Neidio i'r prif gynnwy

Yn dangos sut mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC) wedi’i ddatblygu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hydref 2021

Cwblhau prosiect 'Rheoli adnoddau morol yn gynaliadwy' yr EMFF.

2019 i 2021

Codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant a chyflwyno arfer gorau.

12 Tachwedd 2019

Cyflwynwyd yr Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf.

Hydref 2019

Mabwysiadu'r cynllun yn ffurfiol ganL

  • Weinidogion Llywodraeth Cymru
  • Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) (ar gyfer rhai materion sydd heb eu datganoli)

Dechrau Haf 2019

Gweithredwyr a awdurdodau cyhoeddus perthnasol yn gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol a'r dogfennau cysylltiedig. 

Ionawr 2019

Dechrau’r gwaith ar brosiect 'Rheoli adnoddau morol yn gynaliadwy' yr EMFF (pecyn gwaith 2).

Rhagfyr 2018

Cyfarfod o'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid i drafod elfennau terfynol y cynllun. Cwblhau prosiect 'Rheoli adnoddau morol yn gynaliadwy' yr EMFF (pecyn gwaith 1) wedi'i gwblhau.

Tachwedd 2018

Wedi cyhoeddi gwahoddiad i dendro ar gyfer prosiect ‘Rheoli adnoddau morol yn gynaliadwy' Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) (pecyn gwaith 2).

Medi 2018

Wedi diweddaru’r Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus

Awst i Hydref 2018

Wedi ymgysylltu'n gynnar ag awdurdodau cyhoeddus. Bydd angen iddynt wneud penderfyniadau yn unol â'r cynllun.

Gorffennaf 2018 i Mawrth 2019

Wedi datblygu:

  • fframwaith monitro
  • porth cynllunio
  • deunydd ategol

Haf 2018

Wedi ymgysylltu â Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid ar themâu allweddol yr ymgynghoriad gan gynnwys:

  • datblygu cynaliadwy
  • ardaloedd adnoddau strategol
  • rheoli trawsffiniol
  • tystiolaeth ar gyfer cynllunio

Ebrill i Rhagfyr 2018

Penderfynu ar destun terfynol y cynllun ar ôl ymgynghori ag arweinwyr polisi a rhanddeiliaid.

Ebrill i Mai 2018

Wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar ddrafft diwygiedig CMCC a chyhoeddi Chrynodeb o'r Ymatebion.

Ebrill 2018

Wedi cynnal gweithdy’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a’r rhanddeiliaid, gan arwain at gynhyrchu adroddiad gydag 13 o argymhellion. Caiff ei ystyried fel rhan o'r Cynllun terfynol.

9 Ionawr 2018

Dadl yn y Senedd ar y drafft o CMCC. 

Rhagfyr 2017 i Mawrth 2018

Ymgynghoriad Ffurfiol ar y drafft diwygiedig o CMCC.

DS. Mae'r llinell amser hon yn seiliedig ar y rhagdybiaeth na fydd ymchwiliad annibynnol