Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru - Cefndir
Ein cynllun i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ein gweledigaeth
Gwnaethom ddatblygu gweledigaeth, neu fframwaith lefel uwch, a all ein tywys tuag at yr hyn rydym am ei gyflawni drwy’r Cynllun Gweithredu hwn. Bydd yn ein helpu i sicrhau ein bod i gyd ar yr un trywydd, ac yn anelu at gyflawni’r un nod. Credwn ym mhwysigrwydd creu newid cynaliadwy, hirdymor, gan ddechrau heddiw. Rydym wedi sicrhau ymrwymiad amrywiaeth eang o bartneriaid yn y gwaith o greu’r Cynllun Gweithredu hwn, sy’n rhannu ein gweledigaeth:
Ar gyfer pawb sy’n LHDTC+, byddwn yn:
- cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol (Llywodraeth Cymru 2022a)
- gwneud Cymru yn lle mwy diogel
- gwneud Cymru yn Genedl Noddfa i fudwyr LHDTC+
- gwella canlyniadau gofal iechyd
- sicrhau bod addysg yng Nghymru yn gynhwysol
- gwella cynhwysiant a chyfranogiad ym mhob rhan o fywyd
- gwrando ar ein cymunedau LHDTC+ a gweithio gyda nhw
- amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl draws ac anneuaidd
Mae’r Cynllun hwn yn gosod meincnod o ran sut y byddwn yn cyflawni’r nodau heriol ac uchelgeisiol hyn a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ wedi eu cynnwys ac wedi eu dathlu.
"Deugain mlynedd yn ôl, roedd pobl hoyw yn dioddef anfri cas ac ymosodiadau rhagfarnllyd. Heddiw, mae pobl draws yn destun llif tebyg o ymosodiadau wedi eu hysgogi gan gasineb. Nid yw ymestyn hawliau i un grŵp yn golygu erydu hawliau o un arall. Nid ydym yn credu y bydd gwella hawliau i fenywod traws yn niweidio hawliau i fenywod a merched cisryweddol. Mae ein cymunedau traws yn brifo, mae ofn arnyn nhw, ac maen nhw’n dioddef niwed. Fel cymdeithas, gallwn ni ac mae’n rhaid i ni wneud yn well na hyn."
Hannah Blythyn MS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol (Senedd Cymru 2022a).
Sut y cyrhaeddwyd y sefyllfa sydd ohoni?
Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf o ran cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol i bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, drawsryweddol, gwiar, anneuaidd, ryngryw neu bobl ag Amrywiadau mewn Nodweddion Rhyw (gweler y Rhestr termau isod), arywiol, ac aramantaidd yng Nghymru a ledled y DU, hynny yw pob cymuned LHDTC+. Fodd bynnag, ni allwn laesu dwylo, gan fod hawliau LHDTC+ yn aml o dan fygythiad, ac mae perygl y bydd hawliau a enillwyd drwy fawr ymdrech yn cael eu gwanhau ledled y byd, gan gynnwys yma yn y DU.
Mae newidiadau i’r gyfraith wedi golygu bod ysgolion, sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus bellach yn gwneud mwy i hyrwyddo’r hawliau hyn a mynd i’r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl LHDTC+. Mae hawliau priodi a mabwysiadu cyfartal bellach yn realiti ac erbyn hyn rydym wedi cael gwared ar Adran 28 cyfraith a basiwyd yn 1988 a waharddodd awdurdodau lleol ac ysgolion rhag hyrwyddo addysgu derbynioldeb cyfunrhywiaeth fel perthynas deuluol honedig (Deddf Llywodraeth Leol 1988). Rydym wedi gweld newid enfawr mewn agweddau cyhoeddus cadarnhaol tuag at gymunedau LHDTC+ ac o blaid cynhwysiant LHDTC+, yn ogystal â chael gwell darlun o grwpiau LHDTC+ yng Nghymru. Mae’r penderfyniad i gynnwys cwestiynau gwirfoddol ynglŷn â chyfeiriadedd rhywiol am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 2021 yn enghraifft o hyn (Swyddfa Ystadegau Gwladol 2023; Llywodraeth Cymru 2023), lle yr ymatebodd 92.4% o’r boblogaeth 16 oed a hŷn i’r cwestiwn gwirfoddol ynglŷn â chyfeiriadedd rhywiol yng Nghymru, a dewisodd tua 77,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru gyfeiriadedd rhywiol LHD+ yn 2021.
