Mae cynllun i wella dannedd plant yng Nghymru wedi helpu i sicrhau 35,000 yn llai o lenwadau, 6,000 yn llai o achosion o dynnu dannedd a gostyngiad cyffredinol mewn pydredd dannedd.
Heddiw (19 Medi) nodir 10 mlwyddiant y Cynllun Gwên, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ac a ariennir ganddi i dargedu plant mewn ardaloedd lle'r oedd y lefelau uchaf o bydredd dannedd. Dyma un o'r prif resymau pam y mae plant ifanc yn cael eu derbyn i'r ysbyty, i gael llawdriniaethau i dynnu dannedd o dan anesthetig cyffredinol.
Cyn i'r Cynllun Gwên gael ei lansio yn 2009, roedd gan hanner y plant pum mlwydd oed yng Nghymru bydredd dannedd ond, ers iddo gael ei lansio, mae hyn wedi gostwng i draean – ac mae pydredd dannedd yn effeithio ar tua 4,000 yn llai o blant pum mlwydd oed.
Mae'r rhaglenni hefyd wedi arwain at ostyngiad o 35% yn nifer y plant sy'n cael llawdriniaethau deintyddol o dan anesthetig cyffredinol yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf. Mae hyn yn golygu bod 3,200 yn llai o blant y flwyddyn yn gorfod cael triniaeth i dynnu dannedd sydd wedi pydru.
Mae pydredd dannedd yn broblem benodol ymysg plant o ardaloedd difreintiedig. Mae lefelau clefydau deintyddol ymysg plant yng Nghymru yn dal i wella ledled y wlad. Mae'r arolwg diweddaraf yn dangos gostyngiad o 13.4% yng nghyfran y plant â phydredd dannedd, gyda gostyngiad o 15% mewn ardaloedd difreintiedig.
Bob blwyddyn, mae dros 90,000 o blant mewn 1,200 o ysgolion a meithrinfeydd yn cymryd rhan mewn cynllun brwsio dannedd a gynhelir gan y Cynllun Gwên.
Tra bo nifer y llawdriniaethau a'r achosion o bydredd dannedd yn gostwng, mae nifer y plant sy'n mynd at y deintydd yn cynyddu. Mae'n hanfodol mynd at y deintydd yn rheolaidd i sicrhau iechyd da yn y geg.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething:
“Heb unrhyw amheuaeth, mae mesurau atal yn gweithio ac yn golygu bod llai o blant yn dioddef ac yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r ysgol yn sgil pydredd dannedd.
"Mae yna astudiaethau sy’n dangos bod plant â phydredd dannedd yn eu dannedd babi dair gwaith yn fwy tebygol o gael pydredd dannedd yn eu hail ddannedd. Mae arnom angen gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw dannedd plant yn pydru cyn iddynt fod yn 5 oed.
Mae'r deng mlynedd ddiwethaf wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy fesurau ataliol. Mae cynllun a feirniadwyd gan rai pan gyflwynwyd ef gyntaf wedi peri newidiadau mawr ac wedi cael effaith sylweddol ar iechyd deintyddol plant. Ond, yn ogystal â dathlu'r deng mlynedd ddiwethaf, rhaid inni hefyd weithio i gael gwared ar bydredd dannedd yn gyfan gwbl.”