Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Mehefin 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 166 KB
Ymatebion 1-20 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymatebion 21-40 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 566 KB
Ymatebion 41-60 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymatebion 61-83 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Nod y cynllun hwn yw lleihau a cheisio gwrthdroi'r dirywiad mewn poblogaethau pryfed peillio gwyllt a chadw.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae pryfed peillio’n elfen hanfodol o’n hamgylchedd. Gwenyn mêl yw’r prif bryfed peillio cadw ar gyfer cnydau ac maent hefyd yn darparu cnwd (mêl) eu hunain.
Mae pryfed peillio gwyllt gan gynnwys cacwn a gloÿnnod byw hefyd yn bryfed peillio pwysig ar gyfer cnydau fel olew had rêp a ffrwythau ar gyfer meillion sy’n helpu i wella tir pori ar gyfer da byw a blodau gwyllt. Maent yn cyfrannu at amrywiaeth rhywogaethau planhigion cynefinoedd a bywyd gwyllt. Mae hyn yn darparu bwyd yn gwneud Cymru’n lle gwell i bobl fwynhau ac ymweld â hi ac yn cyfrannu at ein heconomi.
Pam fod peillio yn bwysig?
Mae peillio’n wasanaeth pwysig iawn. Mae ugain y cant o’r tir lle tyfir cnydau yn y DU yn cynnwys cnydau sy’n dibynnu ar bryfed peillio. Mae llawer o blanhigion blodeuol gwyllt hefyd yn dibynnu ar bryfed peillio i atgenhedlu. Amcangyfrifir bod pryfed peillio yn werth o leiaf £430 miliwn y flwyddyn i amaethyddiaeth yn y DU.
Beth yw’r broblem?
Dangosodd yr Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2011 fod pryfed peillio cadw (gwenyn mêl) a phryfed peillio gwyllt (fel cacwn a gloÿnnod byw) wedi bod yn dirywio dros 30 mlynedd. Mae’n debygol y bydd hyn yn parhau os na wnawn ni weithredu yn awr.
Ein hargymhellion
Bydd y Cynllun Gweithredu hwn ar gyfer Pryfed Peillio yn cael ei ddatblygu gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd yn ein helpu i weld sut y gallem arafu a gwrthdroi’r dirywiad hwn mewn niferoedd.