Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Eleni mae Cymru a gweddill y byd yn wynebu pandemig COVID-19 sydd wedi cael effaith annisgwyl ar fywydau pawb. Yn gynnar yn y flwyddyn bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ail-ddyrannu staff ac adnoddau ar frys er mwyn sicrhau bod cymunedau'n cael eu hamddiffyn rhag effaith y feirws. Ers cyhoeddi'r strategaeth awtistiaeth yn 2016, rydym wedi cyhoeddi dau adroddiad blynyddol cynhwysfawr, mae'r adroddiad eleni ar gyfer 2019/20 yn fwy cryno gan fod yna bwysau mawr ar adnoddau o hyd. 

Mae'r gwaith a wnaed rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020 wedi canolbwyntio'n bennaf ar ddau brif faes, gwasanaethau awtistiaeth yn gyntaf fel sefydlu'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ac yn ail datblygu'r Cod Ymarfer Statudol drafft ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth a'i ganllawiau ategol yn barod ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Fel mewn blynyddoedd blaenorol bydd yr adroddiad hwn yn dilyn y strwythur sy'n disgrifio'r Hyn rydym wedi'i wneud, Yr hyn a ddywedwyd wrthym a'r Hyn y byddwn yn ei wneud. 

Yr hyn rydym wedi'i wneud

Gwasanaethau awtistiaeth

Gwasanaethau niwroddatblygiadol plant (ND)

Yn ogystal â thargedu buddsoddiad eleni tuag at wella gallu timau niwroddatblygiad y GIG, rydym wedi parhau i gasglu data yn erbyn y targed amseroedd aros o 26 wythnos o'r atgyfeiriad cyntaf i’r apwyntiad wyneb yn wyneb cyntaf. Rydym yn cydweithio â Byrddau Iechyd er mwyn sicrhau ansawdd y data a gesglir a bod y targed hwn yn cael ei gyflawni, fodd bynnag mae'r galw am gymorth gan dimau ND wedi bod yn uwch na'r disgwyl ac o'r herwydd rydym yn ymwybodol bod hyn wedi bod yn heriol i nifer o Fyrddau Iechyd.

Er mwyn cefnogi'r gwaith parhaus o wella timau niwroddatblygiadol amlddisgyblaethol sy'n asesu ac yn rhoi diagnosis o gyflyrau niwroddatblygiad mewn byrddau iechyd, cafodd rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP) y GIG ei ymestyn hyd ddiwedd 2019.  Eleni mae'r T4CYP wedi parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu dull system gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol gan gynnwys datblygu gweledigaeth a pholisi ar gyfer gwasanaethau cymorth niwroddatblygiadol yng Nghymru yn y dyfodol.

Eleni, mae Uned Gyflawni'r GIG wedi gweithio i gefnogi byrddau iechyd i reoli'r galw a'r capasiti. Er nad yw wedi'i gwblhau ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru eto, nod yr uned yw hyfforddi staff allweddol ynghylch egwyddorion rheoli galw a chapasiti ac mae'n cynnwys edrych ar brosesau cyfredol, yn hytrach na dim ond adolygu modelau darparu. 

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS)

Dechreuodd y broses o gyflwyno'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn raddol yn 2016 ac fe'i cefnogwyd gan £13 miliwn o gyllid ac erbyn mis Ebrill 2019 roedd pob rhanbarth yn weithredol. Mae'r Gwasanaethau IAS yn cynnig gwasanaethau asesu a diagnostig i oedolion, a gwasanaethau cymorth i oedolion, rhieni a gofalwyr. Fel yr adlewyrchwyd yn adroddiad blynyddol y llynedd, ym mis Ebrill 2019 cyhoeddwyd y gwerthusiad ar gyflwyno'r gwasanaeth. Canfu'r adolygiad ei fod yn wasanaeth newydd i'w groesawu, gwnaed argymhellion mewn perthynas â monitro gwasanaethau, cynnwys rhanddeiliaid ac alinio â gwasanaethau niwroddatblygiadol plant. Cytunwyd ar estyniad i'r adolygiad ac ym mis Medi 2019 cyhoeddwyd yr  Astudiaeth Gwmpasu ar gyfer Alinio a Datblygu Gwasanaethau Awtistiaeth a Niwroddatblygiadol. Cadarnhaodd yr adroddiad hwn faterion a gydnabyddir sy'n dod i'r amlwg gyda galw cynyddol a chapasiti cyfyngedig ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol plant a gwasanasethau awtistiaeth oedolion yn y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig. Gellir dod o hyd i'r adroddiad drwy'r ddolen ganlynol: Astudiaeth Gwmpasu ar gyfer Alinio a Datblygu Gwasanaethau Awtistiaeth a Niwroddatblygiadol 

Adolygiad o'r galw a'r capasiti

O ganlyniad i argymhellion yr adolygiad cwmpasu, gwnaed ymrwymiad Gweinidogol i gynnal adolygiad o'r capasiti a'r galw ar wasanaethau niwroddatblygiadol sy'n cynnwys awtistiaeth, er mwyn nodi bylchau yn y ddarpariaeth ac i gefnogi datblygiad gwasanaethau cynaliadwy yn y dyfodol. Mae'r gwasanaethau wedi gwneud gwaith meincnodi cychwynnol, ond oherwydd effaith COVID-19 gohiriwyd gwaith comisiynu pellach ac felly bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2020. Cynhelir yr adolygiad yn ystod 2021 ac er mwyn sicrhau parhad y cymorth ym mis Medi 2019, cafodd cyllid ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth ei wneud yn gyllid rheolaidd yn amodol ar ganlyniadau'r adolygiad. Ym mis Medi 2020, cadarnhawyd y trefniadau ariannu presennol ar gyfer yr IAS hyd at fis Mawrth 2022. 

