Neidio i'r prif gynnwy

Oherwydd effaith COVID-19, rydym wedi nodi bod angen rhagor o waith.

Cyflwyniad

Mae pandemig COVID-19 a’r ymateb iddo wedi cael effaith ar iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. Aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas, yn cynnwys y bobl hynny sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, yw’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio waethaf.

Mae’r Grŵp Goruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia (DOIIG), sy’n darparu gwybodaeth ac yn monitro cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia, wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd gydol pandemig COVID-19. Mae aelodaeth y DOIIG, sy’n cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys cynrychiolaeth o fyrddau iechyd, pobl â phrofiad byw o ddementia, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Alzheimer, swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn, y byd academaidd, Pwyllgor Cynghori Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Dros y misoedd diwethaf mae’r DOIIG wedi bod yn ystyried nifer o flaenoriaethau allweddol a fydd hefyd yn cefnogi gweledigaeth y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. Ni fydd y gwaith hwn yn disodli beth sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Gweithredu ond bydd yn ei gryfhau pan fyddwn wedi nodi bod angen rhagor o waith a bod angen bod yn glir am sut y byddwn ni’n adrodd yn erbyn camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn flaenorol.

Ar ddechrau 2021 cyflwynwyd papur i’r DOIIG ei ystyried a oedd yn awgrymu nifer o flaenoriaethau gyfredol. Roedd y blaenoriaethau’n seiliedig ar:

  • Fforwm partneriaeth COVID-19 Gofal Dementia, dan arweiniad Gwelliant Cymru, a fu’n cyfarfod drwy donnau cyntaf y pandemig, gan gynnig cyfle rheolaidd i nodi heriau a datblygu datrysiadau.
  • Y themâu a drafodwyd yn y DOIIG ers ei ailsefydlu ym mis Gorffennaf 2020.
  • Gwaith ymchwil perthnasol yn cynnwys, lle bo’n bosibl, ymchwil sy’n ymwneud â phobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.

O ystyried effaith y pandemig a’r cyfygiadau a gyflwynwyd i gefnogi’r ymateb, argymhellwyd y dylid canolbwyntio mwy ar y meysydd canlynol: 

  • yr unigolyn a’i ofalwyr yn ei gartref (ei gartref ei hun, lleoliadau cartref gofal)
  • yr unigolyn a’i ofalwyr sy’n byw mewn cymuned
  • yr unigolyn a’r gwasanaethau sydd eu hangen arno i gefnogi iechyd megis gofal ysbyty

Cadarnhawyd hefyd y bydd y blaenoriaethau hyn yn sail i werthusiad annibynnol o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia sy’n mynd rhagddo ac yn cefnogi gweithrediad Llwybr Safonau Dementia Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n hyrwyddo dull gofal integredig systemau cyfan.

O ganlyniad i ymgynghoriad â’r DOIIG ac ar draws Llywodraeth Cymru cytunwyd i ganolbwyntio ar y meysydd canlynol dros oes y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.

1. Dysgu parhaus, mynediad cyfartal ac ymatebion sy’n seiliedig ar ddatblygiad a thystiolaeth

1.1 Llwybr Safonau Dementia Cymru – Gweithredu Llwybr Safonau Dementia Cymru sy’n hyrwyddo dull gofal integredig systemau cyfan – mynediad cyfartal, gan gefnogi’r cynllun gweithredu ar gyfer dementia

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer dementia.

Asesiad a diagnosis

  • Cwmpasu mynediad at wasanaethau asesu’r cof a darpariaeth ohonynt ar gyfer rhai ag anableddau dysgu. 
  • Adolygu gallu a rôl gweithwyr cymorth dementia er mwyn sicrhau bod gan bob unigolyn â dementia sy’n byw yn y gymuned weithiwr cymorth dynodedig sy’n gweithio i’r safonau galwedigaethol y cytunwyd arnynt. 

Byw cystal â phosibl, cyhyd â phosibl, gyda dementia

  • Datblygu timau amlddisgyblaethol ‘o amgylch yr unigolyn’, sy’n darparu gofal, cymorth a thriniaeth gydlynol fel bo’r angen. 

Atodiad 1 (o fewn y cynllun gweithredu ar gyfer dementia)

Fel y cyfeiriwyd ato yn y cynllun, mae’n rhaid i ymateb ein gwasanaethau a’n cymunedau fod yn deg – waeth a ydych chi’n byw mewn ardal wledig, anghysbell neu mewn tref, a rhaid iddynt ddiwallu anghenion amrywiol – er enghraifft, pobl â nodweddion gwarchodedig a all fod yn byw gyda dementia a phobl sydd ond yn gallu deall eraill trwy gyfrwng eu mamiaith wrth i’w cyflwr waethygu. Bydd egwyddorion mynediad teg a chyfartal wrth wraidd pob cam gweithredu yn y cynllun.

