Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r cynllun yn adeiladu ar Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg 2010 ac yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg a iaith Gymraeg dros y pedair blynedd nesaf. Ei nod yw sicrhau bod pob person ifanc, o bob cefndir, yn gadael y system addysg yn barod i ddefnyddio'r iaith ym mhob cyd-destun ac yn teimlo balchder ynddi.
Dyma bum prif amcan y cynllun, i'w cyflawni erbyn 2021:
- datblygu cwricwlwm Cymraeg newydd a fydd yn ysbrydoli dysgwyr i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg;
- cynyddu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael defnyddio eu Cymraeg mewn gwahanol gyd-destunau a sefydlu patrymau defnydd iaith o oedran cynnar;
- cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr yng Nghymru i barhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a meithrin yr wybodaeth a'r arbenigedd i gyflwyno'r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg a Chymraeg fel pwnc;
- cynyddu nifer y dysgwyr sydd mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg;
- sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael yr un mor rhwydd i bob dysgwr yn ogystal â'r cyfleoedd gorau i ddatblygu eu sgiliau iaith.
Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad yn ei chyn-ysgol, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Pan oedd y Gweinidog yn mynd i'r ysgol, hon oedd yr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg. Bellach, mae tair yng Nghaerdydd ac un yn y Fro.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog:
“Roeddwn i’n un o lond llaw o blant ar fy ystâd yng Nghaerdydd a gafodd eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rwy’n cofio’n iawn gerrig yn cael eu taflu at ein bws yn llawn plant ysgol gynradd, yn dangos gwrthwynebiad i ysgol Gymraeg yn y gymdogaeth. Rwy’ wrth fy modd bod yr agwedd tuag at yr iaith wedi newid yn sylfaenol ers pan oeddwn i’n blentyn, a bod gyda ni’r cyfle nawr i adeiladu ar yr ewyllys da hwn.
“Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gryn her. Mae ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, yn enwedig y rheini o deuluoedd di-Gymraeg, i gofleidio'r iaith a'i defnyddio ym mhob cyd-destun yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y targed hwn.
"P'un a yw ein plant yn mynd i ysgolion Cymraeg neu'n dysgu'r Gymraeg mewn ysgol Saesneg, mae addysg yn allweddol i lwyddiant yr uchelgais hon. Dyna pam mae Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg mor bwysig a pham mae'n flaenoriaeth ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn."
Yn ystod ei hymweliad, gwyliodd y Gweinidog ymarferion ar gyfer y cyngerdd Nadolig a siarad â disgyblion ac athrawon am eu profiad o addysg Gymraeg. Roedd llawer o'r rhain yn dod o deuluoedd di-Gymraeg. Dywedodd:
"Roedd fy ymweliad heddiw yn dangos yn glir yr addysg gyflawn ragorol sy'n cael ei darparu drwy'r Gymraeg. Mae 61% o'r disgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg, ond yn yr ysgol maen nhw i gyd yn cael eu trwytho yn iaith, diwylliant a thraddodiadau eu cenedl ac fe fyddan nhw'n gallu cario hynny gyda nhw drwy gydol eu bywydau a'i drosglwyddo i'w plant."
Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg:
“Nod ein cenhadaeth fel cenedl wrth ddiwygio addysg yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol. Mae'r iaith Gymraeg yn rhan annatod o'r camau diwygio hynny, a bydd y cynllun gweithredu hwn yn sicrhau lle canolog iddi yn y cwricwlwm newydd, yn natblygiad proffesiynol y gweithlu addysg ac yn y camau i ddiwygio sut rydyn ni'n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.”
Dywedodd Alun Davies, pennaeth Glantaf:
"Rydyn ni'n croesawu Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg. Fel ysgol cyfrwng Cymraeg sydd â'r arwyddair 'Coron Gwlad ei Mamiaith', rydyn ni'n ymroddedig, wrth gwrs, i roi lle canolog i'r Gymraeg ym mywyd yr ysgol. Mae'r cynllun gweithredu hwn yn rhoi fframwaith i ni ac i ysgolion eraill a chymorth i weithio i sicrhau bod pob dysgwr yn gadael yr ysgol yn hyderus i siarad Cymraeg yn eu bywyd bob dydd".