Y cod ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth

Yn ystod 2019/20, gwnaethom adeiladu ar ymgynghoriad cynharach ar ddatblygu'r cod, sefydlwyd grwpiau technegol a gyfarfu ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd gan gynghori ar bob maes o'r cod sef:

  • asesu a diagnosis
  • diwallu anghenion cymorth
  • codi ymwybyddiaeth, gwybodaeth a hyfforddiant
  • cynllunio, monitro a chynnwys rhanddeiliaid

Roedd aelodau'r grwpiau technegol yn cynnwys pobl awtistig a'u rhieni a'u gofalwyr, arweinwyr awtistiaeth awdurdodau lleol, cynrychiolwyr gwasanaethau IAS ac ND a sefydliadau'r trydydd sector. Ym mhob cyfarfod, aeth y rhai a oedd yn bresennol drwy'r bennod berthnasol a chawsant gyfle i roi sylwadau manwl ar fersiwn ddrafft a rannwyd â hwy cyn y cyfarfod.  Roedd yr adborth ym mhob un o'r cyfarfodydd yn gadarnhaol ac yn adeiladol. 

Gwnaethom ymgymryd â rhaglen o ymgysylltu ehangach hefyd, gyda phobl awtistig, eu rhieni a'u gofalwyr a gyda gweithwyr proffesiynol, fel y disgrifir yn yr adran Yr hyn a ddywedwyd wrthym isod. Fe wnaeth y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Weithredu gyfarfod ddwywaith yn ystod y flwyddyn hefyd ac roedd y cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu'r cod. 

Erbyn mis Mawrth 2020, ar ôl gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, roedd y cod ymarfer drafft a'r canllawiau cysylltiedig yn barod i'w cyhoeddi, ond gohiriwyd hynny’n fwriadol oherwydd effaith pandemig COVID-19. Ailddechreuodd y trefniadau yn ystod yr haf, a chyhoeddwyd yr ymgynghoriad yn fyw ar 21 Medi 2020, mae'n agored tan 14 Rhagfyr, ac fe drefnwyd digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ar-lein ar gyfer mis Tachwedd 2020. 

Ceir crynodeb o'r cod drafft yn atodiad dau. 

Cynllun Grant i'r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy 2020-2023

Yn ystod 2019/20, roedd dau sefydliad awtistiaeth y trydydd sector yn llwyddiannus yn eu cynigion ar gyfer Cynllun Grant y Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy 2020 - 2023. Y sefydliadau yw: 

  • Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS) Cymru – nod eu prosiect Clybiau Sbectrwm yw cynyddu nifer y grwpiau cymorth gan gymheiriaid a grwpiau cymdeithasol NAS sydd ar gael i oedolion awtistig ledled Cymru
  • Siop Un Stop Autism Connections Cymru – bydd y prosiect hwn yn dod ag adnoddau ac arbenigedd ychwanegol i wasanaethau sy'n bodoli eisoes, yn enwedig mewn perthynas â chymorth cyflogaeth a lles

Bydd y naill brosiect a’r llall yn cynyddu capasiti ac yn dod ag arbenigedd newydd i'r gwasanaethau awtistiaeth presennol. Dechreuodd y prosiectau ym mis Ebrill 2020 ac mae cyllid ar gael am hyd at dair blynedd. Sefydlwyd Bwrdd Cydweithredu er mwyn hyrwyddo cydweithio ar draws gwasanaethau.

Tîm awtistiaeth cenedlaethol 

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol (NAT) i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Strategol ASD a'r Cynllun Cyflawni mewn patneriaeth â rhanddeiliaid allweddol.  Mae'r tîm wedi bod yn allweddol wrth fynd ati'n llwyddiannus i ddarparu'r IAS, i roi cefnogaeth barhaus i rwydwaith o arweinwyr awtistiaeth yr awdurdodau lleol, ac i ddatblygu adnoddau a chymorth sydd ar gael ar eu gwefan bwrpasol www.autism.org. Hefyd cyhoeddodd y NAT ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2019 - 2020 sydd hefyd i'w weld ar ei wefan. Adroddiad blynyddol.

Yn ystod pandemig COVID mae'r tîm wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyngor ar reolau'r cyfyngiadau symud a chanllawiau er mwyn helpu pobl awtistig i ymdopi ag effaith COVID 19 ar eu bywydau bob dydd, bydd hyn yn parhau wrth i ni gefnogi pobl awtistig i ymgysylltu â'r byd ôl-COVID-19. 

Yr hyn a ddywedwyd wrthym? 

Ymgysylltu 

Yn ystod 2019/20 cynhaliwyd rhaglen ymgysylltu gynhwysfawr.  Ym mis Tachwedd 2019, trefnwyd dau ddigwyddiad i randdeiliaid, un yn Llandudno a'r ail yng Nghaerfyrddin. Roedd amrywiaeth eang o fynychwyr yn y ddau ddigwyddiad gan gynnwys pobl awtistig, teuluoedd a gofalwyr yn ogystal ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig (IAS) a chynrychiolwyr o'r byd addysg. Roedd yna gynrychiolaeth gref yn y digwyddiad yn Llandudno yn arbennig a hynny gan grwpiau rhieni a theuluoedd lleol.