Sut y byddwn ni’n adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
  • Rhoi mwy o gefnogaeth i gam cynllunio ansawdd fframwaith cyflawni Safonau Dementia Cymru a darparu matrics parodrwydd ar gynnydd yn erbyn y safonau dementia penodol yn unol â’r fframwaith cyflawni i’r rhanbarthau. DS bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod safonau eraill a gyhoeddwyd (er enghraifft, safonau Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng ngharchardai Cymru, a fydd yn cynnwys safonau penodol ar gyfer dementia) yn cefnogi gwaith y safonau. Bydd adroddiadau chwarterol ar y cynnydd hwn yn cael eu cyflwyno fel rhan o gynllun gwaith Gwelliant Cymru. 
  • Rhoi diweddariad i’r DOIIG ar argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Golli Clyw, er mwyn i’r grŵp ystyried y camau nesaf.
  • Defnyddio is-grŵp y Gymraeg a dementia i fwrw ymlaen ag argymhellion Cymdeithas Alzheimer Cymru ac adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ar y Gymraeg a dementia.
  • Diweddaru’r Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth sy’n ofynnol gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, sy’n ofynnol iddynt ystyried anghenion pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
  • Trwy ein rhaglen a gaffaelwyd, ‘Cymunedau Digidol Cymru: hyder digidol, iechyd a llesiant’, darparu’r sgiliau digidol sylfaenol, yr wybodaeth a’r hyder i weithluoedd ar draws pob sector fel y gallant gyflenwi a chefnogi pobl i ymgysylltu â gwasanaethau digidol.
  • Trwy ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol  byddwn yn ystyried ffyrdd o wella mynediad cynnar at wasanaethau iechyd meddwl a dementia i boblogaethau o leiafrifoedd ethnig. Bydd y gwaith hwn yn seiliedig ar yr ymgynghoriad ffurfiol o’r cynllun ei hun.
  • Darparu diweddariadau ar y gwaith adsefydlu ac adfer i gefnogi’r gwaith o gynllunio gwasanaethau ar gyfer y galw a ragwelir am adsefydlu ac adfer ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19. 

1.2 Dysgu a Datblygu – Bydd hyn yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer ymarferwyr iechyd a gofal a gofalwyr di-dâl

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia:

Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

  • Sicrhau bod holl staff y GIG sy’n dod i gysylltiad ag aelodau’r cyhoedd (gan gynnwys porthorion, staff derbynfa a staff meddygol/cymorth) yn derbyn lefel briodol o hyfforddiant gofal dementia (fel y nodwyd yn ‘Gwaith Da: Fframwaith Dysgu a Datblygu Dementia i Gymru). 

Canfod ac adnabod

  • Sicrhau bod cynlluniau’r gweithlu yn cyd-fynd ag egwyddorion ‘Gwaith Da’ er mwyn helpu staff rheng flaen i adnabod arwyddion cynnar dementia. 
  • Sicrhau hyfforddiant i staff sy’n gweithio gyda phobl â risg uwch o ddatblygu dementia (fel y rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau anableddau dysgu, camddefnyddio sylweddau, y gwasanaethau ambiwlans a charchardai). 

Helpu i weithredu’r cynllun

  • Sicrhau bod pobl â dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd yn rhan o’r broses o ddatblygu addysg a hyfforddiant dementia.
  • Gwella mynediad at hyfforddiant ar gyfer gofalwyr a theuluoedd trwy roi fframwaith ‘Gwaith Da’ ar waith. 
  • Sicrhau bod egwyddorion ‘Gwaith Da’ yn rhan o gymwysterau galwedigaethol newydd gofal cymdeithasol ac iechyd. 
  • Datblygu adnoddau dysgu ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys y trydydd sector, yn seiliedig ar ‘Gwaith Da’.
  • Sicrhau bod holl aelodau’r staff a gyflogir gan y GIG sy’n dod i gysylltiad â’r cyhoedd yn derbyn lefel briodol o hyfforddiant ar ofal dementia (fel y nodwyd yn ‘Gwaith Da’). 
  • Sicrhau bod hyfforddiant i staff iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o rôl gofalwyr a sut i’w cynnwys yn briodol yn y broses ofal. 