Fodd bynnag, mae llawer yn parhau i wynebu cryn rwystrau i gymryd rhan lawn a chyfartal mewn cymdeithas yng Nghymru. Mewn arolwg a gomisiynwyd i helpu i ddatblygu’r Cynllun hwn yn ystod haf 2020 (Llywodraeth Cymru 2021c), gwelwyd, ymhlith y rhai a gymerodd ran yn yr arolwg, fod 78% o’r ymatebwyr wedi osgoi bod yn agored am eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu rhywedd rhag ofn y byddant yn cael ymateb negyddol gan eraill. At hynny, roedd 46% o bobl LHDTC+ yng Nghymru wedi cael profiad o aflonyddu geiriol yn y flwyddyn cyn yr arolwg. Mae canfyddiadau o’r fath yn dangos y profiadau gofidus y mae pobl LHDTC+ yn parhau i’w hwynebu yn y Gymru gyfoes ac yn dangos hefyd faint o gynnydd sydd i’w wneud er mwyn sicrhau cydraddoldeb, ac er mwyn i bobl deimlo’n hapus ac yn ddiogel drwy, yn syml, fod yn nhw eu hunain.
Hyd yn oed cyn pandemig COVID-19, gwyddem fod cymunedau LHDTC+ yn fwy tebygol o brofi nifer o anghydraddoldebau neu ganlyniadau gwaeth o’u cymharu â phoblogaethau heterorywiol a cisryweddol (Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru 2022; Llywodraeth Cymru 2021c; Llywodraeth Cymru 2021d: tudalen 3). Yn benodol, mae’r cymunedau hynny yn nodi’r profiadau canlynol:
- lefelau is o foddhad â bywyd
- mynediad gwaeth at wasanaethau gofal iechyd
- bwlio, gwahaniaethu a throseddau casineb yn yr ysgol, y gweithle neu yn eu cymunedau
- lefel uwch o gamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys alcohol a smygu
- iechyd meddwl gwaeth, gan gynnwys unigrwydd, iselder, a hunanladdiad
Mae’r anfanteision hyn yn cael eu dwysáu ymhellach pan fydd anghenion penodol pobl LHDTC+ a ffactorau sy’n eu gwneud yn agored i niwed yn croestorri â nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys oedran, hil, crefydd ac anabledd (Switchboard 2018).
Datgelodd pandemig COVID-19 yr anghydraddoldebau strwythurol roedd y cymunedau LHDTC+ wedi’u hymyleiddio fwyaf ac o dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru yn eu hwynebu ac, mewn rhai achosion mae wedi gwneud yr anghydraddoldebau hynny yn waeth (Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru 2022). O ran pobl LHDTC+, mae’r ymchwil yn nodi pryderon o hyd ym maes addysg, diogelwch personol a chymunedol, iechyd a gofal cymdeithasol, a’r gweithle (Llywodraeth Cymru 2021c). Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil, sef adolygiad o’r dystiolaeth sy’n bodoli eisoes, a chyhoeddodd adroddiad ym mis Ebrill 2022 ar effaith COVID-19 ar gymunedau LHDTC+, a daeth darlun tebyg i’r golwg (Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru 2022). Nododd yr adroddiadau hyn fod angen cydlynu strategol gwell ynglŷn â materion LHDTC+, gan gynnwys casglu data cadarn, a defnyddio data i wella polisïau. At hynny, mewn arsylwadau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft yn yr Adroddiad Drws ar Glo (Llywodraeth Cymru 2021e) ac yn ein hymateb i Adroddiad Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol Pobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd ethnig COVID-19 (Llywodraeth Cymru 2020a), datgelwyd yr anghydraddoldebau pellach roedd cymunedau ethnig lleiafrifol a phobl anabl yng Nghymru yn eu hwynebu.
Mae’r dystiolaeth sy’n dod i’r golwg hefyd yn awgrymu y gallai pobl LHDTC+ fod wedi wynebu rhwystrau a oedd yn eu hatal rhag cael gafael ar wasanaethau gofal iechyd neu feddyginiaeth o ganlyniad i’r pandemig, a hefyd mewn rhai achosion wedi wynebu mwy o risg o drais, camdriniaeth, digartrefedd, cyfraddau is o gyflogaeth, ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2020; Sefydliad LHDT 2020; Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2018a: tt139 140). Dengys ymchwil fod pobl LHDTC+ yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2018a: tt139 140). At hynny, mae Rhaglen Cymorth ar gyfer Cam-drin Domestig y Sefydliad LHDT wedi gweld y galw am gymorth yn cynyddu ers cyflwyno’r cyfyngiadau symud: cynnydd o 38% yn nifer y bobl a gyfeiriwyd at gymorth cam-drin domestig, a chynnydd o 38% yn y galwadau i’r llinell gymorth a gyfeiriodd at gam-drin domestig (Sefydliad LHDT 2020). Mae pobl ifanc LHDT yn fwy tebygol o fynd yn ddigartref na’u cyfoedion nad ydynt yn LHDT, gan gyfrif am hyd at 24% o’r boblogaeth o bobl ifanc ddigartref (Ymddiriedolaeth Albert Kennedy 2015) ac mae cyfraddau cyflogaeth dipyn yn is i bobl draws ac anneuaidd, ac yn is eto i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n drawsryweddol (GEO 2018a). Mae rhannau o’r boblogaeth LHDTC+ hefyd yn fwy tebygol o fod yn unig neu wedi’u hynysu’n gymdeithasol, yn enwedig pobl hŷn (Sefydliad LHDT 2020).
Nod y camau gweithredu yn y cynllun hwn yw mynd i’r afael â sawl un o’r materion a’r rhwystrau hyn, drwy gynnig camau gweithredu diriaethol a mesuradwy i’w cymryd i wella bywydau pobl LHDTC+ yng Nghymru. Ni ddylid byth â chymryd cynnydd yn ganiataol a bydd angen gwneud rhagor o waith er mwyn i Gymru arwain drwy esiampl a diogelu rhyddidau pobl LHDTC+ a enillwyd drwy fawr ymdrech.
Y cyd-destun rhyngwladol
Rydym wedi gweld mwy o agweddau gwrth-LHDTC+ a mwy o elyniaeth tuag at bobl LHDTC+ mewn llawer rhan o’r byd. Gan edrych ar ein cymdogion yn Ewrop, gan gynnwys yn y DU, rydym wedi gweld mwy o rethreg wrth-LHDTC+. Fodd bynnag, mae hyn yn mynd yn groes i gefnogaeth fawr ymhlith y cyhoedd o blaid mynd i’r afael ag allgáu pobl LHDTC+. Fel y nododd y Gymdeithas Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol, Draws a Rhyngryw Ryngwladol yn ei hadroddiad yn 2022, mae dwy ochr i bob stori sy’n dod i’r amlwg (ILGA-Europe 2022a):
O safbwynt rhyngwladol, yn sail i’r Cynllun Gweithredu hwn mae’r dull gweithredu yn seiliedig ar hawliau dynol a amlinellwyd gan Uchel Gomisiynydd y CU (UNSDG 2022) ac Arbenigwr Annibynnol y CU ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd (IESOGI) (OHCHR 2022b), ac mae’n cefnogi’r gwaith o wireddu hawliau a warantwyd i bobl LHDTC+, gan gynnwys y rhai yn y:
“On one hand, there was a severe rise in 2021 of anti-LGBTI rhetoric from politicians and other leaders, which has fuelled a wave of violence, with anti-LGBTI hate crime reported in every country this year; while on the other the response to this has been an allied determination in many countries, and at the European level, to tackle hatred and exclusion of LGBTI people”.
Rhaid inni gydnabod i’r DU, a nodwyd fel y genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDT ar un adeg, fod yn safle 14 yn y tabl Ewropeaidd mwyaf diweddar (ILGA-Europe 2022b). Rhaid inni gydnabod bod anfantais, anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn dal i fod yn realiti i lawer o bobl LHDTC+ sy’n byw yng Nghymru. Yn fwy cyffredinol, mae hawliau dynol pobl LHDTC+ yn dal i fod o dan fygythiad neu o dan fygythiad o’r newydd mewn llawer o wledydd.
