Cael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl anabl rhag gwneud prentisiaethau – dyna sydd wrth galon y Cynllun Gweithredu ar Brentisiaethau Cynhwysol.
Lansiodd y Gweinidog y cynllun gweithredu mewn digwyddiad yng Nghaerdydd a gynhaliwyd ar y cyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Yn y digwyddiad, daeth cyflogwyr, sefydliadau anabledd a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghyd i drafod ac i annog mwy o gyflogwyr i gymryd mwy o brentisiaid, yn arbennig mwy o brentisiaid ag anableddau.
Bydd y cynllun gweithredu, a grëwyd gan weithgor o sefydliadau arbenigol ym maes anabledd, yn bwydo i mewn i Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys cam gweithredu i sicrhau ymagwedd benodol tuag at gymorth cyflogadwyedd, cymorth sy’n ymateb i anghenion unigolion. Roddir ystyriaeth i amgylchiadau personol, rhwystrau, galluoedd a dyheadau. Mae sicrhau bod cyfleoedd i bob anabl ddod o hyd i waith, a chadw’r gwaith hwnnw, yn hanfodol.
Nod y cynllun gweithredu yw helpu pobl fel Twm Draper sydd wedi cwblhau prentisiaeth lefel tri ym maes gofal cwsmeriaid gyda BT ym mis Mawrth. Mae Twm bellach yn gweithio’n llawn amser fel rheolwr achos helpu cwsmeriaid. Mae gan Twm nam ar ei glyw yn y ddwy glust ac felly mae’n defnyddio clustffonau sy’n blocio sŵn cefndirol. Dyma’r unig addasiad y mae ei gyflogwr wedi gorfod ei wneud ar ei gyfer.
Dywedodd Twm:
“Ar ôl y chweched dosbarth, do’n i ddim am fynd i’r brifysgol – ro’n i am weithio i gwmni mawr a dechrau ennill arian. Felly fe wnes i edrych i weld pa brentisiaethau oedd i’w cael. Dw i’n dwlu ar fy swydd, a dw i jyst yn bwrw ati i wneud y gwaith.”
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan:
“Nid oes digon o bobl anabl mewn gwaith. Yng Nghymru, dim ond 45% o bobl anabl o oedran gwaith sydd mewn gwaith, a hynny o’i gymharu â 80% o bob nad ydynt yn anabl. Nid yw hyn yn dderbyniol, ac rwyf am weld newid.”
“Nid proses gyfan gwbl ddyngarol yw hyn, chwaith: mae cyflogi grwpiau gwaith amrywiol yn gallu arwain at well datrysiadau i heriau busnes a gwell cynhyrchedd. Gall hefyd annog creadigrwydd. Hefyd, wrth gwrs, mae meddu ar weithlu sy’n adlewyrchu cwsmeriaid y cwmni yn golygu y gallant gael ymdeimlad gwell am eu hanghenion, a’r materion sy’n effeithio arnynt.”
“Mae prentisiaethau’n llwybr brofedig i gyflogaeth gynaliadwy ac rwy’n falch iawn fod gennym Raglen Brentisiaethau lwyddiannus yma yng Nghymru. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw’r cohort prentisiaethau’n adlewyrchu ein cymdeithas amrywiol. I newid hyn, mae’n hanfodol ein bod yn annog pobl anabl i ymgeisio am brentisiaethau ac mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael. Dyma nod ein Cynllun Gweithredu ar Brentisiaethau Cynhwysol.”