Sut y byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
  • Darparu crynodeb o ymatebion byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yn erbyn Fframwaith Cyflawni’r GIG. Bellach, mae’n ofynnol i fyrddau iechyd ymateb i gynnydd gweithredu ‘Gwaith Da: Fframwaith Dysgu a Datblygu Dementia i Gymru’ fel rhan o Fframwaith Cyflawni’r GIG. Bydd hyn yn cefnogi’r camau gweithredu cyfredol ar gyfer sicrhau hyfforddiant gofal dementia priodol i staff y GIG sy’n dod i gysylltiad â’r cyhoedd a sicrhau bod cynlluniau’r gweithlu yn cyd-fynd ag egwyddorion ‘Gwaith Da’ fel y gall staff rheng flaen allweddol adnabod arwyddion cynnar o ddementia.
  • Darparu cynllun gwaith arfaethedig dan arweiniad yr Is-grŵp Dysgu a Datblygu i’w gymeradwyo gan y DOIIG, a fydd hefyd yn cefnogi’r gwaith o weithredu’r Safonau Gofal Dementia. Yna byddwn yn adrodd ar hyn bob chwarter.
  • Cefnogi datblygiad a gweithrediad fframwaith hyfforddiant ar gyfer y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid newydd, yn cynnwys codi ymwybyddiaeth a chynyddu sgiliau a chymwyseddau teuluoedd pobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr iechyd. 

1.3 Ymchwil – Bydd hyn yn cynnwys ymchwil sy’n deall effaith pandemig COVID-19, yn cynnwys adolygiad, tystiolaeth ymchwil a nodi bylchau

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.

Helpu i weithredu’r cynllun

  • Ariannu gwerthusiad annibynnol o ‘dimau o amgylch yr unigolyn’ er mwyn llywio’r datblygiad hwn ymhellach.
  • Gweithio gyda’r GIG a thimau ymchwil a gofal cymdeithasol er mwyn cefnogi a hyrwyddo mwy o astudiaethau ymchwil cysylltiedig â dementia yng Nghymru. Cefnogi rôl ymchwil o ran darparu gofal o ansawdd mewn ffordd hyblyg ac ymatebol.
  • Creu rhagor o gyfleoedd i bobl ledled Cymru sydd â dementia, ac wedi’u heffeithio gan ddementia, i gymryd rhan ac ymgysylltu â gwaith ymchwil.
  • Annog ymchwil sy’n defnyddio dulliau iechyd y cyhoedd o ystyried sut i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl â dementia.

Sut y byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
  • Parhau â’r gwerthusiad annibynnol gydol gweddill cyfnod y cynllun. 
  • Ymgysylltu ag aelodau’r DOIIG ynghylch gwaith ymchwil parhaus mewn perthynas â COVID-19 i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu. Bydd papur ar wahân yn amlinellu gwaith ymchwil cyfredol yn cael ei ddarparu i aelodau’r DOIIG i gefnogi eu rôl yn sicrhau bod themâu’r gwaith ymchwil hwn yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau gwaith cyfredol.

2.    Iechyd gwybyddol ac atal / lleihau risg

2.1 Iechyd yr ymennydd a lleihau risg o ddementia - Gwella ymwybyddiaeth o newidiadau ffordd o fyw a all helpu i leihau’r risg o ddatblygu rhai mathau o ddementia

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.

Lleihau risg

  • Sicrhau bod negeseuon lleihau risg yn rhan o bolisïau a rhaglenni iechyd y cyhoedd perthnasol.
  • Hyrwyddo camau gweithredu ar draws y chwe cham er mwyn helpu pobl i newid eu hymddygiad a lleihau’r risg o ddementia.
  • Sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia yn derbyn cyngor am y newidiadau y gallent eu gwneud gyda chymorth i wella eu hiechyd a’u llesiant cyffredinol. 

Sut y byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
  • Darparu crynodeb o ganlyniadau a adroddwyd drwy’r Gronfa Iach ac Egnïol lle maent yn berthnasol i’r rhai sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
  • Hyrwyddo camau gweithredu i gefnogi pobl i newid ymddygiadau a lleihau eu risg o ddementia ar draws 12 ffactor risg y gellir eu haddasu. 
  • Gwelliant Cymru i arwain gwaith gyda’r rhanbarthau ynghylch iechyd yr ymennydd a phroblemau cof cynnar er mwyn hyrwyddo’r agenda problemau cof a thynnu sylw at yr angen am ganfod yn gynnar, sy’n ffurfio rhan o’r asesiad, y cymorth a’r cyngor a roddir i bobl.

2.2 Diagnosis prydlon – Bydd hyn yn cynnwys ffocws ar gam parodrwydd y llwybr safonau dementia a’r amser priodol a’r lle priodol ar gyfer diagnosis prydlon, yn cynnwys ystyried rôl gofal sylfaenol, gwasanaethau asesu’r cof, a rolau eraill yn y gweithlu a allai gyflawni swyddogaethau

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia:

Canfod ac adnaaod

  • Adolygu’r DVD ymwybyddiaeth o ddementia ar gyfer meddygon teulu, a’i ddiweddaru fel bo’r angen. 
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i gyflwyno’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gynyddu ymwybyddiaeth o ddementia er mwyn sicrhau diagnosis amserol.
  • Datblygu llwybr diagnosis, gofal a chymorth cyson, hawdd ei ddeall, sy’n ymgorffori safonau gofal a mesurau canlyniadau.
  • Cytuno ar ymagwedd gyffredin at asesiadau ac ymyriadau namau gwybyddol (ac eithrio dementia), gyda chymorth yn cael ei gynnig i ofal sylfaenol gan wasanaethau asesu’r cof arbenigol lle bo’n ofynnol.

