Cynllun Monitro Cychod Pysgota Cymru 2025 (WVMS): llyfryn rheolau
Yn egluro’r cynllun a’r gofynion o ran cymhwystra.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefnogi’r sector pysgodfeydd dan 12m
Bydd Cynllun Monitro Cychod Cymru yn darparu cymorth ariannol i ddiwydiant pysgota Cymru i brynu dyfais System Monitro Cychod Pysgota (iVMS) i gychod unigol.
Bydd cymorth ariannol yn ariannu pryniant un ddyfais monitro cwch pysgota ar gyfer pob cwch cymwys.
Daeth deddfwriaeth i rym yng Nghymru yn 2022 trwy Orchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob cwch pysgota masnachol o dan 12m o hyd, sy’n gweithredu ym mharth Cymru, neu bysgotwyr Cymru ble bynnag y bônt, fod â dyfais iVMS wedi’i gosod ac ar waith wrth ymgymryd â gweithgareddau pysgota.
Mae’r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn yn esbonio Cynllun Monitro Cychod Cymru. Darllenwch y nodiadau hyn yn ofalus.
Os ydych o’r farn eich bod yn gymwys a’ch bod yn dymuno gwneud cais am gymorth, darllenwch yr dran ‘Sut i Ymgeisio’ yn y Nodiadau Cyfarwyddyd hyn a’r cyfarwyddyd cysylltiedig Defnyddio RPW Ar-lein i Ymgeisio ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rhan A: cyflwyniad
Nod y cynllun hwn yw darparu cymorth ariannol i ddiwydiant pysgota Cymru i brynu dyfais monitro iVMS yn unigol ar gyfer pob cwch cymwys sy’n eiddo neu’n eiddo rhannol i chi.
Bydd ffenestr y rhaglen yn agor ar 30 Ionawr 2025 ac yn cau ar 27 Chwefror 2025.
Bydd unrhyw newidiadau i’r rheolau/cyfarwyddyd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac os oes angen gwneud hynny, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.
Rhan B: cymhwystra
Rydych yn gymwys i wneud cais:
- os ydych yn berchennog neu’n berchennog rhannol ar gwch dan 12m sydd wedi’i gofrestru ar gofrestr fflyd bysgota’r DU i borthladd yng Nghymru ac yn cael ei weinyddu a’i drwyddedu gan Lywodraeth Cymru ar ddyddiad y cais
- Os nad oes cyllid eisoes wedi’i ddyfarnu o dan y cynllun hwn ar gyfer y cwch penodol. Dim ond un dyfarniad a ganiateir fesul pob cwch cymwys
Nid ydych yn gymwys os ydych chi:
- wedi eich cael yn euog o dwyll o dan unrhyw gynllun grant arall
- wedi cyflawni tor-cyfraith difrifol yn ymwneud â mesurau cadwraeth neu reoli o fewn y 12 mis blaenorol
- wedi eich cael yn euog o drosedd sy’n cael ei hystyried yn ‘dor-cyfraith difrifol’ (gan gynnwys unrhyw bysgota anghyfreithlon ac anrheoleiddiedig nas hysbyswyd amdano neu dwyll anghyfreithlon), yn y 12 mis cyn gwneud cais
- yn gweithredu cwch sydd wedi ei restru am bysgota anghyfreithlon ac anrheoleiddiedig nas hysbyswyd amdano (pysgota IUU) yn y DU; Sefydliad neu Drefniant Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol (RFMO/A); neu a nodwyd fel un sydd wedi cymryd rhan mewn pysgota IUU o dan Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymorthdaliadau Pysgota
Costau cymwys
Bydd y cyllid yn cael ei gapio ar £800 gan gynnwys TAW a bydd yn cwmpasu cost prynu dyfais iVMS gan gyflenwyr sydd:
wedi llwyddo i gwblhau integreiddiad i hwb Cynllun Monitro Cychod y DU
ac;
- mae’r ddyfais iVMS yn bodloni gofynion Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022.