Derbyniodd y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad gopi o grynodeb o bob un o bedair pennod y Cod a chawsant gyfle i dynnu sylw at unrhyw fylchau a rhannu eu profiadau’n ymwneud â chael mynediad at wasanaethau hefyd. Mae'r adborth o'r ddau ddigwyddiad wedi'i adlewyrchu yn y Cod drafft a'r canllawiau ategol hefyd. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn dweud bod angen mwy o eglurder ar nifer o feysydd ac y gellid mynd i'r afael â hwy yn y canllawiau; enghreifftiau o feysydd oedd llwybrau atgyfeirio a'r broses o orfodi'r Cod. Mynychwyd y digwyddiad yn Llandudno gan berson ifanc awtistig yn ei arddegau a'i riant, a wnaeth nifer o frasluniau bach yn ystod y digwyddiad er mwyn egluro sut roedd yn teimlo yn ystod y dydd – teitl un o'r brasluniau oedd "autistic but proud of it”. 

Gwahoddwyd Tîm Polisi Awtistiaeth Llywodraeth Cymru i ddychwelyd i'r Gogledd i siarad â grwpiau lleol.  Trefnwyd hyn ym mis Chwefror 2020 lle cyfarfu'r tîm â gwasanaethau a grwpiau lleol a threfnu digwyddiad ymgysylltu anffurfiol i drafod y Cod a gwasanaethau yn y dyfodol. 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hefyd, mae'r tîm wedi cyfarfod â grwpiau rhieni a gofalwyr eraill yng Nghymru a chynrychiolwyr y Colegau Brenhinol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Caerdydd, sefydliadau trydydd sector fel Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud? 

Cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth a'r canllawiau ategol

Bydd y flwyddyn 2021 yn flwyddyn brysur lle byddwn yn cyflwyno'r Cod Ymarfer Statudol terfynol ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth a'r canllawiau ategol. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod drafft yn dod i ben ar 14 Rhagfyr 2020. 

Rydym wedi adolygu’r ymatebion a'r adborth a gafwyd o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ar-lein. Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ymgynghori. Mae’r adroddiad yn crynhoi'r ymatebion ac yn nodi'r themâu allweddol a godwyd a fydd yn llywio'r gwaith terfynol o ddrafftio'r Cod a'r canllawiau yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2021. Y nod fydd cwblhau fersiwn derfynol o'r Cod a'r canllawiau cyn mis Ebrill 2021.

Adolygiad o'r galw a'r capasiti 

Fel yr esboniwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn, rydym yn gweithio i gomisiynu prif gam yr adolygiad ac yn rhagweld y bydd yn cael ei gynnal yn ystod 2021, bydd y canlyniadau'n llywio'r cynllun cyflawni newydd a fydd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer gweithredu'r cod ymarfer hefyd. 

Rhaglen law yn llaw at blant a phobl ifanc 2

Gweithiodd ffrwd waith niwroddatblygiadol y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc i wella gwasanaethau niwroddatblygiadol rhwng 2015 a 2019. Bydd y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc 2 yn parhau, o fis Tachwedd 2019 i 2022 – ei hamcan yw cefnogi byrddau iechyd ymhellach i weithredu’r Llwybr a’r Safonau. Mae’r rhaglen yn dymuno helpu i ddatblygu ymateb system gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol, gan ddarparu cynnig cynnar i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd a fyddai fel arall yn cael eu hatgyfeirio at y tîm niwroddatblygiadol. 

Gweithredu’r cod ymarfer statudol

Mae Datganiad Ysgrifenedig y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 21 Medi yn amlinellu'r camau nesaf ar gyfer y Cod.

Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn gynnar yn 2021. Rydym am gyhoeddi'r Cod terfynol y tymor hwn, fodd bynnag, oherwydd effaith Covid-19, efallai na fydd yn bosibl cwblhau hyn tan ddechrau tymor nesaf y Senedd fis Mai nesaf oherwydd y pwysau parhaus sydd ar gapasiti gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru. 

Byddwn yn parhau â'n bwriad i ddechrau gweithredu'r Cod ym mis Medi 2021 ac wrth baratoi ar gyfer hyn bydd cynllun cyflawni’n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid. Bydd hyn yn cynnwys camau gweithredu i godi ymwybyddiaeth o'r Cod ac i gefnogi sefydliadau i weithredu'r gofynion newydd. Byddwn yn ymgysylltu â phobl awtistig hefyd fel bod pawb yn deall beth fydd y cod yn ei olygu iddynt hwy. Byddwn yn sefydlu grŵp cynghori Llywodraeth Cymru newydd ar awtistiaeth hefyd i roi cyngor ac adborth ar gyflawni, bydd yn cydweithio'n agos â'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn ei rôl i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth awtistiaeth.

Ceir crynodeb o'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r Cynllun Cyflawni yn atodiad un.

Atodiad Un: Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynllun Cyflawni ASD 2019 i 2020

Asesu a Diagnosis
Yr hyn rydym am ei gyflawni Yr hyn y byddwn yn ei wneud Cynnydd

Bydd gan blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig fynediad at wasanaethau atgyfeirio, asesu ac ôl-ddiagnostig amserol sy'n diwallu eu hanghenion.

Sicrhau gwelliannau i wasanaethau asesu a diagnostig plant. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu'r llwybr asesu diagnostig safonol cenedlaethol er mwyn sicrhau cysondeb.

Mae pob bwrdd iechyd yn ymwybodol o'r llwybr ar gyfer llywio eu gwasanaethau ac yn ei ddefnyddio.

Bydd gan blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig fynediad at wasanaethau atgyfeirio, asesu ac ôl-ddiagnostig amserol sy'n diwallu eu hanghenion.