Asesiad a diagnosis

  • Parhau i weithredu argymhellion yr archwiliad cenedlaethol o wasanaethau asesu’r cof a gosod targedau i fyrddau iechyd gynyddu cyfraddau diagnosis o leiaf 3% bob blwyddyn.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi a defnyddio’r adnoddau asesu dementia sydd wedi’u dilysu’n glinigol a chadarn i’w defnyddio drwy gyfrwng y Gymraeg, a chomisiynu ymchwil fel bo’r angen.

Sut y byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
  • Sefydlu ffrwd waith ar wahân i gefnogi’r buddsoddiad ychwanegol o £3 miliwn a sicrhawyd ar gyfer gwasanaethau asesu’r cof a chymorth ar gyfer pobl yn ystod y broses asesu a’r diagnosis canlynol.
  • Comisiynu ymchwil i nodi ymhellach ddata normadol o ansawdd da ar fersiynau Cymraeg o raddfeydd asesu gwybyddol sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin yng Nghymru, fel y gellir cynnal dehongliad hyderus o asesiadau mewn cyd-destun clinigol. Nod cyffredinol y prosiect yw coladu gwybodaeth am yr adnoddau/graddfeydd asesu dementia sydd ar gael yn Gymraeg, sut maent yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd a nodi pa adnodd(au) Cymraeg a ddilyswyd yn glinigol yw’r rhai mwyaf cadarn.
  • Gwaith Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Gwelliant Cymru i ddatblygu’r gallu i adrodd ar gyfraddau diagnosis bob mis er mwyn cefnogi’r gwelliant sydd ei angen yn y maes hwn.
  • Gweithio gyda Gofal Sylfaenol ar y Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwelliant i feddygon teulu i gynnwys cyfeiriad priodol at ddementia a datblygiad pecyn cymorth Gofal Sylfaenol. 
  • Gwaith Gwelliant Cymru i ddatblygu Strategaeth Namau Gwybyddol Ysgafn Cymru (MCI) (gan weithio gyda grŵp gorchwyl a gorffen), sy’n cynnwys canllawiau i sefydliadau ac ymarfer.

3. Amddiffyn hawliau / cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

3.1 Ymyriadau/adsefydlu therapiwtig ôl-ddiagnosis

Gwella mynediad at ymyriadau therapiwtig a chynyddu ymwybyddiaeth ohonynt, sydd yn ei dro’n lleihau’r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig. Fel rhan o hyn, byddwn yn dymuno cydnabod gwerth ymyriadau adsefydlu a therapiwtig ôl-ddiagnosis ac fel rhan o adferiad wedi pandemig COVID-19.

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. 

Byw mor iach â phosibl, cyhyd â phosibl

  • Datblygu timau amlddisgyblaethol ‘o amgylch yr unigolyn’, sy’n darparu gofal, cymorth a thriniaeth gydlynol fel bo’r angen.
  • Sicrhau bod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), yn blaenoriaethu ffyrdd i integreiddio gwasanaethau, gofal a chymorth i bobl â dementia.
  • Gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol, gwasanaethau iechyd a darparwyr tai a chynnwys pobl â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr er mwyn galluogi pobl i aros yn eu cartrefi.
  • Ymateb i argymhellion ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i’r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig.

