Sut ydym yn mynd ati i olrhain a sicrhau cynnydd yn erbyn ein cynllun i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.
Cynnwys
Diweddariadau
Darparwyd diweddariadau i'r Senedd ar ffurf Datganiadau Llafar ac Ysgrifenedig rhwng 2022 a 2025:
- Datganiad llafar ym mis Mehefin 2022
- Datganiad llafar ym mis Chwefror 2023 yn lansio'r Cynllun Gweithredu LHDTC+
- Datganiad Ysgrifenedig Mehefin 2023
- Datganiad llafar ym mis Chwefror 2024
- Datganiad Llafar ym mis Chwefror 2025
Rydym wedi lansio Bwletin Cynllun Gweithredu LDHTC+ pwrpasol ar gyfer rhanddeiliaid. Tanysgrifiwch i'r bwletin.
Gwerthuso
Ym mis Mai 2023, lansiwyd prosiect “Fframwaith Asesu a Gwerthuso”. Rydym yn gweithio gyda’r Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb i lunio fframwaith i asesu effaith a llwyddiant y Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru.
Ym mis Chwefror 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru dendr agored ar gyfer gwerthuso'r Cynllun Gweithredu LHDTC+. Croesewir gwahoddiadau gan sefydliadau unigol neu gonsortia.
Hawliau dynol a chydnabyddiaeth
Cam gweithredu 1: cryfhau dealltwriaeth o hawliau dynol pobl LHDTC+
Ariannwyd Age Cymru o fis Ionawr hyd at fis Gorffennaf 2022 i gyflawni prosiect ar hawliau dynol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Pwrpas y prosiect hwn oedd codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol, ac ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru. Roedd hyn er mwyn pwysleisio'r neges bod pobl hŷn yn ddinasyddion ac yn rhan o gymdeithas, a bod ganddynt hawl i ddisgwyl y bydd eu hawliau dynol yn cael eu cynnal.
Roedd hyn yn cynnwys pecyn cymorth a fideo ar hawliau dynol sy'n ymdrin â phrofiadau pobl drawsryweddol hŷn, yn enwedig y rhai mewn lleoliadau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Cam gweithredu 2: helpu pobl LHDTC+ i ddeall yn well sut i fynnu eu hawliau dynol
Gwnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi Stonewall Cymru i lansio ei Raglen Arweinwyr y Dyfodol gyntaf ar 23 Ionawr 2024.
lluniwyd y rhaglen i rymuso pobl LHDTC+ sy'n22-30 oed o bob cwr o Gymru i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut mae ein hunaniaeth yn llunio ein profiadau a sut y gallwn greu amgylcheddau cynhwysol lle gall pob person LHDTC+ ffynnu.
Cafwyd sgyrsiau teimladwy gydol y diwrnod, gan greu ymdeimlad amlwg o undod ymhlith y rhai a oedd yn bresennol.
Cam gweithredu 3: gwahardd pob agwedd ar Arferion Trosi LHDTC
Cyfarfu'r Gweithgor ar Wahardd Arferion Trosi chwe gwaith yn ystod Ionawr a Gorffennaf 2023 a rhoddodd gyngor a dealltwriaeth ddyfnach i Lywodraeth Cymru.
Rydym wedi gweithio gyda Galop i hyrwyddo gwasanaethau cymorth dwyieithog newydd ar gyfer goroeswyr arferion trosi yng Nghymru. Dechreuodd y gwasanaeth ar 26 Ebrill.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn Araith y Brenin ar 17 Gorffennaf 2024 y bydd Bil drafft yn cael ei gyflwyno i wahardd arferion trosi. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau ar lefel swyddogol a Gweinidogol i sicrhau bod llais Cymru yn llywio hynt y Bil drafft hwn.
Cam gweithredu 4: cryfhau cynrychiolaeth LHDTC+ ar fforymau cydraddoldeb
Rydym wedi sefydlu'r Grŵp Cynghori ar y Cynllun Gweithredu LHDTC+. Bydd y Grŵp anstatudol yn cynghori ar gamau gweithredu arfaethedig yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+.
