Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi'n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, mae'n rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Cylch Ariannu Cyffredinol Cyfnod 2

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn creu ac yn gosod telerau Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.

4. Amcan polisi penodol y cynllun

Nodau ac amcanion strategol Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Cylch Ariannu Cyffredinol Cyfnod 2 yw cefnogi prosiectau sy'n gwneud y canlynol:

  • Cyfrannu at amgylchedd morol yng Nghymru sy'n wydn ac yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd.
  • Cyfrannu i sicrhau bod gan Gymru'r wyddoniaeth a'r dystiolaeth i lywio penderfyniadau yn y dyfodol yn sector morol, pysgodfeydd a dyframaethu Cymru ar sail data i sicrhau bod sectorau morol yn gallu cyd-fodoli.
  • Cyfrannu at sicrhau bod gan Gymru amgylchedd morol bioamrywiol ac ecosystem gynaliadwy sy’n ffynnu.
  • Cyfrannu at sector bwyd môr cynaliadwy, proffidiol ac amrywiol yng Nghymru sydd â marchnad ddomestig gref ynghyd â marchnad sy'n ehangu ledled y byd.

5. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r Cynllun

Llywodraeth Cymru

6. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Rydych yn gymwys i wneud cais:

  • Os yw eich busnes/sefydliad wedi'i leoli yng Nghymru.

Ac rydych yn:

  • Fenter forol, bwyd môr neu ddyframaethu yng Nghymru sy’n un o’r canlynol:
     
    • Busnes bach neu ganolig sy’n endid micro
    • Busnes bach neu ganolig nad yw’n endid micro
    • Busnes nad yw'n fusnes bach neu ganolig
    • Sefydliadau neu fentrau cydweithredol sy'n gweithredu ar y cyd er 
      budd nifer o fentrau neu sector.

neu

  • Gorff Sector Cyhoeddus (gan gynnwys Cyrff Cyfraith Gyhoeddus a Chyrff Academaidd)
  • Corff Trydydd Sector – di-elusen
  • Elusen

7. Sectorau i'w cefnogi

Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota

Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol

8. Hyd y cynllun

13 Ionawr 2025 hyd 31 Mawrth 2026

9. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun

£1400000.00

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Nodwch fod Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Cylch Ariannu Cyffredinol Cyfnod 2 yn cynnwys amrediad eang o 11 categori, gyda chyfanswm o 36 is-gategori, a bod gan rai is-gategorïau gyfyngiadau cymhwystra pellach.

Mae 11 categori sy'n cwmpasu cyfanswm o 36 is-gategori y gall ymgeisydd wneud cais yn eu herbyn. Mae gan bob is-gategori gyfyngiadau cymhwystra penodol pellach yn ogystal â'r meini prawf cymhwystra cyffredinol.

Dyma'r 11 categori:

  1. Arloesi
  2. Gwasanaethau cynghori
  3. Hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio
  4. Iechyd, diogelwch a llesiant
  5. Porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio a chysgodfannau
  6. Cynyddu potensial safleoedd dyframaethu.
  7. Mesurau marchnata
  8. Prosesu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu er mwyn ychwanegu gwerth a gwella ansawdd cynhyrchion
  9. Cyfyngu ar effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol, ac addasu pysgota i warchod rhywogaethau
  10. Diogelu, adfer a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau morol.
  11. Effeithlonrwydd ynni

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae nifer o gyfraddau ymyrryd, yn dibynnu ar faint y fenter a'r math o fenter sy'n gwneud cais:

(Y ganran a ddangosir yw'r gyfradd ymyrryd uchaf, h.y. canran y cyllid y mae'n rhaid i'r ymgeisydd ei ddarparu)

  • Busnes bach neu ganolig sy'n endid micro –  80%
  • Busnes bach neu ganolig nad yw’n endid micro – 50%
  • Busnes preifat (nad yw'n fusnes bach neu ganolig) – 30%

Budd cyfunol neu fuddiolwyr cyfunol (e.e. sefydliadau cynhyrchwyr neu gymdeithasau pysgotwyr), sefydliadau'r Sector Cyhoeddus (gan gynnwys cyrff cyfraith gyhoeddus) ac elusennau –100%

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£100,000.00

14. Manylion cyswllt

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image