Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Fframwaith Mesur Effaith
Fframwaith i helpu mesur effaith ein cynllun i wneud Cymru yn wrth-hiliol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Y cefndir a'r diben
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn amlinellu'r weledigaeth i Gymru fod yn wlad wrth-hiliol. Ei nod yw ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Cafodd y Cynllun ei gydgynhyrchu â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a mynegwyd neges glir nad gweld pethau'n cael eu gwneud yn unig roedd ei eisiau ar bobl, ond gweld gwelliannau i'w bywydau o ganlyniad i'r Cynllun hwn.
Bydd y fframwaith mesur effaith yn nodi'r set allweddol o ddata (rhifau ac ystadegau) a fydd yn cael eu hasesu'n rheolaidd i'n helpu i ddeall a yw'r Cynllun yn gwneud gwahaniaeth.
Mae'r fframwaith mesur effaith yn un rhan o'r nifer o ffynonellau tystiolaeth y byddwn yn eu defnyddio i asesu a yw newid wedi digwydd wrth werthuso effaith gyffredinol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r meysydd y bydd y fframwaith yn eu monitro, ar y cyd ar draws pob pennod o'r Cynllun Gweithredu, a hefyd ar gyfer penodau unigol. Bydd dogfen dechnegol yn dilyn yn gynnar yn 2025 a fydd yn nodi'r ffynonellau data sydd ar gael, lefel bresennol eu cywirdeb, cyfyngiadau yn eu defnydd a'u datblygiad neu'r ymgynghoriad y bwriedir ei gynnal i newid neu ddatblygu ffynonellau newydd.
Model rhesymeg Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Mae'r fframwaith mesur effaith yn seiliedig ar y model rhesymeg ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a nodir yn y cynllun o dan Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil: sut y byddwn yn mesur newid.
Map yw model rhesymeg Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sy'n cynrychioli'r cydberthnasau a rennir ymhlith adnoddau, gweithgareddau, allbynnau, canlyniadau, ac effaith y Cynllun. Mae'r model yn cysylltu sut y bydd cwblhau'r camau gweithredu yn arwain at effaith arfaethedig gyffredinol y Cynllun, sef Cymru wrth-hiliol, erbyn 2030. Mae'r model rhesymeg yn cynnig dull cyson a chymaradwy rhwng penodau i fesur effaith gyffredinol y Cynllun.
Cynllun gwerthuso: cynllun ar gyfer mesur newid
Bydd y dystiolaeth sydd ei hangen arnom i fesur newid yn gymysgedd o ddata (rhifau ac ystadegau), fel y nodir yn y fframwaith mesur effaith, a phrofiadau pobl, gan gynnwys profiad bywyd. Byddwn yn nodi'r holl dystiolaeth y byddwn yn ei defnyddio i fesur newid yn ein cynllun gwerthuso a fydd yn cynnwys y fframwaith mesur effaith.
Bydd profiad bywyd yn allweddol wrth fesur newid. Gwybodaeth am brofiadau unigolion yw profiad bywyd, a gesglir mewn ffordd y gellir ei defnyddio i adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd ym mywydau pobl. Bydd yn rhoi canfyddiadau mwy cynhwysfawr, teg, ac effeithiol, a fydd yn canolbwyntio ar brofiadau pobl ac nid y rhifau yn unig. Er y byddwn yn defnyddio data sy’n bodoli eisoes ar gyfer ein mesurau lle y bo modd, efallai y bydd yn cymryd peth amser i ddatblygu ffynonellau data newydd; bydd casglu profiadau bywyd yn ffordd o asesu a yw newid yn digwydd i unigolion yn ystod blynyddoedd cyntaf y Cynllun.
Sut y byddwn ni'n rheoli cyfyngiadau data?
Mae cydnabyddiaeth o'r diffyg tystiolaeth mewn perthynas ag anghydraddoldebau yng Nghymru; amlygodd pandemig COVID-19 yn benodol y bylchau mewn tystiolaeth ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Er bod gwelliannau mewn tystiolaeth wedi'u gwneud, nid yw'n bosibl ar hyn o bryd ddadansoddir holl ffynonellau data presennol yn ôl ethnigrwydd; a hwnnw fyddai'r man cychwyn delfrydol ar gyfer deall effaith Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar bob grŵp. Mae bylchau hefyd yn bodoli mewn meysydd y mae angen eu mesur, er enghraifft nid yw data ar gwynion yn cael eu casglu neu ar gael yn gyson ar draws meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a meysydd polisi eraill cyn ystyried nodwedd ethnigrwydd mewn perthynas â'r data.