Gwella prydlondeb mynediad, i blant a phobl ifanc, targed amser newydd o 26 wythnos o'r atgyfeiriad tan yr apwyntiad asesu cyntaf.

Bydd amseroedd aros yn cael eu cyhoeddi ar Statscymru maes o law.
Bydd gan blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig fynediad at wasanaethau atgyfeirio, asesu ac ôl-ddiagnostig amserol sy'n diwallu eu hanghenion. Sicrhau bod cynnydd a phrydlondeb asesu a diagnosis yn cael eu monitro'n barhaus. Caiff hyn ei ymgorffori yn y mecanweithiau ffurfiol ar gyfer rheoli gwaith cynllunio a pherfformiad byrddau iechyd. Adroddir amseroedd aros yn fisol i Lywodraeth Cymru. O fis Tachwedd ymlaen, bydd holl ffigurau'r byrddau iechyd yn cael eu casglu dan fframwaith cyflawni'r GIG.
 

Darparu gwelliannau i wasanaethau diagnostig i oedolion drwy'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys: 

  • Datblygu model cenedlaethol a fydd yn cael ei weithredu ledled Cymru.
  • Monitro ac adrodd parhaus ar gynnydd yn erbyn y safonau a gytunwyd ar gyfer y gwasanaeth.
  • Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ar gael ym mhob rhanbarth yng Nghymru.
  • Mae’r gwasanaethau IAS yn adrodd i Lywodraeth Cymru bob chwarter. Mae’r gwasanaethau IAS wedi datblygu safonau gwasanaeth ar gyfer casglu data monitro sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.  
  • Mae adolygiad o'r galw ac o gapasiti gwasanaethau niwroddatblygiadol ac awtistiaeth yn cael ei gomisiynu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy.
Bydd gan blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig fynediad at wasanaethau atgyfeirio, asesu ac ôl-ddiagnostig amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
  • Bydd yn ofynnol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol adrodd ar gynnydd.
  • Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cyflwyno adroddiadau chwarterol drwy'r Gronfa Gofal Integredig.  
Diwallu anghenion cymorth
Beth rydym am ei gyflawni Yr hyn y byddwn yn ei wneud Cynnydd
Mae modd i blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig a'u teulu a'u gofalwyr gael gafael ar gyngor a gwasanaethau ataliol er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyflwyno diwygiadau deddfwriaethol i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ym mis Rhagfyr 2016 a monitro cynnydd.

Cymorth ar gyfer cyflwyno cam 2 dull holistaidd ffrwd waith niwroddatblygiadol y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc.
 

  • pasiwyd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2016 a daeth yn Ddeddf ar 24 Ionawr 2018 yn dilyn Cydsyniad Brenhinol
  • cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Cod ADY drafft a'r rheoliadau i gyd-fynd â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn 2019
  • bydd y rolau statudol a gafodd eu creu dan y Ddeddf yn dechrau ym mis Ionawr 2021. Cyhoeddir canllawiau i bobl yn y rolau hyn cyn i'r Cod ADY a'r rheoliadau gael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Chwefror 2021

Bydd y system ADY newydd yn dechrau fesul cam o fis Medi 2021 ymlaen.

Dechreuodd ffrwd waith Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc 2 ym mis Tachwedd a bydd yn rhedeg tan 2022. Sefydlwyd trefniadau cydweithio er mwyn cysoni’r gwaith o ddatblygu polisi ar draws gwasanaethau ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol. 

Mae modd i blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig a'u teulu a'u gofalwyr gael gafael ar gyngor a gwasanaethau ataliol er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd a gofal cymdeithasol. Datblygu a chyhoeddi Cod Ymarfer ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a Deddf y GIG mewn partneriaeth â rhanddeiliaid gan gynnwys pobl awtistig a'u rhieni a'u gofalwyr. Dechreuodd yr ymgynghoriad ar y cod ymarfer a'r canllawiau drafft ar 21 Medi 2020, a bydd yn cau ar 14 Rhagfyr. Cyhoeddir adroddiad ymgynghori yn gynnar yn 2021, a bydd y cod yn cael ei gwblhau a'i weithredu o fis Medi 2021 ymlaen.
Mae modd i blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig a'u teulu a'u gofalwyr gael gafael ar gyngor a gwasanaethau ataliol er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd a gofal cymdeithasol. Parhau i ddatblygu a chyflwyno ein rhaglenni 'Dysgu gydag Awtistiaeth' i wella'r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc ar draws y sector blynyddoedd cynnar a’r sectorau cynradd, uwchradd ac addysg bellach. Mae'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn parhau gyda'u rhaglenni llwyddiannus mewn ysgolion Iau ac Uwchradd. Maen nhw'n cyd-gynhyrchu cynlluniau Addysg Bellach a chynlluniau Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae mwy o fanylion ar gael yn eu hadroddiad blynyddol.
Mae modd i blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig a'u teulu a'u gofalwyr gael gafael ar gyngor a gwasanaethau ataliol er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd a gofal cymdeithasol.

Gwella cyfleoedd i bobl ag awtistiaeth. Mae hyn yn cynnwys monitro'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen Ar y Blaen Dau i gefnogi cyflogaeth ieuenctid tymor hir i bobl ag anawsterau neu anableddau dysgu gan gynnwys anhwylderau'r sbectrwm awtistig.