O safbwynt rhyngwladol, yn sail i’r Cynllun Gweithredu hwn mae’r dull gweithredu yn seiliedig ar hawliau dynol a amlinellwyd gan Uchel Gomisiynydd y CU (UNSDG 2022) ac Arbenigwr Annibynnol y CU ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd (IESOGI) (OHCHR 2022b), ac mae’n cefnogi’r gwaith o wireddu hawliau a warantwyd i bobl LHDTC+, gan gynnwys y rhai yn y:
- Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol
- Y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol
- Y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)
- Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl hŷn
Yn hyn o beth, rydym hefyd yn croesawu penderfyniad Cyngor y CU ar Hawliau Dynol i adnewyddu mandad Arbenigwr Annibynnol y Cenhedloedd Unedig ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd ym mis Gorffennaf 2022 (OHCHR 2022c). Yn 2016, pan grëwyd mandad cyntaf erioed yr Arbenigwr Annibynnol yn y system hawliau dynol, anfonwyd neges glir i’r byd y dylai pob un sy’n LHDTC+, yn ddieithriad, fod yn gallu byw bywyd heb drais neu wahaniaethu. Nid oedd adnewyddu’r mandad yn beth awtomatig, ac rydym yn falch o nodi y bydd y gwaith pwysig hwn yn parhau, sy’n dangos cefnogaeth amlwg i fynd i’r afael â thrais a gwahaniaethu yn erbyn pobl â cyfeiriadeddau rhywiol a hunaniaethau amrywiol dros y byd i gyd.
Mae’r dull gweithredu hwn yn sicrhau y bydd y Cynllun hefyd yn cyfrannu’n fawr at waith Llywodraeth Cymru i gyflawni swyddogaethau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd yn gysylltiedig â gwaith ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau, anabledd, hil a nodweddion gwarchodedig eraill o dan y Ddeddf hon. Rydym yn cydnabod bod angen sicrhau bod ein Cynlluniau Gweithredu ym maes cydraddoldeb yn gweithio gyda’i gilydd.
Er mai hwn yw’r fframwaith polisi cyntaf i ganolbwyntio ar anghenion penodol pobl LHDTC+ a’r ffactorau sy’n eu gwneud yn agored i niwed, mae’n rhan o ymagwedd ehangach tuag at gydraddoldeb prif ffrwd a chryfhau’r ffordd y diogelir hawliau dynol i bawb. Fel y cyfryw, dylid ei ddarllen ochr yn ochr â’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd a’r Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau (Llywodraeth Cymru 2020b; Llywodraeth Cymru 2022b; Llywodraeth Cymru 2019a; a Llywodraeth Cymru 2020e).
Creu Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o gymunedau LHDTC+ a’r sefydliadau sy’n cefnogi’r cymunedau hyn er mwyn helpu i ddatblygu’r Cynllun Gweithredu hwn. Yn ystod haf 2020, gwnaethom gomisiynu arolwg i gofnodi profiadau bywyd pobl LHDTC+ yng Nghymru, ochr yn ochr â chynnal cyfres o grwpiau ffocws. Ymhlith y pynciau pwysig a godwyd yn yr arolwg, y cafwyd dros 600 o ymatebion iddo, roedd (1) mynd i’r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl LHDTC+, (2) gwella diogelwch, a (3) mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig iechyd traws.
Edrychodd y grwpiau ffocws ac anghenion pobl ifanc LHDTC+; pobl hŷn; pobl anabl; a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a gwnaethom weithio hefyd gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys TUC Cymru, y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, Pride Cymru a Llinell Gymorth LHDT Cymru.
Ym mis Tachwedd 2020, dygwyd Grŵp Cyfeirio Allanol ar gyfer LHDTC+ ynghyd i roi cyngor ac arweiniad ac ym mis Ionawr 2021, sefydlwyd y Panel Arbenigwyr Annibynnol LHDTC+ i roi cyngor manwl ar gydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru. Rydym yn ddyledus i’r amrywiaeth eang o randdeiliaid o’r holl gymunedau sydd wedi gweithio gyda ni i gyrraedd y cam hwn, yn enwedig y Panel Arbenigwyr Annibynnol LHDTC+. Mae’r Panel Arbenigwyr hwn yn cynnwys pobl sydd â chryn brofiad cymunedol, proffesiynol ac academaidd, yn ogystal â phrofiad bywyd personol. Ategwyd gwaith y Panel gan weithgorau ar wahân a ystyriodd lawer o faterion yn fanylach. Paratodd y Panel Arbenigwyr adroddiad (Llywodraeth Cymru 2021c) yn cynnwys argymhellion ynglŷn ag ymgorffori hawliau dynol mewn cyfraith ddomestig, cydlynu cynlluniau’n strategol a’u hintegreiddio, a hyfforddiant, codi ymwybyddiaeth a meithrin gallu.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer amrywiaeth eang o feysydd polisi, gan gynnwys:
- cydnabod pobl draws ac anneuaidd
- diogelwch
- y cartref a chymunedau
- iechyd a gofal cymdeithasol
- addysg a dysgu gydol oes
- y gweithle
- cefnogi’r ymateb i COVID-19
Bu’r argymhellion hyn yn sail i’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ drafft y cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad arno rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2021 (Llywodraeth Cymru 2021c).