Mae'r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn cynnal nifer o brosiectau i wneud gwelliannau i ddata sy'n ceisio newid argaeledd tystiolaeth ar ethnigrwydd a nodweddion cydraddoldeb eraill. Rhennir rhestr o brosiectau a'r cynnydd a wnaed mewn diweddariad rheolaidd i randdeiliaid.
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r meysydd y byddwn yn eu mesur; bydd dogfen dechnegol yn dilyn a fydd yn nodi'n fanylach y data sydd ar gael ar hyn o bryd, lefel eu cywirdeb, y cyfyngiadau o ran eu defnyddio a'u datblygu neu'r gwaith ymgynghori sydd wedi'i gynllunio. Bydd yn nodi i ba raddau y mae gan fesurau fecanwaith sefydledig ar gyfer casglu ac adrodd y gellir ei ddefnyddio i olrhain a ydynt yn cyflawni'r nod yn gyson. Wrth i ffynonellau data presennol newid neu wrth i ffynonellau data newydd ddod i fodolaeth, bydd manylion y fframwaith mesur effaith yn esblygu; bydd y ddogfen dechnegol yn cael ei hadnewyddu'n rheolaidd i ystyried newidiadau mewn ffynonellau data. Yn dilyn hynny, bydd y data'n cael eu cyhoeddi ar ddangosfwrdd a fydd yn dangos y data presennol mewn un lle fel y gellir eu defnyddio i olrhain newid fel rhan o'r gyfres dystiolaeth ar gyfer gwerthuso effaith y Cynllun.
Y meysydd i'w mesur
Meysydd cyffredin
Mae'r rhain yn faterion cyffredin ar draws penodau y mae angen inni eu hystyried mewn ffordd gyson. Dyma rai enghreifftiau o'r meysydd cyffredin i'w monitro:
- llesiant
- cynrychiolaeth ac amrywiaeth y gweithlu
- mynediad at wasanaethau
- bwlio ac aflonyddu
- cwynion
Rydym yn asesu'r dystiolaeth sy'n bodoli yn y meysydd hyn ar draws y penodau er mwyn deall pa wybodaeth sy'n bodoli, sut y caiff ei chasglu, a byddwn yn nodi mwy o fanylion yn y ddogfen dechnegol ategol.
Mesurau effaith yn ôl pennod
Ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd polisi, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi mesurau canlyniadau sy'n ein helpu i ddeall profiadau pobl. Os gellir dadansoddi'r mesurau canlyniadau hyn yn ôl ethnigrwydd, byddwn yn gallu deall sut mae profiadau a chanlyniadau pobl yn wahanol ac yn gallu olrhain y newid ar gyfer gwahanol grwpiau ethnig.
Pennod: Arweinyddiaeth
Meysydd allweddol i'w mesur
- Cynrychiolaeth arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus
Pennod: Addysg a'r Gymraeg
Meysydd allweddol i'w mesur
- Siaradwyr Cymraeg
- Cyrhaeddiad addysgol
- Gwaharddiadau ac absenoliaeth
Pennod: Llywodraeth leol
Meysydd allweddol i'w mesur
- Cynrychiolaeth aelodau etholedig
- Canfyddiad pobl o'u cymuned a'r gwasanaethau a ddarperir
Pennod: Diwylliant, treftadaeth a chwaraeon
Meysydd allweddol i'w mesur
- Cymryd rhan mewn diwylliant, treftadaeth a gweithgareddau chwaraeon
Pennod: Cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg ac Entrepreneuriaeth
Meysydd allweddol i'w mesur
- Cyflogaeth a diweithdra
- Bylchau cyflog
Pennod: Iechyd
Meysydd allweddol i'w mesur
- Ymddygiad iach
- Iechyd meddwl
- Canlyniadau iechyd
Pennod: Cenedl noddfa
Meysydd allweddol i'w mesur
Mesurau canlyniadau allweddol mudwyr sy'n ymwneud â:
- Chysylltiadau cymdeithasol
- Diogelwch a sefydlogrwydd
Pennod: Gofal cymdeithasol
Meysydd allweddol i'w mesur
- Plant ac oedolion sy’n wynebu risg
- Plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Pennod: Troseddu a chyfiawnder
Meysydd allweddol i'w mesur
- Troseddau casineb
Pennod: Cartrefi a lleoedd
Meysydd allweddol i'w mesur
- Y sefyllfa o ran tai
- Digartrefedd
Pennod: Gofal plant a chwarae
Meysydd allweddol i'w mesur
- Y blynyddoedd cynnar
- Datblygiad plant
Pennod: Materion gwledig, newid hinsawdd a chynaliadwyedd
Meysydd allweddol i'w mesur
- Yr effaith amgylcheddol mewn ardaloedd lle mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn byw
Cyswllt
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r canlynol:
Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb
Hil ac Anabledd
Caerdydd
CF10 3NQ
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.