Rydym yn parhau i weithio'n gydweithredol ar y Rhaglen Ar y Blaen drwy ein gwasanaethau awtistiaeth ond mae COVID-19 wedi effeithio ar hyn.
Mae modd i blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig a'u teulu a'u gofalwyr gael gafael ar gyngor a gwasanaethau ataliol er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd a gofal cymdeithasol. Llywodraeth Cymru i gymryd camau i fod yn gyflogwr sy'n ystyriol o awtistiaeth drwy gymryd rhan yn y Rhaglen Brwd Am Weithio gydag Awtistiaeth.

Yng Nghynllun Gweithredu Cydraddoldeb a Chynhwysiant 2017 - 2020 cytunodd Llywodraeth Cymru: ‘Mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy'n ystyriol o awtistiaeth – Dylid ymgysylltu â staff ag awtistiaeth er mwyn nodi pa gamau penodol y gellid eu rhoi ar waith : e.e. system cyfeillio, hyfforddiant i dimau ac ati.’ 

I gefnogi'r cam gweithredu hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y canlynol:

  • sefydlu Rhwydwaith ASD Anffurfiol sy'n rhwydwaith gweithredol ar gyfer cymorth gan gymheiriaid. Mae un o Gyfarwyddwyr Llywodraeth Cymru wedi'i nodi fel eiriolwr / noddwr anffurfiol. Mae'r Cyfarwyddwr wedi cael ei mentora o chwith gan Gadeirydd y Rhwydwaith ASD hefyd. Mae'r Cyfarwyddwr wedi ysgrifennu a chyhoeddi blog i'r holl staff ar ei phrofiad o gael ei mentora o chwith gan gydweithiwr awtistig
  • mae'r Grŵp Cymorth ASD wedi gweld cynnydd mewn niferoedd a gweithgarwch ers i gyfyngiadau Covid gael eu rhoi ar waith yn gynharach eleni. Mae'n parhau i gael sgwrs ddyddiol fywiog yn ogystal â safle mewnrwyd ar gyfer aelodau yn unig sy'n cynnal byrddau trafod, blogiau aelodau a dolenni defnyddiol i adnoddau ASD a newyddion diddorol. Mae'r grŵp wedi bod yn defnyddio ffyrdd rhithwir o gysylltu ers y cychwyn cyntaf, felly roedd yn hawdd iddynt gadw mewn cysylltiad ag aelodau a chefnogi ei gilydd yn ddyddiol
  • mae'r Grŵp Cymorth ASD wedi darparu hyfforddiant pwrpasol i reolwyr/timau hefyd, wedi'i gynllunio a'i ddarparu gan gyd-gadeiryddion y Grŵp ASD ar sail ad hoc yn ôl y gofyn. Maen nhw wedi cynnig rhaglen fentora/hyfforddi bwrpasol i aelodau'r grŵp ASD ac maen nhw hefyd wedi cynrychioli/hebrwng aelodau'r Grŵp ASD yn unol â’u cais mewn cyfarfodydd personol yn Llywodraeth Cymru (AD, rheolwyr llinell, ac ati.)
  • yn fwy diweddar, maen nhw wedi bod yn mynychu holl sesiynau peilot y Lab Dysgu (ein harlwy hyfforddiant ar-lein) er mwyn rhoi adborth o safbwynt hygyrchedd ASD
  • fel rhan o hyfforddiant sefydlu ar gyfer yr holl aelodau staff newydd, cyflwynir y Rhwydwaith ASD, ynghyd â'r holl rwydweithiau eraill ar gyfer staff sy'n ymwneud ag amrywiaeth
  • enillodd Cadeirydd y Rhwydwaith ASD newydd Wobr Amrywiaeth Llywodraeth Cymru 2019, gan gydnabod yr effaith y mae wedi'i gael ar aelodau staff awtistig a chydweithwyr a allai fod ag aelodau o'r teulu sy'n awtistig. Mae'r Cadeirydd a'r cyd-Gadeirydd a benodwyd yn fwy diweddar hefyd wedi ysgrifennu sawl blog sydd wedi helpu pobl i ddeall sut brofiad yw bod yn awtistig o ddydd i ddydd. Mae'r blogiau wedi cael eu rhannu a'u cydnabod gan y Gwasanaeth Sifil ehangach a Swyddfa'r Cabinet
  • wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth 2018 – Cafodd y Rhwydwaith ASD ei lansio a chyhoeddwyd nifer o flogiau gan gydweithwyr. Fel rhan o'r wythnos, cafwyd sesiwn Ymwybyddiaeth Awtistiaeth lle gwahoddwyd Cymraes i'r swyddfa sy'n Blogio am Awtistiaeth ac roedd yn disgrifio ei phrofiad o fod yn awtistig. Cafwyd erthyglau ar y fewnrwyd a gyhoeddwyd i'r holl staff gyda dyfyniadau o gefnogaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol ac Eiriolwr Amrywiaeth y Bwrdd ac roedd dolenni i TED Talks wedi'u cynnwys yn yr erthyglau
  • hyfforddiant Cadeiryddion Paneli Adnoddau Dynol – Y llynedd, mynychodd holl gadeiryddion Paneli Adnoddau Dynol hyfforddiant diweddaru. Rhan o'r hyfforddiant hwn oedd sesiwn ar addasiadau rhesymol yn ystod y broses recriwtio. Rhoddwyd pwyslais mawr ar Awtistiaeth a sut y gallwn, fel sefydliad, ddenu, recriwtio a chadw aelodau staff awtistig, a pha addasiadau y gellir gofyn amdanynt a sut gallwn ddarparu ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys caniatáu i berson awtistig ddefnyddio nodiadau mewn cyfweliad os yw'n gofyn am hynny
  • canllawiau i Ymwelwyr: Mae canllawiau sy'n ystyriol o awtistiaeth wedi'u llunio bellach ar gyfer unrhyw un a allai ymweld â Pharc Cathays am gyfweliad neu gyfarfod. Mae'n rhoi cyfarwyddyd clir ar gael mynediad i'r adeilad, y dderbynfa a phrosesau diogelwch. Mae wedi'i gyhoeddi ar wefan allanol Llywodraeth Cymru erbyn hyn. Parc-Cathays
  • rydym yn datblygu ein Cynllun Gweithredu 2020-2025 newydd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Ein hamcan cyffredinol – fel y nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol  cyfredol Llywodraeth Cymru – yw y bydd Llywodraeth Cymru, erbyn 2025, yn gyflogwr sy'n esiampl: 
    • cynyddu amrywiaeth drwy fynd i'r afael yn benodol â thangynrychiolaeth pobl anabl a phobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig ar bob lefel o'r sefydliad a thangynrychiolaeth menywod mewn rolau uwch
    • dileu rhwystrau a
    • chefnogi staff o bob cefndir i gyrraedd eu potensial, gan greu cyfle cyfartal i bawb

Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau ar gyfer staff presennol a staff posibl y dyfodol, a fydd o fudd i staff awtistig ac ymgeiswyr am swyddi. Rydym wedi ymrwymo hefyd i ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd ym mhopeth un a wnawn. Dyma'r camau y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw:

  • cafodd ein Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer 2020-2025 ei gymeradwyo'n ddiweddar gan ein Pwyllgor Gweithredol. Mae'r cynllun cyflawni ategol yn nodi y byddwn yn cynnig hyfforddiant ar awtistiaeth a niwroamrywiaeth i Gynghorwyr Adnoddau Dynol a staff blaen tŷ, a'i gynnig yn ehangach os gofynnir amdano
  • byddwn hefyd yn datblygu polisi rhwydweithiau staff lle byddwn yn ffurfioli'r cymorth a ddarparwn ar gyfer ein rhwydweithiau amrywiaeth staff a grwpiau cymorth gan gyfoedion – gan gynnwys ein rhwydwaith ASD
  • ar gyfer Diwrnod Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig (3 Rhagfyr 2020), byddwn yn cyflwyno cyfathrebiadau mewnol ar ymwybyddiaeth fel rhan o'n Hymgyrch Parch. Mae'r ffocws ar Namau Anweledig a bydd ymwybyddiaeth a chymorth awtistiaeth yn rhan o'r ymgyrch
Mae modd i blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig a'u teulu a'u gofalwyr gael gafael ar gyngor a gwasanaethau ataliol er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd a gofal cymdeithasol. Cydweithio â sefydliadau ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth ac fel y gallant fod yn amgylcheddau gwaith sy'n ystyriol o awtistiaeth. Bydd hyn yn cynnwys hyrwyddo'r Rhaglen Brwd am Weithio gydag Awtistiaeth. Mae'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi cyflwyno sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth i amrywiaeth o weithleoedd yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio ar y broses o gyflawni'r cam gweithredu hwn.
Mae modd i blant, pobl ifanc ac oedolion awtistig a'u teulu a'u gofalwyr gael gafael ar gyngor a gwasanaethau ataliol er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd a gofal cymdeithasol.

Darparu'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol. Bydd hyn yn cael ei weithredu o fis Ebrill 2016 dros gyfnod o dair blynedd a bydd yn cynnwys: 

  • gweithredu gwasanaeth asesu diagnostig safonol ar gyfer oedolion
  • darparu cyngor a chymorth i bawb ag awtistiaeth gan gynnwys eu teulu a'u gofalwyr
  • datblygu pecynnau hyfforddi a chymorth i weithwyr proffesiynol
Erbyn hyn, mae gan bob rhanbarth yng Nghymru wasanaeth IAS sy'n cynnig gwasanaeth asesu diagnostig safonol i oedolion. Maent hefyd yn rhoi cyngor a chymorth i bawb sydd ag awtistiaeth a'u teuluoedd / gofalwyr. Mae pecynnau hyfforddi a chymorth ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar gael er bod y rhain yn amrywio o ranbarth i ranbarth yn dibynnu ar aeddfedrwydd y gwasanaeth a'r adnoddau sydd ar gael.

 

Codi ymwybyddiaeth, gwybodaeth a hyfforddiant
Beth rydym am ei gyflawni Yr hyn y byddwn yn ei wneud Cynnydd

Dywed pobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fod ganddynt fynediad i wybodaeth, cyngor a hyfforddiant o ansawdd da ar awtistiaeth sy’n diwallu eu hanghenion.

Sicrhau bod pobl awtistig a'u teulu a'u gofalwyr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn cael gwybod am yr adnoddau sydd ar gael ar wefan ASDinfowales.

Datblygu strategaeth gyfathrebu sy'n nodi camau gweithredu penodol erbyn diwedd mis Ionawr 2017.

Mae adroddiad blynyddol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn tynnu sylw at ddatblygiad parhaus y wefan a'r nifer cynyddol o ymweliadau â'r we. Mae'r adroddiad ar gael yn: 
Adroddiad blynyddol

Mae'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi datblygu a chyhoeddi strategaeth ymgysylltu. Mae cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio ar unrhyw waith pellach.

Dywed pobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fod ganddynt fynediad i wybodaeth, cyngor a hyfforddiant o ansawdd da ar awtistiaeth sy’n diwallu eu hanghenion.