Cam Gweithredu 7: ceisio datganoli pwerau mewn perthynas â Chydnabod Rhywedd
Rydym wedi cyhoeddi cyngor i rai sy'n gwneud cais am ddogfennau adnabod, gan gynnwys sut i gael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd.
Cam gweithredu 8: mae ymgysylltu rhyngwladol yn dangos ein gwerthoedd a’n cymorth i bobl LHDTC+ yng Nghymru ac yn fyd-eang
Ym misoedd Ebrill a Mai 2023, fe wnaethom gyfarfod â'r Cenhedloedd Unedig a'i Arbenigwr Annibynnol ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd. Yn eu datganiad terfynol ar ddiwedd eu hymweliad, cyfeiriwyd at Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru fel:
An example of good practice in human rights policymaking”.
Diogelwch a rhyddid rhag gwahaniaethu
Cam Gweithredu 9: dileu rhwystrau sy'n llesteirio pobl LHDTC+ rhag rhoi gwybod am droseddau casineb
Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn o dan adain Grŵp Llywio Swyddogion Cymorth Cymunedol Heddlu Cymru, gyda'r bwriad o nodi llinell sylfaen ar gyfer y lefelau staffio yn 2025.
Cam gweithredu 10: parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni atal troseddau casineb ledled Cymru
Rydym wedi diweddaru ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru gan ganolbwyntio ar gyfeiriadedd rhywiol a phroblemau sy'n wynebu pobl drawsryweddol. Cefnogir hyn gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ yn cynnwys enghreifftiau o gasineb ar-lein ac yn dangos yn eglur ffyrdd o roi gwybod am gasineb ar-lein i oroeswyr ac unigolion a dargedwyd.
Cam gweithredu 11: gwrthsefyll agweddau gwrth-LHDTC+ ar-lein a throseddau casineb
Mae'r canllawiau statudol "Hawliau, parch, cydraddoldeb" ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn cael eu diweddaru yn 2025 yn dilyn ymgynghoriad yn y Gwanwyn. Bydd hyn yn cryfhau dulliau o atal ac ymateb i bob math o fwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn, gan gynnwys bwlio ac ymosodedd ar-lein. Ar ôl eu diweddaru, bydd y canllawiau ar ddadlau'n erbyn agweddau gwahaniaethol niweidiol a throseddau casineb yn ystyried ymdrin ag unrhyw sensitifrwydd a allai atal y dysgwr rhag rhoi gwybod am ddigwyddiadau.
Gall ysgolion gefnogi pobl ifanc, dysgwyr a'u teuluoedd gydag ystod o adnoddau a chanllawiau diogelwch ar-lein drwy Hwb. Mae'r adnoddau hyn yn hyrwyddo ymddygiad ystyriol a pharchus ar-lein.
Rhwng Rhagfyr 2022 a Mawrth 2023, fe wnaethom gyflwyno pecyn hyfforddi i gefnogi ymarferwyr addysg trwy Hwb. Diben hwn oedd eu helpu i ddeall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein. Roedd yn cynnwys hyfforddiant pwrpasol ar gyfer y rhai sy'n arwain ar ddiogelu.
Fe wnaethom gyfrannu at ddatblygu Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, er mwyn iddi allu cynnwys niwed ar-lein i bobl LHDTC+.
Cam gweithredu 13: targedu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ymhlith cymunedau LHDTC+
Llinell "Byw Heb Ofn" yw Llinell Gymorth Llywodraeth Cymru i Gymru gyfan. Mae'n cynnig cymorth cyfrinachol i bob goroeswr a dioddefwr trais, cam-drin domestig, a thrais rhywiol. Mae hyn yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod.
Gwnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Genedlaethol 5 mlynedd ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ym mis Mai 2022.