Ymatebion i’r ymgynghoriad
Cafwyd mwy na 1,300 o ymatebion gan unigolion a sefydliadau, a oedd yn cynnig eu barn ar y Cynllun arfaethedig. Cynhaliwyd dadansoddiad llawn o’r ymatebion gan gwmni ymchwil allanol sydd wedi cael ei ddefnyddio i helpu i baratoi’r cynllun gweithredu terfynol. Rydym yn ddiolchgar i’r holl unigolion a sefydliadau a roddodd o’u hamser i ymateb i’r ymgynghoriad. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y cyd â’r Cynllun Gweithredu hwn.
Nodwyd dwy ymgyrch arwyddocaol yn yr ymatebion. Roedd un yn canolbwyntio ar wahardd arferion trosi, a elwir weithiau yn “therapi trosi”, ac yn dadlau o blaid diffiniad mwy penodol yn y Cynllun Gweithredu. Roedd yr ymatebwyr hyn yn teimlo y byddai diffiniad cliriach yn werthfawr o ran sicrhau bod y gyfraith yn cael ei chymhwyso mewn ffordd gytbwys. Roedd ymgyrch arall yn canolbwyntio ar bryderon a’r gred y dylid ymdrin â materion ynglŷn â rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, a rhywedd o dan gynllun gweithredu ar wahân.
Yn hyn o beth, mae’n bwysig nodi bod safbwynt Llywodraeth Cymru ynglyˆn â phobl draws yn glir (Llywodraeth Cymru 2020c); Senedd Cymru 2022b):
"Cred Llywodraeth Cymru fod menywod trawsrywiol yn fenywod a bod dynion trawsrywiol yn ddynion a bod hunaniaethau anneuaidd yn ddilys."
Drwy Asesiadau Effaith (gweler isod), ymgysylltu â’r Panel Arbenigwyr LHDTC+, a’r ymatebion i’r ymgynghoriad, rydym yn parhau i werthuso effeithiau posibl ein Cynllun Gweithredu LHDTC+. Rydym wedi datblygu Asesiad Effaith Integredig ac wedi gwerthuso effeithiau posibl y Cynllun Gweithredu LHDTC+ ar hawliau menywod ac, wrth ystyried y ddarpariaeth a nodwyd yn Atodlen 3 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym o’r farn na fydd cymorth i bobl LHDTC+ na chyhoeddi’r Cynllun hwn yn arwain at wanhau hawliau menywod, gan gynnwys menywod cisryweddol a menywod trawsryweddol.
Gwella camau gweithredu, eu rhoi ar waith, a’u monitro
Mewn ymateb i’n hymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu drafft, codwyd yr angen am eglurder ynglŷn â rhai camau gweithredu a’r ffordd y byddent yn cael eu rhoi ar waith. Dywedwyd bod rhai o’r camau gweithredu yn rhy eang a bod angen cynigion manylach, gan gynnwys pwy oedd yn gyfrifol am bob cam gweithredu (e.e. “perchnogion camau gweithredu”), pryd y câi pob cam gweithredu ei gymryd, a beth fyddai’r canlyniad i bobl LHDTC+ yng Nghymru. Soniwyd hefyd fod camau gweithredu ynglŷn ag ymchwil a chasglu data wedi cael eu hawgrymu sawl gwaith drwy’r Cynllun Gweithredu drafft cyfan, ond heb unrhyw ddiben na nodau clir. Yn olaf, codwyd pwynt dro ar ôl tro ynglŷn â therminoleg aneglur a’r angen am restr termau.
Er mwyn rhoi eglurdeb ynglŷn â’r agweddau hynny, rydym wedi gwahanu ein gweledigaeth ar gyfer y Cynllun Gweithredu LHDTC+ oddi wrth y canlyniadau ehangach yr hoffem eu cyflawni gyda’r camau gweithredu wedi’u diweddaru. Mae’r tabl o gamau gweithredu (gweler isod, “Cynllun Gweithredu LHDTC+: Camau Gweithredu a Dangosyddion Perfformiad Allweddol”) wedi cael ei ddiweddaru i nodi rhai gweithgareddau mesuradwy, gan gynnwys allbynnau; pwy sy’n gyfrifol am bob cam gweithredu; sut y caiff pob cam gweithredu ei gymryd; a sut y byddwn yn mesur llwyddiant. Mae’r camau gweithredu ynglŷn ag ymchwil a chasglu data wedi’u gwneud yn fwy eglur yng nghyd-destun cyflawni nod penodol, boed hynny o ran gwella gwasanaethau neu lunio strategaethau a chynlluniau mewn maes penodol. Rydym yn anelu at roi diweddariad cynnydd bob blwyddyn i ddangos beth a gyflawnwyd a beth yn rhagor y mae angen ei wneud ac, yn y pen draw, rydym yn gobeithio mesur effaith y Cynllun Gweithredu ar gymunedau LHDTC+ yn y dyfodol. Ychwanegwyd rhestr termau sydd wedi cael ei rhannu â chynrychiolwyr cymunedau LHDTC+ er mwyn cadarnhau cywirdeb y termau a bod yr holl dermau angenrheidiol wedi cael eu cynnwys, at y cynllun hwn (gweler isod “Rhestr termau”).