Ymgyrch codi ymwybyddiaeth 

Cydweithio â'r partneriaid, a phobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr i ddatblygu dull ar y cyd o gyflwyno ymgyrch codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, gan gynnwys mwy o ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau cymorth a'r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys y rhai ar wefan ASDinfoWales.

Mae adroddiad blynyddol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn amlygu'r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu adnoddau newydd a darparu pecynnau sy'n bodoli eisoes. Mae'r adroddiad i'w weld yn Adroddiad blynyddol.

Dywed pobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fod ganddynt fynediad i wybodaeth, cyngor a hyfforddiant o ansawdd da ar awtistiaeth sy’n diwallu eu hanghenion.

Datblygu a darparu adnoddau a deunydd hyfforddi er mwyn codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a chymorth ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion ag awtistiaeth. Bydd meysydd blaenoriaeth yn cael eu diweddaru'n flynyddol.

Mae Adroddiad blynyddol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn amlygu'r cynnydd a wnaed. Mae blaenoriaethau'n cael eu diweddaru yn eu cynllun gwaith blynyddol. 

Dywed pobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fod ganddynt fynediad i wybodaeth, cyngor a hyfforddiant o ansawdd da ar awtistiaeth sy’n diwallu eu hanghenion.

Gweithio'n gydweithredol â sefydliadau eraill sy'n ymdrin â materion nad ydynt wedi'u datganoli er mwyn codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth. Bydd hyn yn cynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân, y llysoedd a'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr. 

Mae adroddiad blynyddol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn amlygu'r cynnydd a wnaed o ran gweithio gyda sefydliadau nad ydynt wedi'u datganoli fel y gwasanaeth tân.

Dywed pobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fod ganddynt fynediad i wybodaeth, cyngor a hyfforddiant o ansawdd da ar awtistiaeth sy’n diwallu eu hanghenion.

Work collaboratively with other organisations dealing with non-devolved matters to raise awareness of autism. This will include the police, fire service, courts and the National Offenders Management Service.  The National Autism Team’s annual report highlights the progress achieved in working with non-devolved organisations such as the fire service.

Dywed pobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fod ganddynt fynediad i wybodaeth, cyngor a hyfforddiant o ansawdd da ar awtistiaeth sy’n diwallu eu hanghenion.

Diweddaru ac ehangu canllawiau ar gyfer gwasanaethau tai ar gefnogi pobl awtistig. Lansiwyd y canllawiau ar 21 Hydref 2019. Gweler adroddiad blynyddol y Tîm Datblygu Cenedlaethol. Nod y canllawiau yw helpu gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes tai i ddeall anghenion pobl awtistig yn well wrth iddynt gael mynediad i wasanaethau tai.

Dywed pobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol fod ganddynt fynediad i wybodaeth, cyngor a hyfforddiant o ansawdd da ar awtistiaeth sy’n diwallu eu hanghenion.

Parhau i gefnogi Arweinwyr a thîm Cenedlaethol ASD i roi cyngor ac arweiniad arbenigol ar awtistiaeth i Lywodraeth Cymru, grwpiau proffesiynol a rhanddeiliaid. 

Mae'r tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn cefnogi cyfarfodydd chwarterol ac yn hyrwyddo'r broses o rannu arferion da.  

 

Cynllunio, monitro a chynnwys rhanddeiliaid
Beth rydym am ei gyflawni Yr hyn y byddwn yn ei wneud Cynnydd

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth a'u teulu a'u gofalwyr yn cael eu cynnwys ac ymgynghorir â hwy wrth ddarparu SAP ASD.

Sefydlu Grŵp Cynghori ar Weithredu i fonitro cynnydd a chyflawni camau gweithredu penodol y Cynllun Gweithredu Strategol a'r Cynllun Cyflawni. Bydd y grŵp yn cael ei sefydlu cyn 1 Ebrill 2017.   Cyfarfu'r Bwrdd Cynghori ar Weithredu ASD ddwywaith yn ystod 2019/20. Bydd grŵp newydd yn cael ei alw ynghyd o 2021 ymlaen i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cod Ymarfer. 

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth a'u teulu a'u gofalwyr yn cael eu cynnwys ac ymgynghorir â hwy wrth ddarparu SAP ASD.

Cyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi'r cynnydd mewn perthynas â chamau gweithredu penodol y Cynllun Gweithredu Strategol a'r Cynllun Cyflawni. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad a phrydlondeb asesu a diagnosis. Mae adroddiadau blynyddol llawn wedi'u cyhoeddi ar gyfer 2017-18 a 2018-19. Cyhoeddir adroddiad cryno ar gyfer 2019-20 sy'n adlewyrchu effaith COVID-19 ar adnoddau.  

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth a'u teulu a'u gofalwyr yn cael eu cynnwys ac ymgynghorir â hwy wrth ddarparu SAP ASD.

Sicrhau bod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn adrodd ar gynnydd mewn perthynas â chamau gweithredu penodol y Cynllun Gweithredu Strategol a'r Cynllun Cyflawni. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad ac amserlenni asesu a diagnosis.  Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn parhau i ddarparu adroddiadau chwarterol ar y Gronfa Gofal Integredig sy'n cefnogi'r broses o gyflwyno'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.  

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth a'u teulu a'u gofalwyr yn cael eu cynnwys ac ymgynghorir â hwy wrth ddarparu SAP ASD.

Llywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd o ymgorffori data anabledd ym mhroses newydd y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer casglu data.