Ar hyn o bryd, mae dau gyflenwr a dau fath o ddyfais iVMS:
- Nemo – a ddarperir gan CLS UK, a elwir yn ffurfiol yn Fulcrum Maritime Systems Ltd
- SC2 – a ddarperir gan Succorfish Ltd
Byddwn yn talu’r pris isaf o naill ai’r gost safonol gymeradwy neu’r pris gwirioneddol fel sydd ar y dderbynneb a ddarperir gyda’ch hawliad.
Costau anghymwys
- ni chaniateir prynu eitemau ail-law
- amser ar yr awyr sy’n gysylltiedig â’r ddyfais iVMS
- gosod
- atgyweirio neu newid unrhyw ddyfais iVMS yn y dyfodol
Cyfradd Uchaf
Uchafswm y grant yw £800 gan gynnwys TAW.
Rhan C: gofynion allweddol
- darparu anfoneb,
- prawf o daliad (tystiolaeth o daliad o’ch cyfrif banc i’r cyflenwr)
erbyn y dyddiad a ddarperir yn eich cynnig Dyfarniad Grant.
Bydd y Tîm Grantiau yn cychwyn gwiriadau i gadarnhau bod y ddyfais wedi’i gosod ar y cwch penodol a’i bod yn weithredol o fewn 90 diwrnod calendr o dalu unrhyw gyllid grant. Os nad yw’r ddyfais wedi’i gosod ac nad oes esboniad addas wedi’i roi, yna gellir cychwyn achos adfer.
Rhaid i’r ymgeisydd fod yn berchennog cwch dan 12m sydd wedi’i gofrestru ar gofrestr fflyd bysgota’r DU i borthladd yng Nghymru ac yn cael ei weinyddu a’i drwyddedu gan Lywodraeth Cymru ar ddyddiad y cais.
Rhaid i’r ymgeisydd gytuno i waredu’r hen ddyfais yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.
Rhan D: sut i ymgeisio
RPW Ar-lein
Bydd ceisiadau’n cael eu cyflwyno trwy ddefnyddio RPW Ar-lein. I gyflwyno cais, rhaid i chi gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a chael Cyfeirnod Cwsmer. Edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru i ddarllen y canllawiau ar gofrestru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael cynnig grant trwy gyfrwng eich cyfrif RPW Ar-lein.
Ar ôl i chi gael llythyr yn cynnig grant, rhaid i chi ei dderbyn o fewn 30 diwrnod calendr o’r dyddiad yr anfonwyd y llythyr cytundeb cynnig grant atoch. Os na fyddwch yn derbyn y cytundeb cynnig grant o fewn 30 diwrnod calendr, bydd yn cael ei dynnu’n ôl.
Unwaith y byddwch wedi derbyn eich llythyr cynnig grant, os ydych yn llwyddiannus, rhaid i chi brynu’r ddyfais iVMS cymeradwy o fewn 60 diwrnod calendr a chyflwyno hawliad trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein o fewn 120 diwrnod calendr o ddyddiad cyhoeddi’r llythyr cynnig grant. Bydd y llythyr cynnig grant yn cynnwys manylion llawn ynglŷn â’r dyddiad y bydd yn rhaid i chi dderbyn y cynnig grant, ac erbyn pryd y bydd yn rhaid i chi brynu’r ddyfais iVMS a chyflwyno hawliad.
Ni ddylech wneud cais am unrhyw eitemau a brynwyd cyn 19 Rhagfyr 2024
Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: Bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol. Os byddwch yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, faint o grant a gawsoch a chrynodeb o’ch buddsoddiad.
Mae dau ganlyniad posibl:
- Ni fydd eich cais yn gymwys i gael y grant. Byddwch yn cael llythyr yn esbonio pam y gwrthodwyd eich cais.
- Bydd eich cais yn gymwys a bydd yn cael ei gymeradwyo i gael dyfarniad grant. Bydd llythyr cytundeb cynnig grant yn cael ei anfon atoch ar-lein, yn nodi amodau a thelerau’r dyfarniad. Gofynnir i chi dderbyn y cynnig grant fel arwydd eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau.
Rhan E: amodau’r grant
Rhaid i chi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a bennir gan gyfraith y DU.
Cynigir y grant yn amodol ar amodau a thelerau, yn cynnwys y rhai a nodir isod ymhlith eraill. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu at adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.
Amodau:
- Rhaid i chi dderbyn y cynnig o fewn tri deg (30) diwrnod calendr o’r dyddiad yr anfonwyd y llythyr cynnig grant atoch ar-lein.
- Mae’r grant yn cael ei gynnig ar sail y datganiadau a gyflwynwyd gennych chi neu eich cynrychiolwyr yn y cais a’r ohebiaeth ar-lein ddilynol. Mae’n drosedd gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol.
- Ni ddylech brynu unrhyw eitemau sy’n gysylltiedig â’r cais cyn 19 Rhagfyr 2024.
- Mae’n RHAID i chi wneud cais ar wahân ar gyfer pob cwch cymwys.
- Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y ddyfais iVMS sy’n rhan o’r cais hwn yn dechnegol hyfyw, yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol ac unrhyw ofynion diogelwch eraill sy’n benodol i’r prosiect dan sylw.
- Rhaid cyflwyno hawliadau yn y fformat priodol a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau angenrheidiol. Os na wneir hyn, ni fyddant yn cael eu derbyn a byddant yn cael eu dychwelyd at yr hawlydd.
- Rydych yn cadarnhau nad oes unrhyw un o’r eitemau yn y cais yn eitemau amnewid o dan hawliad yswiriant.
- Os gofynnir i chi, rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi ceisio unrhyw gyllid cyhoeddus arall (naill ai o ffynonellau’r UE neu’r DU).
- Rhaid i’r cyhoeddusrwydd a roddir i’r buddsoddiad gyfeirio at y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Os gofynnir i chi, rhaid i chi roi dogfennau gwreiddiol yn ymwneud â’r buddsoddiad i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Archwilydd Cyffredinol Cymru.
- Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennaeth ategol yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
- Os byddwch yn llwyddiannus, mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich busnes neu eich cwmni, faint o grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch buddsoddiad.
- Mae Hysbysiad Preifatrwydd yn berthnasol i’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r modd y bydd Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio eich data personol ac yn nodi eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Rhan F: talu’r grant
Hawliadau
Byddwch yn cael nodiadau cyfarwyddyd ynglŷn â sut i gyflwyno hawliad ar ôl i’r dyfarniad gael ei gadarnhau ac yna fe’ch gwahoddir i gyflwyno hawliad. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod yr arian perthnasol wedi’i wario y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd tâl yn cael ei anfon i’ch cyfrif banc trwy drosglwyddiad electronig.
Rhaid prynu’r eitem ar neu ar ôl 19 Rhagfyr 2024.
Rhaid i chi gyflwyno eich hawliad trwy gyfrwng eich cyfrif RPW Ar-lein o fewn 120 diwrnod calendr o’r dyddiad y cawsoch y cynnig.
Mae’n rhaid darparu tystiolaeth o waredu’r ddyfais AST a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn flaenorol, lle bo hynny’n berthnasol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru
Yn ystod oes y grant, pan gaiff hawliadau eu cyflwyno, mae’n bosibl y bydd angen craffu arnynt er mwyn sicrhau bod y gwariant yn gymwys ac yn cyd-fynd â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol.
Hawliadau anghywir
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cyflwyno hawliadau prydlon.
Os bydd yr hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei ostwng i’r swm cymwys a bydd y grant a delir yn cael ei gyfrifo’n unol â hynny.
Os ydych yn ansicr a yw unrhyw wariant yn gymwys, rhaid i chi wirio hyn cyn ysgwyddo’r costau.
Rhan G: rheoli, monitro a chadw cofnodion
Mesurau rheoli
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau Cynllun Monitro Cychod Cymru.
Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad, a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio.
Monitro a gwerthuso
Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect.
Rhaid i chi gydweithredu ag unrhyw werthusiad ôl-weithredu o’ch prosiect a’r cynllun yn ei gyfanrwydd.
Cadw cofnodion
Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am chwe blynedd.
Hefyd, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- darparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich cynnig o grant yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru
- darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch cynnig o grant i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantiaid
- caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono
Rhan H: y drefn apelio a chwyno
Gweithdrefn apelio
Os caiff eich cais ei wrthod, ni fydd gennych unrhyw sail i apelio.
