Bydd yr Ysgrifennydd dros yr Economi, Ken Skates yn cyhoeddi heno y bydd Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref
Mewn araith a fydd yn cael ei thraddodi o Deloitte yn Ardal Fenter Canol Caerdydd, sy'n gartref i sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol ffyniannus Cymru, bydd Ysgrifennydd yr Economi yn rhoi ei safbwynt ef am yr heriau mawr a fydd yn wynebu busnesau yn ystod y degawd nesaf, gan gynnwys Brexit.
Bydd hefyd yn manylu mwy ar y cynlluniau sydd ganddo ar gyfer contract economaidd newydd rhwng y llywodraeth a’r gymuned fusnes a fydd yn helpu cwmnïau i fynd i'r afael yn uniongyrchol â heriau allweddol ac i fanteisio ar bob cyfle posibl i sbarduno ffyniant economaidd ym mhob cwr o Gymru.
Mae araith yr Ysgrifennydd dros yr Economi yn cael ei gwneud ar ôl i Lywodraeth Cymru lansio'i strategaeth genedlaethol gyffredinol "Ffyniant i Bawb".
Cyn iddo draddodi'i araith gerbron y gymuned fusnes, Dywedodd Ken Skates:
"Mae Ardal Fenter Canol Caerdydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol i sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol Cymru. Mae'n enghraifft wirioneddol gryf o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fo Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y gymuned fusnes, yn ymateb iddi ac yn gweithio gyda hi.
"A dw i'n falch o gael siarad â busnesau o swyddfa Deloitte yng nghanol yr Ardal Fenter honno. Mae Deloitte yn un o'r llu lwyddiannau yn yr Ardal, ar ôl i'w swyddfa yng Nghaerdydd dyfu'n ddiweddar i 750 o staff, sy'n golygu mai dyma'i safle mwyaf y tu allan i Lundain.
"Yn fy araith, bydda i'n hoelio sylw ar y pethau a fydd, yn fy marn i, yn her aruthrol i Gymru yn ystod y deng mlynedd nesaf. O Brexit, i gynhyrchiant, i anghydraddoldeb, poblogaeth sy'n heneiddio, y newid yn yr hinsawdd, ac awtomeiddio a digido, mae'r heriau'n gymhleth ac yn eang. Ac ni all Llywodraeth Cymru fynd i'r afael ag unrhyw un ohonyn nhw ar ei phen ei hun.
"Mae'n strategaeth gyffredinol newydd, Ffyniant i Bawb, a gafodd ei lansio heddiw gan y Prif Weinidog, yn nodi ffordd o weithio ar draws y Llywodraeth i greu economi gystadleuol a thecach a all ein helpu i greu mwy o gyfoeth, i wella llesiant ac i greu mwy o gyfleoedd i bobl ym mhob cwr o Gymru.
"A bydda i'n mynd ati yn yr hydref i lansio Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi a fydd yn ein helpu i weithio gyda'r gymuned fusnes i ymateb i'r heriau allweddol hyn.
"Bydd y Cynllun yn seiliedig ar chwe elfen, gan gynnwys rhoi cymorth i bobl ac i fusnesau er mwyn sbarduno ffyniant. Bydd contract economaidd newydd rhwng y Llywodraeth a’r gymuned fusnes, pecyn cymorth symlach i fusnesau, a phwyslais ar sbarduno arloesedd.
"Bydd yn hoelio sylw ar le Cymru yn y byd, gan adeiladu ar frand llwyddiannus Cymru, a chan helpu i ddatblygu marchnadoedd rhyngwladol newydd ac i gefnogi'n hallforwyr, wrth inni adael yr UE.
"Bydd yn amlinellu'r cynlluniau sydd gennym i ddarparu seilwaith modern a chysylltiedig er mwyn cwrdd â'r her sy'n ein hwynebu o ran cynhyrchiant. Bydd yn nodi sut byddwn ni'n newid i fodel mwy rhanbarthol o ddatblygu economaidd, a bydd, yn anad dim, yn sbarduno twf economaidd cynaliadwy sy'n helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
"Mae cysylltiad agos iawn rhwng ein dyfodol a llwyddiant yr economi a dim ond drwy weithio gyda'r gymuned fusnes y gallwn ni greu economi a gwlad gryfach, decach a mwy cynhwysol a fydd yn dod â budd i bawb."