Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir a chamau gweithredu manwl ar gyfer meysydd polisi

Cefndir a rhesymeg dros gamau gweithredu ym meysydd gwahanol arweinyddiaeth a pholisïau

Wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu hwn, rydym wedi canolbwyntio ar chwe ffordd y mae hiliaeth yn effeithio ar fywydau pobl ethnig leiafrifol, er enghraifft o ran:

  • eu profiad o hiliaeth mewn bywyd pob dydd
  • eu profiad o hiliaeth wrth ddefnyddio gwasanaethau
  • eu profiad o hiliaeth wrth fod yn rhan o’r gweithle
  • eu profiad o hiliaeth wrth gael swyddi a chyfleoedd
  • eu profiad pan nad oes ganddynt fodelau rôl gweladwy mewn swyddi dylanwadol
  • eu profiad o hiliaeth fel ffoaduriaid neu geiswyr lloches

Mae’r diagram isod (a welir hefyd ar dudalen 14) yn dangos y rhyngwyneb rhwng y chwe maes a gweledigaeth, gwerthoedd a diben y gwaith hwn.

Fel Llywodraeth, caiff ein gwaith ei gynllunio a’i gyflawni’n bennaf yn ôl meysydd polisi, fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Addysg, felly rydym wedi nodi’r camau gweithredu ar wahân yn ôl meysydd polisi. Mae hyn yn ffordd gliriach o ddangos atebolrwydd am gynnydd, ond rydym yn cydnabod nad yw pobl yn dod ar draws y meysydd polisi hyn ar wahân yn eu bywydau. Gwnaethom ddefnyddio’r ffyrdd gwahanol y mae pobl yn wynebu hiliaeth mewn agweddau gwahanol ar eu bywydau i lywio’r gwaith o ddatblygu’r camau gweithredu, ac erys yn bwynt cyfeirio allweddol o hyd.

Rydym wedi rhannu ein cynllun gweithredu’n fwy na 12 o feysydd. Ar gyfer pob un, rydym yn cyflwyno ychydig o dystiolaeth, yn esbonio’r cefndir a’r rhesymeg dros ein ffocws a’r ffordd y mae’n llywio’r camau gweithredu manwl a amlinellir, o dan feysydd polisi gwahanol, yn yr adran hon.

Mae’r elfen drawsbynciol a’r camau gweithredu mewn perthynas â’r Amgylchedd a Newid Hinsawdd wedi’u gohirio dros dro. Rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2022, byddwn yn llunio cynllun gweithredu mwy cynhwysfawr i gynnwys ein gwaith ar newid hinsawdd, materion gwledig a’r amgylchedd, yn seiliedig ar dystiolaeth o’r data a gasglwn ac o brofiadau bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ledled Cymru.

Rydym yn cydnabod bod newid hinsawdd ac arferion sy’n niweidiol i’r amgylchedd yn cael effaith anghymesur ar bobl ethnig leiafrifol yn lleol ac yn fyd-eang. Fodd bynnag, mae eu treftadaeth, eu diwylliant a’u crefyddau yn cynnig cysylltiad cryf iddynt â’u hamgylchedd, a pharch tuag ato.

Rydym wedi datblygu Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sydd â’r nod o annog pobl leol i gymryd rhan ym myd natur ar garreg y drws. Rydym wedi mynd ati’n fwriadol i annog mwy o gyfranogiad gan gymunedau ethnig lleiafrifol, a byddwn yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd mewn perthynas â hyn.

Mae arweinwyr polisi ym meysydd Newid Hinsawdd, Materion Gwledig a’r Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru eisoes yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd mewn perthynas â mwy o gyfranogiad a chamau gweithredu ar gyfer grwpiau ethnig lleiafrifol mewn gwaith fel ein hadolygiad o Lwybr Arfordir Cymru, wrth ddarparu grantiau a chyllid i gymunedau, wrth ddatblygu dull newydd o ymdrin â Ffermio Cynaliadwy ac, wrth gwrs, effaith newid hinsawdd ar gymunedau ethnig lleiafrifol yma yng Nghymru ac yn fyd-eang. Byddwn yn cyflwyno ein tystiolaeth dros newid a’r camau gweithredu i’r Grŵp Atebolrwydd ym mis Rhagfyr 2022.

Mae cefnogi plant a theuluoedd yn ymrwymiad parhaus i Lywodraeth Cymru. Mae’r nodau a’r camau gweithredu o ran gofal plant a chwarae a nodir yn yr adran Gofal Plant a Chwarae (Adran B12, tudalen 131) yn ffocws allweddol, ac mae’r adran hon wedi’i chynnwys mewn ymateb i faterion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y cynllun drafft.

Fodd bynnag, mae ein hymrwymiad i blant a theuluoedd yn mynd y tu hwnt i hynny, a cheir ffocws cryf ar gynnal hawliau plant. Mae ein gwaith yn cynnwys mynd i’r afael ag effaith bosibl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, cefnogi teuluoedd drwy ein rhaglenni Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, cymorth ehangach i rieni a datblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant. Mae’r gydberthynas rhwng rhieni a phlant ac amgylchedd y cartref yn allweddol, ochr yn ochr â’r gallu i gael gwasanaethau gofal plant, chwarae, addysg ac iechyd o ansawdd uchel.

Bydd yr Is-adran Plant a Theuluoedd yn parhau i drafod â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn deall y materion a wynebir ganddynt mewn perthynas â chymorth i blant a theuluoedd, a bydd yn nodi’r camau gweithredu pellach y byddwn yn eu cymryd erbyn diwedd 2022.

Yn olaf, rydym yn cydnabod bod yr adran ar Gymunedau yn y cynllun drafft yn canolbwyntio’n bennaf ar anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches; ein gwaith ar fod yn Genedl Noddfa. Rydym wedi newid y teitl i adlewyrchu’r gwaith hwn yn well.

Rydym yn rhoi esboniad ynghylch pob agwedd ar y Nodau a amlinellwyd ac yn nodi’r camau gweithredu manwl ar gyfer Arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru ac ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac wedyn ar gyfer pob maes polisi yn yr adran hon.

Arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus yng Nghymru

Ychydig o dystiolaeth

Yn 2020 i 2021, ni chynigiwyd unrhyw benodiadau cyhoeddus newydd gan Lywodraeth Cymru i unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a chynigiwyd llai na 5% o ailbenodiadau cyhoeddus i’r unigolion hynny (lle mae ethnigrwydd y penodai yn hysbys) (Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, 2021), o gymharu â 5.9% a 18.2% yn y drefn honno yn y flwyddyn flaenorol (Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, 2020). Fodd bynnag, oherwydd tarfu’r pandemig, cafodd llawer o gystadlaethau eu gohirio; fel y cyfryw, mae angen bod yn ofalus wrth ddod i unrhyw gasgliadau ar sail data 2020 i 2021. Yn 2018 i 2019, cynigiwyd 2.7% o benodiadau cyhoeddus newydd a 3.8% o ailbenodiadau cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (lle mae ethnigrwydd y penodai yn hysbys) (Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, 2019).

Yn etholiad 2021 Senedd Cymru, etholwyd tri aelod o gefndir ethnig lleiafrifol (5% o’r holl Aelodau a etholwyd). Ers 2015, mae cynrychiolaeth ethnig leiafrifol ymhlith staff yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, fel canran o’r staff yr oedd eu hethnigrwydd yn hysbys, wedi cynyddu o 6.7% i 7.4% erbyn 31 Mawrth 2021 (cyfraddau ymateb dros 95%). Mae hyn yn cymharu â 13.2% o’r boblogaeth economaidd weithredol yng Nghymru a Lloegr (Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, 2021).

Cyflwyniad

Ein gweledigaeth yw un lle mae Llywodraeth Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus a ariennir ganddi yn wrth-hiliol, a bod diwylliant o ddim goddefgarwch tuag at hiliaeth drwy’r sector cyhoeddus cyfan. Mae’r adran hon yn ymdrin â dyhead Llywodraeth Cymru i fod yn wrth-hiliol, a’i chyfrifoldeb i arwain ym maes gwrth- hiliaeth yn y sector cyhoeddus ehangach er mwyn ein galluogi a’n hwyluso i gyflawni cyfrifoldeb ar y cyd i ddod yn genedl wrth-hiliol, a’n dwyn i gyfrif am hynny.

O ran Llywodraeth Cymru, fel cyflogwr o fwy na 5,000 o bobl, mae’n rhaid inni fod yn esiampl i sefydliadau eraill yng Nghymru. Mae’n rhaid inni hefyd greu tipyn o fomentwm dros y newidiadau sydd eu hangen drwy’r sector cyhoeddus cyfan. Bydd angen i sefydliadau adolygu’r ffordd y maent yn gweithredu, yn datblygu polisïau, yn darparu gwasanaethau ac yn cyd-lunio â chymunedau ethnig lleiafrifol, a gwella’n barhaus. Bydd angen inni gyd-blethu gwrth-hiliaeth drwy ein holl bolisïau ac arferion. Mae’n rhaid inni allu dangos ein bod yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ethnig leiafrifol.

Bydd ein hadrannau yn Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’u partneriaid cyflawni, er enghraifft, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a chyrff diwylliannol a threftadaeth, i ddefnyddio’r dulliau mwyaf priodol o ymgorffori’r newidiadau hyn yn eu prosesau llunio polisïau a darparu gwasanaethau. Drwy’r cydberthnasau unigryw hyn â’r sefydliadau a ariannwn, a’r gwahanol adnoddau a’r sbardunau a ddefnyddiwn, y byddwn yn gallu gwneud y newid diwylliannol sydd ei angen er mwyn i wrth-hiliaeth ymwreiddio drwy’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector cyfan.

Yr hyn a wyddom

Gwyddom ein bod ni, fel sefydliad, ymhell o fod yn gynrychioliadol ac ymhell o wasanaethu cymunedau Cymru yn briodol yn ein sefydliad. Mae angen inni wneud rhagor, felly rydym wedi pennu nifer o dargedau yn Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu: 2021 i 2026 er mwyn sicrhau, erbyn 2026, y bydd 20% o’r bobl rydym yn eu recriwtio yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol (Llywodraeth Cymru, 2021e).

Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddyrchafu staff ethnig lleiafrifol ar lefel sy’n uwch na’u cyfran o’r boblogaeth, er mwyn mynd i’r afael â thangynrychiolaeth ar bob lefel o’r sefydliad. Yn ogystal â cheisio cynyddu niferoedd ar bob lefel o’r sefydliad, byddwn yn edrych ar brofiadau pobl o weithio yn Llywodraeth Cymru ac yn ceisio adolygu a datblygu polisïau cadarn i hwyluso datblygiad gyrfa, a phrosesau i dynnu sylw at hiliaeth.

Yr hyn a wnawn

Byddwn yn gweithio gydag arweinwyr ar bob lefel am ein bod yn credu bod arweinyddiaeth a sgiliau arwain a doethineb i’w cael ar bob lefel o bob sefydliad. Er mwyn sicrhau ein bod yn wir yn cymryd y camau gweithredu a nodir yn y cynllun hwn, bydd ein huwch-arweinwyr yn gosod esiampl, drwy fod yn atebol o dan ein system rheoli perfformiad am fod yn wrth-hiliol. Bydd angen i’r ffordd y mae’r sector cyhoeddus yn gweithredu, er enghraifft y defnydd a wneir o ddata, polisïau a threfniadau ariannu, adlewyrchu ein hymrwymiad i wrth-hiliaeth. A bydd yn rhaid i’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau ac yn ymgysylltu â lleiafrifoedd ethnig ystyried ystyriaethau diwylliannol ac ieithyddol.

Byddwn yn nodi’n benodol yr hyn y byddwn yn ei ddisgwyl gan y rhai a ariannwn er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth drwy:

  • ddefnyddio’r dulliau ysgogi sydd ar gael inni ar ffurf llythyrau cylch gwaith, trefniadau ariannol a’n Grŵp Atebolrwydd newydd
  • disgwyl i sefydliadau ddangos sut y byddant yn sicrhau cydymffurfiaeth sylfaenol â Deddf Cydraddoldeb 2010 o leiaf, ac yn cymryd camau i fynd i’r afael â hiliaeth a monitro camau gweithredu yn flynyddol.

Er mwyn cyflawni sector cyhoeddus gwrth-hiliol yng Nghymru, rydym wedi nodi set glir o nodau a chamau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni er mwyn sicrhau gwrth-hiliaeth ac, felly, rydym yn disgwyl i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus wneud yr un fath. Bydd y meysydd gwahanol yn anelu at wneud y canlynol:

  • dangos ymrwymiad gweladwy i wrth-hiliaeth:
    • newid ymddygiad a gwerthoedd
    • defnyddio camau cadarnhaolrecriwtio
    • camu ymlaen mewn gyrfa
    • uwch-arweinyddiaeth
    • cynrychiolaeth ar fyrddau
  • ymgorffori ffyrdd o weithio i fynd i’r afael â hiliaeth:
    • defnyddio pob dull ysgogi i fynd i’r afael â hiliaeth
    • defnyddio data a thystiolaeth
    • llunio polisïau
    • defnyddio cyllid a grantiau
  • ymgysylltu a darparu gwasanaethau gwrth-hiliol:
    • ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chymhwysedd yn y ffordd rydym yn cyfathrebu
    • gwasanaethau iaith a dehongli
    • gwasanaethau eirioli
  • ymgorffori atebolrwydd a dangos cynnydd:
    • trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd

Y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat ehangach a ariennir gan y Llywodraeth

O ran y cyfrifoldeb sydd arnom i arwain y sefydliadau hynny a ariannwn yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat, rydym wedi nodi pum cam gweithredu craidd y byddwn yn eu disgwyl ganddynt ac y byddwn yn eu dwyn i gyfrif yn eu cylch, drwy ein Grŵp Atebolrwydd:

  1. Dangos ymrwymiad cadarn i arwain o’r blaen o ran gwerthoedd gwrth-hiliol, ymdddygiadau, cynrychiolaeth ar bob lefel o’ch sefydliad a mesurau atebolrwydd.
  2. Cymryd rhan ym mhob proses gwneud penderfyniadau a grŵp uwch-arweinwyr mewn ffordd sy’n ei gwneud yn bosibl i glywed profiadau bywyd pobl ethnig leiafrifol a gweithredu arnynt.
  3. Bodloni gofynion sylfaenol Deddf Cydraddoldeb 2010 o leiaf, a chyhoeddi eich canlyniadau mewn fforwm/llwyfan agored a hygyrch..
  4. Sicrhau safonau gofynnol a darpariaeth gwasanaethau diwylliannol sensitif a phriodol, gan gynnwys darparu gwasanaethau cyfieithu a dehongli.
  5. Sicrhau polisïau a phrosesau cwyno cadarn ar gyfer achosion o aflonyddu hiliol sydd wedi’u dilysu er boddhad grwpiau ethnig lleiafrifol.

Dangos ymrwymiad gweladwy i wrth-hiliaeth

Nod: Sicrhau newid sylweddol mewn diwylliant, gan gynnwys newid ymddygiad, yn y sefydliad, tuag at werthoedd ac ymddygiadau gwrth-hiliol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Bydd yn ofynnol i bob uwch-arweinydd (Uwch-was Sifil) yn Llywodraeth Cymru gael un amcan perfformiad sy’n gysylltiedig â gwrth-hiliaeth rhwng 2022 a 2023.

Bydd aelodau Bwrdd Llywodraeth Cymru yn cael adroddiadau rheolaidd ar y cynllun ac yn cael eu gwahodd i ystyried eu hamrywiaeth, eu hanghenion dysgu a’u hamcanion perfformiad eu hunain o ran gwrth-hiliaeth.

Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn cyhoeddi ac yn esbonio’r gofyniad i uwch-arweinwyr ac aelodau Bwrdd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyfeirio adnoddau i gefnogi’r cam gweithredu hwn.

Bydd Bwrdd Llywodraeth Cymru a phob uwch-arweinydd wedi ymrwymo i ymgorffori gwrth-hiliaeth ym mhob agwedd ar bolisi ac arferion Llywodraeth Cymru.

Bydd uwch-arweinwyr yn gwneud penderfyniad hyddysg ynghylch y perfformiad/ymddygiadau/ gweithredoedd y byddant yn eu dewis i ddangos eu hamcanion, a thrwy hynny, ddangos dealltwriaeth well ac ymrwymiad i wrth-hiliaeth.

Ebrill 2023.

  • Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru gyda chymorth Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.

Rhoi cymorth allweddol, gan gynnwys cymorth cynefino, hyfforddiant, mentora, mentora o chwith, seminarau a digwyddiadau er mwyn sicrhau bod deall gwrth-hiliaeth yn eitem gyson ar yr agenda.

Bydd rhaglen o ddigwyddiadau, mentora o chwith a hyfforddiant ar wrth-hiliaeth ar gael i bob arweinydd.

Bydd gwrth-hiliaeth wedi’i hymgorffori yn Strategaeth newydd yr Uwch- wasanaeth Sifil erbyn mis Mehefin 2022.

Bydd pob uwch-arweinydd yn gwybod sut beth yw ymddygiadau gwrth-hiliol yn y fframwaith arwain ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Ebrill 2023.

  • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru mewn ymgynghoriad â’r Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Bydd Academi Wales yn datblygu ymddygiadau ar gyfer arweinwyr a fydd yn rhan o’r Fframwaith Ymddygiadau ar gyfer Arweinwyr i gefnogi’r cam gweithredu hwn.

Cynhelir adolygiad ar y cyd o’r dangosyddion perfformiad a fabwysiadwyd gan uwch- arweinwyr er mwyn sicrhau eu bod yn fwy nag ymarfer ticio bylchau ac y caiff gwersi a ddysgwyd eu rhannu ag aelodau’r Grŵp Atebolrwydd a Bwrdd Llywodraeth Cymru.

Bydd Academi Wales yn adolygu ac yn cyd-lunio ymddygiadau ar gyfer arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd ag arweinwyr ethnig lleiafrifol.

 

Ebrill 2023.

  • Academi Wales.
  • Prif Swyddog Gweithredol Llywodraeth Cymru i’w gomisiynu.

Nod: Datblygu a chyflwyno gwasanaeth Adnoddau Dynol gwrth-hiliol cyfannol a fydd yn esiampl i wasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru, gan fod yn agored am ei arferion a’r gwersi a ddysgwyd o arferion gorau mewn sefydliadau eraill.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Ceisio cymorth gan ymgynghorwyr arbenigol â phrofiad bywyd priodol a phrofiad o weithio’n effeithiol mewn llywodraeth i adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion adnoddau dynol Llywodraeth Cymru (o ymuno i ymadael) er mwyn sicrhau eu bod yn amlwg yn wrth-hiliol.

Caiff argymhellion o ran sut y gall ein polisïau, ein gweithdrefnau a’n harferion mewnol fod yn wrth-hiliol eu rhannu a’u rhoi ar waith.

Polisïau, gweithdrefnau ac arferion adnoddau dynol cadarn a gwell sy’n wrth-hiliol, a chanlyniadau gwell i staff ethnig lleiafrifol mewn perthynas ag arferion recriwtio, camu ymlaen ac ymadael wedi’u mesur drwy’r Arolwg Staff.

Haf 2023.

  • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.

Nod: Sicrhau bod gweithlu Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfran o staff ethnig lleiafrifol sy’n hafal i’r gyfran ym mhoblogaeth Cymru gyfan (tua 6% ar hyn o bryd) ar bob lefel a bod grwpiau ethnig lleiafrifol yn cael eu denu i weithio yn Llywodraeth Cymru ac yn ei hystyried yn gyflogwr o ddewis, gan ennyn eu hyder y byddant yn cael gyrfa werth chweil ac yn gwireddu eu potensial yn llawn.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Datblygu camau gweithredu penodol, gan ddefnyddio dull gweithredu cadarnhaol, i sicrhau bod 20% o’n recriwtiaid yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol erbyn 2026, ar bob lefel o’r sefydliad.

Caiff safonau allgymorth eu datblygu a chyhoeddir adroddiad blynyddol ar gynnydd.

Bydd hyn yn cefnogi ein nod o fod yn fwy cynrychioliadol o boblogaeth Cymru gyfan, gydag o leiaf 6% o’r holl staff ar bob lefel yn Llywodraeth Cymru yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol.

Ni fydd canlyniadau staff ethnig lleiafrifol yn waeth na chanlyniadau eu cydweithwyr nad ydynt o gefndir ethnig lleiafrifol, yn ôl cyfweliadau profiadau bywyd, wrth weithio i Lywodraeth Cymru a bydd pob aelod o staff yn meddu ar ddealltwriaeth well o arferion da mewn perthynas â recriwtio a chadw ac ymadael gwrth- hiliol, ac yn eu dilyn.

2026.

  • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.

Nod: Parhau i ymgorffori dull gweithredu cadarnhaol yn ein polisïau a’n gweithdrefnau recriwtio, cadw a chamu ymlaen. (Gweithredu cadarnhaol yw amrywiaeth o fesurau a ganiateir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.)

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Ymgorffori dull gweithredu cadarnhaol mewn prosesau recriwtio, camu ymlaen a chyfweliadau.

Gwella dealltwriaeth o weithredu cadarnhaol yn ôl diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 a deall sut i’w ymgorffori yn eu gwaith.

 

Bydd swyddogion yn wybodus ac yn hyderus i ymgorffori dull gweithredu cadarnhaol mewn prosesau recriwtio, cadw a chamu ymlaen. Bydd cyfraddau cadw a chamu ymlaen ar gyfer staff ethnig lleiafrifol yr un fath â’r rhai ar gyfer staff nad ydynt o gefndir ethnig lleiafrifol.

Erbyn 2026, byddwn wedi cyflawni ein targed recriwtio i sicrhau bod 20% o’r staff ar bob lefel o’r sefydliad ac aelodau’r Bwrdd yn dod o grwpiau ethnig lleiafrifol. O ganlyniad, bydd o leiaf 6% o’r holl staff ar bob lefel yn Llywodraeth Cymru yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol.

2023.

  • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu (mentora ac ati) i staff ethnig lleiafrifol yn y sefydliad.

 

Ni fydd canlyniadau staff o grwpiau ethnig lleiafrifol yn waeth na chanlyniadau staff nad ydynt o grwpiau ethnig lleiafrifol mewn perthynas â chamu ymlaen a dyrchafu.

Bydd aelodau o Rwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol sy’n manteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu penodol yn nodi lefelau uchel o foddhad.

2023.

  • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cydlunio cynlluniau prentisiaethau a rheoli talent i reolwyr canol newydd i ddenu ymgeiswyr o gymunedau ethnig lleiafrifol er mwyn cyflawni ein targedau recriwtio.

 

Bydd canlyniadau’r cynlluniau prentisiaethau a rheoli talent i reolwyr canol newydd yn adlewyrchu poblogaeth ethnig leiafrifol Cymru.

 

  • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.

Nod: Sicrhau y bydd staff ethnig lleiafrifol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu grymuso a’u galluogi i wireddu eu potensial yn llawn.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Parhau i gefnogi Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol a neilltuo adnoddau iddo, gan wrando ar ei aelodau ac ymgysylltu â nhw er mwyn gweld pa gymorth arall sydd ei angen.

Mae gan y rhwydwaith staff adnoddau priodol ac mae’n cefnogi aelodau yn y sefydliad.

Mae’r sgoriau mewn perthynas ag ymgysylltu, cynnwys a thriniaeth deg ar gyfer staff ethnig lleiafrifol cystal neu’n well na chyfartaledd Llywodraeth Cymru.

Yn barhaus.

  • Tîm Cydraddoldeb yn y Gweithle Llywodraeth Cymru.

Parhau i ymgysylltu â staff ethnig lleiafrifol nad ydynt yn aelodau o’r Rhwydwaith drwy nifer o sianeli.

 

Mae staff ethnig lleiafrifol yn fwy ymwybodol o sianeli ymgysylltu’r sefydliad ac mae ganddynt fwy o hyder ynddynt.

2024.

  • Tîm Cydraddoldeb yn y Gweithle Llywodraeth Cymru.

Dysgu gwersi o gynllun peilot y Bwrdd Cysgodol sy’n cynnwys aelodau o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys cynrychiolwyr ethnig lleiafrifol.

Cyhoeddwyd gwerthusiad gan y Bwrdd Cysgodol sy’n rhoi ystyriaeth benodol i brofiad, ac argymhellion, staff ethnig lleiafrifol.

Rhennir gwerthusiad o’r cynllun peilot â’r Grŵp Atebolrwydd a throsglwyddir gwersi a ddysgwyd i sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

2024.

  • Tîm Cydraddoldeb yn y Gweithle Llywodraeth Cymru.

Nod: Mabwysiadu polisi ar gyfer ymateb i hiliaeth yn y sefydliad wedi’i gyd-lunio â staff ethnig lleiafrifol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Adolygu a chyd-lunio polisïau a phrosesau Urddas yn y Gwaith â staff ethnig lleiafrifol er mwyn sicrhau bod yr agweddau ar aflonyddu hiliol yn briodol ac yn gyfredol.

Polisi diwygiedig ar waith.

 

2024.

  • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.

Sicrhau bod paneli recriwtio yn amrywiol a, lle bynnag y bo modd, yn cynnwys rhywun o gefndir ethnig lleiafrifol, gan ddechrau gyda’n uwch-rolau.

Gwella ein prosesau ymadael er mwyn sicrhau, pan fydd cydweithwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn ein gadael, ein bod yn deall y rhesymau dros hynny ac yn gallu mynd i’r afael â nhw.

Monitro cynrychiolaeth ar banel recriwtio/panel staff yr Uwch Wasanaeth Sifil Caiff cyfweliadau ymadael uwch-weision sifil eu cynnal gan Dîm Uwch-reolwyr yr adran Adnoddau Dynol.

Caiff canllawiau a phrosesau eu datblygu ar gyfer cyfweliadau ymadael staff ar raddau eraill.

Mae’r broses recriwtio yn arwain at ganlyniadau mwy amrywiol.

Mae gan staff ethnig lleiafrifol fwy o hyder mewn prosesau recriwtio.

Y gallu nodi themâu/materion a’r camau gweithredu sydd eu hangen.

Diwedd 2022.

  • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.

Nod: Cyhoeddi bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cyhoeddi ein bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd.

Bydd tystiolaeth ar gael i dynnu sylw at y bylchau cyflog sy’n bodoli ar lefelau gwahanol yn Llywodraeth Cymru.

Y gallu i nodi tueddiadau, camau gweithredu a phrosesau i ddileu’r bwlch cyflog.

Haf 2023.

  • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.

Nod: Defnyddio data meintiol ac ansoddol (gan gynnwys profiadau bywyd) i fonitro a gwella ein prosesau recriwtio, cadw ac ymadael a’r profiad o weithio yn Llywodraeth Cymru.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Casglu data ar gynnydd yn erbyn y targedau llif uchod ac ymgeiswyr i raglenni recriwtio a hysbysebion swydd unigol, lle gwelodd yr ymgeiswyr yr hysbysebion swydd, secondiadau o’r tu allan a secondiadau i’r tu allan.

Yn dilyn yr adolygiad o’r systemau a’r prosesau adnoddau dynol uchod, caiff argymhellion ar gyfer data eu hadolygu a’u rhoi ar waith.

Bydd gan bobl ethnig leiafrifol y tu mewn a’r tu allan i’r sefydliad ddata i fesur cynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â recriwtio a’r holl brosesau adnoddau dynol eraill.