Yr angen am fwy o gymorth

  • Sicrhau bod gan wasanaethau iechyd (gan gynnwys Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru) a gwasanaethau cymdeithasol lwybrau gofal ar waith er mwyn sicrhau bod asesiadau cymunedol a gwasanaethau rheoli parhaus yn ymatebol.
  • Sicrhau bod mynediad at wasanaethau a chymorth eirioli ar gael fel y gall unigolion ymgysylltu a chymryd rhan pan fydd awdurdodau lleol yn gweithredu eu dyletswyddau statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Sut y byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. Bydd hyn yn cynnwys prosiect eirioli dementia a gynhelir gan Gwent ar ran y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol sydd â’r nod o alluogi pobl sy’n byw gyda dementia i gael gafael ar wasanaethau a chymorth angenrheidiol ac i gael llais yn y penderfyniadau a wneir.
  • Darparu adroddiad gwerthuso gydag argymhellion ar gyfer camau nesaf ‘Holi Arbenigwr Dementia’ a sefydlwyd fel gwasanaeth cymorth cenedlaethol rhithiol, mewn ymateb i COVID-19 i ddechrau.  
  • Mae angen datblygu ymhellach waith Gwelliant Cymru i ddatblygu adnodd a fydd yn hyrwyddo gweithgarwch a sgiliau ar gyfer cynnal cryfder a chydbwysedd. Mae’r gwaith yn cynnwys cynhyrchu adnodd Cymru gyfan ar gyfer ymarferwyr i gefnogi pobl a’u gofalwyr anffurfiol a chanllawiau i sefydliadau ac ymarfer (gan weithio gyda grŵp gorchwyl a gorffen).
  • Gwaith Gwelliant Cymru i gwmpasu a datblygu adnoddau gydag asiantaethau partner a gweithio gyda grŵp gorchwyl a gorffen a dylunwyr i greu adnodd i’w ddefnyddio’n ddigidol ac ar ffurf copi caled).
  • Cefnogi datblygiad protocol rhagnodi ar gyfer meddyginiaeth gwrthseicotig, gyda ffocws ar brotocol dod oddi arnynt yn raddol.
  •  Cyfuno ein hymateb adsefydlu ôl-COVID-19 i bobl â dementia a’u gofalwyr gyda’r Fframwaith Adsefydlu Cenedlaethol a rhaglen fframwaith arfaethedig y Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP), Rehabilitation Actions.
  • Adrodd ar y gwaith gydag Ymgynghorydd y Proffesiynau Perthynol i Iechyd a rhwydwaith dementia’r Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru.


3.2 Cymorth i gartrefi gofal – yn cynnwys galluogi risg yn hytrach nag osgoi risg a mynediad at gymorth adsefydlu ac adfer

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. 

Byw mor iach â phosibl, cyhyd â phosibl

  • Datblygu timau amlddisgyblaethol ‘o amgylch yr unigolyn’, sy’n darparu gofal, cymorth a thriniaeth gydlynol fel bo’r angen.

Sut y byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
  • Parhau i weithio gyda’r sector gofal cartref i helpu i gefnogi’r dull seiliedig ar hawliau o ofalu am bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, a galluogi mynediad at y cymorth adsefydlu sydd ei angen arnynt mewn ymateb i COVID-19. Bydd hyn yn cynnwys gwaith i gefnogi Llesiant Preswylwyr Cartrefi Gofal, a nodwyd drwy waith y Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal.

3.3 Gofal ysbyty gwell – Yn cynnwys gwaith i gefnogi atal derbyniadau o’r adran damweiniau ac achosion brys, neu leihau hyd arhosiad pan na ellir osgoi derbyn, gan ymgorffori dull seiliedig ar hawliau clir mewn gofal ysbyty

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. 

Byw mor iach â phosibl, cyhyd â phosibl

  • Datblygu timau amlddisgyblaethol ‘o amgylch yr unigolyn’, sy’n darparu gofal, cymorth a thriniaeth gydlynol fel bo’r angen.

Yr angen am fwy o gymorth

  • Monitro’r broses o weithredu argymhellion adroddiad ‘Ymddiried mewn Gofal’.
  • Sicrhau bod argymhellion archwiliad cenedlaethol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion o ddementia mewn ysbytai cyffredinol yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys cyfarwyddo byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i fabwysiadu egwyddorion ‘Ymgyrch John’. 
  • Ehangu’r defnydd o Dementia Care Mapping™ fel dull sefydledig o gyflawni a chynnwys gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pobl â dementia a sicrhau bod byrddau iechyd yn gweithredu ‘Driver Diagram – Mental Health Inpatient Environments for people with dementia’.
  • Sicrhau bod gan unedau iechyd meddwl ar gyfer pobl hŷn lwybrau gofal a gytunwyd ar gyfer cyrchu gofal iechyd corfforol rheolaidd.

Sut y byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.

  • Darparu adroddiadau chwarterol ar weithredu’r siarter ysbytai, dan arweiniad Gwelliant Cymru. 
  • Bydd Ymgynghorydd y Proffesiynau Perthynol i Iechyd yn cydweithio ag Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Cwympiadau ac Eiddilwch i ymgorffori safonau gofal dementia mewn ysbytai. Byddwn yn adrodd ar waith Rhwydwaith Cwympiadau Cleifion Mewnol Cymru Gyfan a rhwydwaith dementia y Proffesiynau Perthynol i Iechyd.
  • Gwaith Gwelliant Cymru i ddatblygu Strategaeth Mapio Dementia Cymru Gyfan, sy’n cynnwys canllawiau i sefydliadau ac ymarfer.
  • Rhoi diweddariad i’r DOIIG ar argymhellion yr adroddiad Gofal Dementia mewn Ysbytai pan gaiff ei gyhoeddi gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddementia, er mwyn i’r grŵp ystyried y camau nesaf. 

3.4 Gofal lliniarol – sgyrsiau amserol, cynllunio gofal uwch a gofal diwedd oes da

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. 

Yr angen am fwy o gymorth

  • Sicrhau bod timau ‘o amgylch yr unigolyn’ yn trafod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau ymlaen llaw a sicrhau bod llwybr gofal lliniarol y cytunwyd arno ar waith. 
  • Nodi gweithwyr proffesiynol a fyddai’n elwa ar gael hyfforddiant mewn dechrau sgyrsiau am salwch difrifol, a darparu hyfforddiant o’r fath. 

Sut y byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
  • Darparu sesiynau byr ar ofal diwedd oes a dementia i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gofalwyr teuluol.
  • Byddwn yn sicrhau bod anghenion pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd yn cael eu hystyried fel rhan o fudiad Cymru Garedig.

4. Ymateb i newidiadau mewn gofal

4.1 Grymuso Gweithredu Cymunedol – datblygu rhwydweithiau cymunedol sy’n codi ymwybyddiaeth o ddementia a helpu i gefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain cyn hired â phosibl

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. 

Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

  • Gweithio gyda’r trydydd sector a phobl â phrofiad o ddementia er mwyn cynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy’n gallu adnabod arwyddion o ddementia drwy ehangu mentrau fel ffrindiau dementia a chymunedau/sefydliadau sy’n deall dementia.
  • Sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau’r trydydd sector er mwyn eu hannog i agor eu gwasanaethau fel bod pobl â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn gallu cymryd rhan.
  • Rhoi cyhoeddusrwydd ac annog sefydliadau addysg i ddefnyddio’r adnoddau “Creating a Dementia Friendly Generation” a ddatblygwyd gan Gymdeithas Alzheimer er mwyn cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth rhyng-genhedlaeth.
  • Sicrhau bod cynllunwyr/cwmnïau trafnidiaeth yn ystyried anghenion pobl sy’n byw gyda dementia wrth ddatblygu eu gwasanaethau gan gynnwys contractau mawr fel y ‘metro’ a’r fasnachfraint rheilffyrdd, er mwyn gwella mynediad at wybodaeth am drafnidiaeth, gan alluogi pobl i gynllunio eu taith a defnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Sut y byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
  • Adrodd ar weithredu menter Yn ôl i Fywyd Cymunedol a arweinir gan Gwelliant Cymru a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a’r prosiect ‘Get there together’ ar draws y rhanbarthau i annog pobl i ail-ymwneud â’u cymunedau’n ddiogel. Ymgynghorydd y Proffesiynau Perthynol i Iechyd i drafod y mecanwaith adrodd priodol gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol / Awdurdodau Lleol.
  • Gweithio gyda’n Grŵp Cynghori ar Unigrwydd a Theimlo’n Ynysig i ystyried adroddiad Uwchgynhadledd Ymarfer Pontio’r Cenedlaethau Cymru a phennu beth mwy y gellir ei wneud i gefnogi ymarfer pontio’r cenedlaethau ystyrlon a buddiol i bobl ifanc a phobl hŷn yng Nghymru. 
  • Darparu diweddariadau gan gydweithwyr addysg ar ‘adnoddau ystyriol o ddementia i wahanol genedlaethau’. 
  • Darparu adroddiad diweddaru ar brosiect Darllen yn Well Dementia.
  • Fel rhan o’n Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhagnodi Cymdeithasol, datblygu ‘Cynnig Cymru Gyfan’ a fydd yn helpu i sefydlu rhagnodi cymdeithasol ledled Cymru.

4.2 Cymorth i ofalwyr di-dâl – sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus, darparu gwybodaeth / cyngor a chymorth a mynediad at gymorth, sy’n hyblyg h.y. seibiant byr / seibiant

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. 

Asesiad a diagnosis

  • Sicrhau bod gofalwyr yn cael cynnig asesiad o’u hanghenion eu hunain ac, os ydynt yn gymwys, bydd cynllun cymorth yn cael ei ddatblygu gyda nhw er mwyn nodi cymorth priodol (yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014). 

Yr angen am fwy o gymorth

  • Sicrhau bod y ‘timau o amgylch yr unigolyn’ newydd yn galluogi teuluoedd a gofalwyr i gael gofal seibiant sy’n gallu diwallu anghenion y sawl sy’n byw gyda dementia.
  • Monitro’r defnydd o gyllid a ddarperir i awdurdodau lleol ar gyfer gofal seibiant, er mwyn nodi arferion gorau wrth gefnogi anghenion y gofalwr a’r sawl sy’n derbyn gofal, a sicrhau bod yr arferion hyn yn cael eu rhannu.

