Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Lesio Cymru

Mae Cynllun Lesio Cymru yn rhoi cyfle i landlordiaid a pherchnogion cartrefi gwag lesio eu heiddo i'r awdurdod lleol am rhwng 5 ac 20 mlynedd.

Mae'r cynllun yn gwarantu incwm rhent misol i berchnogion eiddo a gwasanaeth rheoli eiddo llawn gan yr awdurdod lleol, heb yr angen i dalu comisiwn.

Yn ogystal â darparu ffrwd incwm gyson i berchnogion, mae hefyd yn helpu awdurdodau lleol i gwrdd â'r gofynion tai yn eu hardal.

Manteision i berchnogion eiddo

Incwm gwarantedig a rheolaidd

Dim ôl-ddyledion neu wagleoedd rhentu.  Bydd perchnogion sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn derbyn incwm rhent gwarantedig, ar y gyfradd Lwfans Tai lleol perthnasol.

Telerau lesio amrywiol

Gall perchnogion gofrestru eiddo ar gyfer lesio o rhwng 5 ac 20 mlynedd.

Rheolaeth lawn o'r eiddo

Gwarant o gefnogaeth briodol i denantiaid, drwy gydol y les.

Cynnal a chadw yr eiddo a thalu am y gwaith hwnnw

Mae'r cynllun yn cynnwys atgyweirio unrhyw ddifrod i'r eiddo a wneir gan y tenantiaid.

Cyllid i ddod ag eiddo i'r safonau y cytunwyd arnynt

Gall eiddo fod yn gymwys i gael grant o hyd at £5,000 - efallai y bydd hyd at £25,000 ar gael i eiddo gwag.

Arbed arian drwy rentu'ch eiddo

Mae lesio eiddo drwy'r cynllun yn golygu y gallai perchnogion arbed arian a pheidio gorfod talu i:

  • ddod o hyd i denantiaid
  • ffioedd rheoli
  • dim costau ar gyfer diogelwch nwy neu EICR yn ystod cyfnod y les
  • yswiriant gwarantu rhent

Yn ystod cyfnod y les, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw cynnal a chadw'r eiddo.  Mae hyn yn golygu nad oes angen yswiriant argyfwng yn y cartref ar gyfer atgyweiriadau na rhoi arian o'r neilltu ar gyfer cynnal a chadw.

Gallai'r manteision hyn arbed mwy na £10,000 dros gyfnod o 5 mlynedd.

Pwy sy'n rhedeg y cynllun?

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei reoli gan awdurdodau lleol.

Mae 20 o gynlluniau awdurdod lleol yn y rhaglen ar hyn o bryd.

Am wybod mwy?

Mwy o fanylion am Gynllun Lesio Cymru a chael gwybod sut i wneud cais am y cynllun ar LLYW.CYMRU.