Fe'i datblygwyd gyda sefydliadau partner fel yr heddlu, y sector arbenigol a goroeswyr. Mae Strategaeth Genedlaethol VAWDASV yn cael ei chyflawni trwy ddull glasbrint. Mae hyn yn cryfhau gweithio mewn partneriaeth rhwng sectorau cyhoeddus, preifat ac arbenigol.
Cam gweithredu 14: mae gwasanaethau digartrefedd yn gynhwysol o ran anghenion penodol pobl LHDTC+
Mae Tŷ Pride yn brosiect sy'n cael ei ariannu drwy gronfa Arloesi Llywodraeth Cymru. Mae ei staff ar gael 24 awr y dydd ac yn cefnogi pobl ifanc o’r gymuned LHDTC+ a oedd yn dioddef digartrefedd neu mewn perygl o hynny. Mae hyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Viva LGBTQ+, a Llamau.
Ym mis Medi 2023, ymwelodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol â phrosiect Tŷ Pride yn y Rhyl. Mae'n darparu cefnogaeth i bobl ifanc LHDTC+ sydd naill ai'n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Yn y cyfarfod gyda Chyngor Sir Ddinbych, Llamau, a Viva LGBTQ+, dywedodd y Dirprwy Weinidog:
Eleni yn unig, rydym wedi buddsoddi dros £210m mewn gwasanaethau atal digartrefedd ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys parhau i fuddsoddi dros £3.1m yn y Gronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref.
Rwy'n edrych ymlaen at rannu'r gwerthoedd sydd wedi helpu i ffurfio Tŷ Pride gydag awdurdodau lleol eraill i sicrhau bod gwasanaethau digartrefedd yn gallu ymgysylltu'n sensitif â phobl LHDTC+."
Cenedl noddfa i geiswyr lloches a ffoaduriaid
Cam gweithredu 15: adnabod, diogelu a chyfeirio pobl LHDTC+ sy’n hawlio lloches
Ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasolat Lywodraeth y DU ynglŷn â phrosesu ceisiadau lloches yn Rwanda. Roedd hyn hefyd yn cynnwys trafod sut i fwrw ymlaen â'r camau i ddiwygio'r Ffurflen Gais am Gymorth Lloches (ASF1). Mae hyn yn caniatáu i geiswyr lloches gofnodi eu cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd.
Ar hyn o bryd mae Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru a Straen Trawmatig Cymru yn datblygu cynigion i fynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr nad ydynt wedi'u diwallu.
Gofal iechyd, gofal cymdeithasol, a llesiant
Cam gweithredu 18: Deall a gwella profiad pobl LHDTC+ yn y sector iechyd a’r sector gofal cymdeithasol
Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ag arweinwyr gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr , grŵp Cydraddoldeb y Bwrdd Iechyd, a grwpiau cymunedol o'r gogledd i drafod anghenion iechyd pobl LHDTC+.
Bydd nifer o godau ymarfer o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru 2016 yn cael eu hadolygu, o dan ein trefniadau busnes arferol. Bydd y rhain yn adlewyrchu cynhwysiant LHDTC+.
Cam gweithredu 21: cyhoeddi Cynllun Gweithredu HIV newydd a gweithredu arno
Fe wnaethom gyhoeddi ein Cynllun Gweithredu HIV ar gyfer Cymru 2023 i 2026 ym mis Mawrth 2023.
Mae sawl grŵp gorchwyl a gorffen a Grŵp Goruchwylio Cynllun Gweithredu HIV wedi'u sefydlu ers mis Ebrill 2023.
Cyhoeddwyd Datganiad Blynyddol ar Gynnydd y Cynllun Gweithredu HIV ym mis Tachwedd 2024 fel Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cam gweithredu 22: goresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl LHDTC+ rhag defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol
Rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, i wneud gweithgarwch ataliol a phrofion ar-lein ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn fwy hygyrch.
Fe wnaethom hefyd weithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu'r cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf am frechu Mpox.
