Neidio i'r prif gynnwy
  1. Beth y mae Cynllun Morol Cenedlaethol yn ei wneud?

Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC) yn nodi sut y byddwn yn datblygu ein moroedd mewn ffordd gynaliadwy. Bydd y Cynllun yn:

  • helpu i reoli'r galw cynyddol i ddefnyddio ein hamgylchedd morol
  • annog ac yn cefnogi datblygiad economaidd sectorau morol
  • sicrhau bod camau i ddiogelu'r amgylchedd a ffactorau cymdeithasol yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â'r môr.
  1. Pwy sydd wedi datblygu CMCC?

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cynllunio morol ar gyfer ardal glannau Cymru ac ardal môr mawr Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r CMCC cyntaf, a fabwysiadwyd ar 12 Tachwedd 2019. Datblygwyd y cynllun gyda rhanddeiliaid morol ac adrannau eraill o'r llywodraeth sydd â diddordeb mewn polisi morol. Datblygwyd CMCC yn unol â'r dull a nodwyd mewn Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd a gyhoeddwyd ar ddechrau'r broses gynllunio. 

  1. Sut y mae Cynllun Morol Cenedlaethol yn ymwneud â chynllunio daearol?

Bydd CMCC yn: 

  • mynd law yn llaw ac yn rhyngweithio â gweithdrefnau cynllunio tir cyffiniol 
  • gorgyffwrdd â ffiniau'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer cynllunio daearol.

Bydd hyn yn sicrhau bod cynllunio morol a daearol yn gweithio gyda'i gilydd.

Caiff y cysylltiadau rhwng y ddwy drefn gynllunio eu hegluro yn y ffeithlun hwn.

  1. Pa ardal sy'n berthnasol i CMCC?

Mae'r ardal sy'n berthnasol i CMCC yn ymestyn o'r Cymedr Penllanw Mawr fel ei bod yn cynnwys rhanbarth y glannau a rhanbarth y môr mawr (rhanbarth cynllunio môr mawr Cymru y tu hwnt i 12 môr filltir). 

  1. A fydd CMCC yn berthnasol i weithgareddau a gedwir yn ôl (h.y. y DU) yn ogystal â gweithgareddau datganoledig?

Bydd, rydym yn bwriadu cynllunio ar gyfer gweithgareddau a gedwir yn ôl a wneir ym moroedd Cymru. Mae Datganiad Polisi Morol y DU, sydd wedi'i greu a'i fabwysiadu gan weinyddiaeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, wedi llywio CMCC. Bydd yn hwyluso dull integredig o gynllunio morol ledled y DU. Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i gytuno ar CMCC ar gyfer swyddogaethau a gedwir yn ôl mewn perthynas â moroedd Cymru.

  1. A yw'r Cynllun yn cyflwyno cyfrifoldebau statudol newydd?

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus perthnasol ystyried y Cynllun wrth iddynt wneud penderfyniadau, os gallai'r penderfyniad effeithio ar ardal y Cynllun. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen gefndir y Grŵp Penderfyniadau Cynllunio Morol.

  1. A fydd y rheini sydd eisoes yn defnyddio'r môr yn gallu parhau i gynnal eu gweithgareddau?

Rhagdybir bod yr amgylchedd morol yn cael ei ddefnyddio, a hynny yn unol â phrosesau penodol megis trwyddedau morol. Bydd y rhagdybiaeth hon yn parhau ond bydd CMCC yn rhoi arweiniad ar yr hyn yr hoffwn ei gyflawni o ran yr ardal forol. Bydd yn: 

  • helpu i lywio penderfyniadau
  • rhoi arweiniad i weithgareddau allweddol
  • datrys anghydfodau 
  • hyrwyddo cynnal gweithgareddau ar yr un pryd pan fônt yn gorgyffwrdd.
  1. A yw'r Cynllun Morol Cenedlaethol yn gymwys yn unig i ddiwydiannau megis ynni adnewyddadwy a chloddio am agregau?

Datblygwyd y Cynllun ar gyfer pawb sy'n defnyddio'r môr. Mae hyn yn cynnwys: 

  • y sectorau ynni (gan gynnwys olew a nwy)
  • y sector pysgota
  • y sector twristiaeth a defnyddwyr hamdden
  • porthladdoedd a harbwrs
  • y sector dyframaethu 
  • y sector trafnidiaeth. 

Mae hefyd yn cynnwys 'polisïau cyffredinol', er enghraifft, polisïau sy'n ymwneud â'r ecosystem forol a'r amgylchedd hanesyddol morol i sicrhau bod mesurau i ddiogelu ein hamgylcheddau naturiol a hanesyddol yn cael eu hystyried pan fo penderfyniadau yn cael eu gwneud.

  1. A fydd Asesiad Amgylcheddol Strategol o'r Cynllun Morol Cenedlaethol yn cael ei gynnal?

Bydd. Cynhaliwyd Arfarniad o Gynaliadwyedd, sy'n cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol, er mwyn llywio datblygiadau. Fe'i cyhoeddwyd ochr yn ochr â'r CMCC.

  1. Pa wybodaeth a fydd yn cael ei defnyddio i ddatblygu'r Cynllun Morol Cenedlaethol?

Mae Adroddiad Tystiolaeth Forol Cymru yn darparu sylfaen dystiolaeth gydlynol i lywio datblygiad CMCC. Bydd yn cael ei ddiweddaru o dro i dro wrth i dystiolaeth newydd ddod i'r amlwg. Cyhoeddwyd diweddariad ym mis Ionawr 2020. Bydd tystiolaeth ehangach yn ogystal â gwybodaeth a sylwadau gan bobl sydd â diddordeb mewn materion morol hefyd yn cael eu hystyried.
Mae porthol cynllunio morol ar-lein hefyd ar gael sy'n dangos y defnydd a'r gweithgareddau a wneir yn Ardal Forol Cymru.  Mae'r porthol yn helpu defnyddwyr i ddeall yr hyn all fod yn ystyriaethau perthnasol mewn ardal benodol o'n moroedd.

  1. Pwy fydd yn defnyddio'r Cynllun Morol Cenedlaethol?

Bydd y Cynllun Morol yn cael ei ddefnyddio'n bennaf gan awdurdodau cyhoeddus a wneir penderfyniadau sy'n effeithio ar yr ardal forol neu benderfyniadau a allai effeithio ar yr ardal honno. Hefyd, bydd yn cael ei ddefnyddio gan unrhyw un sydd â diddordeb yn yr ardal forol, gan gynnwys y rheini sy'n dwyn cynigion ymlaen a rhanddeiliaid sydd am fynegi sylwadau ar y cynigion hynny. Rydym wedi sefydlu Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol i helpu awdurdodau perthnasol i ddeall sut y dylid gwneud penderfyniadau yn unol â'r Cynllun. 

Rydym hefyd wedi cyhoeddi Canllawiau Gweithredu.

Dylai'r canllawiau hyn sicrhau bod polisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cael eu gweithredu'n effeithiol ac yn gyson. Dylid ei ddarllen ar y cyd â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

  1. A fydd cynnwys y Cynllun Morol yn newid?

Rhaid i'r awdurdod cynllunio morol gadw llygad ar y Cynllun. Mae'n ddyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd y Cynllun ac i lunio adroddiad ar hynny bob 3 blynedd. Rhaid i'r Llywodraeth gyflwyno adroddiad ar ei bwriad bob 6 mlynedd.

13. Cymryd rhan

Mae cyfraniad y rheini sydd â diddordeb yn yr ardal forol neu sy'n gyfrifol amdani wedi bod yn ganolog i ddatblygiad y Cynllun Morol, fel y nodir yn y Datganiad ynghylch Ymgysylltu â'r Cyhoedd. Gallwch hefyd gofrestru i gael ein cylchlythyr er mwyn cael gwybod yn rheolaidd sut y mae'r gwaith yn mynd rhagddo. Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb mewn cynllunio morol i gysylltu. 

Rhannu’r dudalen hon