Datganiad Polisi Caffael Cymru 2021: Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru
Yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn Datganiad Polisi Caffael Cymru o ran ei chaffael ei hun.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mae caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arf bwerus sydd â’r gallu i wneud newidiadau parhaus a sicrhau canlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol er budd Cymru.
Pan fydd Llywodraeth Cymru yn caffael nwyddau a gwasanaethau, wrth gyflawni ei hymrwymiadau polisi, bydd yn cydymffurfio â’r egwyddorion yn Natganiad Polisi Caffael Cymru a amlinellir isod:
Egwyddor 1
Byddwn yn ysgogi gweithredu ar y cyd ym maes caffael yng Nghymru, i sicrhau’r gwerth cymdeithasol ac economaidd gorau posibl gan wariant cyhoeddus, a hynny mewn modd cynaliadwy a hirdymor.
Beth bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud
- Byddwn yn rhagweithiol wrth lunio fframweithiau y mae’n rhaid i’r sector cyhoeddus eu dilyn er mwyn bodloni gofynion y sefydliad a darparu arweiniad ar gyfer staff
- Byddwn yn parhau i gyfrannu’n weithredol at y gwaith o gynllunio a datblygu fframwaith cydweithredol ar gyfer Cymru er budd pawb gan sicrhau eu bod yn gwneud y mwyaf o gyfraniad i bedwar dimensiwn llesiant ble bynnag y bo modd
- Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â sector cyhoeddus Cymru i integreiddio ein cytundebau cenedlaethol â dulliau rhanbarthol a lleol
Nodau llesiant
- Cymru Ffyniannus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
- Cymru o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Egwyddor 2
Byddwn yn sicrhau bod caffael yn ganolog i’r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau Cymru.
Beth bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud
- Drwy weithio ar y cyd, byddwn yn cefnogi sefydliadau sector cyhoeddus Cymru i gyflawni polisïau drwy nodi a datblygu offerynnau, arweiniad a hyfforddiant priodol
- Byddwn yn gweithio gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i ymgorffori amcanion allweddol, gan gynnwys llesiant, yn ein strategaeth gaffael ar gyfer y sefydliad
- Byddwn yn dangos y gwerth y gall caffael ei gynnig i Lywodraeth Cymru drwy ein cymorth tendro beirniadol strategol, ac i sector cyhoeddus Cymru drwy reoli categorïau o gytundebau cydweithredol cenedlaethol yng Nghymru.
Nodau llesiant
- Cymru Ffyniannus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
- Cymru o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Egwyddor 3
Byddwn yn datblygu prosesau caffael cynaliadwy ar gyfer yr hirdymor, sy'n adeiladu ar yr arferion gorau ac yn datblygu’r arferion hynny, ac yn gosod camau clir sy’n dangos sut mae caffael yn ategu’r gwaith o gyflawni amcanion llesiant y sefydliad.
Beth bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud
- Byddwn yn parhau i ddefnyddio dulliau strategol ac asesiadau risg i sicrhau bod gweithgareddau caffael yn cyd-fynd â'r saith nod llesiant cenedlaethol ac yn cyfrannu atynt
- Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r pum ffordd o weithio drwy gydol ein prosesau tendro, a hynny mewn modd rhagweithiol, a byddwn yn darparu pecyn cymorth ar gyfer rheoli contractau, ac yn parhau i gynnig y cymorth hwn yn ystod y gwaith o gwblhau’r contract
- Byddwn yn datblygu ac yn rhoi ar waith becyn cymorth i sicrhau gwerth cymdeithasol a chostau bywyd cyfan ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.
Nodau llesiant
- Cymru Ffyniannus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
- Cymru o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Egwyddor 4
Byddwn yn codi statws a phroffil hirdymor y proffesiwn caffael, a'i rôl fel galluogwr ar gyfer polisïau caffael.
Beth bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud
- Byddwn yn codi proffil maes caffael drwy gefnogi staff i ennill eu cymwysterau proffesiynol CIPS (Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi) a sicrhau eu datblygiad proffesiynol parhaus, a thrwy ddatblygu’r proffesiwn caffael o fewn Llywodraeth Cymru drwy Borth pwrpasol, i greu cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa
- Byddwn yn ariannu rhaglen CIPS ar gyfer carfanau o sector cyhoeddus Cymru
- Byddwn yn ymchwilio, drwy ymarfer darganfod, i'r argymhelliad ar gyfer Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Caffael yn y flwyddyn ariannol 2021/22. Os yw canfyddiadau'r ymarfer darganfod yn cefnogi’r argymhelliad ar gyfer canolfan ragoriaeth, yna bydd cynllun peilot yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn ariannol 2022/23.
Nodau llesiant
- Cymru Ffyniannus
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
Egwyddor 5
Byddwn yn cefnogi amcanion polisi Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chaffael blaengar, megis yr Economi Sylfaenol a’r Economi Gylchol, drwy weithgareddau caffael cydweithredol sy’n seiliedig ar le (boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu'n lleol), sy'n meithrin cadwyni cyflenwi lleol cadarn.
