Neidio i'r prif gynnwy

1. Amcanion y polisi

Mae amcanion y polisïau yn ymateb y llywodraeth i Ddatblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU wedi’u cynllunio i wella effeithiolrwydd y cynllun o ran lleihau allyriadau yn y sector a fasnachir. Mae’r polisïau hyn wedi eu cynllunio i helpu i leihau ar raddfa ddigonol er mwyn bodloni rhwymedigaethau pob un o bedair llywodraeth Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU a sicrhau bod y DU yn chwarae ei rhan i liniaru effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd a achosir gan bobl, sy’n debygol o gael eu teimlo fwyaf gan genedlaethau’r dyfodol. 

2. Casglu tystiolaeth a gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Mae Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn bolisi diwydiannol sydd â’r nod o leihau allyriadau prosesau yn y sector a fasnachir ac, o’r herwydd, y tu allan i’r broses ymgynghori ei hun, mae ymgysylltu ar ddatblygu’r cynllun wedi cael ei gynnal yn bennaf gyda chyfranogwyr yn y cynllun a rhanddeiliaid sydd â diddordeb ac arbenigedd mewn polisi hinsawdd a diwydiannol. 

Wrth geisio deall effeithiau’r cynllun ar blant, mae’r Asesiad hwn o’r Effaith ar Hawliau Plant wedi ceisio casglu tystiolaeth sy’n ymwneud ag allanoldeb negyddol sylfaenol sy’n gysylltiedig ag allyriadau diwydiannol i’r aer, yn enwedig yr effaith ar iechyd a’r effaith wahaniaethol mae hyn yn ei chael ar blant a phobl ifanc.

3. Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Y brif hawl mae’r cynigion i ddatblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn debygol o effeithio arni yw hawl plentyn i iechyd a gwasanaethau iechyd, fel y nodir yn Erthygl 24  Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Dylai’r cynigion hyn wella’r hawliau hyn i blant drwy leihau allyriadau a thrwy hynny leihau nifer y llygryddion a gludir yn yr awyr sy’n cael eu rhyddhau gan y sector a fasnachir.

Mae tystiolaeth academaidd yn awgrymu bod llygryddion a gludir yn yr awyr yn cael eu nodi fwyfwy fel ffactor risg y gellir ei atal ar gyfer amrywiaeth o ganlyniadau iechyd negyddol i blant a phobl ifanc [1].  Mae hyn yn cynnwys cysylltu llygredd aer â mwy o achosion o asthma, llai o weithrediad yr ysgyfaint a gwaethygu clefydau resbiradol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhestru nifer o resymau pam mae plant mewn mwy o berygl o lygredd aer nag oedolion, sef: 

  1. Mae ysgyfaint [plant] yn dal i ddatblygu, a gall llygredd aer ymyrryd â’r broses fiolegol hon.
  2. Mae eu cyrff yn llai abl i fetaboleiddio, dadwenwyno a gwaredu’r gwenwynau sydd mewn llygredd aer.
  3. Mae eu hymennydd yn dal i ddatblygu, a gall cyfansoddion niwrotocsig mewn llygredd aer effeithio ar ddatblygiad gwybyddol plant.
  4. Maent yn anadlu mwy o aer fesul uned o bwysau’r corff nag oedolion.
  5. Maent yn fwy actif ac felly’n anadlu mwy o lygredd aer i mewn.
  6. Mae babanod sy’n cael eu geni i fenywod a ddaeth i gysylltiad â llygredd aer yn ystod eu beichiogrwydd yn fwy tebygol o fod yn gynamserol a'u pwysau geni yn isel. 

Mae Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn sicrhau bod cap wedi’i ddeddfu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr y caniateir eu rhyddhau yn ystod y cynllun, ac mae’r cynigion sydd wedi’u cynnwys yn ymateb y llywodraeth i Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU, ymysg newidiadau eraill, yn ceisio tynhau’r cap sydd wedi’i ddeddfu ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y gallai’r opsiynau polisi sy’n cael eu ffafrio leihau allyriadau cronnus hyd at 2030, o’r sector a fasnachir, tua 12.0 i 38.7MtCO2e. Er na fu’n bosibl yn ddadansoddol priodoli’r gostyngiad hwn ar draws gwledydd y DU, mae’n rhesymol disgwyl y bydd tynhau’r cap yn golygu bod allyriadau’n is ar draws pob gwlad a rhanbarth nag y byddent fel arall. Mae gan lawer o’r nwyon tŷ gwydr ffynonellau cyffredin â llygryddion aer lleol eraill, sy’n achosi problemau iechyd, yn enwedig mewn plant fel y rhestrir uchod.  Gan hynny, byddai’r cynigion yn arwain at fudd iechyd cyffredinol i blant. 

Ar wahân i’r effeithiau uniongyrchol a nodir uchod, bydd y manteision cyffredinol a ddaw yn sgil lliniaru newid yn yr hinsawdd yn sicrhau amgylchedd naturiol iach a fydd yn arwain at fanteision iechyd i blant a phobl ifanc. Mae’r cynigion, felly, yn cyd-fynd â’r meddylfryd y tu ôl i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn ategu ein nod ar gyfer Cymru Iachach sy’n anelu at gymdeithas “lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol”. 

Mae tystiolaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod teuluoedd sydd ag o leiaf un plentyn dibynnol yn fwy tebygol o brofi rhyw fath o fregusrwydd ariannol. Canfu’r un arolwg hefyd fod 57% o rieni sy’n byw gyda’u plant yn ei chael yn anodd talu eu biliau ynni o’i gymharu â 42% o oedolion sydd naill ai heb blant neu ddim yn byw gyda nhw. Gan hynny, bydd angen parhau i fonitro’r effeithiau posibl ar filiau ynni aelwydydd a nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig yn y cyd-destun hwn [2],  er mwyn sicrhau nad yw’r cynllun yn cael effaith negyddol hirdymor ar blant o aelwydydd incwm isel. Fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig, ni fu’n bosibl mesur yr effeithiau hyn, ond disgwylir iddynt fod yn fychan o’u cymharu â ffactorau eraill sydd wedi cyfrannu at filiau ynni uwch yn y misoedd diwethaf.

[1] Brumberg, H et al. (2021) Ambient Air Pollution: Health Hazards to Children. Pediatrics June 2021; 147

[2]   Yr effeithiau hynny yw y gallai prisiau trydan tymor byr fod yn uwch oherwydd y cynigion ond y gellid lleihau prisiau yn y tymor hwy.

4. Cyngor i weinidogion a’u penderfyniad

Mae Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn arf penodol o fewn y maes polisi newid yn yr hinsawdd ehangach. Roedd cyngor Gweinidogol felly’n canolbwyntio ar fecanweithiau’r cynllun gan adlewyrchu’r opsiynau yng ngoleuni manteision ehangach newid yn yr hinsawdd fel effeithiau llygredd aer ar iechyd, sydd wedi cael eu cyflwyno fel rhan o gyngor polisi ar wahanol adegau gan swyddogion polisi perthnasol ar newid yn yr hinsawdd. Mae’r Gweinidog wedi ystyried a chymeradwyo’r newidiadau polisi arfaethedig. 

5. Monitro ac Adolygu

Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU wedi ymrwymo i astudiaeth dau gam a fydd yn gwerthuso canlyniadau proses ac effeithiau Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn ystod pedair blynedd gyntaf (2021-2024) cam I Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU. Yn ogystal ag effeithiau economaidd y cynllun, bydd y gwerthusiad hwn yn helpu i lywio ein dealltwriaeth o ba mor effeithiol mae’r cynllun yn sbarduno lleihau allyriadau yn y sector a fasnachir, gyda’r manteision cysylltiedig a nodwyd yn yr Asesiad hwn o’r Effaith ar Hawliau Plant.