Bydd y Fframwaith Perfformiad a Gwella yn datblygu Cyfrifiad ar Oedolion sy'n Derbyn Gofal a Chymorth gyda rhanddeiliaid allweddol yn 2020/21 er mwyn casglu gwybodaeth fwy cadarn am anabledd y gellir ei chysylltu â data arall a disodli adroddiadau etifeddol. Mae'r gwaith o ddatblygu'r cyfrifiad newydd wedi'i ohirio ychydig oherwydd pandemig COVID-19. Bydd y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth a'r Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael eu hadolygu hefyd fel rhan o'r un rhaglen waith. Bydd amserlen ddiwygiedig yn dechrau ym mis Tachwedd 2020.Bydd blwyddyn 2021/22 yn cael ei defnyddio i dreialu'r broses newydd o gasglu data gyda phartneriaid awdurdodau lleol.

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth a'u teulu a'u gofalwyr yn cael eu cynnwys ac ymgynghorir â hwy wrth ddarparu SAP ASD.

Cydweithio â phartneriaid i edrych ar y ffordd rydym yn casglu data ar ganlyniadau ystyrlon er mwyn llywio ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir ac i nodi lle gallai fod yna fylchau parhaus mewn cymorth.

Mae system casglu data wedi'i datblygu ac mae'n cael ei threialu ar draws gwasanaethau'r IAS o fis Mawrth 2019 ymlaen. Bydd yr wybodaeth hon yn llywio'r adolygiad arfaethedig o'r galw a'r capasiti

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth a'u teulu a'u gofalwyr yn cael eu cynnwys ac ymgynghorir â hwy wrth ddarparu SAP ASD.

Sefydlu cofrestr meddygon teulu ar gyfer awtistiaeth.

Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol gydag Ymarfer Cyffredinol yng Nghymru (GPC Cymru) a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ynghylch sefydlu cofrestr o fewn y system glinigol ar gyfer meddygon teulu, a chynhaliwyd trafodaethau â Grŵp Cyfarwyddwyr Meddygol Cyswllt byrddau iechyd er mwyn canfod arweinydd i gydweithio â chydweithwyr polisi ac arbenigwyr Awtistiaeth. Mae effaith COVID-19 wedi atal y gwaith hwn rhag cael ei ddatblygu. 

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth a'u teulu a'u gofalwyr yn cael eu cynnwys ac ymgynghorir â hwy wrth ddarparu SAP ASD.

Ymgynghori ar newidiadau i God Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru Rhan 2 mewn perthynas ag Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth a Chynlluniau Ardal, gan ddatblygu themâu craidd.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ychwanegol i gefnogi'r broses PNA newydd a fydd hefyd yn nodi ein disgwyliadau mewn perthynas â gwasanaethau ar gyfer pobl awtistig. Byddwn yn adolygu asesiadau drafft er mwyn sicrhau bod datblygiadau'r gwasanaeth awtistiaeth yn cael eu hystyried yn ddigonol.

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth a'u teulu a'u gofalwyr yn cael eu cynnwys ac ymgynghorir â hwy wrth ddarparu SAP ASD.

Monitro'r broses o weithredu gofynion deddfwriaethol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a pharhau i adolygu'r angen am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag awtistiaeth yn y dyfodol. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru at y broses o graffu ar Fil Awtistiaeth (Cymru). Rydym wedi ystyried yn ofalus yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor craffu wrth ddatblygu'r cod ymarfer arfaethedig a blaenoriaethau gwella gwasanaethau yn y dyfodol.  

Crynodeb o'r cod ymarfer drafft ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth

Datblygu'r cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth

Bu eleni’n flwyddyn brysur ar gyfer datblygu'r Cod Ymarfer Statudol drafft ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth. Mae'r Cod yn cynnwys pedair pennod sy'n cyd-fynd â phedair pennod Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2016, ac fe'u hadlewyrchir yng nghanllawiau ategol y Cod: 

Pennod un - Asesu a Diagnosis - Mae'r adran hon yn disgrifio trefniadau ar gyfer pobl a all fod yn awtistig fel y gallant gael mynediad i wasanaethau asesu a diagnosis. Er enghraifft, mynediad i wasanaethau amlddisgyblaethol sy'n cynnwys gweithwyr sydd wedi'u hyfforddi yn y technegau diagnostig i adnabod awtistiaeth a chymorth i bobl a atgyfeirir ar gyfer asesiad diagnostig a'u teuluoedd neu ofalwyr.  

Pennod dau - Cael Gafael ar Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Mae'r adran hon yn ymdrin â mynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n disgrifio'r ffordd y dylai gwasanaethau ddiwallu anghenion pobl awtistig, gan gynnwys sicrhau nad yw IQ yn rhwystro unigolion rhag cael cymorth.

Pennod tri - Codi Ymwybyddiaeth a Hyfforddiant ar Awtistiaeth - Mae'r adran hon yn disgrifio'r ffordd y dylai byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol hyrwyddo cynhwysiant ar gyfer pobl awtistig mewn gwasanaethau prif ffrwd, drwy sicrhau bod gan y gymuned ehangach ddealltwriaeth briodol o awtistiaeth. Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd i sefydliadau gynnal dadansoddiad o anghenion hyfforddi mewn perthynas ag awtistiaeth ar gyfer staff a sicrhau bod hyfforddiant ar gael sy'n addas ar gyfer eu rolau. 

Pennod pedwar - Cynllunio, Monitro Gwasanaethau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid - Mae'r adran hon yn disgrifio'r ffordd y mae'n rhaid i fyrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a'u partneriaid gynnwys awtistiaeth fel thema ar wahân wrth gynnal asesiad ar y cyd o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth.