Neidio i'r prif gynnwy

I lesio’ch eiddo ar y cynllun bydd angen i chi sicrhau y gallwch wneud y canlynol:

  • Darparu tystysgrifau Diogelwch Nwy, Diogelwch Trydan a Pherfformiad Ynni
  • Darparu Yswiriant Adeiladau (gan gynnwys Atebolrwydd Cyhoeddus)
  • Lle bo'n berthnasol, darparu caniatâd ysgrifenedig (llythyr/e-bost) i gadarnhau bod eich benthyciwr yn cytuno i chi lesio'r eiddo drwy'r Cynllun
  • Bodloni safonau eiddo gorfodol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru (mae grant ar gael i wella eiddo fel ei fod yn cyrraedd y safon y cytunwyd arni)
  • Darparu copi o dystysgrif y Gofrestrfa Tir i gadarnhau perchnogaeth eiddo
  • Bod yn gyfrifol am dalu unrhyw daliadau gwasanaeth sy'n gysylltiedig â'r eiddo ac unrhyw waith allanol i'r eiddo.

Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i drafod ymhellach.