Mae'r pecyn prawf HIV drwy'r post ar-lein a gynigir gan Iechyd Rhywiol Cymru yn cael ei hyrwyddo'n eang gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
Cam Gweithredu 23: adolygu'r llwybr Datblygu Hunaniaeth Rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru
Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru ("y Cyd-bwyllgor") yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc drwy GIG Lloegr.
Mae 8 darparwr rhanbarthol yn cael eu sefydlu ac mae JCC yn gweithio'n agos gyda'r canolfannau rhanbarthol agosaf at Gymru (Bryste ac Alder Hey yn Lerpwl). Mae'r gwasanaeth ym Mryste eisoes wedi dechrau gweld cleifion ac rydym yn disgwyl i'r gwasanaeth yn Alder Hey agor yn fuan.
Cam gweithredu 24: parhau i ddatblygu Gwasanaeth Rhywedd Cymru
Rydym yn parhau i ddatblygu Gwasanaeth Rhywedd Cymru (i oedolion). Mae wedi'i leoli yn St David's yng Nghaerdydd ac mae ganddo dimau rhywedd lleol (LGT) ym mhob bwrdd iechyd.
Addysg gynhwysol
Cam gweithredu 26: rhoi canllawiau cenedlaethol ar faterion traws i ysgolion ac awdurdodau lleol
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd canllawiau i ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n drawsryweddol neu'n cwestiynu eu rhywedd. Mae gwaith ar y gweill i archwilio sut i gefnogi ysgolion i rannu arferion cynhwysol i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn ddiogel ac yn gallu dysgu.
Rydym yn gohirio'r ymgynghoriad i sicrhau bod y canllawiau drafft yn cael eu llywio'n llawn gan dystiolaeth sy'n dod i'r golwg a'u bod yn cael eu datblygu mewn ffordd sy'n sensitif i anghenion plant a phobl ifanc ac yn adlewyrchu lleisiau rhieni.
Cam gweithredu 28: llunio dull gweithredu ysgol gyfan sy’n gwbl LHDTC+-gynhwysol a’i roi ar waith
Cafodd y cwricwlwm i Gymru ei ddiweddaru ar 31 Ionawr 2023. Mae'n cefnogi'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh).
Rydym wedi cefnogi Stonewall Cymru a Pheniarth i gyfieithu dau lyfr i'r Gymraeg. Mae 'Early One Morning' a 'Bedtime Not Playtime!' yn canolbwyntio ar deuluoedd LHDTC+. Mae'r llyfrau wedi cael eu dosbarthu i ysgolion cynradd. Mae hyn yn sicrhau bod plant yn cael mynediad at ddeunyddiau cynhwysol sy'n ystyried amrywiaeth Cymru.
Cam gweithredu 29: sicrhau bod pob coleg a phrifysgol yng Nghymru yn amgylcheddau LHDTC+ gynhwysol i ddysgwyr, myfyrwyr, a staff
Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru ei adroddiad ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith dysgwyr.
Ym mis Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi adolygiad o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Comisiynwyd yr adolygiad ar ran y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg.
Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddwyd 'Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion mewn Lleoliadau Addysg: Cynllun Gweithredu'. Mae'n anelu at atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg.
Yn ystod 2024i- 2025, mae Medr yn parhau i ariannu prosiect cydweithredol ar gam-drin ymhlith cyfoedion mewn addysg bellach. Mae'r prosiect yn tynnu ar yr argymhellion a nodir yn Adroddiad Thematig Estyn 'Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon ' a'u hadroddiad 'Aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn addysg bellach'. Yn 2024 - 2025 bydd y prosiect hwn yn adolygu materion cyfredol o fewn AB i lywio cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff i'w cynorthwyo i adnabod arwyddion posibl o gamdriniaeth, a sut i reoli digwyddiadau.
Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i gefnogi staff ynghylch sut i gynyddu ymwybyddiaeth o gam-drin rhwng cyfoedion gyda dysgwyr ac i ddarparu cefnogaeth, yn ogystal â chydnabod y gwahaniaethau mewn canfyddiad o broblemau rhwng cyfoedion ar draws amrywiaeth dysgwyr y coleg.