Bydd mesur effaith y Cynllun Gweithredu hwn ar gymunedau LHDTC+ yn hanfodol o ran gwerthuso ei lwyddiant a’i effeithiolrwydd. Bydd gwaith yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i ddechrau er mwyn amlinellu sut y gall y Cynllun Gweithredu hwn gael ei werthuso. Mae hyn yn cynnwys datblygu damcaniaeth newid i gyfrif am y ffordd y bydd gweithgareddau yn arwain at y canlyniadau a’r effeithiau a ddymunir, a’r tybiaethau y bydd y llwyddiant hwn yn seiliedig arnynt. Byddwn hefyd yn nodi pa wybodaeth y gellir ei defnyddio i ddangos effaith y Cynllun Gweithredu, a ph’un a yw’r data hyn eisoes yn cael eu casglu gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill neu a fydd angen casglu data eraill. Bydd y gwaith o lunio’r gwerthusiad o’r Cynllun Gweithredu a’i roi ar waith yn cael ei wneud mewn cydweithrediad agos ag Is-adran Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant Llywodraeth Cymru.
Bydd effaith y Cynllun Gweithredu hwn, a Chynlluniau Gweithredu eraill Llywodraeth Cymru, yn dibynnu ar y ffordd rydym yn eu rhoi ar waith. Bydd dull gweithredu croestoriadol yn hollbwysig. Drwy ein gwaith gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, byddwn yn ystyried ac yn defnyddio arbenigedd ar amrywiaeth o nodweddion gwarchodedig, er mwyn sicrhau bod effeithiau cyfun yn cael eu hystyried, wrth i’r Cynllun gael ei roi ar waith. Bydd ein grŵp o randdeiliaid mewnol, sy’n cynnwys Dirprwy Gyfarwyddwyr a Phenaethiaid Polisi yn bennaf, yn ganolbwynt i lywodraethu gwaith sy’n ymwneud â LHDTC+ yn Llywodraeth Cymru, ac yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gydgysylltu i lunio a chyflwyno’r cynllun. Bydd fframweithiau llywodraethu ar gyfer yr holl gynlluniau cydraddoldeb eraill hefyd yn cael eu haddasu at yr un diben, a bydd dulliau adrodd, gan gynnwys adroddiadau ar risg, yn cael eu nodi, a’u rhoi ar waith.
Mae gweithgareddau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar fwy na thair miliwn o bobl bob dydd. Asesiad Effaith yw ffordd strwythuredig o ystyried y ffactorau sy’n golygu bod ein polisïau yn effeithio ar fywydau pobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol. Mae asesiadau effaith yn ein harwain tuag at well prosesau llunio polisïau a’u rhoi ar waith ac yn cefnogi ein hymdrechion i gydweithio ar draws portffolios i wireddu gweledigaeth y Gweinidogion i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yng Nghymru. Maent yn ymwneud â nodi canlyniadau posibl cam gweithredu cyfredol neu arfaethedig, ac yn chwarae rhan bwysig mewn arfarniadau o opsiynau a phrosesau gwneud penderfyniadau. Dyna pam mae ein Hasesiadau Effaith yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ hwn, gan gynnwys yr asesiad effaith drwy ein Hasesiad Effaith Integredig.
