Mae cynllun i greu dwy theatr newydd, gan gynnwys theatr trawma mawr ddynodedig, yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi cael ei gymeradwyo gan y Gweinidog Iechyd.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn ceisio hyd at £33.54m i greu theatrau hybrid a thrawma mawr a mannau adfer newydd mewn cyfleuster a fydd yn cael ei adeiladu o’r newydd yn yr ysbyty.
Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cymeradwyo achos busnes amlinellol y bwrdd iechyd i ddatblygu capasiti ei theatrau, er mwyn i lawfeddygon allu rhoi llawdriniaeth i bobl o bob rhan o’r De a’r Gorllewin, gan gynnwys rhai o’r achosion mwyaf cymhleth, megis anafiadau difrifol.
Bydd y bwrdd yn cyflwyno achos busnes llawn a fydd yn destun craffu pellach, ac os bydd yr achos busnes hwn yn cael ei gytuno, mae’n bosibl y bydd y prosiect yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2023.
Mae theatr hybrid yn theatr sydd hefyd yn cynnwys cyfarpar radioleg.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
Bydd y ddwy theatr arbenigol hyn yn golygu na fydd angen symud y claf rhwng y theatr llawdriniaethau a’r adran ddelweddu, a bydd hynny’n gwella profiad a diogelwch y claf drwy wneud y broses llawdriniaeth yn fwy effeithlon.
Bydd y capasiti ychwanegol hwn i gefnogi gwasanaethau fasgwlaidd a thrawma mawr rhanbarthol yn rhyddhau capasiti ym mhrif theatrau’r ysbyty, gan helpu i leihau rhestr y cleifion sy’n aros am lawdriniaeth. Mae’r rhestr honno wedi tyfu yn ystod y pandemig.
Dywedodd yr Athro Stuart Walker, Prif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
Rydym yn croesawu’r cyllid ychwanegol hwn a fydd yn ein galluogi i ehangu ein cyfleusterau fel canolfan trawma mawr, er mwyn inni allu trin achosion cymhleth a brys sy’n dod atom o bob rhan o’r De a’r Gorllewin, a gofalu am y cleifion hyn.
Fel canolfan trawma mawr, mae angen i gleifion gael mynediad cyflym at y gofal a’r llawdriniaethau priodol, er mwyn gwella canlyniadau iddynt. Bydd y cyfleuster ychwanegol hwn yn parhau i alluogi ein timau i ofalu am bobl mewn modd amserol gan sicrhau bod mynediad at gyfarpar diagnostig ar gael yn yr un man.