Ni fydd amgylchiadau arbennig neu anghytundeb ag unrhyw agwedd ar feini prawf cymhwystra’r cynllun yn sail dros apelio.
Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad mewn hawlio, yna rhaid cyflwyno apeliadau yn cynnwys tystiolaeth ategol, drwy RPW Ar-lein cyn pen 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr yn amlinellu’r penderfyniad yr ydych am apelio yn ei erbyn.
Bydd swyddog apêl sy’n annibynnol o’r penderfyniad gwreiddiol yn ystyried yr apêl. Yna bydd y swyddog apêl yn gwneud penderfyniad terfynol ac yn hysbysu’r apelydd ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
Rydym ni’n croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg os mai dyna’ch dewis iaith. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.
Gweithdrefn gwyno
Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gyfer cwynion. Cewch ragor o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:
Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 03000 251378
E-bost: cwynion@llyw.cymru
Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru
Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: Ombwdsmon
Rhan I: Hysbysiad Preifatrwydd: cymorth ariannol Llywodraeth Cymru
Sut y byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n ei roi mewn perthynas â’ch ffurflen gais neu’ch cais am gyllid grant
Mae Llywodraeth Cymru’n darparu amrywiaeth eang o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid a gweinyddu’r grant.
Cyn i ni roi cyllid i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, a dilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae’n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu’r cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.
Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.
Er mwyn asesu cymhwystra, efallai y bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais gyda’r canlynol hefyd:
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
- Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
- Awdurdodau Lleol Cymru
- Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
- DEFRA
- Y Sefydliad Rheoli Morol
- Gweinyddiaethau Morol a Physgodfeydd eraill Llywodraeth y DU
- Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
- Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.
Gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi manylion y sawl sy’n derbyn grantiau, symiau ac enw busnes ar gofrestr dryloywder lle mae’n rhaid i ni wneud hynny, er enghraifft, dan Ddeddf Rheoli 2022.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau’r grant, a phob taliad wedi’i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:
- gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
- ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) gwneud cais i’ch data gael eu ‘dileu’
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif ffôn: 0330 414 6421 Gwefan: https://ico.org.uk/
Rhan J: deddfwriaeth
Daeth Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022 i rym ar 15 Chwefror 2022. Cyflwynwyd y gorchymyn er mwyn cael darlun llawn a chywir o weithgarwch cychod pysgota ym mharth Cymru, ac ar gyfer cychod sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru lle bynnag y bônt, i wella pysgodfeydd a rheolaeth yr amgylchedd morol.
Gofynion o ran Rheoli ac Adrodd am Dryloywder
Mae Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 yn diffinio beth yw cymhorthdal a’r rheolau y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio â nhw wrth dalu cymorthdaliadau.
Mae’n bosibl y bydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi ar gofrestr o dderbynyddion cyllid cyhoeddus os bydd y cyllid yn bodloni meini prawf datgelu cyhoeddus.
Disgwylir i’r DU gadarnhau Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymorthdaliadau Pysgodfeydd a chadarnhau y bydd y cytundeb hwn yn rhwymol i aelodau Sefydliad Masnach y Byd. Mae’r cytundeb newydd yn gwahardd cymorthdaliadau ar gyfer pysgota neu weithgareddau pysgota[1] yn ymwneud â stoc a orbysgotwyd oni bai y darperir y cyllid neu’r mesurau eraill i atgyfnerthu stoc er mwyn cyrraedd lefel sy’n fiolegol gynaliadwy.
[1] Mae gweithgareddau pysgota’n cynnwys unrhyw weithrediad i gefnogi pysgota neu i baratoi ar gyfer pysgota, yn cynnwys glanio, pecynnu, prosesu, trawslwytho neu gludo pysgod na chawsant eu glanio’n flaenorol mewn porthladd, yn ogystal â darparu personél, tanwydd, offer a chyflenwadau eraill ar y môr.
Rhan K: cysylltiadau
Ymholiadau – Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW
Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.
Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig
Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn eich barn chi yn darparu ar eu cyfer, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Yna, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau i wneud trefniadau a fydd yn darparu ar gyfer eich gofynion.
Gwefan Llywodraeth Cymru
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion y Môr a Physgodfeydd, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.