Data ac ymchwil
Mae casglu a dadansoddi data, gan gynnwys naratifau personol gan y rhai sy’n arbenigwyr drwy brofiad, yn allweddol i ddeall graddau’r anghydraddoldebau a wynebir gan bobl LHDTC+ yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol bod yn rhaid inni wneud rhagor i wella prosesau casglu ac adrodd data ar gydraddoldeb yng Nghymru. Felly, rydym wedi sefydlu Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru a fydd yn rhoi cymorth dadansoddol trawsbynciol er mwyn gwella’r broses o goladu tystiolaeth ynglŷn â chydraddoldebau, ei hargaeledd a’r defnydd a wneir ohoni, a all yn ei dro helpu i ysgogi newid ar lawr gwlad i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru. Er enghraifft, o ran y Camau Gweithredu hynny yn y Cynllun hwn lle mae Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith o gasglu a defnyddio data, caiff arferion gorau sy’n ymwneud â chydymffurfio â GDPR eu defnyddio.
Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn casglu tystiolaeth y gellir gweithredu arni ynglŷn â’i gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth, a ph’un a ydynt yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ai peidio. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth fel rhan o unrhyw ymarfer casglu data yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni swyddogaethau a rôl graidd Llywodraeth Cymru. Weithiau byddwn yn casglu data categori arbennig a’r sail gyfreithlon dros brosesu’r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil. Caiff yr holl ddata personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru eu cadw ar weinyddion diogel, a chaiff manylion cyswllt ac unrhyw ddata personol a gasglwn eu storio mewn ffolderi cyfyngedig. Efallai y bydd gofynion prosiectau ymchwil yn wahanol o ystyried am faint o amser y cedwir data personol ac felly caiff cyfranogwyr pob prosiect ymchwil eu hysbysu ar wahân am y terfyn amser perthnasol ar gyfer dinistrio data.
Caiff yr holl ddata a gesglir gan Lywodraeth Cymru eu nodi mewn adroddiadau mewn fformat wedi’i anonymeiddio. Ni fydd adroddiadau Llywodraeth Cymru yn cynnwys manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth mewn atebion penagored a allai arwain at adnabod person yn cael ei dileu. Bydd hyn yn digwydd bob tro oni chytunir fel arall â’r unigolyn/unigolion dan sylw. O dan GDPR y DU, mae gan ddarparwyr gwybodaeth bersonol i Lywodraeth Cymru yr hawliau canlynol:
- i weld copi o’u data eich hun
- ei gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
- i’w data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: ico.org.uk. Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru.
Cynllun i holl bobl LHDTC+
Nododd ymatebion i’r ymgynghoriad ddiffyg cydnabyddiaeth am rai grwpiau neu gymunedau LHDTC+ penodol, fel pobl ddeurywiol, ryngryw, ac arywiol ac aramantaidd (Ace/Aro) yn y Cynllun Gweithredu, yn ogystal â diffyg ffocws ar brofiadau pobl anneuaidd. Mae rhai o’r camau gweithredu bellach yn nodi’n glir eu bod yn ymwneud â phob grŵp o dan yr ambarél LHDTC+ ehangach, sy’n cynnwys y cymunedau hynny; tra bod eraill yn ymwneud yn benodol ag anghenion grwpiau nad ydynt yn cael gwasanaeth digonol, megis pobl ddeurywiol, anneuaidd a rhyngryw.
Mae grwpiau rhanddeiliaid wedi argymell y dylem ddefnyddio’r acronym LHDTC+ mewn perthynas â’r gwaith hwn. Mae’r Panel Arbenigwyr a Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gwahanol safbwyntiau a defnyddiau ymhlith ein cymunedau, ac y bydd arferion yn debygol o newid eto yn y dyfodol. Am ragor o fanylion, gweler ein Rhestr termau isod.
Caiff y Cynllun Gweithredu hwn ei gyhoeddi ar y ffurf fwyaf hygyrch posibl er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd pawb sy’n LHDTC+, gan gynnwys pobl ifanc a phobl anabl. Pan fydd y cynllun yn cyfeirio at bobl LHDTC+, mae’n cynnwys pobl o bob oedran.
Mae’r Gymraeg yn un o drysorau Cymru. Mae’n rhan o’r hyn sy’n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl. Ein huchelgais fel Llywodraeth Cymru yw gweld nifer y bobl sy’n gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050. Ar ddechrau’r chweched Senedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru raglen waith pum mlynedd i gyflawni “Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg” yn ystod 2021 i 2026 (Llywodraeth Cymru 2022c). Er nad yw’n nodwedd warchodedig, mae gan bobl LHDTC+ sy’n siarad Cymraeg anghenion penodol yn gysylltiedig â’r Gymraeg a hunaniaethau croestoriadol. Felly, dylid darllen y Cynllun Gweithredu LHDTC+ hwn ar y cyd â Strategaeth y Gymraeg a chynlluniau cysylltiedig, gan ystyried rôl y Gymraeg yn y gweithgareddau a amlinellir isod. Mae’r Gymraeg, a’r cyfrifoldeb am weithredu i’w diogelu, yn perthyn i ni gyd. Mae gan bawb rôl i’w chwarae, ni waeth ble maent yn byw na faint o Gymraeg y gallant ei siarad. Rydym yn gobeithio gweld mwy o sefydliadau ac arweinwyr cyhoeddus yn ymgymryd â chyfrifoldeb dros yr iaith.