Bydd adnoddau newydd yn cael eu datblygu, gan gynnwys ym maes perthnasoedd iach, a gweithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn 2024 - 2025 mae Estyn yn cynnal adolygiad thematig o ymddygiad mewn Addysg Bellach, wedi'i lywio gan ei adolygiad blaenorol o aflonyddu rhywiol ymhlith cyfoedion mewn AB.
Cymunedau, bywyd preifat a bywyd teuluol
Cam gweithredu 30: cefnogi bywydau teuluol pobl LHDTC+
Mae ein gwefan ddwyieithog Magu plant. Rhowch amser iddo yn cynnwys dolenni at sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt. Mae’n cynnig cefnogaeth i rieni o gymunedau LHDTC+, rhieni plant LHDTC+, neu rieni plant sy’n mynd drwy’r broses drawsnewid. Mae’r wefan hefyd yn darparu cefnogaeth i rieni a gofalwyr sydd angen cymorth ychwanegol.
Cam gweithredu 35: cefnogi sefydliadau Balchder ledled Cymru
Rydym wedi sefydlu Cronfa Balchder llawr Gwlad. Mae'n helpu digwyddiadau Balchder llai i ymgysylltu â phobl LHDTC+ a chymunedau ehangach a'u cefnogi.
O fewn Blwyddyn Ariannol 2024 - 2025, cafwyd 20 o geisiadau llwyddiannus i Gronfa Balchder Llawr Gwlad Cymru
Rydym yn parhau i gefnogi a noddi Pride Cymru a'i ddigwyddiad yng Nghaerdydd, yn unol â'n hymrwymiad i'n Rhaglen ar gyfer Llywodraethu.
Cam gweithredu 37: cefnogi cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC+
Fe wnaethom weithio gyda'r Arglwydd Etherton CB a'r tîm ar yr adolygiad annibynnol i effaith gwneud bod yn hoyw yn drosedd ym myddin Prydain. Edrychodd yr adolygiad ar wasanaeth a phrofiad cyn-filwyr LHDT a wasanaethodd yn y Lluoedd Arfog rhwng 1967 a 2000.
Roedd hyn yn cynnwys cydweithredu'n glos â'r elusen Fighting with Pride yng Nghymru. Cynigiodd hyn gyngor ynglŷn â'r awgrymiadau a'r argymhellion i Gymru yn yr Adolygiad Annibynnol Cyn-filwyr LHDT a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023. Cyhoeddwyd ei Adroddiad Dadansoddi ym mis Gorffennaf 2023.
Rhyddhaodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Ddatganiad Ysgrifenedig ar 20 Gorffennaf 2023 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn y maes hwn.
Cymryd rhan ym mywyd Cymru: diwylliant a chwaraeon
Cam gweithredu 38: gwella cynrychiolaeth, cynhwysiant, a chyfranogiad pobl LHDTC+ ym myd chwaraeon
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Gŵyl Out and Wild 2022 i 2024.
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae’n canolbwyntio ar lesiant, yr awyr agored a chwaraeon. Mae hi’n ŵyl sydd wedi’i chynllunio ar gyfer merched LHDTC+ a phobl anneuaidd.
Mae hyn yn unol â’n hymrwymiadau yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+; Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030; a’r amcanion llesiant yn y Rhaglen Lywodraethu er mwyn galluogi ffyniant ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau.
Cam gweithredu 39: gwella mynediad a chyfranogiad pobl drawsryweddol ym myd chwaraeon
Agorodd y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon Wythnos Gweithredu Pêl-droed vs Trawsffobia. Wedi'i lansio yn 2023, roedd yn ailddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gynnwys pobl traws mewn chwaraeon.