Sut y byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
  • Yn dilyn cyhoeddi ‘Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yng Nghymru’ ym mis  Mawrth 2021, byddwn yn gweithio gydag aelodau’r DOIIG i gefnogi gwaith Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr i ddrafftio cynllun cyflawni i’w gyhoeddi erbyn hydref 2021. Bydd y cynllun cyflawni hwn yn ystyried camau gweithredu cyfredol y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia ar sicrhau asesiadau o anghenion gofalwyr a mynediad at ofal seibiant. Unwaith y bydd y cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi bydd adroddiadau ffurfiol yn cael eu cyflwyno yn erbyn camau gweithredu’r cynllun. Bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyflwyno i’r DOIIG eu hystyried, gan ein galluogi ni i ganolbwyntio ar y mannau lle mae angen gweithredu.
  • Bydd adroddiadau a dderbynnir gan Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr, yn cynnwys gwybodaeth am y defnydd o’r £3 miliwn a ddarparwyd yn 2021-22 i gefnogi gofal seibiant brys a datblygiad y gronfa seibiannau byr, yn cael eu rhannu â’r DOIIG i’w trafod, gan ein galluogi i ganolbwyntio ar y mannau lle mae angen gweithredu.

4.3 Cymorth iechyd meddwl – Bydd hyn yn cynnwys iechyd meddwl cyffredinol, llesiant a chydnabod sgiliau arbenigol a allai fod yn ofynnol i gefnogi pobl sy’n byw â dementia a allai wynebu trawma o’r gorffennol drachefn, ac a allai fod angen dull therapiwtig gwahanol o bosibl yn sgil newidiadau i’w cof a’u cyfathrebu. Bydd hyn yn cynnwys ystyried unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, trawma wedi’i oedi, iselder a gorbryder

Ar hyn o bryd gellir mapio’r maes hwn ar draws i’r canlynol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. 

Byw mor iach â phosibl, cyhyd â phosibl

  • Sicrhau bod byrddau iechyd yn darparu mynediad at ymyriadau seicogymdeithasol a ffarmacolegol seiliedig ar dystiolaeth yn unol â Matrics Cymru a chanllawiau perthnasol eraill.
  • Yr angen am fwy o gymorth.
  • Adolygu capasiti gwasanaethau profedigaeth cyfredol a’r lleoliadau lle maen nhw’n cael eu cynnig, er mwyn sicrhau bod gofynion gwahanol teuluoedd a gofalwyr y rhai â dementia yn cael eu bodloni.

Byddwn yn adrodd fel rhan o hyn

  • Darparu crynodeb o’r canlyniadau a adroddwyd drwy brosiectau a ariennir gan y Gronfa Gofal Integredig (ICF), sy’n cael eu paru â meysydd o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
  • Cefnogi rôl y grŵp llywio cenedlaethol ar brofedigaeth wrth iddo fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu fframwaith profedigaeth cenedlaethol i Gymru. Fel rhan o’r gwaith hwn bydd safonau gofal profedigaeth cyffredinol yn cael eu llunio a byddant yn berthnasol i bob sefydliad sy’n darparu cymorth profedigaeth ledled Cymru. 
  • Cefnogi seilwaith dros dro i gefnogi darpariaeth barhaus therapïau seicolegol, gan sicrhau bod amrywiaeth y therapïau sydd ar gael yn cael ei gryfhau, a bod dewis defnyddwyr gwasanaethau’n cael ei ymgorffori fel ymarfer rheolaidd ar draws gwasanaethau. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys yr adolygiad systematig a chadarn o dablau tystiolaeth sy’n sail i Matrics Cymru.
  • Sicrhau bod pobl sy’n byw gyda Dementia’n cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith parhaus o ddatblygu canllawiau i gefnogi rôl gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol (adroddir ar hyn drwy’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022).

Camau gweithredu ar wahân yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia nad ydynt wedi’u cynnwys yn y blaenoriaethau gwaith cyfredol

Isod ceir rhestr o gamau gweithredu o fewn y cynllun gweithredu nad ydynt wedi’u rhestru’n benodol yn erbyn y meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Bydd y camau gweithredu hyn yn parhau yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. Fodd bynnag, ystyrir bod y camau gweithredu hyn naill ai wedi’u cwblhau, y gellir mynd i’r afael â nhw mewn ffyrdd eraill, neu na roddir blaenoriaeth iddynt mwyach er mwyn canolbwyntio adnoddau’n wahanol o ystyried effaith y pandemig ar bobl sy’n byw gyda dementia. Fodd bynnag, y bwriad yw i’r adroddiadau ganolbwyntio ar y blaenoriaethau a nodwyd yn y papur hwn, er mwyn gallu canolbwyntio mwy ar y blaenoriaethau. Manylir isod  sut y bydd gwybodaeth am y gwaith o dan y camau gweithredu hyn yn parhau i gael ei chasglu.

Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

  • Gweithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel bod anghenion pobl sy’n byw gyda dementia yn cael eu hystyried fel rhan o brosesau cynllunio. 
  • Datblygu a dilyn hyfforddiant a gynlluniwyd i godi ymwybyddiaeth gweithwyr trafnidiaeth o’r rhwystrau sy’n wynebu pobl â dementia wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 

Byddwn yn canolbwyntio dros y cyfnod hwn ar fentrau sy’n cefnogi’r fenter ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ sy’n cael ei harwain gan Gwelliant Cymru a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a’r prosiect ‘Get there together’ ar draws y rhanbarthau i annog pobl i ailymwneud â’u cymunedau’n ddiogel, gyda’r ail brosiect yn cynnwys darparwyr trafnidiaeth. 

Canfod ac adnabod 

  • Annog meddygon teulu i ddefnyddio elfen ddementia y gwasanaethau ychwanegol dan gyfarwyddyd iechyd meddwl (DES) a gyflwynwyd yn 2017.
  • Sicrhau bod practisau gofal sylfaenol yn gallu dangos tystiolaeth eu bod yn gefnogol ac yn deall dementia. 

Byddai gweithredu’r camau hyn yn cael ei ailffocysu a’i ddwyn ymlaen fel rhan o waith Safonau Gofal Dementia Cymru.

Asesiad a diagnosis 

  • Sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy.
  • Cwmpasu rhaglen waith a fydd yn cipio, cofnodi, rhannu a thynnu sylw at anghenion cyfathrebu’r defnyddwyr gwasanaethau sydd â nam ar eu synhwyrau.
  • Adolygu a hyrwyddo llinell gymorth dementia Cymru gyfan fel ffynhonnell wybodaeth allweddol. 
  • Sicrhau bod pob person sy’n cael diagnosis o ddementia yn derbyn pecyn gwybodaeth wedi’i deilwra mewn fformat hygyrch gan gynnwys dewisiadau digidol fel bo’r angen, ac yn cael cynnig mynediad at weithiwr cymorth dementia neu gyfatebol.

Bydd diweddariad ar gynnydd ar gydymffurfio â’r Safonau a’r rhaglen waith ar nam ar y synhwyrau yn cael ei ddarparu i’r DOIIG, ond bydd camau gweithredu dros y cyfnod adrodd nesaf yn canolbwyntio ar argymhellion sy’n deillio o waith nam ar y synhwyrau a dementia.

Gan gydnabod bod gennym nifer o adnoddau ar gael erbyn hyn drwy weithredu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia byddwn yn adolygu sut y gallwn ddod â’r gwaith hwn ynghyd fel rhan o strategaeth gyfathrebu. Bydd llinell gymorth dementia Cymru gyfan a’r gwaith ar becyn gwybodaeth wedi’i deilwra yn cael ei ystyried fel rhan o’r gwaith hwnnw.

Byw mor iach â phosibl, cyhyd â phosibl

  • Datblygu swydd Ymgynghorydd Ymarferydd Perthynol i Iechyd ar gyfer Dementia yng Nghymru. Bydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau darpariaeth gofal person-ganolog a llywio gwelliannau i’r gwasanaeth.
  • Galluogi staff tai i gael gafael ar hyfforddiant i’w helpu i gefnogi pobl â dementia (Parhaus). 
  • Ystyried argymhellion perthnasol y “Grŵp Arbenigol ar Gartrefu Poblogaeth sy’n Heneiddio” er mwyn llywio datblygiadau tai’r dyfodol. 
  • Adolygu’r Rhaglenni Cymhorthion ac Addasiadau Tai i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar gymorth amserol a phriodol. 
  • Sicrhau bod argymhellion perthnasol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn cael eu hystyried a’u cynnwys mewn datblygiadau polisi ledled y Llywodraeth a’u hintegreiddio mewn arferion gweithredol.

Mae’r swydd Ymgynghorydd Ymarferydd Perthynol i Iechyd ar gyfer Dementia yng Nghymru wedi’i llenwi bellach ac felly mae’r cam gweithredu i ddatblygu’r swydd hon wedi’i gau’n ffurfiol. Bydd diweddariad ar y camau gweithredu sy’n weddill uchod yn cael ei ddarparu i’r DOIIG er mwyn trafod a yw camau gweithredu’n cael eu haddasu neu wedi cau.

Yr angen am fwy o gymorth

  • Datblygu ymhellach y defnydd o wasanaethau newydd gwell dan gyfarwyddyd ar gyfer cartrefi gofal preswyl a nyrsio.
  • Sicrhau bod gwasanaethau cyswllt seiciatrig ar gael yn holl ysbytai cyffredinol Cymru. 

Bydd diweddariad ar y cam gweithredu ar y gwasanaeth i gartrefi gofal preswyl a nyrsio’n cael ei ddarparu i’r DOIIG er mwyn trafod a yw’r cam gweithredu’n cael ei addasu neu wedi’i gau.

Mae gwasanaethau cyswllt seiciatrig ar gael ym mhob ysbyty cyffredinol yng Nghymru ac felly mae’r cam gweithredu hwn wedi cau bellach.