Byddwn yn cydnabod ‘Croestoriadedd’
Mae cydnabod anghenion croestoriadol sawl nodwedd unigolyn neu grŵp megis cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, anabledd, a chrefydd, yn aml yn cael ei ddiffinio fel “croestoriadedd” (gweler isod, “Rhestr termau”). Yn yr ymatebion, mynegwyd awydd amlwg i weld mwy o gydnabyddiaeth o bobl LHDTC+ fel unigolion a all fod ganddynt lawer o agweddau a haenau eraill ar eu hunaniaeth a’u bywydau Gall rhai o’r nodweddion eraill hyn fod yn gysylltiedig â rhwystrau ychwanegol neu anghydraddoldeb hefyd. Fel llywodraeth, credwn na ddylem fynd i’r afael ag anghydraddoldebau LHDTC+ ar eu pen eu hunain, sydd wedi bod yn gymhelliant i’r Cynllun Gweithredu i fynd i’r afael â lleiafrifoedd, grwpiau nad ydynt yn cael gwasanaeth digonol neu grwpiau dan anfantais.
Bwriedir i’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ gael ei ddefnyddio ochr yn ochr â chynlluniau a mentrau eraill, megis Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd, a’r Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â phob math o wahaniaethu ac yn ei leihau i bawb, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau personol. Er enghraifft, mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu polisi anabledd dysgu o 2022 i 2026 a’i roi ar waith, a chanllawiau i helpu i ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Hefyd, mae ein Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2022 i 2026 yn anelu at gymryd camau i fynd i’r afael â thrais, anghydraddoldeb rhywiol a chasineb at fenywod mae trais ar sail rhywedd, casineb at fenywod a rhywiaeth yn broblemau a wynebir gan lawer o bobl LHDTC+ o hyd. Felly, wrth weithio, mae’n rhaid inni ystyried agweddau eraill ar wahaniaethu a sut maent yn croestorri â rhywedd, oedran, hil a LHDTC+. Dylai’r strategaethau a’r cynlluniau a grybwyllir uchod hefyd gael eu defnyddio ar y cyd â’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ hwn.
"Attaining cultural humility with the full appreciation of the intersectionality of humanity is an ultimate educational goal."
Grwpiau rhanddeiliaid: dim byd amdanon ni hebon ni
Wrth ailysgrifennu’r cynllun hwn ein nod oedd dweud beth y byddwn yn ei wneud, yn gliriach, yn enwedig o ran y gwaith gyda chymunedau a grwpiau ledled Cymru. Mae rôl weithredol rhanddeiliaid a chynrychiolwyr cymunedol wedi bod yn elfen allweddol yn ystod y broses o ddatblygu’r cynllun hwn. Bydd ymgysylltu hollbwysig o’r fath yn parhau wrth inni symud ymlaen i gymryd y camau gweithredu. Byddwn yn parhau i wrando ar anghenion grwpiau, sefydliadau a chymunedau o dan yr ambarél LHDTC+ gyffredinol a’u deall.
Caiff y Panel Arbenigwyr LHDTC+, a roddodd gymorth amhrisiadwy inni wrth lunio’r cynllun hwn, ei adnewyddu a’i ffurfioli’n grŵp cynghori parhaus a fydd yn parhau i roi cyngor a dirnadaeth er mwyn helpu i roi’r cynllun ar waith, gan ganolbwyntio ar anghenion cymunedau LHDTC+ yng Nghymru.
Byddwn hefyd yn parhau i wella a chynyddu lefel ein hymgysylltu â sefydliadau llawr gwlad sy’n cefnogi pobl LHDTC+ yng Nghymru, yn ogystal â grwpiau ledled Cymru sydd â diddordeb uniongyrchol yn y maes polisi hwn. Byddwn yn rhoi sylw penodol i faterion sy’n ymwneud â gwahardd arferion trosi a sefydlu gweithgor o bobl sydd â phrofiad proffesiynol a phrofiad bywyd yn y maes hwn.