Cam gweithredu 40: dathlu a gwella cynrychiolaeth cymunedau LHDTC+ yn nhreftadaeth a diwylliant Cymru
Rydym yn ariannu hyfforddiant ar iaith a hanes LHDTC+ ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol. Mae hyn yn helpu staff a gwirfoddolwyr i weithio gyda chymunedau LHDTC+ i arddangos, rhannu a dathlu hanes a diwylliant LHDTC+ lleol yn eu casgliadau.
Mae'r hyfforddiant wedi arwain at brosiect i greu llinellau amser o hanesion LHDTC+, gan gynnwys cyfeiriadau at gasgliadau a straeon mewn casgliadau lleol, ar gyfer pob ardal sirol yng Nghymru. Cyhoeddwyd y prosiect hwn ym mis Chwefror 2024.
Cam Gweithredu 41: cael pobl a sefydliadau LHDTC+ i gymryd mwy o ran wrth drefnu digwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol
Drwy Cymru Greadigol, rydym eisiau sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn gallu parhau i dyfu. Bydd hyn yn helpu i feithrin talent o bob cymuned, gan gynnwys cymunedau LHDTC+. Rydym wedi cefnogi Gŵyl Gwobr Iris sawl gwaith drwy Cymru Greadigol.
Drwy Gronfa Sgiliau y Sector Creadigol, mae Cymru Greadigol yn cyllido 2 brosiect gyda Beacons Cymru.
Mae’r "Resonant project" yn grymuso pobl ifanc rhywedd-amrywiol ac sydd wedi’u hymyleiddio (18 i 25 oed) i weithio y tu ôl i’r llenni yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Mae prosiect “TransForm Music” yn datblygu pecyn hyfforddi ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth a rhai creadigol. Mae’r bartneriaeth hon yn canolbwyntio ar wneud lleoliadau’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn fwy diogel a chynhwysol i bobl drawsryweddol ac anneuaidd. Mae’n cael ei gyflwyno i 6 o randdeiliaid yn y diwydiant cerddoriaeth ledled Cymru.
Gweithleoedd cynhwysol
Cam gweithredu 44: annog cyflogwyr yn y sector preifat i fod yn LHDTC+-gynhwysol
Rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr yn Busnes Cymru i gynhyrchu amrywiaeth o adnoddau ar-lein i wella dealltwriaeth perchnogion busnes o Waith Teg. Mae'r adnoddau hyn bellach ar gael a byddant yn cael eu hyrwyddo trwy ymgyrch gyhoeddusrwydd yng Ngwanwyn 2025.
Aeth y Prif Weinidog i ddigwyddiad dros frecwast a gynhaliwyd gan Gymdeithas Adeiladu'r Principality cyn Pride Cymru 2024 i siarad am werth amrywiaeth mewn amgylcheddau corfforaethol.
Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol â rhwydwaith LHDTC+ Cymdeithas Adeiladu'r Principality i drafod arferion cynhwysol mewn gweithleoedd.
Rydym yn parhau i gefnogi 10 cam tuag at gynllun gweithredu gweithleoedd cynhwysol LHDTC+ Cyngres Undebau Llafur Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023.
Lansiodd Gweinidog yr Economi a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yCynllun Gweithredu Manwerthu ym mis Mai 2023. Mae'r Cynllun yn cynnwys camau gweithredu i hyrwyddo Gwaith Teg a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu.
Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog â Lloyds Banking Group a'u Rhwydwaith Enfys, gan siarad yn eu digwyddiad Rhwydwaith Enfys blynyddol yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2023. Trafodwyd pwysigrwydd arferion cynhwysol a rhwydweithiau staff LHDTC+.
Effaith COVID-19
Cam gweithredu 46: cynnal ymchwiliad trylwyr i’r ffordd y mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar bobl LHDTC+, yn enwedig pobl ifanc LHDTC+ a phobl anabl LHDTC+, yng Nghymru
Fe wnaethom gomisiynu ymchwil i weld pa gamau allai helpu i fynd i’r afael â’r effaith a gafodd pandemig COVID-19 ar gymunedau LHDTC+.