Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad o'r tair rownd ariannu cyntaf i ddeall effeithiolrwydd darparu cynllun.

Y broses ymgeisio

Cafodd marchnata, dylunio ac asesu Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru eu hystyried yn gadarnhaol neu'n niwtral gan ymgeiswyr. Roedd safbwyntiau cymysg ar y broses ymgeisio ei hun gyda rhai ymgeiswyr yn tynnu sylw at heriau penodol yr oeddent yn eu hwynebu wrth ymgeisio. Awgrymodd rhanddeiliaid ac ymgeiswyr y gallai cymorth ymgeisio ychwanegol helpu i fynd i'r afael â heriau wrth wneud cais.

Cyflawni

Oherwydd nifer isel y ceisiadau ar gyfer y tair rownd ariannu cyntaf, roedd graddfa'r cyflawni yn gymedrol. Fodd bynnag, cyflawnwyd gweithgarwch a ariannwyd drwy'r cynllun fel y bwriadwyd. Roedd profiad y broses hawlio'n gymysg, gydag ymgeiswyr unigol yn tynnu sylw at broblemau penodol yr oeddent yn eu hwynebu.

Roedd gwersi o rowndiau blaenorol wedi'u symud ymlaen i'r bedwaredd rownd ariannu. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn gam cadarnhaol gan randdeiliaid.

Ymgysylltu â'r sector

Roedd pwysigrwydd ymgysylltu ar draws y sectorau pysgodfeydd, morol a dyframaeth yn rhywbeth a welwyd dro ar ôl tro. Roedd hyn yn cynnwys yr angen i ehangu ymgysylltiad â'r sector i sicrhau bod y sector yn cydweddu.

Dysgu o gynlluniau eraill

Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried sut y cafodd cynlluniau eraill eu cyflwyno yn y DU ac yng Nghymru yn benodol a allai gynnig gwersi defnyddiol i Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.

Effeithiau tymor byr

Mae tystiolaeth o effeithiau tymor byr yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae adborth ansoddol gan ymgeiswyr yn awgrymu bod prynu offer wedi golygu arferion gwaith mwy diogel, mwy o effeithlonrwydd a mwy o gapasiti ar gyfer storio / dal.

Adroddiadau

Gwerthusiad proses Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Aimee Krishan

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.