Beth bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud
- Byddwn yn parhau i ddefnyddio dulliau strategol ac asesiadau risg i sicrhau bod gweithgareddau caffael yn cyd-fynd â pholisi caffael blaengar ac yn cyfrannu ato
- Byddwn yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu fforwm polisi caffael sy'n cynnwys cynrychiolwyr o sector cyhoeddus Cymru, gyda threfniadau llywodraethu priodol, i weithredu fel cyfaill beirniadol
- Byddwn yn datblygu canllawiau statudol a chanllawiau eraill i ategu’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, a fydd yn darparu fframwaith statudol ar gyfer cyflawni polisïau drwy gaffael
Nodau llesiant
- Cymru Ffyniannus
- Cymru gydnerth
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
- Cymru o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Egwyddor 6
Byddwn yn gweithredu i atal newid yn yr hinsawdd drwy flaenoriaethu’r gwaith o leihau allyriadau carbon a chyrraedd targedau sero-net drwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy, i gyflawni ein huchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sero-net yng Nghymru erbyn 2030.
Beth bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud
- Byddwn yn defnyddio dull strategol i leihau effaith carbon yn y tendrau – drwy’r ffordd mae contractau’n cael eu llunio, eu gwerthuso a’u rheoli
- Byddwn yn gwneud Cynlluniau Lleihau Carbon yn rhan orfodol o dendrau caffael ar gyfer contract Llywodraeth Cymru dros £5m o fis Ebrill 2022
- Cefnogi carbon sero-net drwy sicrhau parhad y cyflenwad trydan o ffynonellau adnewyddadwy a throsglwyddo i gerbydau allyriadau isel iawn
- Byddwn yn datblygu cymalau rheoli contractau i gefnogi'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Bydd y cymalau hyn yn sicrhau bod pob caffaeliad adeiladu mawr yn y sector cyhoeddus yn arwain at ganlyniadau cynaliadwy ar gyfer cadwyni cyflenwi adeiladu
Nodau llesiant
- Cymru Ffyniannus
- Cymru gydnerth
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Egwyddor 7
Byddwn yn alinio ein ffyrdd o weithio ac yn cynyddu cyfranogiad rhanddeiliaid i ategu atebion arloesol a chynaliadwy drwy gaffael.
Beth bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud
- Rydym yn annog trafodaethau cyn-farchnad â’n cadwyni cyflenwi i greu amgylchedd sy'n ysgogi arloesi
- Byddwn yn gweithio gyda chwsmeriaid mewnol i greu ffynonellau caffael sy'n rhoi amser i nodi atebion cynaliadwy a cheisio atebion arloesol
- Byddwn yn annog cydweithio a chydgynhyrchu wrth ddrafftio gofynion
Nodau llesiant
- Cymru Ffyniannus
- Cymru gydnerth
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Egwyddor 8
Byddwn yn cydweithio â rhanddeiliaid i hyrwyddo cyfle cyfartal a gwaith teg yng Nghymru.
Beth bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud
- Byddwn yn parhau i fod yn un o lofnodwyr y cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ac yn cyhoeddi datganiad ar gaethwasiaeth fodern.
- Drwy ddulliau strategol byddwn yn nodi risgiau a chyfleoedd i fynd i'r afael â chydraddoldeb a thegwch yn ein contractau, gan gynnwys contractau neilltuol, cyflog byw'r Sefydliad Cyflog Byw, creu cyflogaeth a hyfforddiant, ac ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Byddwn yn datblygu canllawiau statudol i ategu'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, a fydd yn sefydlu Gwaith Teg fel rhan annatod o gaffael sy'n gymdeithasol gyfrifol
Nodau llesiant
- Cymru Ffyniannus
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
- Cymru o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Egwyddor 9
Byddwn yn integreiddio ein hatebion a'n cymwysiadau digidol yn well, a gwella profiadau ein defnyddwyr, gan fanteisio i’r eithaf ar ein data caffael i lywio ein penderfyniadau.
Beth bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud
- Byddwn yn gwella arferion a phrosesau caffael drwy weithredu Strategaeth Ddigidol Cymru.
- Byddwn yn gweithredu'r Cynllun Gweithredu Digidol ar gyfer Caffael yr ydym wedi'i greu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i wella profiadau defnyddwyr o’n hatebion a'n cymwysiadau digidol
- Byddwn yn gweithredu'r newidiadau digidol a fydd eu hangen i ategu’r gwaith o ddiwygio maes caffael a sicrhau tryloywder drwy gydol ein cadwyni cyflenwi, drwy ddefnyddio'r Safon Data Contractio Agored (OCDS).
- Byddwn yn manteisio i’r eithaf ar ein data cylch bywyd caffael – ac ar y ddealltwriaeth a roddir inni gan yr OCDS
Nodau llesiant
- Cymru o gymunedau cydlynol
Egwyddor 10
Byddwn yn hyrwyddo caffael sy'n seiliedig ar werth sy'n sicrhau'r canlyniadau hirdymor gorau posibl i Gymru.
Beth bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud
- Byddwn yn parhau i ddefnyddio dulliau strategol ac asesiadau risg i sicrhau bod gweithgareddau caffael yn cyd-fynd â'r canlyniadau hirdymor gorau posibl i Gymru, ac yn cyfrannu atynt
- Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y polisi diwygio caffael i symud o ‘MEAT’ (y tendr sy’n cynnig y manteision economaidd gorau) i ‘MAT’ (y tendr sy’n cynnig y manteision gorau) fel y gellir gwerthuso tendrau yn unol ag ymrwymiadau polisi Llywodraeth Cymru
- Byddwn yn defnyddio'r broses werthuso i asesu gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a gynigir gan y tendr
- Byddwn yn mabwysiadu unrhyw ddeddfwriaeth gaffael newydd sy'n hyrwyddo caffael sy'n seiliedig ar werth, ac yn cyfrannu at ddatblygu'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus a fydd yn ymgorffori hyn yng nghyfraith Cymru
Nodau llesiant
- Cymru Ffyniannus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
- Cymru o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang