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn adnabod rhywun sy’n gweithio yn y maes manwerthu ac mae’n bwysig bod y sector yn darparu’r tegwch, yr urddas a’r parch sydd eu hangen ar weithwyr manwerthu, ac y maent yn eu haeddu.
“Gyda chefnogaeth Fforwm Manwerthu Cymru a’i gynrychiolwyr busnes ac undebau llafur, rwy’n hyderus y bydd y Cynllun hwn o gymorth i gyflawni newidiadau cadarnhaol.”
Dywedodd Sara Jones o Gonsortiwm Manwerthu Cymru (WRC):
Mae manwerthwyr Cymru wedi dangos cryfder a gwytnwch anhygoel i oroesi heriau’r ychydig flynyddoedd diwethaf, cyfnod o drawsnewid sylweddol i’r diwydiant a gyflymwyd gan bandemig Covid-19. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru yn falch iawn o fod wedi cydweithio â’r Llywodraeth i ddatblygu’r cynllun gweithredu hwn sydd yn cydnabod y cyfraniad economaidd a chymdeithasol sylweddol y mae manwerthwyr yn ei wneud yng Nghymru ac sy’n amlinellu dull gweithredu ar y cyd o ran tyfu’r diwydiant yn gynaliadwy.
“Mae diben a bwriad amlwg i’r cynllun ac mae’n arddangos parodrwydd a rennir gan y sector a’r Llywodraeth i weithio mewn partneriaeth a rhoi’r cymorth sydd ei angen ar y diwydiant er mwyn iddo ffynnu. Mae digon i adeiladu arno, a llawer o waith i’w wneud eto, ond rydym yn hyderus bod llais y sector yn cael ei glywed. Bydd y WRC yn parhau i eiriol dros flaenoriaethu anghenion ein haelodau, ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid, gan gynorthwyo i ddatgloi’r rhwystrau er mwyn galluogi manwerthu yng Nghymru i ffynnu yn y dyfodol.”
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
Mae dylunio’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Manwerthu mewn partneriaeth gymdeithasol yn golygu bod ei lwyddiant o bwys i’r gweithwyr, y cyflogwyr a’r Llywodraeth.
“Mae’r sector manwerthu yn un o gyflogwyr mwyaf Cymru, ond mae angen gwneud llawer mwy i godi lefel cyflogau gweithwyr manwerthu ac i wella telerau ac amodau yn ehangach. Mae’r cynllun yn rhoi hynny ar waith, gan gydnabod bod codi cyfraddau cydnabyddiaeth o undebau llafur yn ganolog i hynny. Mae hefyd yn cydnabod bod heriau penodol o fewn y sector, o ran y gamdriniaeth a’r trais y mae gweithwyr siopau yn ei wynebu, ac mae camau gweithredu yn y cynllun er mwyn mynd i’r afael â hyn.”
Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Siopau Cyfleustra, James Lowman:
Rydym yn falch bod y Cynllun Gweithredu ar gyfer Manwerthu wedi cydnabod y cyfraniad pwysig mae siopau cyfleustra yn ei wneud i economi Cymru ac i gymunedau ledled Cymru, drwy ddarparu mynediad at gynnyrch a gwasanaethau hanfodol a thrwy weithredu fel man cymdeithasol i’r rhai a allai fod yn fwy unig neu agored i niwed.
“Mae’r Cynllun hefyd wedi nodi’r pwysau y mae busnesau yn ei wynebu ar hyn o bryd a’r angen i roi sicrwydd a chymorth i fanwerthwyr er mwyn iddynt ffynnu nawr ac yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i drafod â Llywodraeth Cymru, gan gynnwys drwy’r Fforwm Manwerthu yr ydym yn rhan ohono, er mwyn tynnu sylw at y cyfleoedd a’r heriau unigryw y mae nifer o siopau lleol yn eu hwynebu.”