Cynllun gweithredu i helpu i greu'r amgylchedd cywir i annog mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith telathrebu symudol ac i hybu arloesedd yn y byd technoleg symudol yng Nghymru.
Er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltedd symudol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r pwerau sydd ganddi i sicrhau bod cyfres o gamau yn cael eu cymryd i wella'r gwasanaeth yng Nghymru.
Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda'r diwydiant ffonau symudol a'r rheoleiddiwr i wella cysylltedd.
Fodd bynnag, bydd yn rhaid goresgyn sawl her cyn medru gwella cysylltedd yng Nghymru. Er enghraifft, mae data gan Ofcom ar fastiau teledu yn dangos bod angen 67 ohonynt ar Gymru i gyrraedd un filiwn o bobl oherwydd topograffi'r wlad. Yn Lloegr, bydd angen 12 o fastiau i gyrraedd yr un faint o bobl. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen 25 o fastiau a 45 ohonynt yn yr Alban.
Mae'r gyfres o gamau yn deillio o drafodaeth rhwng Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, a darparwyr technoleg symudol a'r rheoleiddiwr yn gynharach eleni. Datblygwyd y cynllun mewn ymgynghoriad â'r rheini a oedd yn y cyfarfod ac eraill, gan gynnwys undebau'r ffermwyr, tirfeddianwyr a sefydliadau busnes.
Mae'n hoelio sylw ar naw maes allweddol lle y gall y Llywodraeth ddefnyddio'i phwerau a'i dylanwad i helpu i wella cysylltedd a chapasiti. Mae'r meysydd yn cynnwys:
- Cynllunio – Mae gwaith ymchwil wedi'i gomisiynu a dylai ddod i ben yn yr hydref. Nod y gwaith hwn yw llywio newidiadau i hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer telathrebu i wella cysylltedd symudol. Caiff Polisi Cynllunio Cymru (PPW) ei adnewyddu i roi sylw i'r berthynas gadarnhaol rhwng telathrebu a'r economi. Bydd PPW diwygiedig yn destun ymgynghoriad yng ngwanwyn 2018. Byddwn hefyd yn gweithio â gweithredwyr rhwydweithiau symudol i adolygu a diweddaru'r cod arferion gorau a Nodyn Cyngor Technegol 19.
- Ardrethi annomestig – Pan fo tystiolaeth yn awgrymu y byddai gostyngiad mewn ardrethi annomestig yn annog buddsoddiad, bydd y Llywodraeth yn ystyried rhoi cymorth i dalu ardrethi annomestig ar safleoedd mastiau symudol priodol.
- Arloesi a thechnoleg ddatblygol – Bydd y Llywodraeth a gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn gweithio gyda'i gilydd i nodi cyfleoedd i ddatblygu a phrofi technoleg arloesol yng Nghymru, gan gynnwys 5G. Rydym eisoes wedi clywed am lwyddiannau yn y maes hwn yng Nghymru, megis y Llywodraeth yn gweithio gydag EE yn Nyffryn Teifi i estyn y signal gan ddefnyddio technoleg celloedd bach.
- Digwyddiadau mawr a phrosiectau arbennig – Byddwn yn adeiladu ar waith a wnaed eisoes yn Sioe Frenhinol Cymru lle y mae cydweithio wedi arwain at osod mast parhaol ar y maes. Bydd y Llywodraeth yn hwyluso'r berthynas rhwng gweithredwyr rhwydweithiau symudol a threfnwyr digwyddiadau mawr.
Caiff y Cynllun Gweithredu ar Delathrebu Symudol ei adolygu'n rheolaidd a'i ddiweddaru wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
"Mae cysylltedd ffonau symudol yn fwyfwy pwysig i breswylwyr a busnesau. Rydym yn ymwybodol o'r heriau yng Nghymru a bod angen gwella'r gwasanaeth.
"Mae'r cynllun hwn yn amlinellu'r hyn y gallwn ni fel Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i greu'r amgylchedd cywir i wella cysylltedd yng Nghymru hyd yn oed yn fwy. Mae'n rhaid imi fod yn glir ynghylch y ffaith mai Llywodraeth y DU ac Ofcom sydd â'r prif bwerau yn y maes hwn, ac mae'n bwysig pwysleisio nad oes un ateb syml i wella cysylltedd symudol.
"Mae topograffi Cymru yn creu sawl her, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn taro cydbwysedd rhwng y manteision economaidd lleol a fydd yn deillio o signal gwell a'r angen i ddiogelu ein tirwedd unigryw.
"Mae gennym eisoes enghreifftiau da o weithio â gweithredwyr symudol i ysgogi atebion arloesol ar gyfer ardaloedd gwledig. Bydd Cymru yn parhau i chwarae rôl bwysig o ran cefnogi technoleg ddatblygol o fewn y sector cyfathrebu symudol.
"Rwy'n falch bod y cynllun hwn wedi dod ynghyd diolch i gydweithrediad y darparwyr technoleg symudol a rhanddeiliaid. Dim ond drwy edrych ar amryfal opsiynau a gweithio gyda'n gilydd y gallwn fynd â’r maen i’r wal.
"Rydym eisoes yn gwella cysylltedd ar draws Cymru drwy gyflwyno Cyflymu Cymru sydd wedi darparu band eang cyflym iawn i 653,000 o safleoedd ar draws y wlad hyd yn hyn. Er nad oes gennym yr holl bwerau i wella cysylltedd symudol, nid yw ond yn iawn ein bod yn edrych ar yr hyn gallwn ni fel Llywodraeth Cymru ei wneud.
"Edrychaf ymlaen at roi gwybod ichi am hynt y gwaith hwn ac rwy’n gobeithio y bydd yr adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal yn gynnar y flwyddyn nesaf."
Dywedodd Hamish MacLeod, Cyfarwyddwr Mobile UK:
"Mae Mobile UK yn falch o weld y Llywodraeth yn cyhoeddi ei Chynllun Gweithredu ar Delathrebu Symudol sy'n cydnabod yr angen brys am ddiwygio ac sy'n nodi'r rhwystrau sy'n wynebu'r seilwaith telathrebu symudol rhag cael ei gyflwyno'n effeithiol.
"Mae'r Cynllun Gweithredu ar Delathrebu Symudol yn ymrwymo'r Llywodraeth i weithio gyda'r diwydiant telathrebu symudol, Ofcom ac eraill i ddiwygio'r maes yn effeithiol. Yr her yn awr yw gwireddu'r uchelgais hwn a gweithredu'r cynigion yn brydlon."