Cesglir data meintiol ac ansoddol, gan gynnwys profiadau bywyd, er mwyn rhannu ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hiliaeth o’r cam recriwtio i ymadael.

Dechrau 2024.

  • Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.

Nod: Sicrhau bod uwch-arweinwyr yn y sector cyhoeddus yn gynrychioliadol ac yn gynhwysol, felly hefyd holl Fyrddau’r gwasanaethau cyhoeddus a’r sefydliadau yn y trydydd sector a ariannwn.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Rhoi Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus 2020 ar waith, gan gynnwys:

  • Cadeiryddion pob corff rheoleiddiedig i sicrhau bod gan bob aelod o’r Bwrdd (gan gynnwys nhw eu hunain) amcan amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn cynnwys gwrth-hiliaeth fel rhan o’u system rheoli perfformiad.
  • Grwpiau rhanddeiliaid perthnasol i drafod amcanion cadeiryddion a Gweinidogion neu Uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru i gytuno arnynt.
  • Comisiynu a chyflwyno amrywiaeth o hyfforddiant ar gyfer Byrddau Rheoleiddiedig, a throsglwyddo’r arferion da sy’n deillio o hyn i’r Byrddau eraill a ariannwn.

Rhaglen arweinyddiaeth i’r rhai sy’n agos at fod yn barod ar gyfer penodiadau cyhoeddus ar gyfer grwpiau ethnig lleiafrifol, sydd â diddordeb mewn ymgeisio am rolau cyhoeddus.

Rhaglen datblygu darpar arweinwyr cyhoeddus wedi’i thargedu at grwpiau ethnig lleiafrifol sydd â’r nod o arddangos a chefnogi unigolion sy’n awyddus i ymgeisio am gyfleoedd cyhoeddus yn y tymor canolig a’r hirdymor.

Bydd cadeiryddion cyrff rheoleiddiedig wedi nodi un amcan yn eu system rheoli perfformiad sy’n gysylltiedig â gwrth-hiliaeth.

Bydd cadeiryddion wedi cael trafodaeth â’u priod Weinidogion ynghylch eu perfformiad mewn perthynas â mynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol.

Bydd Byrddau Rheoleiddiedig wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant ar wrth-hiliaeth.

Erbyn haf 2023.

Erbyn haf 2023.

  • Yr Uned Cyrff Cyhoeddus.
  • Yr Uned Cyrff Cyhoeddus.

Arweinyddiaeth: yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar sail Hil i gwmpasu a threialu casgliad data o nodweddion cydraddoldeb Cyrff Sector Cyhoeddus rheoleiddiedig (gan gynnwys hil) yn 2022-23 er mwyn cynnal arolwg sylfaenol ar gyfer 2023-24. Cyhoeddir asesiad cychwynnol o’r cynllun peilot yn haf 2023.

Darlun clir o’r sefyllfa ar Fyrddau yng nghyrff cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn yr arolwg sylfaenol cychwynnol o gasgliad data cydraddoldeb Cyrff Sector Cyhoeddus, byddwn yn pennu targedau meintiol i gynyddu cynrychiolaeth ethnig leiafrifol ar gyrff rheoleiddiedig. Caiff targedau hefyd eu pennu ar gyfer grwpiau gwarchodedig eraill.

Y gallu i fesur ac adrodd ar gynnydd.

Arolwg sylfaenol 2022 i 2023.

  • Y Tîm Tystiolaeth Gwahaniaethau ar sail Hil.

Hwyluso cyfleoedd wedi’u teilwra’n benodol, gan gynnwys mentora, hyfforddi, mentora cymunedol, mentora o chwith i arweinwyr cymunedol gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, a fydd o fudd i’r ddwy ochr ac i wasanaethau cyhoeddus.

Mae amrywiaeth o gyfleoedd yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar gael ac wedi’u cyhoeddi’n eang i arweinwyr cymunedol.

Mwy o fenywod a phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol mewn rolau arwain.

Cyfleoedd i ymuno a chamu ymlaen hyd at lefel uwch-arweinwyr a Byrddau.

Ar waith erbyn diwedd 2023.

  • Yr Uned Cyrff Cyhoeddus.

Ehangu argaeledd cyfleoedd i arweinwyr cymunedol gymryd rhan wrth ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau (gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus), gan gynnig cydnabyddiaeth am hynny lle y bo’n bosibl ac yn briodol.

Datblygu rhaglen allgymorth, ymgysylltu ag arweinwyr cymunedol a nodi cyllideb i dalu pobl am eu hamser.

Profiad bywyd arbenigol wedi’i ymgorffori mewn prosesau llunio polisi a gwneud penderfyniadau.

Gwasanaethau gwell i bawb.

Erbyn haf 2023.

  • Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Datblygu grŵp craidd o gynghreiriaid ymrwymedig ar draws gwasanaethau cyhoeddus i ymgorffori gwrth-hiliaeth.

Bydd adrannau a thimau noddi yn gweithio gyda chyrff cyflawni i ddatblygu gallu ac adnoddau a meithrin dealltwriaeth well o’r camau gweithredu sy’n ofynnol gan gynghreiriaid gwrth-hiliaeth.

Bydd yr Uned Cyrff Cyhoeddus i arwain cyfathrebu corfforaethol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol i rannu arferion gorau a hwyluso arferion gwell.

Bydd disgwyliad ar gyrff cyhoeddus i greu rhaglen o ddigwyddiadau a chanllawiau ar yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn gynghreiriad a sut i fynd i’r afael â hiliaeth a chefnogi pobl ethnig leiafrifol.

Caiff hyfforddiant ar reoli tîm croestoriadol aml-hil ei gomisiynu.

Bydd mentoriaid a hyfforddwyr sy’n gynghreiriaid gweithredol y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru ar gael i staff ethnig lleiafrifol.

Bydd yr Uned Cyrff Cyhoeddus yn ymgysylltu ag uwch arweinwyr cyhoeddus drwy’r Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus.

Bydd yr Uned Cyrff Cyhoeddus yn sefydlu a rheoli rhwydwaith mewnol gyda Thimau Partneriaeth i rannu a hybu arferion gorau ac yn sefydlu a hwyluso rhwydwaith allanol gyda rhanddeiliaid perthnasol â nodweddion gwarchodedig gyda nod tebyg.

Bydd pob arweinydd ar bob lefel o’r sefydliad yn meithrin dealltwriaeth well o hiliaeth, gwrth-hiliaeth a dynameg gwahaniaethu croestoriadol ac yn mynd ati i fynd i’r afael â hiliaeth, gan gynnwys microymosodiadau, a chefnogi staff ethnig lleiafrifol.

Erbyn diwedd 2022.

Erbyn haf 2023.

  • Yr Uned Cyrff Cyhoeddus i adrodd ar gynnydd timau noddi.

Gwaith cydgysylltiedig i helpu arweinwyr cymunedol i ddatblygu’r cyflenwad o unigolion ar gyfer penodiadau cyhoeddus a galluogi pobl ethnig leiafrifol i ymuno â gweithlu’r gwasanaethau cyhoeddus, gan ganolbwyntio’n benodol ar fenywod ethnig lleiafrifol nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn rolau arwain.

Datblygu rhaglen gydweithredol o gymorth i arweinwyr cymunedol o grwpiau ethnig lleiafrifol i’w helpu i ymuno â gweithlu’r gwasanaethau cyhoeddus.

Mwy o fenywod a phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol mewn rolau arwain.

Cyfleoedd i ymuno a chamu ymlaen hyd at lefel uwch-arweinwyr a Byrddau.

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • Tîm y Trydydd Sector.
  • Yr Uned Cyrff Cyhoeddus.

Nod: Sicrhau bod y sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector a ariannwn yn gweithio i sicrhau na chaiff hiliaeth ei goddef.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Bydd Academi Wales yn adolygu ac yn cydlunio ei Fframwaith Ymddygiadau ar gyfer Arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ymgorffori ymagwedd wrth-hiliol yn yr adolygiad hwnnw.

Bydd Academi Wales yn rhannu’r ymddygiadau drafft â’r Grŵp Atebolrwydd ac, yn benodol, yr arbenigwyr drwy brofiad a benodwyd i gytuno ar y fframwaith newydd cyn ei fabwysiadu a’i gyhoeddi.

Fframwaith ymddygiadau diwygiedig.

Bydd yr ymddygiadau a ddisgwylir gan arweinwyr ar bob lefel er mwyn creu Cymru wrth-hiliol yn glir i bawb.

Ebrill 2023.

  • Academi Wales.

Ymgorffori ffyrdd o weithio i fynd i’r afael â hiliaeth

Nod: Sicrhau bod pob sefydliad a noddir ac a ariennir gennym yn ymrwymo i fodloni gofynion sylfaenol dyletswyddau Deddf Cydraddoldeb 2010 o leiaf.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Defnyddio’r holl sbardunau sydd ar gael i ymgorffori dulliau gwrth-hiliol ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus, gan gynnwys:

  • llythyrau cylch gwaith
  • cyllid
  • adolygiadau perfformiad
  • canllawiau
  • deddfwriaeth

Sicrhau bod prosesau grantiau a chaffael yn wrth-hiliol.

Defnyddio amodau grantiau a chaffael i gymell sefydliadau eraill i wella arweinyddiaeth a chynrychiolaeth a gwrth-hiliaeth yn fwy cyffredinol.

Cyhoeddi datganiadau a chynlluniau gweithredu gwrth-hiliol ar gyfer pob sefydliad a ariennir a’i bartneriaid cyflawni.

Nodi pob sbardun a galluogydd i fynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol.

Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru sy’n adlewyrchu’n well y cymunedau a wasanaethir ganddo gyda gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pawb.

 

  • Llywodraeth Cymru.

Nod: Gwella ein prosesau datblygu polisi yn barhaus er mwyn creu dulliau gwrth-hiliol o ymdrin â phob agwedd ar greu polisi.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Meithrin gallu llunwyr polisi Llywodraeth Cymru drwy gynyddu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hymddygiadau sy’n bwysig i wrth- hiliaeth.

Adnoddau i helpu llunwyr polisi i ddeall a mabwysiadu dull gwrth-hiliol o ymdrin â’u gwaith polisi.

Gall llunwyr polisi Llywodraeth

Cymru feithrin yr wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau i ymgorffori dull gwrth-hiliol o ymdrin â’u gwaith polisi ymhellach.

Dyddiad i’w gytuno â’r tîm Cydraddoldeb a’r tîm Dysgu a Datblygu.

  • Yr Is-adran Gymunedau.
  • Datblygu Sefydliadol ac Ymgysylltu (I’w gadarnhau). Yr Is-adran Dyfodol Ffyniannus.

Parhau i wella’r adnodd Asesu Effaith Integredig, sef dull Llywodraeth Cymru o ddeall ac asesu effaith, a’i ddefnyddio i lywio gwaith llunio polisi sy’n sicrhau canlyniadau cadarnhaol i’r amgylchedd ac i bobl amrywiol Cymru, nawr ac yn y dyfodol.

Gwell adnodd Asesu Effaith Integredig a chanllawiau.

Bydd gwaith llunio polisi Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ddealltwriaeth o’r effaith ar yr amgylchedd a chymunedau amrywiol, nawr ac yn y dyfodol.

Gwelliant parhaus.

  • Yr Is-adran Dyfodol Ffyniannus.

Adolygu a diwygio’r elfen o’r Asesiad Effaith Integredig sy’n asesu’r effaith ar gydraddoldeb, er mwyn helpu staff i gynnal asesiadau effeithiol o’r effaith ar gydraddoldeb, gan gynnwys cymorth i ddeall effaith mewn perthynas â hil fel nodwedd warchodedig a sut i fabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliol yn benodol wrth ystyried effaith.

Gwell adnodd Asesu Effaith Integredig a chanllawiau, gan gynnwys canllawiau ar effaith wrth-hiliol .

Caiff staff eu cefnogi i ddeall effaith polisi ar hil, a’u sbarduno i fabwysiadu ymagwedd wrth-hiliol wrth lunio polisïau Llywodraeth Cymru.

Gwelliant parhaus.

  • Yr Is-adran Gymunedau.

Datblygu cam nesaf y rhaglen Mentoriaid Cymunedol, gan weithio ochr yn ochr ag arweinwyr polisi i bontio rhwng y Llywodraeth a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Y rhaglen Mentoriaid Cymunedol wedi’i chymeradwyo, mentoriaid wedi’u nodi a’u hymgorffori gydag arweinwyr polisi.

Mae unigolion a chymunedau’n teimlo eu bod yn rhan o’r broses o lunio polisi.

Gwasanaethau gwell i bawb.

Ar waith.

  • Y Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol..

Parhau i gynnal cyfarfod rheolaidd â rhanddeiliaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn llywio camau gweithredu a pholisïau Llywodraeth Cymru.

Cynhelir chwe chyfarfod y flwyddyn.

Cyfraniad mesuradwy at bolisi a gwaith cyflawni.

Ar waith.

  • Is-adran Cymunedau.

Nod: Hybu ein defnydd a’n dealltwriaeth o ddata a thystiolaeth fel sail i bolisïau gwrth-hiliol a mesur cynnydd.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Sefydlu’r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn cynnwys:

  • Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil

Bydd yr Unedau Tystiolaeth yn gwneud y canlynol:

  • cynnal ymarfer i fapio ffynonellau presennol o ddata/tystiolaeth ar gydraddoldeb, er mwyn asesu pa mor gyson, cyflawn a manwl ydynt, a nodi bylchau
  • nodi a mynd i’r afael â rhwystrau i wella dulliau presennol o gasglu, cofnodi a defnyddio data ar gydraddoldeb
  • rhoi canllawiau a hyfforddiant i gydweithwyr a rhanddeiliaid ar gasglu data ar gydraddoldeb a ffynonellau tystiolaeth
  • gwneud newidiadau i gasgliadau data presennol a chyflwyno casgliadau data newydd, lle bo angen, er mwyn llenwi’r bylchau mewn tystiolaeth a nodwyd

Cynllun Tystiolaeth Cydraddoldeb Strategol sy’n nodi cwmpas, blaenoriaethau, amserlenni clir a dulliau gweithio, yn cynnwys:

  • Cynllun yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
  • Cynllun Tystiolaeth Cydraddoldeb
  • Map data ar ethnigrwydd, yn cynnwys bylchau
  • Mesurau demograffeg a pherfformiad allweddol sy’n adlewyrchu grwpiau ethnig lleiafrifol
  • Deunyddiau hyfforddi a chanllawiau ar ddefnyddio tystiolaeth ar ethnigrwydd wrth lunio polisi

Mae’r data ar gael yn hawdd i’w defnyddio ym mhob maes polisi, er mwyn adlewyrchu’r penderfyniadau a wneir ar gyfer cymunedau ethnig lleiafrifol yn well.

Caiff profiad bywyd, ar ffurf cydlunio a thystiolaeth ansoddol, ei werthfawrogi yn yr un modd â ffynonellau eraill o dystiolaeth.

Mae data ar ethnigrwydd yn cynnwys dadgyfuno yn ôl rhyw, anabledd a phob nodwedd warchodedig arall lle y bo modd.

Gwell dealltwriaeth o argaeledd, cysondeb, cyflawnder a manylder ffynonellau presennol o ddata/ tystiolaeth ar ethnigrwydd.

Gwelliannau o ran casglu, cofnodi a defnyddio data/tystiolaeth ar ethnigrwydd.

Unedau Tystiolaeth ar waith erbyn mis Ebrill 2022.

Gwaith cynllunio a mapio wedi’i

gwblhau erbyn mis Ionawr 2023.

Caiff y data sydd ar gael ar ddemograffeg a pherfformiad eu cynnal a’u cynllunio’n fanwl yn dilyn yr ymarfer mapio data.

  • Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Ymgysylltu a darparu gwasanaethau gwrth-hiliol

Nod: Sicrhau ein bod yn ymgysylltu â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac yn darparu ein gwasanaethau mewn ffordd ddiwylliannol gymwys a phriodol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Darparu cymorth arbenigol i gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol gael gafael ar wasanaethau, cyngor a budd-daliadau.

Sefydlu gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth ar wahân i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Penodi darparwr gwasanaeth i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â dangosyddion targed penodol.

Bydd y cynllun yn gwella’r gallu i gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys iechyd, cyfleustodau a budd-daliadau.

Erbyn mis Rhagfyr 2022.

  • Yr Is-adran Gymunedau.

Sicrhau y caiff cynnydd tuag at gyflawni’r Cynllun Gwrth-hiliol ei rannu’n eang drwy strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu aml-sianel.

Neilltuo adnoddau priodol i’r strategaeth,

gan gynnwys dulliau marchnata traddodiadol fel taflenni, cyfathrebu digidol fel Cyfryngau Cymdeithasol am Dâl, a dulliau mwy creadigol fel defnyddio Dylanwadwyr.

Strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu wedi’i chymeradwyo ar waith, ac adnoddau wedi’u nodi i’w chyflawni.

Ymwybyddiaeth o waith, cyfleoedd i ymgysylltu wedi’u nodi, a mwy o gydlyniant cymunedol.

Erbyn mis Medi 2022.

  • Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Datblygu system ariannu i gefnogi microsefydliadau ac unigolion sy’n gweithio ym maes gwrth-hiliaeth ac yn wynebu rhwystrau i gael cyllid prif ffrwd.

Cyllid wedi’i nodi, partner cyflawni posibl wedi’i sicrhau a meini prawf a chanllawiau wedi’u cyhoeddi.

Mae’r rhai sy’n gweithio ar reng flaen gwrth-hiliaeth yn gallu ymgysylltu, yn cael eu cydnabod am eu harbenigedd a’u profiad bywyd ac yn cael y cyfle i ddylanwadu ar waith llunio polisi yn y sector cyhoeddus.

Erbyn diwedd 2022.

  • Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol/Y Tîm Polisi Hil.

Creu cronfa ar wahân ar gyfer sefydliadau cymunedol i gefnogi dyddiadau a digwyddiadau allweddol yn ystod y flwyddyn a chodi ymwybyddiaeth ohonynt, gan gynnwys:

  • Windrush
  • Mis Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Mis Hanes Pobl Dduon

Cyllid wedi’i sefydlu a meini prawf a chanllawiau wedi’u cyhoeddi.

Cymorth cynaliadwy hirdymor i godi ymwybyddiaeth o ddyddiadau a digwyddiadau allweddol i ddathlu gwrth-hiliaeth.

Mae cymunedau’n cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd cenedlaethol.

Erbyn mis Rhagfyr 2022.

  • Y Tîm Polisi Cydraddoldeb.

Ymgorffori atebolrwydd a mesur cynnydd

Nod: Sicrhau y caiff nodau a chamau gweithredu eu cyflawni ac y caiff cynnydd ei wneud drwy’r cynllun Gwrth-hiliaeth cyfan.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Sefydlu Grŵp Atebolrwydd a Grŵp Cymorth a Her Mewnol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, wedi’u cefnogi gan arbenigwyr â phrofiad bywyd, a neilltuo adnoddau ar eu cyfer.

Sicrhau y caiff arbenigwyr eu talu’n briodol am eu hamser a’u harbenigedd ac y cânt gymorth cynefino a pharhaus.

Grŵp Atebolrwydd a Grŵp Cymorth a Her Mewnol wedi’u penodi ac arbenigwyr wedi’u nodi a’u recriwtio.

Cynnydd yn erbyn targedau a gyhoeddwyd a gwelliannau sylweddol ym mhob sector wedi’u nodi gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Erbyn hydref 2022.

  • Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Addysg a’r Gymraeg

Ychydig o dystiolaeth

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2021, gostyngodd deilliannau A2 (blwyddyn olaf Safon Uwch) yn fawr iawn i ddysgwyr o gefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Prydeinig, gan ddadwneud llawer o’r cynnydd mewn graddau yn 2019 i 2020, ac arwain at fwlch mawr mewn deilliannau (Llywodraeth Cymru, 2022b).

Ar gyfer y flwyddyn rhwng mis Medi 2019 a mis Awst 2020, disgyblion o gefndir ethnig Sipsiwn oedd â’r gyfradd uchaf o waharddiadau am gyfnod penodol (5 diwrnod neu lai), a disgyblion o gefndir ethnig Gwyn oedd â’r gyfradd uchaf o waharddiadau am gyfnod penodol (dros 5 diwrnod) a gwaharddiadau parhaol. Noder: Nid oes gennym ddata ar gefndir ethnig pob disgybl. Mae’n well gan rai disgyblion beidio â rhoi’r wybodaeth, ac ni chafwyd yr wybodaeth am rai eraill (Llywodraeth Cymru, 2021b).

Mae’r ystadegau ar amrywiaeth y gweithlu addysg yng Nghymru a gyhoeddir gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn dangos bod 1.3% o athrawon ysgol yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn 2021 (Cyngor y Gweithlu Addysg, 2021). Mewn gwrthgyferbyniad, mae’r cyfrifiad ysgol diweddaraf (ym mis Ebrill 2021) yn nodi bod dros 12.1% o ddisgyblion 5 oed neu hŷn yng Nghymru yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (Llywodraeth Cymru, 2021d).

Yn ôl ymchwil gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, roedd chwarter yr ymatebwyr a oedd yn athrawon/ cynorthwywyr addysgu yng Nghymru wedi gweld neu wedi ymateb i achosion o wahaniaethu hiliol neu wedi cael eu hysbysu am wahaniaethu hiliol gan ddisgybl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda 3 o bob 10 o ymatebwyr i’r arolwg a oedd yn ddisgyblion yn cyfaddef eu bod yn hiliol neu’n defnyddio iaith hiliol tuag at ddisgybl arall (Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, 2020).

Canfu ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i aflonyddu hiliol mewn addysg uwch ei fod yn brofiad cyffredin mewn prifysgolion a ariennir drwy arian cyhoeddus ym Mhrydain, a bod achosion helaeth, yn cynnwys aflonyddu hiliol, ymosodiadau corfforol, iaith sarhaus a microymosodiadau. Tynnodd sylw at y problemau yn ymwneud â diffyg dealltwriaeth a hyder ymhlith staff prifysgolion o ran ymdrin â materion hiliol, a oedd yn arwain at beidio â rhoi gwybod am bob achos a thangofnodi (Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2019).

Cyflwyniad

Mae addysg yn hollbwysig i alluogi unigolion i wireddu eu potensial llawn a ffynnu drwy gydol eu bywydau yn hytrach na bodoli a chrafu byw.

Mae’r sefyllfa o ran hil ac ethnigrwydd, ac effaith profiadau plant, pobl ifanc ac oedolion o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn addysg yn gymhleth.

Mae hiliaeth yn realiti o hyd i lawer o’n dysgwyr a’n haddysgwyr. Bydd llawer yn cael profiad o hiliaeth agored ac uniongyrchol, drwy fwlio ac aflonyddu hiliol yn ein lleoliadau addysg, yn aml gan eu cyfoedion. Bydd pob un yn cael profiad o fathau mwy cynnil o hiliaeth drwy realiti pob dydd ein cymdeithas; y systemau, y strwythurau a’r prosesau sy’n arwain at ganlyniadau trawiadol o wahanol i grwpiau ethnig lleiafrifol.

Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cymru ddata ar fwlio ac aflonyddu hiliol, nac ar brofiadau pob dydd plant a phobl ifanc Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn lleoliadau addysg. Mae’r bwlch hwn yn y data yn creu her, am ei fod yn golygu nad oes gennym ddarlun cywir o’r raddfa na’r rhwystrau a wynebir gan blant a phobl ifanc sy’n cael profiad o hiliaeth. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried system o gofnodi a chasglu data i Gymru gyfan, a fydd yn casglu data penodol mewn perthynas â bwlio ac aflonyddu, gan gynnwys ar sail nodweddion gwarchodedig. Bydd y system newydd hon yn ein helpu i gau’r bwlch hwn mewn data a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau bywyd dysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Mae profiadau dysgwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a’r anghydraddoldeb o ran eu deilliannau hefyd yn cael effaith ar eu huchelgais i barhau mewn addysg ar ôl diwedd y cyfnod addysg orfodol. Gall astudio mewn addysg bellach ac addysg uwch gryfhau cyfleoedd unigolion mewn bywyd drwy ehangu eu profiadau a rhoi sgiliau a gwybodaeth hollbwysig iddynt, a all eu helpu i ddatblygu gyrfaoedd yn y dyfodol. Dylai’r profiad o addysg fod yn gadarnhaol i bob myfyriwr ac aelod o staff.

Mae profiad athrawon, darlithwyr ac addysgwyr eraill o gymunedau ethnig lleiafrifol hefyd yn cael effaith, nid yn unig ar y rhai mewn swyddi ond hefyd y rhai sy’n dymuno ymuno â’r proffesiwn.

Yr hyn a wyddom

Mae’r data sydd gennym mewn perthynas â chymwysterau a chyrhaeddiad academaidd yn dangos bod plant a phobl ifanc mewn rhai grwpiau ethnig lleiafrifol yng Nghymru ymhlith y goreuon o ran cyrhaeddiad. Mae eraill ar y pegwn arall o’r raddfa o ran cyrhaeddiad. Fodd bynnag, dim ond rhyw giplun o brofiad addysg y dysgwyr hyn a roddir gan y data. Nid ydynt yn rhoi unrhyw arwydd o’r rhwystrau y mae’r grwpiau hyn yn eu hwynebu ac yn eu goresgyn er mwyn cyflawni ar lefel uchel o ran eu cymwysterau. Nid yw’r data ychwaith yn rhoi unrhyw arwydd sy’n esbonio pam nad yw grwpiau ar y pegwn arall yn ennill cymwysterau.

Dylai dysgwyr a staff o bob ethnigrwydd gael cyfle i gyflawni hyd eithaf eu potensial a bod yn rhan o ddiwylliant gwrth-hiliol. Dylai’r diwylliant barchu a meithrin gwahaniaeth, helpu dysgwyr a staff i deimlo’n ddiogel, cydnabod hanes a phrofiadau gwahanol, a thynnu sylw at ymddygiadau hiliol a gweithredu yn eu cylch. Dylai gefnogi’r rhai sy’n wynebu hiliaeth, mewn ffordd sy’n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso. Os gallwn sicrhau’r trawsnewid hwn, bydd yn fuddiol i holl ddysgwyr a staff ein system addysg, nid yn unig y rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Wrth ddatblygu’r gwaith hwn, clywsom y canlynol

Ar ddechrau’r broses o ddatblygu’r gwaith hwn, clywsom am rai profiadau bywyd ofnadwy gan ddysgwyr o bob oedran, a chan staff drwy’r sector addysg cyfan. Gwnaeth hynny argraff fawr arnom. Dywedwyd wrthym am yr hiliaeth a wynebir gan ddysgwyr, am rieni sy’n cael anhawster i gael eraill i wrando ar eu cwynion, ac am y ffaith bod staff ethnig lleiafrifol a gwyn yn ei chael hi’n anodd ymdrin â hiliaeth a thynnu sylw ati, a’r baich ychwanegol yr oedd hyn yn ei roi ar staff ethnig lleiafrifol.

Yn anad dim, clywsom yn glir iawn nad oedd y rhai â phrofiadau bywyd ym mhob rhan o’r system addysg yn teimlo bod eraill yn gwrando arnynt, a’u bod yn dal i deimlo hynny. Roeddent wedi colli eu llais i raddau helaeth, ac roedd hyn wedi arwain at beidio â rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliol na’u cofnodi yn ein hysgolion a’n colegau. Daeth yn amlwg nad yw’r systemau cofnodi sydd ar waith yn gyson, nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n ennyn hyder y rhai sydd wedi wynebu achosion o aflonyddu ac nad ydynt yn addas at y diben.

Yr hyn a wnawn

Bydd yn ofynnol i bob sefydliad addysg fynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol drwy ddulliau sefydliad cyfan.

Bydd angen iddynt fynd ati i nodi’r systemau a’r polisïau nad ydynt yn ddefnyddiol i grwpiau ethnig lleiafrifol mwyach ac yna eu hail-lunio a’u hymgorffori yn eu strwythurau a’u polisïau. Ymhen amser, rydym hefyd am weld sefydliadau addysgol yn cydweithio i rannu arferion da a datblygu dulliau gweithredu ac adnoddau a rennir.

Ar lefel sefydliadol, byddwn yn adolygu’r Cwricwlwm i Gymru, ein polisïau cwyno, y ffordd rydym yn recriwtio athrawon a myfyrwyr a mwy, ac yn gweithredu ar hynny. Gan gydnabod y cyd-destunau gwahanol y mae ein hysgolion, ein colegau a’n prifysgolion yn gweithredu ynddynt, rydym wedi nodi rhai blaenoriaethau a chamau gweithredu penodol ar gyfer pob sector (gweler isod).

Un flaenoriaeth allweddol yw y byddwn yn disgwyl i bob sefydliad addysgol gofnodi pob achos o gam- drin, gwahaniaethu a / neu fwlio hiliol yn effeithiol; a gweithio gyda dysgwyr a staff i gyd-lunio ffyrdd mwy effeithiol o ymateb i’r materion a godir. Rydym hefyd yn disgwyl i bob sefydliad gyhoeddi gwybodaeth am y cynnydd a wneir wrth ddatblygu dulliau gweithredu o’r fath, ac effaith hyn ar ddysgwyr a staff, boed hynny’n ddeilliannau dysgwyr a/neu’n lefelau cyflog staff. Dylai’r canlyniadau fod ar gael mewn ieithoedd a ffyrdd sy’n ystyrlon i bobl ethnig leiafrifol.

Er mwyn mesur newid dros amser, rhaid inni fynd ati ar fyrder i wella cyflawnder y data ar ethnigrwydd mewn addysg a’r defnydd a wneir o’r data hynny. Mae angen inni ddefnyddio’r data sydd ar gael ar hyn o bryd mewn ffordd fwy systemig. Mae angen inni hefyd ystyried cyfleoedd i gysylltu â setiau data eraill, megis y rhai ar iechyd a chyflogaeth, er mwyn meithrin dealltwriaeth lawnach o anghydraddoldebau. Byddwn hefyd yn creu systemau cadarnach o gasglu a chofnodi data.

Rydym hefyd yn ymrwymedig i wella lefelau recriwtio, cadw a chamu ymlaen i fod yn arweinwyr ymhlith athrawon, darlithwyr a rheolwyr ac arweinwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol. Nid yw diffyg cynrychiolaeth mewn rolau ymarferwyr ac arweinwyr, gan gynnwys ar gyrff llywodraethu, yn gwneud dim i fagu uchelgais ymhlith ein plant a’n pobl ifanc, y mae angen iddynt adnabod eu hunain a’u profiadau eu hunain ymhlith eu harweinwyr.

Gyda phwy y byddwn yn gweithio

Byddwn yn gweithio gyda Rhwydwaith BAMEed (Cymru), ein sefydliadau a phartneriaid eraill i sicrhau bod cymorth ac adnoddau priodol ar waith i helpu pob aelod o staff i deimlo’n hyderus wrth fodelu gwerthoedd gwrth-hiliol.

O ran cymunedau o ffoaduriaid, mae’r anallu i drosglwyddo cymwysterau ffoaduriaid yn rhai rydym yn eu cydnabod yng Nghymru yn her benodol. Mae hyn yn golygu ein bod yn gwastraffu talent, felly byddwn yn parhau i weithio gyda’r Grŵp Cynghori ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC), er mwyn rhoi arweiniad ac adnoddau i hwyluso’r broses o gymharu a throsglwyddo cymwysterau rhyngwladol.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Estyn, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol er mwyn sicrhau y caiff cynnydd ei fonitro. Rydym yn cydnabod nad oes modd mesur popeth yn nhermau data; felly, byddwn yn ystyried casglu gwybodaeth am brofiadau bywyd y rhai sy’n byw gyda’n polisïau a’n prosesau ac sy’n cael profiad ohonynt. Mae eu lleisiau yn hollbwysig os ydym am wir ddeall y gwahaniaethau y gall ein gweithredoedd eu gwneud.

Mae’n bwysig cydnabod y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud ym mhob maes addysg. Fodd bynnag, mae angen gwneud llawer mwy o hyd. Rydym yn disgwyl dim goddefgarwch tuag at hiliaeth ym mhob un o’n lleoliadau addysg, ac ymrwymiad gweithredol i gynyddu amrywiaeth sefydliadau ar bob lefel. Mater i arweinwyr yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd y partneriaid cyflawni y mae’n eu hariannu yn y sector addysg, yw ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn.

Ysgolion

Yr hyn a wnawn

O ran ysgolion, mae Cymru yn arwain y gad fel y rhan gyntaf o’r DU i’w gwneud yn ofynnol i addysgu hanes a phrofiadau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae hyn yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd o fis Medi 2022. Mae’n hollbwysig sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei roi ar waith ac na welwn y “bwlch gweithredu”.

Cafodd ein gwobr addysgu newydd, Gwobr Betty Campbell MBE, am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ei lansio yn 2021. Caiff y wobr hon ei rhoi bob blwyddyn.

Byddwn yn cyflwyno strategaeth i recriwtio mwy o athrawon o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithlu ysgolion. Fel cam cychwynnol, cyhoeddwyd Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon ar 22 Hydref 2021. Byddwn yn gweithredu ar hyn drwy waith megis cynllun mentora newydd i helpu staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gyflawni eu nodau, yn ogystal â datblygu camau gweithredu eraill.

Byddwn hefyd yn adolygu polisïau presennol gyda’r nod o leihau anghydraddoldebau addysgol. Yn benodol, byddwn yn datblygu strategaeth i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru. Bydd elfennau allweddol o’r strategaeth hon yn cynnwys cefnogi llesiant disgyblion, sicrhau bod y cwricwlwm newydd i ysgolion yn galluogi pob dysgwr i lwyddo ar lefelau uchel, datblygu addysg ac arweinyddiaeth o safon uchel a datblygu Ysgolion Cymunedol. Er bod y gwaith hwn er budd pob plentyn, mae croestoriadedd â phrofiadau a deilliannau plant a phobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Bwriedir cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru i ysgolion ar gefnogi plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ym mis Gorffennaf 2022, ynghyd â fersiwn ddiwygiedig o’n canllawiau gwrthfwlio, ‘Hawliau, Parch, Cydraddoldeb’.

Addysg bellach (AB)

Mae tua saith y cant o ddysgwyr mewn colegau AB yn dod o grwpiau ethnig lleiafrifol a byddwn yn blaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu ein dadansoddiad o ddata er mwyn deall cyfranogiad a deilliannau dysgwyr o’r cefndiroedd hyn yn well. Mae angen inni hefyd wella faint o wybodaeth y mae’r data yn ei chofnodi am ethnigrwydd staff ac arweinwyr yn y sector a’r defnydd a wneir o’r data hynny.

Byddwn hefyd yn chwilio am ffyrdd o wella sut y caiff pobl ethnig leiafrifol eu recriwtio i fod yn staff addysgu yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO).

Mae’r sector AB yng Nghymru wedi nodi ei ymrwymiad i nodau gwrth-hiliol, wedi’i atgyfnerthu drwy bartneriaeth ColegauCymru â’r Grŵp Arweinyddiaeth Du. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio gyda’r ddau sefydliad a’r sector yn ei gyfanrwydd i adolygu polisïau a gweithdrefnau cydraddoldeb hil colegau. Y nod fydd sicrhau bod colegau’n mabwysiadu dulliau cynhwysfawr a thrylwyr o ymdrin ag arferion gwrth-hil. Mae ColegauCymru eisoes yn cynnal adolygiad o’r Cod Llywodraethu Da ar gyfer Colegau yng Nghymru. Ymhlith y nodau eraill, bydd y Cod diwygiedig yn helpu colegau i sicrhau bod eu byrddau’n adlewyrchu ac yn cynrychioli eu cymunedau amrywiol.

Fel rhan o’n hadolygiad, byddwn yn gweithio gyda’r sector i ystyried sut y gellid integreiddio cydraddoldeb hil yn y cwricwlwm AB ymhellach. Mae’n annhebygol y bydd “un ateb i bawb”, o ystyried amrywiaeth ac ystod y cymwysterau y mae dysgwyr yn astudio ar eu cyfer mewn lleoliadau ôl-orfodol. Byddwn yn ystyried cyfleoedd i ddatblygu modiwlau, adnoddau a gweithgareddau cyfoethogi sy’n ystyried amrywiaeth ethnig a diwylliannol ar y cyd. Byddwn hefyd yn parhau â’n gwaith i sicrhau bod cymwysterau rhyngwladol a ddelir gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cydnabod a bod modd eu trosglwyddo.

Mae Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn faes â blaenoriaeth a ariennir sydd wedi’i gyfeirio at bob darparwr dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru drwy ein Polisi ar ESOL. Rydym yn ymrwymedig i helpu mudwyr i Gymru i gymryd rhan lawn yn y cymunedau sy’n dod yn gartref iddynt. Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus yn hanfodol er mwyn iddynt ddefnyddio’r set sgiliau sydd ganddynt. Fel rhan o’n cynllun, byddwn yn adolygu effeithiolrwydd ein polisi ar ESOL o ran diwallu anghenion y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu ac yn rhoi cynllun gweithredu ar waith i fynd i’r afael â’r canlyniadau.

Addysg uwch (AU)

Rydym am nodi’n glir ein disgwyliadau y bydd y sector AU yn gwneud cynnydd cyflym a parhaus i fynd i’r afael â hiliaeth a gwella profiad staff a myfyrwyr ethnig lleiafrifol ym maes AU. Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, rydym wedi amlinellu nodau a chamau gweithredu sy’n adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo ar y cyd â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a sefydliadau AU yng Nghymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hil, fel y mae’n effeithio ar staff a myfyrwyr. Mae’r camau gweithredu hyn yn cynnwys mynd ati i rannu arferion da ac adeiladu arnynt, gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol lleol, a datblygu cysylltiadau â chyflogwyr.

Byddwn hefyd yn disgwyl i bob sefydliad AU ennill Nod Siarter Hil o fewn tair blynedd, fel amod cyllido. Bydd hyn yn helpu i ymgorffori polisïau gwrth-hiliaeth ar bob lefel o’r sector.

Mae hyn yn golygu mwy na bodloni’r gofynion sylfaenol a nodir mewn cyfreithiau. Mae mwy o amrywiaeth hiliol mewn sefydliadau yn arwain at fanteision i bawb sy’n gweithio ac yn astudio ynddynt, gan gynnwys cyfoethogi’r profiad o addysg uwch a sicrhau bod modelau rôl cadarnhaol yn weladwy.

Y Gymraeg

Ychydig o dystiolaeth

Nododd amcangyfrifon o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 nad oedd 98% o oedolion ethnig leiafrifol 16 oed a throsodd yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd. Roedd hyn yn ffigur tebyg i oedolion o gefndir ethnig ‘Gwyn – arall’, lle nododd 97% nad oeddent yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd. Ar gyfer oedolion ‘Gwyn – Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati’, nododd 89% nad oeddent yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (Llywodraeth Cymru, 2022a).

Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn dangos mai dim ond 4 y cant o ddisgyblion dros 5 oed mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (nid Gwyn Prydeinig) ym mis Ebrill 2021, o gymharu â 15% mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Cyflwyniad

Mae gennym weledigaeth ehangol a chynhwysol ar gyfer y Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn iaith sy’n perthyn inni gyd, ac mae’n ffordd o uno pobl o gefndiroedd gwahanol. Gall dysgu ieithoedd newydd ein gwneud ni fel unigolion yn fwy agored i ddiwylliannau eraill.

Rydym yn dathlu amrywiaeth ieithyddol Cymru ac yn cydnabod y gall dysgu a defnyddio ail iaith neu drydedd iaith gyfoethogi bywydau pobl.

Yr hyn a wyddom

Fel cenedl, rydym wedi dechrau ar daith tuag at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg. Yn ystod y Cyfrifiad diwethaf yn 2011, roedd tua 10,000 o’r 562,000 o bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn dod o gymunedau ethnig lleiafrifol. Rydym am weld y nifer hwn yn cynyddu, a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ymhlith cymunedau ethnig lleiafrifol. Ond rydym am fynd ymhellach. Rydym am ddathlu’r hyn sy’n creu cyswllt rhyngom yn ogystal â’r hyn sy’n ein gwneud yn wahanol yn ein diwylliannau a’n hieithoedd.

Yr hyn a wnawn

Wrth wneud hynny, byddwn yn gwrando ar brofiadau bywyd siaradwyr Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg o gymunedau ethnig lleiafrifol, yn dysgu ohonynt ac yn ymateb iddynt. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i lywio’r ffordd rydym yn ymgysylltu â chymunedau i hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg a defnyddio’r iaith bob dydd. Byddwn yn sicrhau bod ein gweithgarwch marchnata a chyfathrebu yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn a bod y derminoleg Gymraeg a ddefnyddiwn yn briodol ac yn ddiwylliannol sensitif i drafod gwrth-hiliaeth.

Newid diwylliant tuag at wrth-hiliaeth: defnyddio’r adnoddau sy’n bodoli eisoes ac adnoddau newydd i sicrhau newid tuag at wrth-hiliaeth drwy’r sefydliad cyfan

Addysg bellach (AB)

Nod: Mae diwylliant ac arferion gwrth-hiliol wedi’u hymgorffori ym mhob sefydliad AB a darparwr dysgu oedolion yng Nghymru.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Comisiynu adolygiad annibynnol o bolisïau a gweithdrefnau yn y sector AB a dysgu oedolion o safbwynt gwrth-hiliol a disgwyl cynrychiolwyr grwpiau ethnig lleiafrifol mewn fforymau neu grwpiau a sefydlir i lunio’r archwiliad/adolygiad a goruchwylio a chefnogi’r gwaith o’u rhoi ar waith a’u cymhwyso’n effeithiol.

Adolygiad wedi’i gwblhau ac wedi’i gyhoeddi.

Sylfaen dystiolaeth ar gyfer atgyfnerthu polisïau gwrth-hiliol a gwella profiadau dysgwyr a staff o bob ethnigrwydd.

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • ColegauCymru.
  • Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Ddu.

Gweithio gyda’r sector AB i ymgorffori egwyddorion cynllun 10 pwynt y Grŵp Arweinyddiaeth Du er mwyn sicrhau system AB wrth-hiliol.

Cynnal arolwg o ddysgwyr a staff er mwyn deall eu profiadau o hiliaeth a chasglu safbwyntiau ar yr hyn sy’n arferion gwrth-hiliol effeithiol ym maes AB.

Ymrwymiad wedi’i gadarnhau gan sefydliadau unigol.

Arolwg wedi’i gynnal a’r ymatebion wedi’u dadansoddi.

Arferion gwrth-hiliol wedi’u hymgorffori mewn sefydliadau AB.

Sail dros atgyfnerthu polisïau gwrth-hiliol a gwella profiadau dysgwyr a staff o bob ethnigrwydd.

Erbyn mis Gorffennaf 2023.

  • ColegauCymru.
  • Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Ddu.

Addysg uwch (AU)

Nod: Gall staff a myfyrwyr ddisgwyl i’w profiad o AU fod yn gadarnhaol, ni waeth beth fo’u cefndir hil ac ethnig.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Sefydlu rhwydwaith gwrth-hiliaeth yn y sector AU.

Cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb hil a mesurau perfformiad ar gyfer y sector, gan gynnwys canlyniadau i fyfyrwyr a staff.

Rhannu arferion da mewn sefydliadau AU o ran mynd i’r afael ag aflonyddu hiliol a hyrwyddo diwylliant gwrth- hiliol.

Adroddiad a mesurau wedi’u cyhoeddi.

Cynnydd cynaliadwy, cyflymach tuag at wella profiad staff a myfyrwyr.

Mwy o atebolrwydd i sefydliadau AU o ran gwrth-hiliaeth. Ymateb mwy penodol i faterion sy’n effeithio ar staff a myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig

Leiafrifol, gan gynnwys bylchau mewn cyrhaeddiad i fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig gwahanol.

Erbyn mis Mawrth 2023.

Adroddiad blynyddol o 2023.

  • CCAUC.
  • Prifysgolion Cymru.
  • Sefydliadau AU yng Nghymru.
  • Undebau Llafur.

Nod: Gwell defnydd o’r sbardunau sydd ar gael i hyrwyddo diwylliant gwrth-hiliol ym maes addysg uwch.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ddisgwyl i bob sefydliad AU adolygu ei bolisïau a’i weithdrefnau recriwtio presennol o safbwynt gwrth-hiliaeth.

Ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ddisgwyl i sefydliadau AU fonitro anghydraddoldebau a mynd i’r afael â nhw, gan gynnwys gwahaniaethau mewn cyflog.

Disgwyl i bob sefydliad AU ennill Nod Siarter Hil fel amod cyllido o fewn tair blynedd i ymgorffori polisïau gwrth-hiliaeth ar bob lefel o’r sector.

Uwch-arweinwyr yn mabwysiadu dull sefydliad cyfan o ymdrin â gwrth-hiliaeth.

Cyhoeddi data ar gyflog staff AU ar gyfer grwpiau ethnig gwahanol.

Pob sefydliad AU i ennill Nod Siarter.

Mwy o gynrychiolaeth ethnig leiafrifol mewn uwch-swyddi ym maes addysg uwch.

Mwy o dryloywder o ran data ar gyflogau er mwyn cefnogi mwy o gydraddoldeb cyflog i staff, ni waeth beth fo’u cefndir hil.

Ymrwymiad agored drwy’r sefydliad cyfan i ddull gweithredu gwrth-hiliol a fydd yn fuddiol i’r holl fyfyrwyr a staff.

Erbyn mis Medi 2023.

Erbyn mis Medi 2023.

Ymrwymiad i Nod Siarter erbyn mis Medi 2023.

  • CCAUC.
  • Prifysgolion Cymru.
  • Sefydliadau AU yng Nghymru.
  • Undebau Llafur.

Cwricwlwm: sicrhau bod y cwricwlwm yn wrth-hiliol

Ysgolion

Nod: Sicrhau bod cyfraniadau a hanes pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu haddysgu drwy’r Cwricwlwm i Gymru ar ei ffurf ddiwygiedig.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Ei gwneud yn ofynnol i gynnwys addysgu am gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a’u cyfraniadau yn y Cwricwlwm i Gymru ar ei ffurf ddiwygiedig.

Diweddaru fframwaith a chanllawiau ac adnoddau’r Cwricwlwm i Gymru i adlewyrchu argymhellion Adolygiad Williams.

I’w gynnwys yn fframwaith a chanllawiau wedi’u mireinio’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys y Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig gorfodol.

Nodir bod y boblogaeth gyffredinol yn fwy gwybodus am brofiadau pobl ethnig leiafrifol a’u cyfraniadau i hanes Cymru.

Mae dysgwyr ethnig lleiafrifol yn nodi mwy o berthnasedd a chynrychiolaeth yn y cwricwlwm a addysgir.

Erbyn mis Medi 2022.

  • Consortia Addysg Rhanbarthol.
  • Llywodraeth Cymru.
  • Awdurdodau Lleol.
  • Ysgolion.

Addysg bellach (AB)

Nod: Sicrhau bod cwricwlwm AB modern ar waith sy’n adlewyrchu Cymru wrth-hiliol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Adolygu a diwygio’r cwricwlwm AB presennol er mwyn ymgorffori egwyddorion gwrth-hiliol a datblygu cwricwlwm diwygiedig ar y cyd.

Gweithgor wedi’i sefydlu ac ymarfer cwmpasu cychwynnol wedi’i gwblhau.

Cwricwlwm mwy amrywiol a chyfoethog i ddysgwyr ôl-16.

Mae dysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn nodi mwy o berthnasedd a chynrychiolaeth yn y cwricwlwm a addysgir.

Erbyn mis Medi 2023.

  • Sefydliadau Addysg Bellach.
  • ColegauCymru.
  • Black Leadership Group.
  • Cymwysterau Cymru.

Nod: Sicrhau bod Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) yn parhau i gefnogi’r broses o gydnabod dysgu blaenorol ac yn ei gwneud yn haws deall a chymharu cymwysterau rhyngwladol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cadw cysondeb rhwng FfCChC a fframweithiau cymwysterau eraill y DU a’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd i gefnogi’r broses barhaus o gymharu cymwysterau a symudedd dysgwyr.

Codi ymwybyddiaeth o FfCChC a’i hyrwyddo fel modd i helpu i ddeall a chydnabod cymwysterau fel y bo’n briodol, a chyfeirio ymholiadau gan ddysgwyr rhyngwladol yn ymwneud â chywerthedd a chymharu cymwysterau rhyngwladol.

Coladu gwybodaeth ynghyd ag enghreifftiau o’r mathau o gymwysterau nad ydynt yn cael eu cydnabod na’u derbyn gan sefydliadau na chyflogwyr ledled Cymru, er mwyn ein helpu i ddeall y rhwystrau i gyflogaeth.

Caiff cymwysterau a dysgu eu deall a’u cydnabod, gan hwyluso cynnydd dysgwyr/dinasyddion, natur drosglwyddadwy cymwysterau a symudedd.

Dull mwy cyson o asesu dysgu blaenorol.

Rhwystrau i gydnabod dysgu blaenorol wedi’u dileu.

Erbyn mis Ebrill 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Colegau Cymru.
  • Grŵp Cynghori FfCChC.

Y gweithlu: cymryd camau cadarnhaol i gynyddu nifer y cyflogeion, ar bob lefel, o blith pobl ethnig leiafrifol

Ysgolion

Nod: Creu gweithlu addysg gwrth-hiliol drwy ymgorffori dysgu proffesiynol gwrth-hiliol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Datblygu adnoddau dysgu proffesiynol gwrth-hiliol i helpu i addysgu’r cwricwlwm newydd ar “gampws rhithwir” wedi’i ddylunio ar y cyd i goladu a churadu’r holl ddeunyddiau ac adnoddau gwrth-hiliol.

Adnoddau ar-lein wedi’u cyhoeddi’n ganolog i roi cymorth i ymarferwyr ac arweinwyr ddatblygu deunyddiau ac adnoddau i fodloni gofynion y cwricwlwm newydd.

Mwy o hyder yng ngallu ymarferwyr i fynd i’r afael â hiliaeth a meithrin diwylliant o wrth-hiliaeth drwy addysgu’r cwricwlwm.

Yn barhaus.

  • Rhwydwaith BAMEed (Cymru).
  • Y rhanbarthau a SAUau partner.
  • Grwpiau arbenigol eraill.

Cefnogi lleoliad doethuriaeth PhD newydd i werthuso’r rhaglen Dysgu Proffesiynol ar Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth.

Tystiolaeth wedi’i chyhoeddi i ategu rhaglen ddiwygiedig.

Cyfraniad at ymchwil yn y maes hwn o safbwynt unigryw Gymreig.

Yn barhaus.

  • Rhwydwaith BAMEed (Cymru).

Nod: Cynyddu nifer yr athrawon sy’n cael eu recriwtio o gymunedau ethnig lleiafrifol yn y sector addysg gyda ffocws clir ar recriwtio i raglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA).

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Adolygu Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) a dysgu proffesiynol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu dull gwrth-hiliol o recriwtio a hyfforddi athrawon.

Y dogfennau canlynol wedi’u diweddaru a’u cyhoeddi:

  • meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni AGA
  • fframweithiau arolygu ar gyfer AGA
  • adnoddau dysgu proffesiynol
  • llwybrau recriwtio, cadw a datblygu newydd cyn cyhoeddi AGA
  • gweithgareddau i’w cynnal ym mhob ysgol i dynnu sylw at addysgu fel proffesiwn

Mae pob athro dan hyfforddiant yn cael AGA sy’n briodol yn broffesiynol ac o safon uchel. Bydd yn cynnwys materion gwrth-hiliol ac yn paratoi athrawon i ddechrau addysgu.

Mwy o amrywiaeth o gymunedau ethnig lleiafrifol yn y proffesiwn addysgu sy’n adlewyrchu cymunedau’n well.

Erbyn mis Rhagfyr 2022.

  • Partneriaethau AGA. Bwrdd Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg.
  • Estyn.
  • USCET.
  • Llywodraeth Cymru.

Ehangu’r ystod o bynciau sydd ar gael yn y cynllun Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) sy’n seiliedig ar gyflogaeth er mwyn denu

staff cymorth o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, gan gynnwys cyfrwng Cymraeg.

Ehangu’r pynciau a gynigir drwy raglenni’r Brifysgol Agored lle mae hynny’n ddichonadwy o safbwynt economaidd ac addysgol.

Recriwtio mwy o unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol i’r proffesiwn addysgu.

Erbyn mis Medi 2025.

  • Partneriaethau AGA Y Brifysgol Agored

Sefydlu gweithgor gwrth-hiliaeth amrywiol gyda rhanddeiliaid er mwyn adolygu cynnydd yn erbyn y camau gweithredu a nodi anghenion sy'n dod i'r amlwg.

Gweithgor wedi’i sefydlu i oruchwylio’r gwaith o gymryd y camau yn y cynllun recriwtio.

Mae pobl ethnig leiafrifol yn cael eu cynnwys fel rhanddeiliaid ac mae partneriaid yn nodi bod eu profiadau bywyd, eu lleisiau a’u hargymhellion yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt.

Erbyn mis Mawrth 2022.

  • Llywodraeth Cymru.

Datblygu a chyhoeddi cynlluniau recriwtio yn benodol i gynyddu nifer yr ymgeiswyr ethnig lleiafrifol ar gyrsiau AGA, gan gynnwys cyfrwng Cymraeg.

Bydd pob Partneriaeth AGA yn cyhoeddi cynllun recriwtio yn cynnwys data llinell sylfaen sy’n nodi’n benodol y camau gweithredu y bydd yn eu cymryd i gynyddu cynrychiolaeth ethnig leiafrifol wrth recriwtio.

Recriwtio mwy o bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol i’r proffesiwn addysgu.

Erbyn mis Gorffennaf 2022.

  • Partneriaethau AGA.

Cyd-lunio trefniadau cymorth priodol a sensitif i fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ar bob cam o’r broses ymgeisio ac astudio.

Pob partneriaeth AGA i gynnal adolygiad o’i harferion presennol.

Nodi unrhyw ddiffygion mewn prosesau presennol a defnyddio’r canfyddiadau hyn i sicrhau bod lefelau priodol o gymorth ar waith i gynorthwyo ymgeiswyr ethnig lleiafrifol.

Boddhad â lefel a phriodoldeb y cymorth a roddir wedi cynyddu.

Erbyn mis Mawrth 2022.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Partneriaethau AGA.
  • Cyngor y Gweithlu Addysg.

Ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr AGA adolygu, cryfhau a datblygu’r ffordd y cymhwysir meini prawf ar gyfer gofynion achredu mewn rhaglenni sy’n bodoli eisoes.

Pob partneriaeth AGA i gynnal adolygiad o’i harferion presennol.

Nodi unrhyw ddiffygion mewn prosesau presennol a defnyddio’r canfyddiadau hyn i sicrhau bod materion yn ymwneud â gwrth- hiliaeth yn cael eu cryfhau yn y gofynion achredu ar gyfer rhaglenni.

Mwy o foddhad a mwy o geisiadau gan bobl ethnig leiafrifol.

Erbyn mis Mawrth 2022.

  • Partneriaethau AGA.

Cydweithio a chyd-lunio â grwpiau rhanddeiliaid ethnig lleiafrifol i ddatblygu camau nesaf y Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Diwygio a chyhoeddi ail gam y Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Recriwtio mwy o athrawon o gymunedau ethnig lleiafrifol i raglenni AGA a chynyddu cynrychiolaeth yn y gweithle.

Yn barhaus.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Partneriaethau AGA.
  • Cyngor y Gweithlu Addysg.
  • Estyn.
  • Rhanddeiliaid cymunedol.

Gwerthuso’r rhaglen ar gyfer gwella mynediad a llwyddiant ar sail hil, ac adeiladu arni.

Cryfhau cyfleoedd i fyfyrwyr AGA ethnig lleiafrifol gael profiad gwaith er mwyn eu helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfa yn y dyfodol.

Nodir bod llai o anghydraddoldebau addysgol, sy’n arwain at fwy o gyfle cyfartal i fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Erbyn mis Medi 2023.

  • CCAUC.
  • Prifysgolion Cymru.
  • Sefydliadau AU yng Nghymru.
  • UCM.
  • Undebau myfyrwyr.

Addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith

Nod: Sicrhau bod gwybodaeth glir ar gael am ethnigrwydd staff ar bob lefel ym maes AB a Dysgu Seiliedig ar Waith, a bod staff yn cael cymorth i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, ni waeth beth fo’u hethnigrwydd.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Helpu Cyngor y Gweithlu Addysg i gasglu gwell data ar ethnigrwydd ymarferwyr ôl-16 a gweithwyr cymorth dysgu drwy ennyn ymddiriedaeth fel y bydd mwy o staff yn datgelu eu hethnigrwydd (mae lefelau Anhysbys a Gwell gennyf beidio â dweud yn uchel iawn ar hyn o bryd).

Sicrhau y caiff y data gwell hyn eu defnyddio i gefnogi polisïau ac arferion recriwtio’r gweithlu.

Gwella gwybodaeth am gategori ethnigrwydd ymarferwyr a gweithwyr cymorth dysgu o 80% i 95% o leiaf.

Llinell sylfaen gryfach i wella cynrychiolaeth lle y bo angen.

Deall proffil ethnig staff yn well.

Erbyn mis Gorffennaf 2022.

  • Cyngor y Gweithlu Addysg.

Cynnal arolwg ymhlith staff o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ar eu profiadau o weithio ym maes AB, a chyd-lunio cynigion i wella eu profiadau a’u rhagolygon gyrfa.

Cyhoeddi cynllun gweithredu i gefnogi staff AB o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

 

 

  • ColegauCymru.
  • Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Ddu.
  • Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.
  • Undebau Llafur ar y Cyd.

Gweithio gyda ColegauCymru a’r Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Ddu i ystyried gwell dulliau o gasglu data ar nodweddion gwarchodedig staff nad ydynt wedi’u cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg, gan gynnwys arweinwyr.

Gwaith casglu data cychwynnol wedi’i gwblhau a’i werthuso.

Llinell sylfaen gryfach i wella cynrychiolaeth lle y bo angen.

Deall proffil ethnig staff yn well.

Erbyn mis Medi 2022.

  • Colegau Cymru.
  • Grŵp Arweinyddiaeth Addysg Bellach Du.

Nod: Cynyddu nifer y cynrychiolwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n hyfforddi i ddod yn ymarferwyr AB a Dysgu Seiliedig ar Waith.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cynnal adolygiad o’r rhaglen cymhellion i fyfyrwyr TAR (AB), gan gynnwys gwell proses o gasglu data ar ethnigrwydd ymarferwyr presennol.

Cymryd camau cadarnhaol i annog mwy o ddysgwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol i ennill cymwysterau AGA yn y sector AB, drwy’r rhaglen cymhellion i fyfyrwyr TAR (AB).

Gwell prosesau casglu data ar gyfer y cynllun cymhellion.

Newidiadau i’r canllaw ar flaenoriaethau dosbarthu cymhellion i fyfyrwyr TAR (AB).

Gweithio gyda SAUau i sicrhau bod cymhellion yn cael yr effaith a fwriadwyd.

Cynnydd yn nifer yr unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol yn y sector AB a fydd yn anelu at gryfhau cynrychiolaeth a’r ffordd y mae’r sector yn deall ac yn derbyn cefndiroedd a chymunedau diwylliannol gwahanol.

Bydd yr adolygiad o’r cymhellion yn cael ei gynnal erbyn mis Mawrth 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • UCSET.

Nodi unrhyw broblemau o ran recriwtio a chadw athrawon o gymunedau ethnig lleiafrifol yn y sector AHO, cymryd camau gweithredu cadarnhaol priodol lle y bo angen ac asesu eu heffaith.

Adolygiad wedi’i gynnal a gwell data wedi’u cadarnhau i seilio penderfyniadau polisi arnynt.

Cynllun gweithredu ar waith pan fydd y problemau wedi’u deall.

Gweithio’n agos gyda’r sector i roi’r cynllun gweithredu ar waith.

Cynnydd yn nifer yr unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol yn y sector AB a fydd yn anelu at gryfhau cynrychiolaeth a’r ffordd y mae’r sector yn deall ac yn derbyn cefndiroedd a chymunedau diwylliannol gwahanol.

 

  • Sector AB.
  • Sector dysgu seiliedig ar waith.

Nod: Cynyddu lefelau hunangofnodi ethnigrwydd ymhlith pobl ethnig leiafrifol ac ennyn mwy o hyder i rannu data.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Parhau i gasglu data caled a data ar brofiadau bywyd mewn perthynas â’r gweithlu presennol a chynyddu lefelau hunangofnodi ymhlith unigolion.

Mae nodi ethnigrwydd yn wirfoddol felly bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gyda chymunedau i sicrhau mwy o berchenogaeth a chydymffurfiaeth.

Tystiolaeth ystadegol o gyfansoddiad ethnig y gweithlu.

Effeithiau negyddol wedi’u nodi a diffygion wedi’u hunioni yn y cynllun recriwtio.

Yn flynyddol.

  • Cyngor y Gweithlu Addysg.

Mynd i’r afael â’r profiad o hiliaeth

Ysgolion

Nod: Gwella profiadau dysgwyr ac athrawon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn ysgolion.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Ei gwneud yn ofynnol i gofnodi digwyddiadau ac achosion o aflonyddu hiliol mewn ysgolion a cholegau drwy brosesau casglu data cryfach, sut yr ymdrinwyd â nhw, y camau a gymerwyd, ac a fu datrysiad llwyddiannus i’r dioddefwr.

System adrodd gyson a gwell i ysgolion.

Gwell proses o gasglu data gan ysgolion a cholegau yng Nghymru; gan gynnwys arferion da a thystiolaeth o brofiadau bywyd.

Lefelau boddhad uwch ymhlith dysgwyr ethnig lleiafrifol a’u teuluoedd o ran y ffordd y mae ysgolion a cholegau yn ymdrin â digwyddiadau hiliol ac yn eu datrys.

Mwy o wybodaeth am nifer y digwyddiadau hiliol a brofir gan ddysgwyr a staff mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Gellir defnyddio’r data hyn i nodi tueddiadau a mesur llwyddiant polisïau.

Erbyn mis Medi 2023.

  • Rhanddeiliaid gwrth-hiliaeth: Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.
  • Rhwydwaith BAMEed Cymru.
  • Grŵp Llywio Gwrthfwlio Cymru.

Nod: Lleihau’r profiad negyddol o hiliaeth ymhlith dysgwyr o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr o ganlyniad i brofiad negyddol yn yr ysgol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cyd-lunio a chyhoeddi canllawiau statudol ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ysgolion.

Canllawiau statudol wedi’u cyhoeddi i bob ysgol.

Cyfryngwyr yr ymddiriedir ynddynt, e.e. ymgyrchwyr ac arweinwyr cymunedol, yn gweithio i sicrhau’r newid hwn ar lawr gwlad.

Cefnogi a gwella deilliannau addysgol i ddysgwyr o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Mwy o ymwybyddiaeth mewn ysgolion o anghenion penodol dysgwyr o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a fydd yn arwain at leihau anghydraddoldebau addysgol.

Y cymunedau dan sylw yn nodi mwy o hyder mewn ysgolion.

Erbyn mis Gorffennaf 2022.

Erbyn mis Gorffennaf 2022

 

Nod: Sicrhau llesiant dysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cryfhau canllawiau statudol Llywodraeth Cymru i ysgolion mewn perthynas â llesiant er mwyn cydnabod anghenion penodol dysgwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Canllawiau statudol wedi’u diweddaru.

Mae athrawon ac aelodau eraill o staff yn ymwybodol o anghenion penodol dysgwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ac maent yn gallu cynnig cymorth priodol mewn modd amserol.

2022 i 2023.

  • Rhanddeiliaid gwrth-hiliaeth – Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.
  • Rhwydwaith BAMEed Cymru.
  • Grŵp Llywio Gwrthfwlio Cymru.

Cryfhau canllawiau gwrthfwlio ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb’ Llywodraeth Cymru i ysgolion.

Canllawiau statudol wedi’u diweddaru; cymorth i ysgolion ddatblygu strategaethau gwrthfwlio; cyngor i ymarferwyr ynglŷn â sut i ymgysylltu’n effeithiol â rhieni a gofalwyr am yr agenda hon.

Mwy o hyder yng ngallu ymarferwyr i fynd i’r afael ag achosion o aflonyddu a bwlio hiliol. Mwy o hyder ymhlith dysgwyr y bydd ysgolion yn mynd i’r afael ag ymddygiad hiliol yn effeithiol.

Erbyn mis Gorffennaf 2022.

  • Grŵp Llywio Gwrthfwlio Cymru.
  • Estyn.
  • Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi.
  • Yr Is-adran Cydraddoldebau.

Sicrhau bod ystod o ymyriadau priodol (rhai cyffredinol a rhai wedi’u targedu) ar gael i ysgolion er mwyn diwallu anghenion llesiant dysgwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Cyfres o adnoddau priodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gael.

Adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gael i ddysgwyr sy’n briodol i’w hanghenion i gefnogi eu llesiant.

2022 i 2023.

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Awdurdodau lleol.
  • Ysgolion.
  • Y trydydd sector.

Nod: Cymryd camau i sicrhau bod gwaharddiadau’n cael eu defnyddio mewn ffordd nad yw’n cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cryfhau ein canllawiau ar wahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion mewn perthynas â dysgwyr y gwyddom y gallant gael eu gwahardd yn barhaol neu dros dro mewn ffordd anghymesur; mae hyn yn cynnwys dysgwyr ethnig lleiafrifol a dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA) ond nid yw’n gyfyngedig iddynt. Caiff data eu defnyddio o’r Ystadegau Swyddogol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ar waharddiadau parhaol a rhai cyfnod penodol o’r ysgol, sy’n cynnwys data ar waharddiadau yn ôl cefndir ethnig. Parheir i gyhoeddi’r data hyn.

Canllawiau wedi’u diweddaru; cymorth i ysgolion ddeall sut i ddefnyddio gwaharddiadau mewn ffordd nad yw’n cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol.

Data wedi’u cyhoeddi o’r Ystadegau Swyddogol.

Nid yw dysgwyr o grwpiau penodol yn cael eu gwahardd yn anghymesur o ysgolion nac unedau cyfeirio disgyblion.

Erbyn mis Medi 2023.

  • Arweinydd Llywodraeth Cymru i ysgolion.

Dysgu ôl-16

Nod: Caiff cyfranogiad, deilliannau a chynnydd dysgwyr o gefndiroedd ethnig gwahanol eu monitro’n systematig a chaiff camau eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Integreiddio’r gwaith o adrodd ar ethnigrwydd â’r gyfres o ddatganiadau ystadegol ar ddysgu ôl-16 a deilliannau dysgwyr.

Nodi bylchau mewn cydraddoldeb o ran cyfranogiad a chyrhaeddiad dysgwyr, a phennu targedau a chamau gweithredu priodol i’w gwella.

Proses adrodd ar ethnigrwydd wedi’i hymgorffori yn y cylch adrodd rheolaidd.

Gwaith dadansoddi wedi’i gwblhau a chynllun gweithredu ar waith.

Gwybodaeth fwy tryloyw a gwell am gyfranogiad a deilliannau dysgwyr o gefndiroedd ethnig gwahanol.

Mwy o gydraddoldeb o ran mynediad, profiad a chyrhaeddiad a gwell cyfleoedd i ddysgwyr o gefndiroedd ethnig gwahanol.

Erbyn mis Mai 2022.

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • Sefydliadau Addysg Bellach.
  • Estyn.

Nod: Sicrhau bod addysg bellach a dysgu oedolion cyson o safon uchel ar waith i ddiwallu anghenion mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Comisiynu adolygiad o’r polisi ynglŷn â Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a mynd i’r afael â’i argymhellion.

Yr adolygiad wedi’i gwblhau, y rhanddeiliaid yn fodlon arno, a’r polisi wedi’i gyd-lunio a’i ddiweddaru.

Darpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill sy’n fwy cynaliadwy, cyson ac effeithiol ledled Cymru.

Erbyn mis Mawrth 2023.

 

Cynyddu’r data ar geisiadau AU a’r niferoedd sy’n cael eu derbyn ar gyrsiau a gwneud gwell defnydd o’r data hyn.

Adrodd ar geisiadau gan bobl ethnig leiafrifol a nifer y rhai sy’n cael eu derbyn ar gyrsiau fel rhan o’r broses adrodd fisol barhaus.

Mwy o dystiolaeth data ar gyfraddau gwneud cais a derbyn.

Nodwyd a oes gwahaniaethau yn lefelau ymgeiswyr llwyddiannus o leiafrifoedd ethnig a gweithredwyd ar y canlyniadau.

Yn barhaus bob mis.

 

Y Gymraeg

Nod: Sicrhau bod lleisiau siaradwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu clywed a bod eraill yn gwrando arnynt a bod rhagor yn cael ei wneud i hyrwyddo mynediad at y Gymraeg ymhlith cymunedau ethnig lleiafrifol ym meysydd addysg, dysgu’r iaith, y gweithle a gweithgareddau cymunedol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Meithrin gwell dealltwriaeth o brofiad bywyd y 10000 o siaradwyr Cymraeg o gymunedau ethnig lleiafrifol, yn ôl amcangyfrif, er mwyn llywio camau gweithredu ac ymyriadau yn y dyfodol i ddileu hiliaeth yng Nghymru.

Integreiddio canfyddiadau â pholisïau cyfredol ac yn y dyfodol a chwilio am ffyrdd o wella mynediad at wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg, dysgu’r iaith, gweithgareddau yn y gweithle a gweithgareddau cymunedol.

Gwell dealltwriaeth o brofiadau siaradwyr Cymraeg o gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru.

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • Is-grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Partneriaeth

y Gymraeg.

Pennu targedau a disgwyliadau ar gyfer dulliau gweithredu gwrth-hiliol i sefydliadau sy’n cael cyllid grant. Datblygu cynllun gweithredu i wella cynrychiolaeth o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng ngweithlu sefydliadau sy’n cael cyllid grant.

Trefniadau cyllid grant wedi’u diweddaru a chynllun gweithredu ar waith.

Telerau ac amodau wedi’u diweddaru i’r rhai sy’n cael grant yn llythyrau dyfarnu 2022-23.

Mwy o brosiectau iaith Gymraeg wedi’u cyflwyno i bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru.

Mwy o unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru yn mwynhau gweithgareddau a digwyddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn mis Ebrill 2023.

  • Sefydliadau sy’n cael cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.

Comisiynu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i adolygu faint o unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig

Leiafrifol sy’n manteisio ar y ddarpariaeth, a’r strategaethau presennol i hyrwyddo mynediad.

Yr adolygiad cyhoeddedig â chanfyddiadau wedi’i ddefnyddio i lywio strategaethau cyfathrebu a marchnata yn well er mwyn denu mwy o ddysgwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Mwy o oedolion o gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru yn manteisio ar ddarpariaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dadansoddi data ar blant Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn datblygu strategaethau lleol a chenedlaethol i gynyddu’r nifer hwn a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal plant rhag cael addysg cyfrwng Cymraeg.

Dadansoddiad wedi’i gwblhau a strategaethau wedi’u datblygu.

Mwy o blant o gymunedau ethnig lleiafrifol yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • Is-grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.
  • CLlLC.
  • Awdurdodau lleol, sefydliadau sy’n cael cyllid grant (RhaG, Mudiad Meithrin, Mentrau Iaith, yr Urdd).

Comisiynu’r gwaith o ddatblygu adnoddau ac astudiaethau achos gwrth-hiliol amlieithog i helpu i gynyddu nifer y plant o gymunedau ethnig lleiafrifol sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg.

Adnoddau wedi’u cyhoeddi a’u hyrwyddo.

Mwy o rieni/gofalwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol yn deall manteision addysg cyfrwng Cymraeg ac yn ei dewis i’w plant.

Erbyn mis Rhagfyr 2022.

  • Llywodraeth Cymru.
  • RhAG.
  • Is-grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.

Sicrhau bod y derminoleg Gymraeg a ddefnyddir i drafod gwrth-hiliaeth yn gyfredol, yn briodol, yn gyson ac yn seiliedig ar gyfraniad siaradwyr Cymraeg o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Adolygu a chyflwyno terminoleg safonol, ac wrth wneud hynny sicrhau yr ymgysylltir ag arbenigwyr iaith ac y cynrychiolir siaradwyr Cymraeg o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Terminoleg safonol sy’n ddealladwy i bawb wedi’i datblygu i drafod materion gwrth-hiliaeth sy’n adlewyrchu cymuned ddiwylliannol ethnig Cymru.

Yn barhaus.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Rhanddeiliaid perthnasol.

Nod: Sicrhau bod yr holl adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg a’r deunyddiau atodol yn wrth-hiliol ac yn adlewyrchu dyfnder gwirioneddol ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol ac yn osgoi stereoteipio a neilltuo diwylliannol ar yr un pryd.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Adolygu a datblygu set benodol o ofynion fel rhan o gontractau a chyllid grant.

Gofynion penodol wedi’u cynnwys mewn trefniadau contractio a chyllido er mwyn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau yn wrth-hiliol.

Gwell dealltwriaeth ymhlith dysgwyr o’n treftadaeth ddiwylliannol.

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • Sefydliadau sy’n cael cyllid grant gan Lywodraeth Cymru a chontractwyr.

Diwylliant, treftadaeth a chwaraeon

Ychydig o dystiolaeth

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2018 i 2019, nid oedd 76% o’r ymatebwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau treftadaeth, diwylliant na’r celfyddydau yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mewn arolwg o 120,000 o ddisgyblion yng Nghymru yn 2018, gwelwyd bod 40% o ddisgyblion Asiaidd/ Asiaidd Prydeinig yn cymryd rhan mewn chwaraeon o leiaf deirgwaith yr wythnos o gymharu â 48% o’r holl ddisgyblion. Yn yr un modd, nid yw 36% o ddisgyblion Asiaidd/Asiaidd Prydeinig yn cymryd rhan mewn chwaraeon o gymharu ag 28% o’r holl ddisgyblion (Chwaraeon Cymru, 2018).

Cyflwyniad

Mae diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yn hanfodol i hunaniaethau pobl. Maent yn adlewyrchu’r gwerthoedd, y credoau a’r agweddau sy’n ein diffinio fel pobl ac yn llywio ein perthynas ag eraill.

Gall diwylliant, treftadaeth a chwaraeon fod yn ffyrdd pwerus o fynegi ein hundod a’n cydlyniant. Er enghraifft, mewn chwaraeon elît, mae Cymru yn aml yn cyflawni’n dda ar lwyfan y byd, ond wrth inni ddathlu llwyddiant ein timau rygbi, pêl-droed neu athletau gyda’n gilydd, mae hiliaeth, ar lefel bersonol neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, yn aml yn taflu cysgod dros eu sylfeini hil ac ethnig amrywiol. Bwriedir i’r nodau a’r camau gweithredu yn y cynllun hwn gydnabod yr anfanteision a wynebwyd gan grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gorffennol, a’r rhai a wynebir heddiw, a’u gwrthsefyll.

Eu nod yw dileu gwahaniaethu a rhwystrau sy’n atal pobl rhag mwynhau pob agwedd ar ddiwylliant, treftadaeth a chwaraeon, a chydnabod a dathlu amrywiaeth hil ac ethnig Cymru yn y gorffennol a heddiw.

Yr hyn a wyddom

Yn aml, gall gwahaniaethau yn ein diwylliant a’n treftadaeth gael eu defnyddio i ddiffinio’r rhai yr ystyrir eu bod ‘yn perthyn’ a’r rhai ‘nad ydynt yn perthyn’. Gall agwedd ddatblygu mai dim ond y rhai â threftadaeth a llinach ‘frodorol’ all wir arddel hunaniaeth Gymreig neu Brydeinig. Gall unrhyw un gael ei gau allan o’r fraint o ‘berthyn’ ac o’r manteision sy’n gysylltiedig â’r statws hwnnw.

Mae cyfansoddiad cymdeithas yng Nghymru yn llawer mwy cymhleth na’r hyn y gallai’r stereoteipiau syml hyn ei awgrymu. Rydym oll yn cael budd o gymysgedd diwylliannol cyfoethog; mae pobl o lawer o wahanol gefndiroedd diwylliannol wedi byw ochr yn ochr â’i gilydd ers cenedlaethau. Fodd bynnag, gall canfyddiad negyddol fodoli o hyd, yn aml yn ddiarwybod, nad ydych yn rhan ohonom ‘ni’ os nad ydych yn Wyn, neu os nad ydych yn cydymffurfio â ‘normau’ diwylliannol penodol. Os na chaiff agweddau personol o’r fath na ffyrdd sefydliadol o weithio, a all olygu bod pobl ethnig leiafrifol yn dal i fod yn “bobl eraill”, eu herio, ni fyddwn yn cyflawni’r newid tuag at wrth-hiliaeth a ddymunir.

Gall dathliad o’n diwylliant a’n treftadaeth amrywiol a chyffredin, sy’n gwerthfawrogi’r dylanwadau a’r safbwyntiau byd-eang sydd wedi helpu i ffurfio ein cymdeithas, ac annog cyfleoedd gweithredol a chyfartal i gymryd rhan ym mhob math o ddiwylliant, treftadaeth a chwaraeon, fod yn her bwerus i’r naratif hwn.

Wrth ddatblygu’r gwaith hwn, clywsom y canlynol

Ar y cam ymgynghori, yn ystod y sesiwn a edrychodd yn fanwl ar bolisi lle y rhannwyd tystiolaeth o brofiadau bywyd, mynegwyd y farn bod cyrff cyhoeddus wedi bod yn betrusgar, ac weithiau’n amharod, i gefnogi a chynrychioli grwpiau ethnig lleiafrifol amrywiol, oherwydd cyfyngiadau gwirioneddol neu ganfyddedig ar ddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer rhaglenni ‘gwleidyddol’ neu grefyddol. Awgrymwyd bod hyn wedi cyfyngu ar ryddid mynegiant ac felly hyd yn oed wedi bod yn gyfrifol am fethiant i gyflawni ymrwymiadau cyfreithiol.

Mae gan bob unigolyn yr hawl i gymryd rhan yn y diwylliant a’r traddodiadau y mae’n uniaethu â nhw, a’u mwynhau. Fodd bynnag, drwy’r profiadau bywyd a rannwyd, clywsom hefyd fod pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn enwedig menywod, yn aml yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar eu pennau eu hunain heb fawr ddim dewis ond datblygu gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon eu hunain, heb gyllid na chefnogaeth. Er bod hyn wedi galluogi rhywfaint o ryddid ac ymreolaeth, roedd y rhwystrau a wynebwyd i gael gafael ar gyllid a chyfleusterau yn amharu ar barhad gweithgareddau o’r fath a’r gallu i’w hehangu a’u gwella. Er mwyn gwrthsefyll hyn, mae cymorth ariannol ac adnoddau dynodedig, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu mentrau a arweinir gan grwpiau cymunedol amrywiol ac unigolion, yn hollbwysig i annog ac ennyn creadigrwydd a thalent.

Mewn sesiwn bord gron ddiweddarach, cafwyd trafodaethau am yr heriau a oedd yn codi o ran y rhyddid i fynegi hunaniaeth drwy iaith, a hawl cenedlaethau olynol i gael cyfleoedd i ddysgu am eu treftadaeth ddiwylliannol unigryw a gwerthfawr, eu gwreiddiau a’u hynafiaid. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y thema hon o’i chymharu ag agweddau eraill ar y cynllun, fel un a oedd yn cyfrannu at ymdeimlad llawer ehangach o iechyd a llesiant cymdeithasol.

Yn y sesiwn hon, roedd cefnogaeth gyffredinol i’r nodau a’r camau gweithredu a oedd yn cael eu datblygu, ond nodwyd sawl her o ran eu rhoi ar waith. Er enghraifft, pwysleiswyd bod perchenogaeth dros y naratif diwylliannol yn hollbwysig. Bu’n rhaid herio’r cysyniad o ‘nhw’ fel buddiolwyr a ‘ni’ fel cymwynaswyr, gan roi’r pwys mwyaf ar egwyddorion hawliau ac osgoi sefyllfa lle mae hanesion diwylliannol a threftadol pobl ethnig leiafrifol yn cael eu hadrodd o safbwynt eraill.

Un o’r themâu allweddol a ddaeth i’r amlwg o adborth yr ymgynghoriad ar y bennod ddrafft o’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a gwaith ymgysylltu pellach drwy ddigwyddiadau bord gron arbenigol oedd pwysigrwydd y gweithlu a chynrychiolaeth, a bod angen mynediad a chyfleoedd i gamu ymlaen ar bob lefel o’r gweithlu ym mhob sector sy’n ymwneud â diwylliant, y diwydiannau creadigol a chwaraeon. Rydym wedi addasu ein camau gweithredu i adlewyrchu’r adborth hwn. Rydym wedi rhoi mwy o bwyslais ar y gweithlu, er mwyn sicrhau bod ein nodau a’n camau gweithredu yn adlewyrchu’r meysydd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ledled Cymru.

Yr hyn a wnawn

Mae’r nodau a’r camau gweithredu ar gyfer Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a nodir yn y cynllun hwn yn canolbwyntio ar y themâu canlynol: Arweinyddiaeth, Cyllid, Dathlu Amrywiaeth Ddiwylliannol, y Naratif Hanesyddol a Dysgu am ein Hamrywiaeth Ddiwylliannol.

Y bwriad yw nad rhywbeth trafodiadol yn unig yw uchelgais y nodau a’r camau gweithredu ond rhywbeth trawsnewidiol, gan sicrhau newidiadau amlwg sy’n arwain at yr un canlyniadau i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys menywod, merched, pobl anabl, yr henoed, pobl sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+ a phobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf). Bydd mynediad cyfartal at weithgareddau diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon a’r gallu i gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys rolau arwain, yn gwella canlyniadau i bob grŵp gwarchodedig, yn cefnogi arferion gorau ac yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo Cymru amlddiwylliannol ac amrywiol yn well. Edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos â rhanddeiliaid a chydgynhyrchu â nhw er mwyn symud y gwaith hwn ymlaen.

Gyda phwy rydym yn gweithio

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gyrff diwylliant, treftadaeth a chwaraeon i gyflwyno polisïau a gwasanaethau dros bobl Cymru yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o gyrff a noddir (Cyngor Celfyddydau Cymru, Chwaraeon Cymru, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn

Brenhinol Henebion Cymru). Maent hefyd yn cynnwys sefydliadau eraill a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol yn ogystal â sawl un o is-adrannau Llywodraeth Cymru, sydd naill ai’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn uniongyrchol (megis Cadw), neu am gefnogi’r sector ehangach (yr Is-adran Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon a ‘Cymru Greadigol’).

Gyda’i gilydd, mae’r holl gyrff hyn yn mynd ati i hyrwyddo ac annog cyfranogiad ym mywyd diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon cyfoethog ac amrywiol ein gwlad a byddant yn rhan annatod o’r gwaith o roi’r cynllun gweithredu ar waith.

Yn y tabl sy’n dilyn, lle rydym yn cyfeirio at ‘Sefydliadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus’, mae hyn yn cynnwys Cyrff perthnasol a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau partner yn y sectorau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon, a sefydliadau cymunedol sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at gyflawni’r cynllun gweithredu hwn. Rhagwelwn y caiff ‘allbynnau’ ac ‘effeithiau’ y cynllun hwn eu cymhwyso’n gymesur at ein partneriaid. Er enghraifft, er y bydd disgwyl i bartneriaid perthnasol ar bob lefel gyfrannu at y gwaith o gyflawni’r camau gweithredu yn y cynllun hwn, ni fyddem o reidrwydd yn disgwyl i sefydliadau llawr gwlad bach na sefydliadau lleol fodloni’r holl ofynion y gallem ddisgwyl i’n cyrff a Noddir eu bodloni.

Arweinyddiaeth

Nod: Dwyn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus i gyfrif am roi mesurau a chamau gweithredu gwrth-hiliol ar waith, fel y’u nodir yn y cynllun gweithredu hwn.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ac uwch-arweinwyr pob sefydliad a ariennir fodloni gofynion perfformiad mewn perthynas â gwrth-hiliaeth. Mae’n bosibl y caiff y gofynion hyn eu nodi drwy lythyrau cylch gwaith, llythyrau dyfarnu grant ac amodau grant eraill fel y bo’n briodol.

Bydd sefydliadau a ariennir yn cyflwyno tystiolaeth ddigonol fel y bo’n briodol i ddangos cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad. Er enghraifft, caiff nodau amrywiaeth a chynhwysiant Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru eu hadolygu mewn cyfarfodydd monitro chwarterol, eu diwygio yn ôl yr angen a’u diweddaru’n rheolaidd.

Bydd uwch-arweinwyr a chyrff llywodraethu yn cael eu dwyn i gyfrif.

Bydd egwyddorion gwrth-hiliaeth ar lefel strwythurol yn pennu ac yn arwain newidiadau mewn perthynas â gweithredu polisi ac arferion ar lawr gwlad.

Mawrth 2023 ac yn barhaus.

  • Sefydliadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus.

Ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sefydlu amgylcheddau gwaith sy’n gynhwysol iawn ac yn wrth-hiliol, gan gynnwys hyfforddiant gwrth-hiliaeth fel un o elfennau craidd dysgu a datblygiad proffesiynol.

Bydd pob aelod o’r gweithlu, gan gynnwys aelodau bwrdd, yn cwblhau hyfforddiant. Dylai cyflogeion newydd ei gwblhau fel rhan o’u hyfforddiant cynefino.

Bydd pob aelod o’r gweithlu, gan gynnwys aelodau bwrdd, yn dangos arferion a phenderfyniadau gwrth-hiliol ac yn cymryd cyfrifoldeb am greu amgylchedd gwaith cynhwysol.

Bydd aelodau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol o’r gweithlu yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi a’u parchu yn y gweithle.

Mawrth 2024: y gweithlu ac aelodau bwrdd yn ymgymryd â hyfforddiant.

  • Sefydliadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus.

Sicrhau bod sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus yn casglu/adolygu data ar amrywiaeth ethnig ym mhob rhan o’r sefydliad ac, fel y bo’n briodol, yn rhoi camau ar waith i gynyddu amrywiaeth ethnig ar bob lefel, yn benodol mewn timau arwain ac ar fyrddau, drwy gynnig cyfleoedd swyddi o ansawdd ym meysydd cynllunio, dylunio, curadu a gwneud penderfyniadau a mesur cynnydd.

Data ar amrywiaeth aelodau bwrdd, uwch-reolwyr a’r gweithlu, wedi’u casglu, gan fesur cyfraddau recriwtio a chadw staff i asesu llwyddiant.

Mwy o geisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i weithio mewn sefydliadau, a mwy o bobl Ddu,

Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cyflogi, yn enwedig mewn rolau uwch-arweinwyr ac uwch-reolwyr.

Mwy o geisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i ymuno â byrddau a chyrff llywodraethu sefydliadau, a mwy o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu penodi iddynt.

Bydd aelodau bwrdd, uwch-reolwyr a gweithlu amrywiol yn darparu modelau rôl gweladwy a chyfleoedd i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Mawrth 2023 ac yn flynyddol.

  • Cyrff Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus.

Annog pob sefydliad a ariennir yn gyhoeddus i fabwysiadu polisïau recriwtio ‘cadarnhaol’ a fydd yn cefnogi ac yn galluogi ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a llwybrau gyrfa ar eu cyfer; er enghraifft, drwy adolygu a diwygio dyluniad ffurflenni cais a dulliau hysbysebu swyddi, a darparu hyfforddiant i ymgeiswyr a phaneli dethol.

Mwy o geisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i weithio mewn sefydliadau, a mwy o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cyflogi, yn enwedig mewn rolau uwch-arweinwyr ac uwch-reolwyr.

Mwy o geisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i ymuno â byrddau a chyrff llywodraethu sefydliadau, a mwy o bobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael eu penodi iddynt.

Monitro’r gweithdrefnau recriwtio sydd ar waith ac asesu eu heffaith ar gydraddoldeb. Ymgynghori’n barhaus ar y broses o ddylunio mesurau i ddileu anghydraddoldebau a’u rhoi ar waith.

Bydd aelodau bwrdd, uwch-reolwyr a gweithlu amrywiol yn darparu modelau rôl gweladwy a chyfleoedd i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Mawrth 2023 – Adolygu prosesau a rhoi unrhyw newidiadau ar waith.

Hydref 2024: Effaith a monitro newidiadau.

  • Cyrff Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus.

Adolygu’r systemau presennol ar gyfer rhoi gwybod am gwynion yn ymwneud â gwahaniaethu, ac ymdrin â nhw, gan gynnwys nodi a dileu pob math o wahaniaethu ar sail hil.

Gwell prosesau ar gyfer rhoi gwybod am achosion o wahaniaethu ac ymdrin â nhw.

Proses dryloyw, hygyrch ac effeithiol ar gyfer rhoi gwybod am achosion o wahaniaethu. Bydd y gweithdrefnau’n helpu i newid y diwylliant presennol i un lle y caiff iaith ac ymddygiad hiliol eu gwrthod mewn ffordd agored a phendant.

Mwy o hyder yn y prosesau ar gyfer rhoi gwybod am achosion o wahaniaethu ymhlith ymgeiswyr am swyddi, defnyddwyr gwasanaethau a’r gweithlu Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Mawrth 2023: Adolygiad.

Mawrth 2024: Rhoi’r newidiadau angenrheidiol ar waith.

  • Sefydliadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus.

Cyllid

Nod: Gweithio gyda’r cyrff a noddir gennym i sicrhau eu bod yn defnyddio eu pwerau gwario i roi arferion gwrth-hiliol ar waith, hwyluso mynediad a chanlyniadau cydradd, a chynyddu lefelau cyfranogiad ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i’r eithaf.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cynnal asesiadau ariannol manwl (gan gynnwys gwariant ar y gweithlu) a phennu gofyniad adrodd penodol ynglŷn â sut y caiff sefydliadau llawr gwlad eu cefnogi a sut y caff adnoddau cyllid eu defnyddio ar hyn o bryd.

Dylai hyn fod yn seiliedig ar ddata ansoddol a meintiol a phrofiadau ymarferol.

Adrodd ar yr asesiadau hyn o fewn 12 mis, gan gynnwys argymhellion ar gyfer camau gweithredu cadarn a meintiol.

Cynlluniau sy’n bodoli eisoes wedi’u hadolygu o fewn 12 mis a’r canlyniadau wedi’u cyhoeddi, gan gynnwys argymhellion ar gyfer newid.

Mwy o dryloywder o ran adnoddau cyllid, gan gynnwys sut y caiff sefydliadau llawr gwlad eu cefnogi.

Dosbarthiad tecach o gymorth ariannol.

Mawrth 2023: ar gyfer adolygiadau/ asesiadau.

Mawrth 2024: ar gyfer rhoi’r newidiadau angenrheidiol ar waith.

  • Llywodraeth Cymru a Chyrff Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon perthnasol a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Adolygu’r broses ar gyfer gwneud cais am gyllid er mwyn gwella canlyniadau i bobl neu sefydliadau a arweinir gan bobl Ddu Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys, drwy gefnogi ymgeiswyr a darpar ymgeiswyr i wneud ceisiadau.

Adolygu a diwygio neu ailddylunio cynlluniau cyllido fel y bo’n briodol, er mwyn hwyluso ceisiadau gan gymunedau ym mhob cwr o Gymru. Dylai hyn gynnwys hyrwyddo a thargedu cynlluniau i bobl neu sefydliadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a darparu hyfforddiant a chymorth i helpu gyda cheisiadau a phrosesau dethol.

Monitro, asesu ac adrodd ar effeithiolrwydd gweithdrefnau cyllido diwygiedig.

Argaeledd teg a hygyrchedd cyllid.

Nifer sylweddol mwy o bobl neu sefydliadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn gwneud cais am gyllid ac yn ei gael.

Mawrth 2023: Adolygu Cynlluniau.

Mawrth 2024: Rhoi’r newidiadau angenrheidiol ar waith.

  • Llywodraeth Cymru a Chyrff Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon perthnasol a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Gweithio gyda chyrff cyllido i gyd-lunio cynigion gan sefydliadau bach neu sefydliadau a arweinir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn gwella canlyniadau i grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Nifer sylweddol uwch o gynigion yn cael eu datblygu drwy ddull wedi’i gyd-lunio mewn cydweithrediad â sefydliadau bach.

Bydd sefydliadau bach yn gweithio ochr yn ochr â chyrff a ariennir fel partneriaid cydradd, a bydd ganddynt yr hyder i fynegi eu syniadau a’u dyheadau gan wybod y gwrandewir arnynt i gyd-lunio cynigion diwylliannol.

Mawrth 2024.

  • Llywodraeth Cymru a Chyrff Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon perthnasol a Noddir gan Lywodraeth Cymru (yn enwedig Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru).

Nodi adnodd penodol wedi’i neilltuo i gefnogi gweithgareddau diwylliannol, creadigol a chwaraeon ar lawr gwlad ymhlith grwpiau Du,

Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a hyrwyddo hyn i annog ceisiadau, gan ystyried anfanteision croestoriadol a materion penodol yn ymwneud ag ieithoedd cymunedol.

Mwy o gyllid ar gael i gefnogi mentrau diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon ar lawr gwlad yn benodol.

Mwy o gyfleoedd i gymryd rhan a dechrau mentrau diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon sy’n berthnasol i anghenion a dyheadau grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar lawr gwlad.

Mawrth 2023: mentrau wedi dechrau.

  • Llywodraeth Cymru a Chyrff Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon perthnasol a Noddir gan Lywodraeth Cymru (yn enwedig Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru).

Annog menywod a merched o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i fyw bywydau egnïol, gan ystyried anfanteision croestoriadol, ieithoedd a’r grwpiau mwyaf difreintiedig.

Nifer sylweddol mwy o fenywod a merched o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Cyfleoedd i fenywod a merched Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol gymryd rhan ar lawr gwlad mewn chwaraeon sy’n berthnasol i’w hanghenion a’u dyheadau.

Mawrth 2024.

  • Chwaraeon Cymru .

Dathlu amrywiaeth

Nod: Helpu pob rhan o gymdeithas yng Nghymru i groesawu a dathlu ei threftadaeth ddiwylliannol amrywiol, gan ddeall a chydnabod yr hawl i ryddid mynegiant diwylliannol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cyd-lunio cyfleoedd â sefydliadau cymunedol llawr gwlad i annog unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys menywod, merched, pobl anabl, yr henoed, pobl sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+, a phobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf) i fynegi eu creadigrwydd, eu treftadaeth, eu hiaith, eu hunaniaeth ddiwylliannol a’u gwreiddiau. Bydd y gweithgareddau hyn yn galluogi pobl i ddod ynghyd i ddathlu ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol ond cyffredin, gan gynnwys drwy’r celfyddydau gweledol a pherfformio, gan gynnwys celf stryd gyfoes, ffasiwn, barddoniaeth, dawns, chwaraeon a cherddoriaeth.

Nifer sylweddol mwy o bartneriaethau/ ymgysylltu rhwng y cyrff cyhoeddus a sefydliadau cymunedol llai sy’n cynrychioli pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (yn enwedig menywod, merched, pobl anabl, yr henoed, pobl sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+, a phobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf).

Caiff unigolion creadigol (yn enwedig menywod, merched, pobl anabl, yr henoed, pobl sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+, a phobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf) o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol eu cefnogi ar lawr gwlad yn unigol ac ar y cyd i ysgogi a chymryd rhan mewn cyfleoedd i fynegi eu hunaniaeth eu hunain ar eu telerau eu hunain ac mewn cydweithrediad â chyrff a ariennir yn gyhoeddus.

Hydref 2023: mentrau wedi’u nodi/cytuno.

Mawrth 2025: mentrau wedi’u cyflawni.

  • Cyrff Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus.

Sicrhau bod deunyddiau marchnata a hysbysebu yn wrth-hiliol ac yn adlewyrchu gwir ddyfnder ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol, gan osgoi stereoteipiau a meddiannu diwylliannol.

Deunydd marchnata, brandio a chyfathrebu gwrth-hiliol, ynghyd ag ymwybyddiaeth o ymadroddion hiliol, meddiannu diwylliannol a gwahaniaethu mewn deunydd hysbysebu a marchnata, ac o’r modd y gall hyd yn oed iaith a ddefnyddir â bwriadau da fod yn nawddoglyd a thanseilio egwyddor cydraddoldeb.

Bydd deunydd cyfathrebu mewn mannau cyhoeddus yn amlwg yn wrth-hiliol ac yn cynnwys grwpiau a chymunedau amrywiol Cymru.

Mawrth 2023 ac yn barhaus.

  • Sefydliadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus.

Defnyddio mecanweithiau cyllido Cymru Greadigol a’i chydberthynas â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus drwy ddatblygu Memoranda Cyd-ddealltwriaeth, i annog a chefnogi sector mwy gwrth-hiliol sy’n llunio cynnwys sy’n adlewyrchu realiti ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol ac yn cynnig cyfleoedd i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o flaen y camera a’r tu ôl iddo.

Bydd meini prawf cyllido cynyrchiadau newydd yn rhoi gwell dealltwriaeth o nifer y cyfleoedd sydd ar gael ar gynyrchiadau ffilm a theledu i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ar y sgrin ac oddi arni.

Trafod uchelgeisiau o ran amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mewn cyfarfodydd chwarterol a’u diweddaru bob blwyddyn os oes angen.

Bydd ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn gwneud cais llwyddiannus am swyddi a chyfleoedd hyfforddi a gynigir gan gynyrchiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Mawrth 2023.

  • Cymru Greadigol.
  • Darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.

Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau gweithredu Cymru Greadigol ar gyfer sectorau â blaenoriaeth er mwyn sicrhau ffocws gwrth-hiliol penodol ar gamau gweithredu sy’n mynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y diwydiannau creadigol a chefnogi llwybrau cynhwysol i mewn i’r sector.

Adolygiad blynyddol o gynnydd tuag at gyflawni pob cynllun gweithredu mewn perthynas â thangynrychiolaeth yn y diwydiannau creadigol, yn dilyn cyhoeddi’r cynlluniau gweithredu.

Caiff mwy o swyddi a chyfleoedd hyfforddi eu cynnig gan gynyrchiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Mawrth 2023 ac yn barhaus.

  • Cymru Greadigol
  • Grwpiau rhanddeiliaid sectorau â blaenoriaeth Cymru Greadigol
  • Bwrdd Anweithredol Cymru Greadigol.

Y naratif hanesyddol

Nod: Gweithio gyda chyrff cyhoeddus i gydnabod yn llawn eu cyfrifoldeb (yn unigol ac ar y cyd) am gyflwyno’r naratif hanesyddol priodol, gan hyrwyddo a chyflwyno disgrifiad cytbwys, dilys ac wedi’i ddatrefedigaethu o’r gorffennol – disgrifiad sy’n cydnabod anghyfiawnderau hanesyddol ac effaith gadarnhaol cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Adolygu a datrefedigaethu ein mannau a’n casgliadau cyhoeddus drwy ymdrin yn briodol â’r ffordd y caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu coffáu, gan gydnabod y niwed a wnaed yn sgil eu gweithredoedd ac ail-lunio’r ffordd y caiff eu hetifeddiaeth ei chyflwyno er mwyn cydnabod hyn yn llawn.

Cyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus a lleol sy’n cyfeirio at ganfyddiadau 'Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o Goffáu yng Nghymru' i egluro’r ffordd y maent yn adolygu ac yn mynd i’r afael â choffadwriaethau hanesyddol. Caiff y canllawiau hyn eu hyrwyddo er mwyn helpu i’w rhoi ar waith.

Caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu portreadu mewn ffordd wrth-hiliol, gan gydnabod anghyfiawnderau hanesyddol.

Mawrth 2023: canllawiau newydd.

Mawrth 2025: gweithredu.

  • Sefydliadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus ac awdurdodau lleol, fel y bo’n briodol.

Gweithio gyda chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i nodi a chodi rhwystrau i fwynhau safleoedd treftadaeth a chasgliadau diwylliannol.

Adrodd straeon o safbwynt profiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (ddoe a heddiw) yn ein horielau a’n hamgueddfeydd, gan gynnwys drwy arddangosiadau parhaus, a thrwy ddathlu eu cyfraniad a chydnabod eu presenoldeb yn hanes Cymru.

Cynlluniau neu arddangosiadau newydd a phresennol wedi’u cyd-gynhyrchu ar lefel leol a chenedlaethol y gellir eu defnyddio fel enghreifftiau ar gyfer gosod y naratif hanesyddol.

Mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynrychioli’n wirioneddol yn natur gyfoethog ac amrywiol ein treftadaeth gyffredin.

Dywed cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol fod lleisiau’r rhai y mae naratif hanesyddol y gorffennol a’r presennol yn eu hesgeuluso yn cael eu clywed a’u dathlu.

Mawrth 2025.

  • Sefydliadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus.

Sicrhau bod cyrff perthnasol yn adrodd ar y ffordd y maent wedi adolygu ac wedi ail-lunio’r naratif hanesyddol yn seiliedig ar brofiadau amrywiol, gan sicrhau y caiff unigolion a grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n cymryd rhan ac yn rhannu eu profiadau ymarferol eu talu’n briodol am eu hamser a’u profiad.

Mae adolygiadau gan gyrff cyhoeddus perthnasol wedi’u cwblhau, ac mae cynlluniau gweithredu wedi cael eu rhoi ar waith.

Bydd naratif hanesyddol Cymru yn cynrychioli’n wirioneddol natur gyfoethog ac amrywiol ein treftadaeth gyffredin.

Mawrth 2023: adolygiad o naratif hanesyddol wedi’i gwblhau gan sefydliadau.

Hydref 2023: cynlluniau gweithredu wedi’u rhoi ar waith.

  • Sefydliadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus fel y bo’n briodol.

Dysgu am ein hamrywiaeth ddiwylliannol

Nod: Nodi a chyrraedd targedau i gynnig cyfleoedd addysg a dysgu gwrth-hiliol, gan gynnwys deunyddiau dehongli, marchnata ac addysgol sy’n cydnabod ac yn dathlu cymysgedd diwylliannol cyfoethog ac amrywiol ein cymdeithas, yn annog ymgysylltiad corfforol a deallusol eang ac yn hyrwyddo arferion ac egwyddorion gwrth-hiliol drwyddi draw.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Adolygu cynnwys ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol i wella gwelededd ac annog hygyrchedd – gan chwilio am grwpiau ac unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a gweithio gyda nhw i ddatgelu straeon heb eu hadrodd a dathlu llwyddiant.

Yr holl gynnwys ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol yn cydnabod ac yn dathlu amrywiaeth ac yn annog ymgysylltu gwrth-hiliol.

Dosberthir cynnwys drwy amrywiaeth ehangach o rwydweithiau a sianeli, gan ddefnyddio amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau a dulliau i gefnogi ymgysylltu.

Dywed cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol fod cynnwys diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon ar-lein yn fwy ystyriol, hygyrch, teg a gwrth-hiliol, a bod deunyddiau ar gael mewn ieithoedd gwahanol.

Hydref 2023 ac yn barhaus.

  • Sefydliadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus fel y bo’n briodol.

Adeiladu ar straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n rhan o raglenni addysgol a diwylliannol sy’n bodoli eisoes a chysylltu’r straeon hynny ymhellach, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, Cyfuno, Hwb, Cynefin a Chasgliad y Werin Cymru.

Dulliau addysgu a dysgu, a deunyddiau cysylltiedig, yn dathlu amrywiaeth ac yn annog ymgysylltu gwrth-hiliol.

Casgliadau perthnasol, a hyrwyddir fel rhan o’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm drwy fynediad digidol cynyddol a mwy o ymgysylltu ag ysgolion.

Mae Casgliad y Werin Cymru yn cynnig storfa ddigidol o straeon sy’n adlewyrchu profiadau (ddoe a heddiw) pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn well.

Mwy o ymgysylltu â chydgysylltwyr rhaglen Cyfuno, gan hyrwyddo cydraddoldeb drwy Ddiwylliant.

Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y boblogaeth, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, o gyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol at fywyd yng Nghymru.

Mwy o ymgysylltu â’n sefydliadau diwylliannol ymhlith plant a phobl ifanc o oedran cynnar ac mewn ffordd gwbl wrth-hiliol, gan barhau drwy eu haddysg a’u dysgu gydol oes.

Mawrth 2024.

  • Sefydliadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ariennir yn gyhoeddus.
  • Is-adran Cwricwlwm Llywodraeth Cymru.

Iechyd

Ychydig o dystiolaeth

Mae dadansoddiad a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn dangos bod y risg o farwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 ymhlith rhai grwpiau ethnig yng Nghymru a Lloegr wedi bod dipyn yn uwch na’r risg i bobl Wyn. Priodolir y gwahaniaeth hwn yn rhannol i ffactorau economaidd-gymdeithasol, lleoliad daearyddol ac amgylchiadau eraill, ond i ryw raddau nid oes esboniad amdano o hyd (Llywodraeth Cymru, 2020b).

Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos bod 11.2 y cant o weithwyr gofal iechyd yng Nghymru yn 2019 yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (Llywodraeth Cymru, 2020b).

Yn 2017, lluniodd Mudiad y Teithwyr adroddiad yn seiliedig ar arolwg ar-lein o 214 o aelodau’r gymuned dros 18 oed yn y DU, a oedd yn ystyried profiad Sipsiwn, Roma a Theithwyr o ragfarn a gwahaniaethu. Canfu’r adroddiad fod 30% o’r ymatebwyr wedi wynebu gwahaniaethu mewn perthynas â chael gafael ar ofal iechyd (Mudiad y Teithwyr, 2017).

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod dros bedair gwaith yn fwy o wahaniaeth yn y cyfraddau o ran marwolaethau mamau ymhlith menywod o gefndiroedd ethnig Du o hyd, a a bron dwy waith o wahaniaeth yn y cyfraddau ymhlith menywod o gefndiroedd ethnig Asiaidd o’u cymharu â menywod gwyn (Knight M et al., 2021). Hefyd, erys cyfraddau marwolaethau yn eithriadol o uchel o hyd ymhlith babanod o ethnigrwydd Du/Du Prydeinig: mae cyfraddau marw-enedigaethau dros ddwywaith yn fwy na’r cyfraddau ar gyfer babanod Gwyn ac mae’r cyfraddau marwolaethau newyddenedigol 43% yn uwch. Yn yr un modd, erys cyfraddau marwolaethau i fabanod Asiaidd ac Asiaidd Prydeinig yn uchel o hyd: mae cyfraddau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol tua 60% yn uwch na’r cyfraddau ar gyfer babanod Gwyn (Draper ES, et al., 2021).

Cyflwyniad

Mae ein gweledigaeth ar gyfer ‘dull system gyfan teg o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol’ yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant ein gweithlu a’n cymunedau, ac ar atal salwch. Er y cyflwynir Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wahân yn y cynllun hwn, mae gorgyffwrdd angenrheidiol a bwriadol er mwyn sicrhau llwyddiant ar y cyd.

Fel y ddau gyflogwr mwyaf o faint a mwyaf amrywiol yng Nghymru, mae ein sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ddarparwyr allweddol gwasanaethau hanfodol. Mae pobl ethnig leiafrifol yn gwneud cyfraniad hynod werthfawr i lwyddiant y GIG ar bob lefel ac i’n cymdeithas yng Nghymru yn fwy cyffredinol. Mae’n rhaid bod ein staff yn gallu gweithio mewn amgylcheddau diogel a chynhwysol, lle maent yn hyderus y byddant yn cael cymorth i wireddu eu potensial a chynghreiriaid amlwg. Bydd hyn, yn ei dro, yn sicrhau bod dinasyddion o gymunedau ethnig lleiafrifol yn gallu cael gafael ar wasanaethau sy’n briodol i’w hanghenion, heb ofn hiliaeth a bydd yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd hanesyddol.

Yr hyn a wyddom

Wrth inni ddatblygu’r gwaith hwn, rydym yn sylweddoli bod yn rhaid inni barhau i roi mwy o ffocws ar leihau anghydraddoldebau iechyd tra bydd amrywio o ran sut mae gwasanaethau iechyd yn rhoi mynediad i grwpiau ethnig lleiafrifol ac yn ymgysylltu â nhw, ac o ran sut y caiff gwasanaethau eu darparu a phrofiadau unigolion o ofal. Gwyddom fod menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn wynebu heriau sylweddol penodol, a gwahaniaethau niweidiol mesuradwy o ran canlyniadau iechyd, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth. Mae sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu mewn ffordd hygyrch a diwylliannol sensitif i bawb, gan gynnwys menywod, yn flaenoriaeth inni. Mae’n rhaid inni hefyd barhau i ganolbwyntio ar leihau’r anghydraddoldebau iechyd sy’n codi o ganlyniad i benderfynyddion iechyd ehangach ac ehangu a datblygu ein defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd.

Gwyddom fod llawer i’w wneud i sicrhau bod ein GIG yng Nghymru yn wrth-hiliol, ac rydym yn ymrwymo i’r camau gweithredu canlynol dros y 12 i 18 mis nesaf i greu’r conglfeini y byddwn yn adeiladu arnynt a chyflymu’r cynnydd drwy’r cynllun cyfan hwn:

Cam blaenoriaeth 1: arweinyddiaeth

Mynnu arweinyddiaeth wrth-hiliol ar bob lefel drwy gyfarwyddyd.

Bydd pob un o Fyrddau, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Arbennig y GIG yn cyflwyno adroddiadau ar gynnydd y gellir ei ddangos o ran hyrwyddo gwrth-hiliaeth ar bob lefel drwy wneud y canlynol:

  • penodi ‘Hyrwyddwyr Cydraddoldeb Gweithredol’ a ‘Llysgenhadon Diwylliannol’
  • rhoi cynllun llwybrau dyrchafiad ac arweinyddiaeth ar waith i staff ethnig lleiafrifol
  • darparu lefelau priodol o adnoddau a mynediad at y Bwrdd i Rwydweithiau Ethnig Lleiafrifol

Cam blaenoriaeth 2: y gweithlu

Comisiynu archwiliad annibynnol o’r holl bolisïau a gweithdrefnau presennol sy’n ymwneud â’r gweithlu o safbwynt gwrth-hiliol, a disgwyl cynrychiolaeth o grwpiau ethnig lleiafrifol mewn fforymau neu grwpiau a sefydlir i lunio’r archwiliad/a goruchwylio a chefnogi’r broses o’u rhoi ar waith a’u cymhwyso’n effeithiol.

Cam blaenoriaeth 3: data

Gwella ansawdd data ar y gweithlu a chyflwyno Safon Cydraddoldeb Hil ar gyfer y Gweithlu i ddarparu sylfaen dystiolaeth i sicrhau newid strwythurol wedi’i dargedu a’i fesur. Wedi’i ategu gan newid diwylliannol, drwy ymyriadau wedi’u targedu ar lefel leol a chenedlaethol, a ddatblygir drwy bartneriaeth gymdeithasol.

Cam blaenoriaeth 4: mynediad at wasanaethau

Bydd y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol, wedi’i chyd-lunio a’i datblygu â chymunedau ethnig lleiafrifol a rhanddeiliaid, yn manylu ar newidiadau penodol i wasanaethau mamolaeth a fydd yn gwella canlyniadau a phrofiadau menywod a theuluoedd o gymunedau ethnig lleiafrifol sy’n wynebu anghydraddoldebau iechyd, ac yn eu rhoi ar waith.

Cam blaenoriaeth 5:anghydraddoldebau iechyd

Bydd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn sefydlu gweithgor penodol ar anghydraddoldebau iechyd. Bydd y gweithgor yn gweithio ochr yn ochr â phobl o gymunedau ethnig lleiafrifol i nodi’r rhwystrau a wynebir gan y cymunedau hyn i gael gafael ar wasanaethau ac yn cyd-lunio gwaith â nhw. Erbyn 2023, bydd y gweithgor yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gellir dileu rhwystrau er mwyn sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau. Yn ogystal â mynd i’r afael â’r rhwystrau i gael gafael ar wasanaethau, bydd y gweithgor hefyd yn datblygu rhaglenni gwaith i sicrhau bod GIG Cymru’n gwneud cymaint â phosibl i ymdrin â’r anghydraddoldebau iechyd a brofir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Drwy’r camau gweithredu hyn â blaenoriaeth rydym yn ymrwymo i sicrhau newid diwylliannol hanfodol ar fyrder i’n gweithlu ethnig lleiafrifol yn y GIG a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n defnyddio ein gwasanaethau ledled Cymru.

Yr hyn rydym wedi’i wneud

Ymrwymwyd i sicrhau cynnydd ar fyrder yn erbyn y pum nod galluogi Iechyd.

Nod 1: arweinyddiaeth ac atebolrwydd

Mae Rhwydweithiau Staff Ethnig Lleiafrifol wedi cael eu sefydlu ym mron pob bwrdd iechyd. Byddwn yn ehangu hyn fel gofyniad i bob bwrdd iechyd eu cynnull a neilltuo adnoddau ar eu cyfer.

Nod 2: y gweithlu

Drwy weithio mewn partneriaeth, rydym wedi cyflwyno Polisi Parch a Datrys yn y Gweithle yn lle’r polisïau blaenorol ar Urddas yn y Gwaith a Chwynion Cyflogaeth. Byddwn yn monitro’r canlyniadau gyda phobl ethnig leiafrifol ac yn unioni gwahaniaethau.

Mae Ysgol Feddygol a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cyd-lunio newidiadau cwricwlaidd a diwylliannol gwrth-hiliol sydd wedi’u llywio gan brofiadau bywyd.

Mae AaGIC wedi creu Bwrdd Gwahaniaethau mewn Cyrhaeddiad i fynd i’r afael ag achosion o drin meddygon yn GIG Cymru yn anghyfartal a galluogi cymorth wedi’i dargedu.

Mae hyfforddiant i Oruchwylwyr Addysgol a Chlinigol wedi cael ei roi ar faterion yn ymwneud â pheidio â chadw’n dawel ac mae gwaith wedi dechrau, gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn darparu data ategol i ddatblygu dangosyddion igofnodi cynnydd mewn perthynas â Gwahaniaethau mewn Cyrhaeddiad.

Nod 3: data

Mae grŵp cwmpasu Safon Cydraddoldeb Hil i’r Gweithlu yng Nghymru wedi cael ei sefydlu a bydd yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd gan y GIG yn Lloegr wrth iddo ddatblygu’r safon a’i rhoi ar waith er mwyn datblygu argymhellion i Gymru.

Rydym yn cefnogi sawl menter, gan gynnwys Adnodd Data Cenedlaethol Cymru Gyfan, Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw a’r rhaglen Gwerth mewn Iechyd er mwyn deall amrywiadau mewn canlyniadau iechyd a gwneud gwasanaethau’n fwy diogel ac effeithiol.

Nod 4: mynediad at wasanaethau

Rydym wedi cyfarfod â grwpiau ac arweinwyr cymunedol i ddeall yn well y canlyniadau mamolaeth, mynediad ac agweddau cymunedau ethnig lleiafrifol er mwyn llywio’r Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yn uniongyrchol. Rydym wedi pennu targedau ar gyfer ein Strategaeth Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol i fenywod a phlant ethnig lleiafrifol.

Nod 5: mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd

Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y cyd â Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru sy’n edrych ar ffyrdd o wella mynediad at gymorth a gwasanaethau iechyd meddwl i gymunedau ethnig lleiafrifol a’u hansawdd. Gan gydnabod anghenion unigryw ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr, rydym hefyd wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar wahân (a gadeirir gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru a Straen Trawmatig Cymru) i ddatblygu cynigion i fynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl y bobl hyn nad ydynt yn cael eu diwallu.

Darparwyd cyllid ychwanegol i Diverse Cymru er mwyn helpu i gyflawni ei gynllun cymhwysedd diwylliannol ledled Cymru.

Mae Amser i Newid Cymru, sef ein rhaglen i helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu, wedi penodi Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru fel partner cyflawni i ganolbwyntio ar faterion y mae cymunedau ethnig lleiafrifol yn eu hwynebu.

Gwnaethom sefydlu Pwyllgor Brechu Teg ar gyfer COVID-19 a chyhoeddi Strategaeth Brechu Teg COVID-19. Ynghyd â phartneriaid allweddol, byddwn yn parhau i annog pobl i gael eu brechu drwy gynnig gwasanaeth hyblyg yn ôl amgylchiadau lleol. Bydd hyn yn cynnwys oriau agor estynedig, allgymorth, clinigau dros dro, a darpariaeth mewn lleoedd lleol gyda chymorth cyfryngwyr yr ymddiriedir ynddynt a gwella mynediad at wybodaeth ddibynadwy.

Wrth ddatblygu’r gwaith hwn, gwelsom ein bod wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd, ond bod angen mwy o newidiadau.

Gwyddom fod COVID-19 wedi effeithio ar grwpiau penodol o’r boblogaeth, defnyddwyr gwasanaethau a staff iechyd fel ei gilydd. Rydym wedi gweithio gyda grwpiau ac arweinwyr cymunedol i geisio lleihau effaith barhaus y pandemig.

Nod: Bydd y GIG yng Nghymru yn wrth-hiliol ac ni fydd yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu nac anghydraddoldeb i gyflogeion na defnyddwyr gwasanaethau.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cam blaenoriaeth 1: Mynnu arweinyddiaeth ar wrth-hiliaeth ar bob lefel drwy gyfarwyddyd.

Bydd pob un o Fyrddau, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Arbennig y GIG yn cyflwyno adroddiadau ar gynnydd y gellir ei ddangos o ran hyrwyddo gwrth-hiliaeth ar bob lefel drwy wneud y canlynol:

  • penodi ‘Hyrwyddwyr Cydraddoldeb Gweithredol’ a ‘Llysgenhadon Diwylliannol’
  • rhoi cynllun llwybrau dyrchafiad ac arweinyddiaeth ar waith i staff ethnig lleiafrifol
  • darparu lefelau priodol o adnoddau a mynediad at y Bwrdd i Rwydweithiau Ethnig Lleiafrifol

Penodi Hyrwyddwyr Cydraddoldeb Gweithredol a Llysgenhadon Diwylliannol; Cynlluniau Llwybrau; cynlluniau lleol ac archwilio wedi’u rhoi ar waith i gefnogi Rhwydweithiau Ethnig Lleiafrifol sy’n adrodd drwy Gynlluniau Tymor Canolig Integredig a chynlluniau blynyddol, ac wedi’u cydnabod yn benodol ym mhrosesau cynllunio blynyddol Addysg a Gwella Iechyd (AaGIC).

Cynrychiolaeth a chynghreiriaeth fwy gweladwy ar bob lefel, llwybr arweinyddiaeth clir i staff ethnig lleiafrifol a rhwydweithiau ffyniannus sy’n cefnogi’r Byrddau ac yn gweithredu fel cyfaill beirniadol iddynt. Dull mwy effeithiol o fynd i’r afael â gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad.

Medi 2023.

  • Byrddau’r GIG.
  • Rhwydweithiau cydraddoldeb.
  • Llywodraeth Cymru.

Defnyddio fframweithiau deddfwriaethol sy’n bodoli eisoes i’w gwneud yn ofynnol i sefydliadau’r GIG ddatblygu cynlluniau gweithredu ar wrth-hiliaeth; ar gyfer cyflogaeth a darpariaeth gwasanaethau fel rhan benodol o’u dull ehangach o ymdrin â chydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth. Byddant yn monitro cynnydd ac yn adrodd arno drwy Gynlluniau Tymor Canolig Integredig a chynlluniau blynyddol a phroses y Tîm Gweithredol ar y Cyd.

Mae cynlluniau sefydliadol y GIG yn cynnwys cynlluniau gweithredu ar wrth-hiliaeth, wedi’u monitro’n flynyddol gan Lywodraeth Cymru o ran priodoldeb, arferion da ac effaith yn ogystal â chydymffurfiaeth ofynnol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Bydd rhoi cynlluniau gweithredu ar wrth-hiliaeth ar waith yn lleihau profiad pobl o hiliaeth wrth gael eu recriwtio a’u dyrchafu ac wrth weithio neu ddefnyddio gwasanaethau.

Rhagfyr 2022.

  • Byrddau’r GIG.
  • Llywodraeth Cymru.

Bydd pob aelod Bwrdd yn y GIG yn ymgymryd â rhaglen addysg ar wrth-hiliaeth ac yn gweithredu ac yn adrodd ar gynnydd yn erbyn amcanion personol (pob aelod Bwrdd) er mwyn cyflawni’r weledigaeth o Gymru

wrth-hiliol.

Tystiolaeth o bresenoldeb, cyfranogiad a gwell dealltwriaeth ac ymddygiad ymhlith aelodau Bwrdd lle y bo angen.

Adroddiad yn manylu ar amcanion personol a chynnydd yn erbyn yr amcanion.

Tystiolaeth weladwy o ddatblygiad o ran y ffordd y mae aelodau Bwrdd yn ymddwyn.

Newid gweladwy, lle y bo angen, mewn prosesau gwneud penderfyniadau, sy’n dangos tystiolaeth o ystyried a gweithredu ar wrth-hiliaeth, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Cynghreiriaeth ac arweinyddiaeth weladwy a thryloyw sy’n rhoi hyder i’r gweithlu a defnyddwyr gwasanaethau yr eir i’r afael yn rhagweithiol â hiliaeth strwythurol.

Rhagfyr 2022.

  • Byrddau’r GIG.
  • Llywodraeth Cymru.
  • Sefydliadau partner.

Bydd uwch-arweinwyr yng Ngrŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn sefydlu Bwrdd Her mewnol i gynnwys cynrychiolaeth allanol i fonitro cynnydd yn erbyn Nodau a Chamau Gweithredu Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sicrhau cynnydd ar y cyd.

Mae’r Bwrdd Her mewnol wedi’i gynnull a chytunwyd ar Gylch Gorchwyl ac amserlen o gyfarfodydd.

Arweinyddiaeth a chynghreiriaeth weladwy yn dangos atebolrwydd ar y lefel uchaf ac ymrwymiad i sicrhau y creffir ar y Nodau a Chamau Gweithredu Iechyd ac y caiff cynnydd ei herio.

Gorffennaf 2022.

  • Uwch-arweinwyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Nod: Bydd staff yn gweithio mewn amgylcheddau diogel a chynhwysol, sydd wedi’u hadeiladu ar arweinyddiaeth wrth-hiliol ac yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial llawn, a chaiff staff ethnig lleiafrifol a’u cynghreiriaid eu grymuso i nodi arferion hiliol a mynd i’r afael â nhw.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cam blaenoriaeth 2: Comisiynu archwiliad annibynnol o’r holl bolisïau a gweithdrefnau presennol sy’n ymwneud â’r gweithlu o safbwynt gwrth-hiliol, a disgwyl cynrychiolaeth o grwpiau ethnig lleiafrifol mewn fforymau neu grwpiau a sefydlir i lunio’r archwiliad a goruchwylio a chefnogi’r broses o’u rhoi ar waith a’u cymhwyso’n effeithiol.

Archwiliad Annibynnol o’r polisïau presennol ar gyfer y gweithlu wedi’i gwblhau gydag argymhellion i gryfhau egwyddorion gwrth-hiliol. Bydd

hyn yn cynnwys polisïau ynglŷn â chwynion cyflogaeth, cwynion eraill a’r defnydd o Gytundebau Peidio â Datgelu.

Sicrwydd annibynnol bod polisïau sy’n ymwneud â’r gweithlu yn mynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol.

Hyder ymhlith y gweithlu bod egwyddorion gwrth-hiliol yn rhan annatod o bolisïau ac y creffir arnynt yn annibynnol.

Mwy o hyder ymhlith staff ethnig lleiafrifol y byddant yn gweithio mewn gweithle diogel a chynhwysol sy’n cydnabod ac yn hyrwyddo eu perfformiad a’u cynnydd. Bydd hyn hefyd yn mynd i’r afael ag amrywiaeth ethnig ar bob lefel o weithlu’r GIG ledled Cymru.

Rhagfyr 2022.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Cyflogwyr GIG Cymru.
  • Sefydliadau GIG Cymru.
  • Undebau llafur.
  • Sefydliadau partner.

Bydd Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) a Sefydliadau’r GIG yn llunio rhaglenni addysg ar wrth-hiliaeth ar y cyd â phartneriaid ethnig lleiafrifol.

Gosod gofyniad ar bob aelod o staff y GIG a phob un o wirfoddolwyr y GIG a myfyrwyr i gwblhau rhaglenni addysg ar wrth-hiliaeth ar eu ffurf newydd.

Archwiliad o’r ymyriadau addysgol/hyfforddiant presennol ar wrth-hiliaeth.

Ymyriadau addysg priodol ar wrth-hiliaeth wedi’u datblygu.

Adroddiad yn manylu ar nifer y staff, y myfyrwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n cwblhau’r rhaglen addysg.

Bydd arfarniadau yn cofnodi cyfraddau cwblhau a chyfranogi mewn addysg ar wrth-hiliaeth, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i amcanion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant gael eu pennu a’u cyflawni.

Cynigir ymyriadau addysgol cyson ac addas at y diben i bob aelod o staff, myfyriwr a gwirfoddolwr.

Addysg orfodol weladwy sy’n rhoi hyder i’r gweithlu bod y sefydliad yn cymryd egwyddorion gwrth-hiliol o ddifrif.

Tystiolaeth weladwy o ddatblygiad a newid yn yr ymddygiadau a welir ymhlith y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen addysg.

Staff yn fwy hyderus i fod yn gynghreiriaid a thynnu sylw at achosion o hiliaeth.

Staff yn fwy hyderus i gwyno am achosion o hiliaeth gan gydweithwyr a’r cyhoedd.

Rhagfyr 2023.

  • Cyflogwyr GIG Cymru.
  • Sefydliadau GIG Cymru.
  • Sefydliadau Addysg Uwch.
  • Sefydliadau partner.

Bydd pob un o sefydliadau’r GIG yn ymrwymo i fod yn rhan o’r Rhaglen Darpar Aelodau Bwrdd, gan sicrhau addysg, mentora a chymorth i gyfranogwyr a fydd yn dod o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Academi Wales i weithio mewn partneriaeth â GIG Cymru a sefydliadau priodol eraill i ddatblygu a rhedeg Rhaglen i Ddarpar Aelodau Bwrdd.

Bydd pob un o sefydliadau’r GIG yn darparu profiad, addysg a mentora gan uwch-gyfarwyddwr anweithredol i o leiaf un darpar aelod bwrdd gan gynnwys y cyfle i fynychu cyfarfodydd byrddau a phwyllgorau.

Bydd yr uwch-aelod anweithredol hefyd yn cael cymorth mentora o chwith gan y darpar aelod bwrdd.

Cynnydd yn nifer y bobl o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n gallu dangos yn fwy effeithiol eu gallu i ymgymryd â rôl aelod anweithredol.

Mwy o amrywiaeth ethnig ar Fyrddau, gan adeiladu cyflenwad cadarn o ddarpar aelodau Bwrdd o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Rhagfyr 2022.

  • AAGIC.
  • Sefydliadau GIG Cymru.
  • Undebau llafur.
  • Academi Wales.
  • Llywodraeth Cymru.
  • Byrddau’r GIG.

Bydd AaGIC yn sicrhau bod pob rhaglen a gomisiynir yn darparu tystiolaeth o egwyddorion gwrth-hiliol ac yn adlewyrchu Cynllun Cydraddoldeb Strategol AaGIC er mwyn cyflawni’r amcanion o ran gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad, ehangu mynediad a thangynrychiolaeth cymunedau ethnig lleiafrifol yn GIG Cymru.

Adroddiad gan AaGIC (yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol) yn nodi sut mae’n dwyn sefydliadau i gyfrif drwy’r broses gomisiynu.

Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn nodi materion o ran gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad ac yn mynd i’r afael â nhw.

Mae egwyddorion gwrth-hiliol yn rhan annatod o’r broses gomisiynu.

Medi 2023.

  • AaGIC
  • Sefydliadau GIG Cymru.
  • Undebau llafur

Nod: Caiff data ar hil, ethnigrwydd ac anfantais groestoriadol eu casglu’n rheolaidd, eu rhannu a’u defnyddio mewn ffordd dryloyw, er mwyn dileu anghydraddoldebau mewn iechyd a mynediad at wasanaethau iechyd, a rhoi sicrwydd bod GIG Cymru yn amgylchedd gwrth-hiliol a diogel i staff a chleifion.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cam blaenoriaeth 3: Gwella ansawdd data ar y gweithlu a chyflwyno Safon Cydraddoldeb Hil ar gyfer y Gweithlu i ddarparu sylfaen dystiolaeth i sicrhau newid strwythurol wedi’i dargedu a’i fesur. Wedi’i ategu gan newid diwylliannol, drwy ymyriadau wedi’u targedu ar lefel leol a chenedlaethol, a ddatblygir drwy bartneriaeth gymdeithasol.

Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu wedi’i chwmpasu a’i rhoi ar waith i gynnwys data ar ddatblygiad gyrfa, arweinyddiaeth, cynrychiolaeth, gwahaniaethu a bwlio mewn perthynas â gweithlu ethnig lleiafrifol y GIG a Gofal Cymdeithasol.

Data o ansawdd uchel ar y gweithlu, wedi’u seilio ar ddiwylliant lle y gall staff fod yn ddiogel a theimlo’n hyderus i ddarparu data ar ethnigrwydd a mynegi pryderon ynglŷn â gwahaniaethu ar sail hil ac arferion hiliol.

Medi 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Sefydliadau GIG Cymru.
  • Undebau Llafur.
  • Sefydliadau partner.

Cyflwyno dulliau systemig o fonitro pryderon y gweithlu ynglŷn â gwahaniaethu a bwlio a godir gan staff drwy broses y Tîm Gweithredol ar y Cyd. Caiff ffynonellau o ddata a gwybodaeth am y gweithlu eu mireinio, gan gynnwys Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu a Chanolfan Ragoriaeth AaGIC.

Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu wedi’i chwmpasu a’i rhoi ar waith.

Data o ansawdd uchel ar y gweithlu, wedi’u seilio ar ddiwylliant lle y gall staff fod yn ddiogel a theimlo’n hyderus i ddarparu data ar ethnigrwydd a mynegi pryderon ynglŷn â gwahaniaethu ar sail hil ac arferion hiliol.

Erbyn 2023.

  • Yr Is-adran Cynllunio a Pherfformiad yn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyd-lunio a diwygio’r ffordd y caiff data iechyd y boblogaeth eu casglu, gan greu sylfaen dystiolaeth i ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol teg.

Adroddiad yn nodi sut mae’r broses o gasglu a monitro data ar iechyd y boblogaeth wedi cael ei diwygio, ac effaith hynny.

Ffordd gydlynol ac wedi’i mireinio o goladu data ar iechyd y boblogaeth.

Gwell lefelau tryloywder ac atebolrwydd, gan gynyddu hyder yn ôl poblogaeth, a rhoi data i sefydliadau y gallant fod yn hyderus i weithredu yn eu cylch.

Erbyn 2023.

  • Yr Is-adran Gwella Iechyd y Cyhoedd yn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Nod: Byddwn yn nodi ac yn chwalu rhwystrau sy’n atal mynediad teg at wasanaethau gofal iechyd i bobl Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cam blaenoriaeth 4: Bydd y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol, wedi’i chyd-lunio a’i datblygu â chymunedau ethnig lleiafrifol a rhanddeiliaid, yn manylu ar newidiadau penodol i wasanaethau mamolaeth a fydd yn gwella canlyniadau a phrofiadau menywod a theuluoedd o gymunedau ethnig lleiafrifol sy’n wynebu anghydraddoldebau iechyd, ac yn eu rhoi ar waith.

Cyhoeddi ac adrodd ar gynnydd y rhaglen.

Lleihad yn nifer y marwolaethau amenedigol ymhlith menywod a babanod ethnig lleiafrifol.

Gwell profiadau o ofal yn ystod beichiogrwydd a rhoi genedigaeth, gan gynnwys rheoli poen wrth roi genedigaeth.

Ionawr 2023.

  • Swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio.

Cam gweithredu 5: Sefydlu gweithgor penodol ar anghydraddoldeb iechyd i fynd i’r afael â rhwystrau i gael gwasanaethau a gwneud argymhellion i’w gwella. Bydd y grŵp yn clywed gan arbenigwyr drwy brofiad bywyd ac yn defnyddio’r dystiolaeth sydd eisoes wedi’i chyflwyno.

Gweithgor wedi’i sefydlu, arbenigwyr a phartneriaid cymunedol wedi’u nodi, Cylch Gorchwyl wedi’i bennu a chyfarfodydd wedi’u trefnu.

Mwy o ymwybyddiaeth o rwystrau ac argymhellion sy’n seiliedig ar brofiad bywyd o ffyrdd i’w dileu.

Bydd ymgynghori â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ennyn her bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a bod gwahaniaethau systemig yn cael eu rhoi ar waith i wella mynediad at wasanaethau.

Rhagfyr 2023.

  • Yr Is-adran Gwella Iechyd y Cyhoedd yn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Sicrhau bod ein cynlluniau adfer ar ôl COVID-19 yn gwbl gynhwysol ac wedi’u targedu at anghydraddoldebau iechyd hysbys o ran mynediad at ofal a darpariaeth gwasanaethau.

Mae fframweithiau adfer cenedlaethol a chynlluniau adfer manwl sefydliadau lleol y GIG yn cynnwys camau gweithredu penodol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Darperir gofal mwy cymwys yn ddiwylliannol, gyda gwell mynediad.

Medi 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Sefydliadau GIG Cymru.

Bydd “Amser i Newid Cymru” yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglen atal stigma iechyd meddwl wrth-hiliol sydd wedi’i chyd-lunio â phobl â phrofiadau bywyd a phobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Rhaglen ar atal stigma iechyd meddwl wedi’i chyhoeddi.

Bydd rhaglen sy’n seiliedig ar brofiad bywyd yn fwy dilys ac effeithiol a bydd yn cynyddu hyder cymunedau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

Mawrth 2023.

  • Yr Is-adran Gwella Iechyd y Cyhoedd yn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Yr Is-adran Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed yn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Nod: Bydd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn hyderus bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a bod eu llais yn cael ei glywed pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sy’n effeithio arnynt.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Gweithio gyda sefydliadau cymunedol, y trydydd sector a’r GIG i sicrhau bod anghenion pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig

Leiafrifol yn cael eu hystyried wrth ddatblygu:

  • strategaethau newydd a deddfwriaeth ym maes iechyd meddwl
  • cynigion i fynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr sydd heb eu diwallu
  • cynigion i leihau anghydraddoldebau iechyd ymhlith cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Cynllun Gweithredu ar wella mynediad at gymorth iechyd meddwl i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a gwella ansawdd y cymorth hwnnw.

Bydd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn gwybod sut i gael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl a bydd y gwasanaeth a gânt yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy’n deall eu hanghenion unigol.

Medi 2023.

  • Yr Is-adran Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed yn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Sicrhau cynrychiolaeth ethnig leiafrifol ar fwrdd y rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer gofal diwedd oes er mwyn sicrhau bod rhaglen waith y Bwrdd yn cynnwys (ac yn cyflawni) ymyriadau i wella gofal diwedd oes ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

 

 

Rhagfyr 2023.

  • Yr Is-adran Gofal Iechyd Poblogaethau yn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Gweithio gyda chynrychiolwyr cymunedau ethnig lleiafrifol i hyrwyddo gweithdrefn Gweithio i Wella i ddelio â phryderon a chwynion, gan gynnwys y gwasanaethau eirioli sydd ar gael, a sicrhau hygyrchedd drwy ieithoedd ychwanegol a argymhellir.

Diwygio canllawiau Gweithio i Wella i sefydliadau’r GIG a chynnwys gwybodaeth am sut i ymateb i gwynion cleifion ynglŷn â hiliaeth wrth ddarparu gwasanaethau’r GIG.

Monitro cwynion i weld a yw pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn defnyddio’r broses.

Mae cymunedau ethnig lleiafrifol yn rhan o’r gwaith o ddatblygu strategaeth ar gyfer cynllun hyrwyddo a chyfieithu ar gyfer canllawiau ar y cyd ynghylch Gweithio i Wella a’r Ddyletswydd Gonestrwydd.

Canllawiau diwygiedig i sefydliadau’r GIG wedi’u dosbarthu.

Lefelau uwch o ymwybyddiaeth / mwy o ddefnydd o weithdrefn gwyno Gweithio i Wella gan gymunedau ethnig lleiafrifol.

Bydd dinasyddion wedi’u grymuso yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi i wneud cwynion am wasanaethau’r GIG, ac yn hyderus y byddant yn cael eu cymryd o ddifrif.

Bydd sefydliadau’r GIG wedi’u grymuso yn cymryd camau i reoli cwynion ynglŷn â hiliaeth wrth ddarparu gwasanaethau yn well.

Rhagfyr 2023.

  • Yr Is-adran Gofal Iechyd Poblogaethau yn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Cyflwyno’r Ddyletswydd Gonestrwydd newydd a, thrwy gynnwys cymunedau ethnig lleiafrifol yn y gwaith o ddatblygu’r canllawiau a’u hyrwyddo, sicrhau lefelau uchel o ymwybyddiaeth o’r ddyletswydd a’r manteision y mae’n eu cynnig i bawb sy’n cael gofal gan y GIG.

Ymgysylltu pwrpasol â chymunedau ethnig lleiafrifol ar gam ffurfiannol o’r broses o ddatblygu’r canllawiau ar y Ddyletswydd Gonestrwydd.

Mae cynllun wedi cael ei lunio ynghylch sut i sicrhau bod y ddyletswydd gonestrwydd yn cael ei hyrwyddo’n effeithiol ymhlith pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Wedi’i werthuso i gadarnhau ei effaith.

Mwy o ymwybyddiaeth o’r Ddyletswydd.

Ebrill 2023.

  • Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn ffordd wrth-hiliol wrth sefydlu Corff Llais y Dinesydd newydd ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod ei brosesau recriwtio, ei drefniadau llywodraethu a’i bolisïau yn wrth-hiliol ac yn gwbl gynrychioliadol o’n cymunedau.

Sicrhau bod y dull gweithredu hwn yn galluogi’r corff newydd i ymgysylltu’n ystyrlon â’r cyhoedd ynglŷn â materion sy’n ymwneud â hiliaeth ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru o’r cychwyn cyntaf.

Mae Corff Llais y Dinesydd yn meithrin cydberthnasau â sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol, awdurdodau lleol, cyrff y GIG a’r rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol er mwyn sicrhau y caiff eu safbwyntiau eu clywed a’u hadlewyrchu.

Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol a Dogfennau Fframwaith i atgyfnerthu’r gofynion uchod, ynghyd â’r angen i werthuso effeithiolrwydd y ffordd y maent yn gweithredu.

Mae sefydliad gwrth-hiliol wedi’i sefydlu.

Mae dogfennau yn amlinellu’r gofynion ar gyfer ymgysylltu a’r trefniadau ar gyfer asesu effeithiolrwydd yr ymgysylltu hwn.

Mae cynlluniau gweithredu gwella yn cael eu datblygu lle y bo angen ac mae trefniadau adrodd ar gynnydd ar waith.

Caiff lleisiau a phrofiad bywyd pobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol eu clywed yn effeithiol a gweithredir ar eu pryderon. Mae gwelliannau yn cael eu gwneud i’r ffordd y darperir gwasanaethau i’r cymunedau hynny.

 

 

Ymgysylltu â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn nodi sut y gellir cofnodi llais a phrofiadau bywyd pobl yn y cymunedau hyn fel rhan o’r broses o Asesu Effaith ar Iechyd a fydd yn cael ei gwneud yn orfodol yn y Rheoliadau Asesiad Effaith Iechyd arfaethedig a wneir o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac a fydd yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys y rhai sy’n codi o ganlyniad i benderfynyddion iechyd ehangach.

Mae cymunedau ethnig lleiafrifol yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Rheoliadau a fydd yn adnodd allweddol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Bydd lleisiau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Rheoliadau a llunio’r ddyletswydd i gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd gan y cyrff cyhoeddus y bydd yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r Rheoliadau.

 

  • Yr Is-adran Gwella Iechyd y Cyhoedd yn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Gofal cymdeithasol

Ychydig o dystiolaeth

Yng Nghymru, ar 31 Mawrth 2021, roedd 8.3% o blant sy’n derbyn gofal yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (Ystadegau Cymru, 2021).

Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos bod 7.2% o weithwyr gofal cymdeithasol yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn 2019 yng Nghymru (noder bod y ffigur a roddir yma yn seiliedig ar sampl fach ac y dylid ei drin yn ofalus) (Llywodraeth Cymru, 2020b).

Cyflwyniad

Mae’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cynnwys mathau gwahanol o gyflogwyr sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n rhoi gofal cymdeithasol i unigolion o bob oedran. Mae rhai pobl ethnig leiafrifol wedi dweud wrthym am ddiffyg tosturi ac empathi yn eu profiad o wasanaethau gofal cymdeithasol, a bod tybiaethau’n cael eu gwneud yn eu cylch oherwydd eu hethnigrwydd. Nodwyd eu bod yn teimlo nad oedd eraill yn gwrando arnynt ac nad oedd eu hanghenion yn cael eu diwallu. Mae’n rhaid i hyn newid.

Mae cyfrifoldeb ar y sector gofal cymdeithasol i sicrhau bod nodweddion, diwylliant a chredoau pobl (gan gynnwys, er enghraifft, iaith), yn cael eu hystyried a’u defnyddio i lywio’r broses o ddarparu gwasanaethau sy’n ddiwylliannol gymwys. Rhaid inni sicrhau bod staff, gwirfoddolwyr, rheolwyr ac arweinwyr ethnig lleiafrifol sy’n gweithio yn y sector yn cael profiad da sy’n cynnwys polisïau a phrosesau sy’n mynd i’r afael ag unrhyw hiliaeth a wynebant.

Rydym yn ymrwymedig i gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol gwrth- hiliol. Bydd ein dull gweithredu yn sicrhau bod pob partner yn y sector yn ymdrechu i gyflawni’r un nod: sef darparu’r gwasanaeth gorau i bawb y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr di-dâl y mae angen cymorth arnynt. Rydym yn anelu at ymgorffori arferion gwrth-hiliol gweithredol drwy bob rhan o’r gweithlu ac ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau.

Rydym yn cydnabod bod llawer o bobl ethnig leiafrifol wedi cael profiadau bywyd heriol wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, neu fel rhan o’r gweithlu. Er mwyn ystyried y profiadau hyn ymhellach a’u deall, mae Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyfarfod â sefydliadau sy’n cefnogi defnyddwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol gwasanaethau gofal cymdeithasol fel rhan o’u gwaith. Mae’r trafodaethau hyn hefyd wedi llywio’r cynllun hwn, gan ei gwneud yn bosibl i strategaethau ar gyfer y gweithlu a chynlluniau darparu gwasanaethau gael eu datblygu ymhellach.

Ym mhob rhan o’n gwasanaethau, clywsom fod bwlch gweithredu rhwng polisi ac ymarfer ar lawr gwlad. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r bwlch mewn data ar bobl ethnig leiafrifol a Gofal Cymdeithasol Cymru sydd wedi bodoli ers amser; nid oes gennym ddigon o ddata bob amser i wneud y penderfyniadau gorau a’r newidiadau polisi gorau. Mae angen y data hyn arnom i lywio’r ffordd y dylid targedu gweithgareddau gwella, gan gynnwys datblygu cymwyseddau diwylliannol ein staff a mynd i’r afael â phrosesau recriwtio a dyrchafu ar gyfer staff ethnig lleiafrifol.

Yr hyn a wnawn

Mae angen inni wneud mwy o gynnydd er mwyn sicrhau bod y profiadau o ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yn weithredol wrth-hiliol. Bydd ein dull gweithredu yn sicrhau bod pob partner yn y sector yn ymdrechu i gyflawni’r un nodau, sef darparu’r gwasanaeth gorau i bawb y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr di-dâl y mae angen cymorth arnynt, ac ymgorffori arferion sy’n weithredol wrth-hiliol.

Mae’r ymrwymiad hwn yn mynd i’r afael â dau faes. Yn gyntaf, yr hyn y gall Llywodraeth Cymru a’n sector statudol, y sector preifat a’r trydydd sector ei wneud dros oedolion a phlant sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a’u teuluoedd: gwella mynediad at wasanaethau, a’r profiad o’u defnyddio, o safbwynt gwrth-hiliol. Yn ail, yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud dros y gweithlu gofal cymdeithasol a’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan y gweithlu hwn, er mwyn gwella ymarfer a’u profiad, unwaith eto o safbwynt gwrth-hiliol.

Bydd y camau gweithredu hyn yn ein helpu i ddiwallu anghenion pobl ethnig leiafrifol sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a’u gofalwyr ac yn gwella’r ffordd rydym yn gwneud hynny. Bydd cyflawni’r nodau a chymryd y camau gweithredu yn cynyddu ystod ac ansawdd y data, y gwaith ymchwil a’r dystiolaeth y gellir eu defnyddio i gau’r bwlch gweithredu rhwng polisi ac ymarfer. Bydd dull gweithredu croestoriadol newydd yn sicrhau y rhoddir mwy o ystyriaeth i brofiad bywyd pobl er mwyn ein helpu ni a’n partneriaid i gyd-gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol, a meithrin y cymhwysedd diwylliannol ac ymarfer y gweithlu ehangach sy’n seiliedig ar asedau. Bydd hyn yn cyflawni ein hymrwymiad i roi gofal gwrth-hiliol i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, ac i ddangos parch tuag at y gweithlu.

Arweinyddiaeth

Nod: Sicrhau bod arweinwyr ar bob lefel ym maes gofal cymdeithasol yn modelu ac yn hyrwyddo gwrth-hiliaeth, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn cyflwyno sector gofal cymdeithasol gwrth-hiliol i bobl sy’n cael gofal a chymorth ac i’r gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gwaith datblygu er mwyn creu uwch-weithlu â mwy o amrywiaeth ethnig.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i adolygu’r broses o roi’r Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith, er mwyn sicrhau ei bod yn darparu arweinwyr gwirioneddol wrth-hiliol.

Hysbysu arweinwyr am yr ymddygiadau arwain diwygiedig mewn perthynas â gwrth-hiliaeth, fel rhan o Fframwaith Ymddygiadau Arwain a ddatblygwyd gan Academi Wales.

Mae Strategaeth Gweithlu ar y cyd Gofal Cymdeithasol Cymru ac AaGIC yn cynnwys Camau Gweithredu’r Gweithlu ac Arweinyddiaeth yn rhan o elfen gofal cymdeithasol y Cynllun Gweithredu.

Mae arweinwyr ar bob lefel ym maes gofal cymdeithasol yn glir ynghylch y rôl y maent yn ei chwarae, yr ymddygiadau y mae angen iddynt eu dangos, y camau gweithredu y mae’n rhaid iddynt eu cymryd ac y byddant yn cael eu mesur yn eu herbyn, a’r addysg a’r hyfforddiant a fydd yn eu helpu i gyflwyno sector gofal cymdeithasol gwrth-hiliol yng Nghymru.

Mawrth 2024.

  • Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
  • Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cymryd camau cadarnhaol a chefnogi amrywiaeth o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ar gyfer aelodau ethnig lleiafrifol o’r gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn eu datblygu’n rheolwyr canol ac uwch-reolwyr.

Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd datblygu megis gwell mynediad at gysgodi, secondiadau, coetsio, mentora (gan gynnwys mentora o chwith), nawdd, a hyfforddiant pwrpasol.

Amrywiaeth o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth er mwyn annog pobl ethnig leiafrifol i ddatblygu a chamu ymlaen yn y gweithlu gofal cymdeithasol.

Bydd y cyfleoedd yn dangos carfan fwy medrus ac abl o unigolion ethnig lleiafrifol mewn swyddi arwain yn y sector gofal cymdeithasol.

Medi 2023.

  • Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
  • Sefydliadau Partner Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Datblygu cynnwys gofal cymdeithasol Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rhan o Fframwaith Iechyd a Lles y Gweithlu Gofal Cymdeithasol. Defnyddir y safon hon i ystyried unrhyw ddiwygiadau i’r Codau ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.

Bydd hyn yn llywio diwygiadau i’r Codau ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.

Mae Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi’i chwmpasu a’i rhoi ar waith.

Codau diwygiedig ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol sy’n cyfeirio’n benodol at yr arferion gwrth-hiliol a ddisgwylir.

Bydd meddylfryd ac arferion gwrth-hiliol yn dechrau dod yn fater o drefn ym mhob gweithgarwch sy’n gysylltiedig â’r gweithlu.

Caiff arferion gwrth-hiliol eu nodi’n un o’r mesurau canlyniadau gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mawrth 2024.

  • Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
  • Arolygiaeth Gofal Cymru.

Darparu gwasanaeth gwrth-hiliol

Nod: Parhau i nodi’r rhwystrau i wasanaethau gofal cymdeithasol a wynebir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a mynd ati i’w chwalu, er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a bod y gwasanaethau a ddarperir yn wrth-hiliol, yn hygyrch ac yn ddiwylliannol briodol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Sefydlu gweithgor o bartneriaid gwasanaethau statudol, annibynnol a thrydydd sector

er mwyn cyd-lunio gwasanaethau gofal cymdeithasol gwrth-hiliol sy’n ddiwylliannol gymwys i ddefnyddwyr o bob oed. Bydd y grŵp yn rhoi cyngor a chymorth i swyddogion gofal cymdeithasol. Bydd aelodaeth y grŵp yn cynrychioli pobl ethnig leiafrifol a bydd hefyd yn cynnwys arbenigwyr ym maes gofal cymdeithasol er mwyn cynnig eu profiadau ymarferol a’u harbenigedd.

Nodi arferion da/gorau mewn mannau eraill.

Adroddiad wedi’i gyd-lunio gan y gweithgor yn nodi camau gweithredu penodol, mesuradwy am gyfnod penodol i’w cymryd gan bob awdurdod lleol a rheoleiddiwr.

Bydd yr adroddiad yn cynnwys storfa newydd o dystiolaeth o arferion cadarnhaol mewn perthynas â dylunio a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol gyda phobl ethnig leiafrifol.

Caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol eu dylunio a’u darparu mewn modd gwrth-hiliol; bydd gwasanaethau’n fwy hygyrch a diwylliannol briodol i bobl ethnig leiafrifol.

Caiff arferion cadarnhaol mewn perthynas â phobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol eu hymgorffori mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Bydd mwy o bobl ethnig leiafrifol yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n llawn gan wasanaethau gofal cymdeithasol statudol.

2023.

  • Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • ADSS Cymru.
  • CAFCASS Cymru.
  • Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • Darparwyr ac eiriolwyr yn y trydydd sector.
  • Darparwyr yn y sector annibynnol.

Arolygiaeth Gofal Cymru i roi hyfforddiant gwrth-hiliaeth i bob arolygydd.

 

Bydd yr effaith hon wedi cael ei hasesu drwy arolygiadau Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mawrth 2024.

  • Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mapio anghenion iaith, dehongli/cyfieithu a diwylliannol presennol pobl ethnig leiafrifol sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau presennol a gwasanaethau ar gyfer y dyfodol a darparu cyfieithiadau llafar ac ysgrifenedig.

Sicrhau llinell sylfaen o ran niferoedd y cwynion mewn perthynas â diffyg darpariaeth, a’u natur, fel y gellir eu cymharu â’r newidiadau yr anelir atynt.

Wrth gyflwyno cynllun gweithredu, cynnwys gwerthusiad o’r gwasanaethau – gan ddefnyddio data caled a gwybodaeth am brofiadau ymarferol.

Cynllun Gweithredu sy’n nodi anghenion diwylliannol, iaith a chyfieithu presennol ac argymhellion, ynghyd â’r adnoddau sydd eu hangen i lenwi bylchau a meithrin gallu.

Mwy o hyder y bydd gwasanaethau’n diwallu anghenion diwylliannol, iaith a dehongli/cyfieithu.

Mawrth 2023.

  • Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • ADSS Cymru.
  • Darparwyr yn y sector annibynnol.
  • Sefydliadau partner Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Gweithlu gwrth-hiliol

Nod: Sicrhau na fydd pobl ethnig leiafrifol yn wynebu unrhyw rwystrau wrth geisio dilyn gyrfa neu ymgymryd â rôl ym maes gofal cymdeithasol.

Bydd hyfforddiant o ansawdd uchel ar gael iddynt drwy gydol eu gyrfa, byddant yn teimlo’n ddiogel yn eu gweithle a byddant yn ymddiried yn llawn yn eu harweinwyr i weithredu polisi dim goddefgarwch mewn perthynas â gwrth-hiliaeth ac unrhyw fath arall o wahaniaethu neu anghydraddoldeb.

At hynny, bydd hyfforddiant o ansawdd uchel yn sicrhau bod pob aelod o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn meddu ar y cymhwysedd diwylliannol i weithio’n effeithiol gyda phobl o gefndiroedd ethnig a diwylliannol amrywiol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cynnal adolygiad o gwynion gan y gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn nodi

ymddygiadau hiliol yn y gweithlu ac unrhyw batrymau cysylltiedig.

Cynllun Gweithredu ar brosesau a pholisïau dethol a dyrchafu yn y gweithlu gofal cymdeithasol a’r rhesymau pam y mae gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ethnig lleiafrifol yn ymadael â’r gweithlu.

Llai o gwynion gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn perthynas â’r hiliaeth a wynebir wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Mawrth 2023.

  • Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Undebau Llafur.
  • Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol Cymru.

Adolygu prosesau dethol a dyrchafu (gan ddechrau gyda rolau rheolwyr canol ac arweinwyr awdurdodau lleol) a nodi’r rhesymau pam y mae gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ethnig lleiafrifol yn ymadael â’r gweithlu.

Bydd yr adolygiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer lleihau rhagfarn mewn perthynas â’r prosesau a’r polisïau perthnasol a threfniadau i’w gwerthuso’n barhaus.

Cynllun Gweithredu cyhoeddedig ac argymhellion ar gyfer prosesau a pholisïau dethol a dyrchafu yn y gweithlu gofal cymdeithasol, a’r rhesymau pam y mae gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ymadael â’r gweithlu.

Gwell prosesau a pholisïau wedi’u datblygu yn unol ag egwyddorion ac arferion gwrth-hiliol sy’n arwain at fwy o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn uwch-swyddi a chyfraddau cadw gwell mewn perthynas â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithlu yn ei gyfanrwydd.

Rhagfyr 2023.

  • Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
  • Sefydliadau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Sicrhau bod yr holl ddarpariaeth addysg a hyfforddiant ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol, cyn mynediad a datblygiad proffesiynol parhaus, wedi’i hadolygu mewn perthynas â chynnwys gwrth-hiliol; gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol a gwrth-hiliaeth.

Bydd pob arweinydd ym maes gofal cymdeithasol yn cael hyfforddiant gwrth-hiliaeth fel rhan o’i hyfforddiant cynefino a’i ddysgu parhaus.

Bydd hyn yn cynnwys datblygu a darparu hyfforddiant cymhwysedd diwylliannol fel elfen a argymhellir o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus ym maes gofal cymdeithasol.

Gwerthusiad blynyddol o effeithiolrwydd y Pecyn Cymorth o ran cefnogi darpariaeth wrth-hiliol.

Mapio anghenion hyfforddiant Cymraeg y gweithlu gofal cymdeithasol ethnig lleiafrifol a sut y gellir cyrraedd y cymunedau hyn o weithwyr proffesiynol yn fwy effeithiol i’w hannog i fanteisio ar hyfforddiant Cymraeg neu hyfforddiant iaith arall sydd ei angen/a nodwyd.

Cynllun Gweithredu ar gyfer gwella cynnwys addysg a hyfforddiant gwrth-hiliol, ar lefel gychwynnol, cyn mynediad ac mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus.

Datblygu hyfforddiant cymhwysedd diwylliannol mewn gofal cymdeithasol, ei roi ar waith a’i werthuso.

Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol gwrth-hiliol a diwylliannol briodol.

Mawrth 2023.

  • Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • ADSS Cymru.
  • CAFCASS Cymru.
  • Partneriaeth/Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.
  • Prifysgolion a cholegau sy’n darparu addysg a hyfforddiant gofal cymdeithasol.
  • Darparwyr ac eiriolwyr yn y trydydd sector.

Yn unol â dyddiad cyhoeddi adroddiad Ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar driniaeth a phrofiadau’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Du,

Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyflogau is, byddwn yn ymateb yn gadarnhaol i ganfyddiadau’r ymchwiliad ac yn ceisio cynnwys ei argymhellion yma.

Cynnwys argymhellion y Comisiwn yn elfen gofal cymdeithasol y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ac mewn mannau eraill yn ôl yr angen).

Argymhellion y Comisiwn wedi’u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r ymatebion wedi’u rhoi ar waith.

 

  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  • Gofal Cymdeithasol Cymru.

Atebolrwydd

Nod: Ymgorffori camau gweithredu ac ymddygiadau mewn perthynas ag atebolrwydd ym mhob rhan o’r sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys strwythurau llywodraethu cadarn a metrigau clir a mesuradwy, er mwyn canfod effaith ac effeithiolrwydd y sector gofal cymdeithasol wrth gyflawni’r camau gweithredu a nodir yn y cynllun Gweithredu hwn.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Adolygu aelodaeth yr holl gyrff a grwpiau rhanddeiliaid a noddir gan Wasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a, lle y bo angen, nodi disgwyliadau i weld mwy o gynrychiolaeth o gymunedau ethnig lleiafrifol ac arferion gwrth-hiliaeth ymhlith arweinwyr.

Nodyn sy’n rhestru’r ystod lawn o gyrff a grwpiau a noddir a’u haelodaeth, ynghyd â chyngor ar gynyddu nifer yr aelodau ethnig lleiafrifol.

Byddai’r cyngor yn cynnwys sut i gyrraedd ac annog unigolion i ymuno â’r grwpiau a’r cyrff hyn.

Bydd pobl ethnig leiafrifol yn gweld mwy o bobl o’r un cefndir â nhw mewn swyddi dylanwadol, a byddant yn teimlo’n fwy hyderus y bydd materion sy’n bwysig iddynt yn cael eu cynrychioli.

Hydref 2022.

  • Grŵp Cydraddoldeb y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio.

Casglu gwybodaeth o bob rhan o’r gwasanaethau gofal cymdeithasol am bryderon, cwynion, cwynion cyflogaeth, atgyfeiriadau addasrwydd i ymarfer, atgyfeiriadau diogelu, ymyrraeth undebau llafur, arolygon staff, adolygiadau/arfarniadau blynyddol; cyfweliadau ymadael a chwythu’r chwiban.

Dadansoddi, yng nghyd-destun hyder i roi gwybod am ymddygiad hiliol, hyder y caiff yr ymddygiad a godir ei gymryd o ddifrif ac y gweithredir arno mewn ffordd ragweithiol.

Argymhellion i sicrhau prosesau trylwyr, disgrifio hawliau i gael cymorth llesiant a sicrhau y caiff dulliau datrys adferol eu dylunio a’u hymgorffori.

Caiff hyn ei asesu drwy werthusiad yn dilyn pob cwyn a gaiff ei datrys a thrwy adroddiad a lunnir flwyddyn ar ôl i’r prosesau a’r polisïau diwygiedig gael eu cyflwyno.

Cynllun Gweithredu cyhoeddedig ac argymhellion ar gyfer ymdrin â chwynion a wneir, y prosesau a’r polisïau a ddilynir i’w datrys a’r gwelliannau y mae angen eu gwneud i ddangos bod egwyddorion ac arferion gwrth-hiliol wedi llywio’r prosesau a’r polisïau diwygiedig.

Bydd gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn teimlo ac yn gweld tystiolaeth bod prosesau a pholisïau cwynion eu cyflogwyr wedi’u llywio a’u gwella gan egwyddorion ac arferion gwrth-hiliol.

Rhagfyr 2024.

  • Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Undebau Llafur.
  • Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.
  • Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • ADSS Cymru.

Data ac ymchwil: ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a’r gweithlu

Nod: Gwella data ansoddol a meintiol, ymchwil, tystiolaeth, gwaith dadansoddi, gwybodaeth a dealltwriaeth, gan gynnwys casglu llawer mwy o ddata ar brofiadau ymarferol gan bobl Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol – er mwyn mynd i’r afael â’r bylchau presennol yn y data a chefnogi’r gwaith o gyflawni’r holl Nodau a Chamau Gweithredu ym maes gofal cymdeithasol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Comisiynu dadansoddiad a llunio adroddiad ar holl ystadegau cyhoeddedig Llywodraeth Cymru ym maes gwasanaethau cymdeithasol sy’n cynnwys mesur ynglŷn ag ethnigrwydd, a gwneud hynny yn erbyn data poblogaeth cenedlaethol a lleol a chroestoriadedd â nodweddion gwarchodedig eraill. Bydd y dadansoddiad hwn hefyd yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut i lenwi unrhyw fylchau yn y data cyhoeddedig.

Adroddiad dadansoddi eang ei gwmpas a ddefnyddir i roi tystiolaeth i gefnogi gwaith Llywodraeth

Cymru a’i phartneriaid i ddatblygu a chyflwyno polisïau a gwasanaethau. Argymhellion hefyd ynghylch lle y gall Llywodraeth Cymru wella ei data gofal cymdeithasol mewn perthynas â phobl ethnig leiafrifol (gan gynnwys croestoriadedd) sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Gwell gwybodaeth am bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol.

Mawrth 2023.

  • Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi/Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Llywodraeth Cymru.
  • Awdurdodau lleol.
  • ADSS Cymru.
  • Uned Ddata Llywodraeth Leol.
  • Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
  • Sefydliadau Academaidd.

Nodi bylchau yn y data a’r camau y gellir eu cymryd i wella hyder i hunangofnodi hunaniaethau hil ac ethnigrwydd (ynghyd â nodweddion gwarchodedig eraill).

Lleihau nifer y bobl sy’n ticio ‘gwell gennyf beidio â dweud’. Data mwy cadarn a chyflawn ar ethnigrwydd defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r gweithlu gofal cymdeithasol.

Data sy’n rhoi gwell dealltwriaeth o’r cymorth sydd ei angen i annog pobl i ddatgelu eu hethnigrwydd.

Mawrth 2023.

  • Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi/Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Llywodraeth Cymru.

Sicrhau bod y Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (bwlch a nodwyd eisoes yn y data) yn casglu data ac yn cynnwys pwyntiau data ar ethnigrwydd fel bod gennym well gwybodaeth am bobl ethnig leiafrifol sy’n cael gwasanaeth cymdeithasol a’r mathau o wasanaethau y maent yn eu cael.

Cyfrifiad Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chymorth newydd i sefyll ochr yn ochr â’r Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth a gyhoeddir eisoes.

Gwell gwybodaeth am bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol.

Ebrill 2023.

 

Adolygu a diwygio’r Strategaeth Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â materion yn ymwneud â defnyddwyr ethnig lleiafrifol gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r gweithlu gofal cymdeithasol (gan gynnwys profiadau ymarferol). Bydd hyn yn gwella’r gwaith o ddatblygu, casglu a defnyddio tystiolaeth yng Nghymru a chysylltu unrhyw fylchau mewn ymchwil a all helpu i gyflawni’r holl Nodau a Chamau Gweithredu ym maes gofal cymdeithasol yn y cynllun hwn.

Strategaeth Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol ddiwygiedig.

Cymuned Ymarfer ddigidol newydd ar gyfer ymchwil ym maes gofal cymdeithasol.

Gwell gwybodaeth am bobl ethnig leiafrifol sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, a gwell gwybodaeth am y gweithlu gofal cymdeithasol Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Rhagfyr 2023.

  • Tîm Ymchwil Gymdeithasol/ Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Llywodraeth Cymru.
  • Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cartrefi a lleoedd

Ychydig o dystiolaeth

Mae pobl nad ydynt o gefndir ethnig Gwyn yn fwy tebygol o wynebu tlodi incwm cymharol. Ar gyfer y cyfnod rhwng 2015/2016 a 2019/2020 (cyfartaledd 5 blwyddyn ariannol) roedd tebygolrwydd o 29% bod pobl y mae eu penteulu’n dod o grŵp ethnig nad yw’n wyn yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 24% i’r rhai y mae eu penteulu’n dod o grŵp ethnig gwyn. Fodd bynnag, am fod gan y mwyafrif llethol o aelwydydd yng Nghymru benteulu sy’n dod o grŵp ethnig gwyn, roedd y rhan fwyaf o bobl (97%) a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn dod o aelwydydd o’r fath (Llywodraeth Cymru, 2021c).

Yn 2011 yng Nghymru, roedd 28.7% o Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig a 27% o bobl Fangladeshaidd a oedd yn byw mewn tai gorlawn (hynny yw, roedd llai o ystafelloedd gwely nag yr oedd eu hangen arnynt er mwyn osgoi rhannu nas dymunir), a hefyd 19.4% o bobl Ddu a 18.5% o bobl Arabaidd, o gymharu â 4.9% o bobl Wyn Brydeinig (Llywodraeth Cymru, 2020b).

Cyflwyniad

Mae cartrefi diogel o bob math yn hanfodol i lesiant pobl ac i bob agwedd ar eu bywydau, gan gynnwys eu hiechyd a’u llesiant meddyliol a chorfforol, eu cyfleoedd a’u cyflawniad addysgol, eu canlyniadau cyflogaeth a’u llesiant cymdeithasol a diwylliannol. Ein nod cyffredinol yw bod pobl ethnig leiafrifol yn gallu byw mewn cartrefi gweddus, diogel a fforddiadwy sy’n diwallu natur amrywiol eu hanghenion.

Mae COVID-19 wedi rhoi ffocws manwl ar bwysigrwydd tai priodol a fforddiadwy i lesiant meddyliol a chorfforol pawb. Mae hefyd wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau mawr sy’n bodoli i rai pobl o ran cael tai o’r fath.

Yr hyn a wyddom

Gwyddom fod problemau o ran tai gorlawn, sy’n cael effaith anghymesur ar rai pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Gall nifer anghymesur o bobl ethnig leiafrifol hefyd wynebu anghydraddoldebau o ran tai ac ansawdd aer o safon wael yn ogystal â fforddiadwyedd ac argaeledd tai cymdeithasol sy’n diwallu natur amrywiol anghenion pobl.

Wrth ddatblygu’r gwaith hwn

Rydym wedi clywed yn glir iawn, gan gynnwys gan lawer o bobl a sefydliadau ethnig lleiafrifol:

  • bod angen i wrth-hiliaeth weithredol fod yn sail i’r holl gamau gweithredu a gymerwn, drwy newid diwylliannol ac arweinyddiaeth gadarn â ffocws, er mwyn troi cydraddoldeb hil yn realiti
  • bod yn rhaid i atebolrwydd a thryloywder fod yn ganolog i’r hyn a wnawn
  • bod angen ymgysylltu’n llawer gwell â phobl ethnig leiafrifol wrth ddatblygu ein polisi
  • bod cysylltiad cryf rhwng tlodi ac anfantais economaidd-gymdeithasol a’r anghydraddoldebau a wynebir gan rai pobl ethnig leiafrifol i gael cartref gweddus
  • bod yn rhaid inni ystyried sut mae gwahanol agweddau ar hunaniaeth person yn cyfuno i greu profiadau gwahanol a rhwystrau lluosog sy’n dwysáu anghydraddoldeb hil. Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl anabl, pobl ifanc, pobl hŷn, pobl LHDTQ+, grwpiau crefyddol ac anghrefyddol a’r rhai o grwpiau economaidd-gymdeithasol is

Gwyddom, o ran cartrefi, fod angen tystiolaeth a data llawer gwell, yn ogystal ag ymgysylltu ystyrlon â’r amrywiaeth lawn o bobl ethnig leiafrifol. Bydd y rhain yn bethau hanfodol a fydd yn sail i’r ffordd y byddwn yn gweithredu yn y dyfodol a hefyd yr atebolrwydd a roddir gan ddeddfwriaeth cydraddoldebau a hawliau dynol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’n bwysig sôn nid yn unig am ‘tai’ ond am ‘cartrefi’, gan gynnwys cartrefi symudol a safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Clywsom dystiolaeth bwerus iawn o’r achosion penodol o wahaniaethu, hiliaeth ac anghydraddoldeb y mae Sipsiwn a Theithwyr yn eu hwynebu ac mae’n bwysig iawn bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein cynllun. Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi ein cynigion ac maent wedi helpu i fireinio ein camau gweithredu i gynyddu nifer y lleiniau parhaol a thros dro a ddarperir gan awdurdodau lleol a’u hansawdd, yn ogystal ag ystyried opsiynau ar gyfer rhentu carafannau. Hefyd, byddwn yn gweithredu ar yr ymatebion a oedd yn awgrymu y dylid darparu gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth ym maes penodol ceisiadau cynllunio preifat.

Mae ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr yn wynebu anghydraddoldebau penodol ac er nad Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu tai ar gyfer ceiswyr lloches (y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am hyn), mae cyfrifoldeb arnom i’w cefnogi o’r diwrnod cyntaf y byddant yn cyrraedd Cymru yn unol â’n gweledigaeth o fod yn genedl noddfa.

Yr hyn a wnawn

Byddwn yn cynyddu cynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol mewn swyddi uwch-arweinwyr ac ar bob lefel i greu gweithlu yn y sector cartrefi sy’n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu.

Byddwn yn sicrhau bod safonau, darpariaeth a gwasanaethau mewn perthynas â darparu cartrefi yn hyrwyddo cydraddoldeb hil, yn ymgorffori arferion gwrth-hiliaeth, cydraddoldeb a hawliau dynol, ac yn diwallu anghenion amrywiol pobl ethnig leiafrifol.

Byddwn yn sicrhau bod tai a llety a’r gwasanaethau a ddarperir gan y sector rhentu preifat yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn ymgorffori arferion gwrth-hiliaeth ac yn diwallu anghenion amrywiol pobl ethnig leiafrifol.

Byddwn yn sicrhau bod gan bobl ethnig leiafrifol ledled Cymru lais a dylanwad i sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru ynghylch darparu cartrefi yn adlewyrchu amrywiaeth anghenion a blaenoriaethau pobl ethnig leiafrifol.

Er mwyn cydnabod bod angen llety diogel a diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau, byddwn yn ymdrin â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.

Gyda phwy rydym yn gweithio

Byddwn yn gweithio gyda Chymdeithasau Tai, awdurdodau lleol, sefydliadau cymorth yn y trydydd sector, sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol, sefydliadau cymunedol a phartneriaid eraill, i ymgorffori arferion gwrth-hiliaeth, gan gynnwys:

  • Rhentu Doeth Cymru
  • Tai Pawb
  • TPAS Cymru
  • Y Sefydliad Siartredig Tai
  • Cartrefi Cymunedol Cymru
  • Cymorth Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Shelter Cymru
  • Cyngor ar Bopeth Cymru

Byddwn hefyd yn cydweithio â meysydd polisi allweddol eraill Llywodraeth Cymru i gymryd y camau gweithredu hynny sy’n drawsbynciol.

Cynrychiolaeth

Nod: Cynyddu cynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol mewn swyddi uwch-arweinwyr ac ar bob lefel o weithlu’r sector tai yn sylweddol, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth a wasanaethir.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Sicrhau bod byrddau sefydliadol, grwpiau cynghori, uwch-arweinwyr a’r gweithlu yn adlewyrchu amrywiaeth pobl ethnig leiafrifol drwy weithio gyda sefydliadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a phartneriaid fel Tai Pawb, y Sefydliad Siartredig Tai, Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Cymorth Cymru er mwyn:

  • rhoi 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru: Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus' ar waith, ar y cyd â’r Uned Cyrff Cyhoeddus, yn arbennig mewn perthynas â’r nodau canlynol:
    • dangos arferion recriwtio agored a thryloyw
    • dangos amrywiaeth o fewn Byrddau
    • dangos eu bod yn creu cymuned o unigolion (yn enwedig menywod ethnig lleiafrifol) sydd â diddordeb, sy’n ymwybodol ac sydd bron yn barod i fod yn aelodau o Fwrdd (h.y. creu cyflenwad cyson a chadarn)

Mwy o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (lleiafrifoedd ethnig) ar fyrddau sefydliadol a grwpiau cynghori, mewn rolau uwch-arweinwyr ac ym mhob rhan o’r gweithluoedd sy’n gysylltiedig â Chartrefi a Lleoedd.

Arferion recriwtio agored a thryloyw a gaiff eu cyhoeddi.

Mwy o amrywiaeth ym mhob rhan o’r gweithlu.

Gwell mynediad at swyddi gwell, a chyfleoedd datblygu i bobl ethnig leiafrifol.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Tai Pawb.
  • Y Sefydliad Tai Siartredig (CIH).
  • Cartrefi Cymunedol Cymru.
  • CLlLC.
  • Cymorth Cymru a sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.

Sicrhau bod Cymdeithasau Tai, adrannau tai awdurdodau lleol a sefydliadau cymorth y trydydd sector yn dangos sut y byddant yn sicrhau bod gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb hil wedi’u hymgorffori yn eu sefydliadau, fel cyflogwyr ac fel darparwyr gwasanaethau, gan gynnwys mentrau fel adduned Gweithredoedd nid Geiriau Tai Pawb; dylai’r gwaith hwn gael ei lywio gan sefydliadau’r trydydd sector a grwpiau cymunedol.

Cynlluniau Cyflawni ag amserlenni a chamau gweithredu clir a chyraeddadwy.

Daw meddylfryd ac arferion gwrth-hiliol yn beth arferol ym mhob gweithgarwch sy’n gysylltiedig â’r gweithlu.

Caiff diwylliant cynhwysol ei greu a’i feithrin yn y gweithle.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Cymdeithasau tai.
  • Awdurdodau lleol.
  • Sefydliadau cymorth y trydydd sector.

Sicrhau bod sefydliadau partner yn darparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth a dim goddefgarwch i Fyrddau a phob grŵp o staff ar ddeall a herio hiliaeth yn barhaus.

Bydd uwch-aelodau o’r gweithlu, gan gynnwys aelodau bwrdd, yn cwblhau’r hyfforddiant o fewn 18 mis, fel rhan o unrhyw raglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Dylai cyflogeion newydd ei gwblhau fel rhan o’u hyfforddiant cynefino.

Daw meddylfryd ac arferion gwrth-hiliol yn beth arferol ym mhob gweithgarwch sy’n gysylltiedig â’r gweithlu.

Meithrin hunanymwybyddiaeth ymhlith aelodau’r gweithlu, gan eu hannog i ddysgu am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Cymdeithasau tai.
  • Awdurdodau lleol.
  • Sefydliadau cymorth y trydydd sector.

Diwygio’r safonau rheoleiddiol presennol er mwyn sicrhau bod y disgwyliadau a osodir ar Gymdeithasau Tai mewn perthynas â chynrychiolaeth ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan gynnwys gwrth-hiliaeth, yn glir.

Mae’r safonau rheoleiddiol ar gyfer cymdeithasau tai wedi’u diwygio. O dan Safon Reoleiddiol 1. Mae gan y sefydliad drefniadau arwain a llywodraethu strategol effeithiol sy’n ei alluogi i gyflawni ei ddiben a’i amcanion, a nodir y disgwyliadau canlynol ar gyfer y landlord cymdeithasol:

  • c) Mae’n pennu ymrwymiadau mesuradwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth ym mhob un o’i feysydd busnes mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (gan gynnwys materion gwrth-hiliaeth a mynd i’r afael â throseddau casineb) ac yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y mae’n gweithio gyda nhw ac ynddynt
  • d)Mae ganddo Fwrdd amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau y mae Landlordiaid Cofrestredig Cymdeithasol yn gweithio gyda nhw ac ynddynt, ac sy’n meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i fod yn effeithiol.

Bydd cydymffurfiaeth â’r safon yn cael ei fonitro.

Daw Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan gynnwys gwrth-hiliaeth, yn fater o drefn ym mhob gweithgarwch sy’n gysylltiedig â’r gweithlu.

Cwblhawyd a bydd y gwaith yn cael ei fonitro.

  • Tîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru.
  • Cartrefi Cymunedol Cymru.
  • Cymdeithasau Tai.

Sicrhau bod Byrddau a grwpiau cynghori Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Gymorth Tai, yn adlewyrchu llais pobl ethnig leiafrifol ac yn eu cynrychioli wrth drawsnewid gwasanaethau digartrefedd.

Mwy o bobl ethnig leiafrifol yn cael eu cynrychioli ar Fyrddau Llywodraeth Cymru.

Mwy o waith ymgysylltu â chymunedau ethnig lleiafrifol a sicrhau y caiff polisi ei lywio gan brofiad ymarferol pobl.

Eisoes yn mynd rhagddo/tymor hwy.

  • Sefydliadau partner Llywodraeth Cymru gan gynnwys sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.

Safonau, darpariaethau a gwasanaethau

Nod: Sicrhau bod safonau, darpariaeth a gwasanaethau mewn perthynas â darparu cartrefi yn hyrwyddo cydraddoldeb hil, yn ymgorffori arferion gwrth-hiliaeth, cydraddoldeb a hawliau dynol, ac yn diwallu anghenion amrywiol pobl ethnig leiafrifol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Gweithio gyda sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol, Tai Pawb, y Sefydliad Siartredig Tai, TPAS Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth Cymru a CLlLC er mwyn gwneud y canlynol:

  • Darparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth a chymhwysedd diwylliannol parhaus i’r gweithlu sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau i denantiaid a chwsmeriaid (ac fel rhan o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus)
  • Adolygu canllawiau ar gyfer y sefydliadau uchod i helpu staff a thenantiaid i ddeall sut i roi gwybod am hiliaeth a throseddau casineb, a rhoi cymorth i’r rhai sy’n rhoi gwybod am achosion o’r fath (gan sicrhau’n rhagweithiol fod tenantiaid yn ymwybodol o’u hawliau a’r cymorth sydd ar gael)
  • Sicrhau bod pob landlord yn dangos ei fod yn ymateb yn gyflym i gwynion am hiliaeth, aflonyddu a throseddau casineb ac yn cynnig cymorth priodol

Bydd uwch-aelodau o’r gweithlu, gan gynnwys aelodau bwrdd, yn cwblhau’r hyfforddiant o fewn 18 mis, ac fel rhan o unrhyw raglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Dylai cyflogeion newydd ei gwblhau fel rhan o’u hyfforddiant cynefino.

Mae’r broses ar gyfer rhoi gwybod am achosion o wahaniaethu wedi’i gwella ac ystyrir bod iddi gryfder priodol yn ddiwylliannol.

Mae’r staff yn teimlo wedi’u grymuso i roi gwybod am achosion.

Daw meddylfryd ac arferion gwrth-hiliol yn beth arferol ym mhob gweithgarwch sy’n gysylltiedig â’r gweithlu.

Gwelliant y gellir ei fesur yn lefelau boddhad defnyddwyr gwasanaethau â’r prosesau ar gyfer delio ag achosion o wahaniaethu, ynghyd â lleihad sylweddol yn nifer y cwynion am hiliaeth.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Tai Pawb.
  • Cartrefi Cymunedol Cymru.
  • Cymorth Cymru.
  • CLlLC.
  • TPAS Cymru.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.

Gan adeiladu ar yr adolygiad o lenyddiaeth a gynhaliwyd ar dai gorlawn ymhlith pobl a chymunedau ethnig lleiafrifol, gwneud rhagor o waith ymchwil a/neu ddadansoddi er mwyn deall yn well y cysylltiad rhwng tai gorlawn a’r risg uwch o ddal COVID-19 ymhlith pobl ethnig leiafrifol.

Papur ymchwil newydd.

Gwell dealltwriaeth o’r materion a’r camau lliniaru a roddwyd ar waith.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner.

Gweithio gyda sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol, awdurdodau lleol, Cymdeithasau Tai, Shelter Cymru a Cyngor ar Bopeth Cymru i ddangos bod anghenion gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth pobl ethnig leiafrifol yn cael eu diwallu mewn perthynas â’r gallu i gael cartrefi priodol, gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr, menywod ethnig lleiafrifol a cheiswyr lloches a ffoaduriaid.

Mae gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cynghori, yn dangos

eu bod bellach yn fwy hygyrch – data ac astudiaethau achos.

Daw gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cynghori, yn fwy hygyrch i’r amrywiaeth lawn o bobl ethnig leiafrifol.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.
  • Shelter Cymru.
  • Cyngor ar Bopeth Cymru.

Diwygio’r safonau rheoleiddiol presennol er mwyn sicrhau bod y disgwyliadau a osodir ar Gymdeithasau Tai mewn perthynas â safonau, darpariaeth a gwasanaethau ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys gwrth-hiliaeth, yn glir.

Mae’r safonau rheoleiddiol ar gyfer cymdeithasau tai wedi’u diwygio.

O dan Safon Reoleiddiol 1. Mae gan y sefydliad drefniadau arwain a llywodraethu strategol effeithiol sy’n ei alluogi i gyflawni ei ddiben a’i amcanion, a nodir y disgwyliadau canlynol ar gyfer y landlord cymdeithasol:

  • c) Mae’n pennu ymrwymiadau mesuradwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth ym mhob un o’i feysydd busnes mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (gan gynnwys materion gwrth-hiliaeth a mynd i’r afael â throseddau casineb) ac yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y mae’n gweithio gyda nhw ac ynddynt
  • d) Mae ganddo Fwrdd amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau y mae’n gweithio gyda nhw ac ynddynt, ac sy’n meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i fod yn effeithiol.

Bydd cydymffurfiaeth â’r safon yn cael ei fonitro.

Mae gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb wedi’u hymgorffori mewn Cymdeithasau Tai.

Cwblhawyd. Daeth yn weithredol o fis Ionawr 2022.

  • Tîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru.
  • Cartrefi Cymunedol Cymru.
  • Cymdeithasau Tai.

Datblygu canllawiau newydd ar gyfer Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol ar y cyd ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, i gynnwys:

  • dadansoddiad o anghenion tai grwpiau allweddol (pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl, pobl ddigartref, pobl hŷn, y rhai â chyflyrau iechyd meddwl, menywod ethnig lleiafrifol, ac ati) ym mhob awdurdod lleol er mwyn deall:
    • argaeledd tai priodol;
    • yr angen a amcangyfrifir yn y dyfodol;
    • beth yw’r diffygion ar gyfer pob grŵp allweddol.
  • Llywodraeth Cymru i roi hyfforddiant a chymorth parhaus i bob awdurdod lleol.

Proses a dogfennau newydd ar gyfer Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol er mwyn sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddealltwriaeth fanwl o anghenion tai pobl ethnig leiafrifol ac eraill yn eu cymunedau, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd â’r angen mwyaf am dai.

Gall awdurdodau tai a Chymdeithasau Tai adeiladu tai fforddiadwy sy’n diwallu anghenion pobl ethnig leiafrifol ac eraill yn eu cymunedau.

Haf 2022.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Awdurdodau lleol.
  • CLlLC.
  • Cymdeithasau Tai.
  • Tai Pawb.

Sicrhau bod pob Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, a’i asesiad o anghenion pobl ethnig leiafrifol a grwpiau allweddol eraill, yn llywio’r prosbectws fel rhan o waith monitro’r rhaglen Grantiau

Tai Cymdeithasol.

Dyfernir cyllid ar sail diwallu anghenion pobl ethnig leiafrifol ac eraill yng nghymunedau awdurdodau lleol.

Gwella mynediad at dai priodol a fforddiadwy.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Awdurdodau lleol.
  • CLlLC.
  • Cymdeithasau Tai.
  • Tai Pawb.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.

Sicrhau yr eir i’r afael yn benodol â’r rhwystrau a wynebir gan yr amrywiaeth lawn o bobl ethnig leiafrifol er mwyn sicrhau eu bod yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau digartrefedd a chartrefi. Bydd hyn yn cynnwys:

  • sicrhau bod cydraddoldeb hil yn rhan annatod a phenodol o’r broses o drawsnewid gwasanaethau digartrefedd (gan gynnwys ystyried angen blaenoriaethol a dyraniadau yn y dyfodol) a sicrhau bod llwyddiant i ddiwallu anghenion pobl ethnig leiafrifol yn rhan o’r gwaith o werthuso’r broses drawsnewid
  • sicrhau bod y fframwaith polisi a deddfwriaethol yn cefnogi’r broses o gomisiynu gwasanaethau cymorth tai a llety sy’n ystyried agweddau diwylliannol, er mwyn diwallu anghenion pobl ethnig leiafrifol amrywiol
  • sicrhau bod holl ganllawiau Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â chartrefi i awdurdodau lleol, fel 'Ailgartrefu Cyflym neu’r Cod Canllawiau ar Ddyraniadau', yn ystyried yr amrywiaeth lawn o bobl ethnig leiafrifol

Mae’r cynllun gweithredu, canllawiau a deunydd cyfathrebu yn gwneud cydraddoldeb hil a gwrth-hiliaeth yn rhan annatod o wasanaethau i roi diwedd ar ddigartrefedd; darperir tai priodol.

Ymgorfforir gwrth-hiliaeth mewn dull gweithredu i roi diwedd ar ddigartrefedd ar lefel strategol a gweithredol er mwyn chwalu’r rhwystrau i bobl ethnig leiafrifol ac eraill.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Sefydliadau partner Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol, Tai Pawb, Cymorth Cymru.

Parhau â’n gwaith i helpu’r rhai nad oes ganddynt yr hawl i gyllid cyhoeddus a dinasyddion yr UE nad ydynt wedi gwneud cais eto am Statws Preswylydd Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i gael gafael ar loches a’r gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl i’w cael, gan gynnwys:

  • rhoi hyfforddiant i 400 o swyddogion tai a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn deall hawliau mudwyr, gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt yr hawl i gyllid cyhoeddus
  • cyhoeddi canllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn deall y llwybrau cyfreithiol tuag at gymorth i’r rhai nad oes ganddynt yr hawl i gyllid cyhoeddus
  • rhoi cyllid i’r trydydd sector er mwyn helpu i ehangu a phroffesiynoli trefniadau ‘lletya’ i’r rhai y mae gobaith realistig y byddant yn cael caniatâd i aros
  • dod o hyd i ffyrdd arloesol o gefnogi mudwyr digartref drwy gynlluniau tai a rennir gyda darparwyr tai a’r trydydd sector

Darperir hyfforddiant, cyllid a chanllawiau fel bod sefydliadau’n gwybod sut i ddarparu’r cymorth i’r rhai nad oes ganddynt yr hawl i gyllid cyhoeddus yn y ffordd orau posibl.

Bydd staff awdurdodau lleol a’r trydydd sector yn cael eu hyfforddi i sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf ar hawliau Dinasyddion yr UE a grwpiau eraill o fudwyr, gan gynnwys y rhai â statws ffoadur, y rhai sy’n ceisio lloches, a’r rhai nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus.

Bydd staff awdurdodau lleol a’r Trydydd Sector yn deall yr hyn a olygir wrth ‘arian cyhoeddus’ ac yn hyderus wrth wybod pa gymorth y gellir ei ddarparu’n gyfreithiol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gryfhau a datblygu darpariaeth lletya. Mae hyn yn cynnwys tai a rennir ar gyfer ceiswyr lloches a wrthodwyd, yn ogystal â chynlluniau tai cymysg i bobl nad oes ganddynt hawl i gael arian cyhoeddus.

Bydd y cyllid yn cynyddu nifer y lletywyr yn y pedair ardal wasgaru, gwella mynediad at gymorth cyfreithiol i’r rhai sy’n cael eu lletya, sicrhau cysondeb ar draws Cymru mewn polisïau ac arferion diogelu sy’n gysylltiedig â lletya a modelau tai llety cyffredin.

Rhoddir yr holl gymorth posibl i’r rhai nad oes ganddynt yr hawl i gyllid cyhoeddus heb beryglu eu statws os ydynt yn apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod statws mewnfudo.

Canllawiau a hyfforddiant – 2022.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Tai Pawb.
  • Asylum Justice.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.
  • CLlLC.
  • Awdurdodau lleol.
  • Housing Justice Cymru.

Dros y pum mlynedd nesaf – Sicrhau y caiff anghenion pob unigolyn ethnig lleiafrifol eu cynnwys yn yr adolygiadau o ddarparu cartrefi/ deddfwriaeth a pholisïau sy’n gysylltiedig â thai yn ystod tymor y Senedd nesaf, gan gynnwys mewn perthynas â digartrefedd a dyraniadau.

Deddfwriaeth a fframwaith polisi ar roi diwedd ar ddigartrefedd sy’n ymgorffori gwrth-hiliaeth ac yn sicrhau cydraddoldeb hil, gan chwalu’r rhwystrau ac ennyn ymddiriedaeth pobl ethnig leiafrifol ac eraill mewn gwaith atal a/neu’r gallu i gael gwasanaethau.

Caiff anghenion pobl ethnig leiafrifol eu diwallu er mwyn sicrhau y gallant gael cartrefi a gwasanaethau priodol.

Mai 2026.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.
  • CLlLC.
  • Awdurdodau lleol.
  • Cartrefi Cymunedol Cymru.
  • Tai Pawb.
  • Sefydliadau’r trydydd sector.

Y sector rhentu preifat

Nod: Sicrhau bod tai a llety a’r gwasanaethau a ddarperir gan y sector rhentu preifat yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn ymgorffori arferion gwrth-hiliaeth ac yn diwallu anghenion amrywiol pobl ethnig leiafrifol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Datblygu Cynllun Gweithredu i’r Sector Rhentu Preifat er mwyn gwella cydraddoldeb yn y sector, y bydd gwrth-hiliaeth yn rhan greiddiol ohono. Dylid cynnwys y canlynol:

  • Gwaith ymchwil pellach ar gyffredinrwydd hiliaeth a gwahaniaethu, gan ystyried croestoriadedd ac anfantais economaidd gymdeithasol yn y sector rhentu preifat a phennu opsiynau i fynd i’r afael â hyn
  • Adolygu ac ymchwilio i’r sylfaen dystiolaeth o’r cymorth a roddir i denantiaid ethnig lleiafrifol gael tenantiaethau yn y sector rhentu preifat a’u cadw
  • Gwaith ymchwil pellach ar nifer y tai gorlawn yn y sector rhentu preifat, a sut y gellid cryfhau gallu awdurdodau lleol i orfodi safonau yn y sector rhentu preifat
  • Atgyfnerthu’r cymorth i’r rhai ar incymau is i gael tenantiaethau fforddiadwy a thymor hwy
  • Gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i ddatblygu hyfforddiant gwrth-hiliaeth a throseddau casineb i landlordiaid ac asiantiaid. Rhoi gwybodaeth i denantiaid i’w hannog i roi gwybod am hiliaeth a throseddau casineb yn y sector rhentu preifat
  • Gwella cyfathrebu ac ymgysylltu â thenantiaid ethnig lleiafrifol yn y sector rhentu preifat er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau a sut i’w gorfodi, a bod ganddynt yr hyder i wneud hynny

Cynllun clir ar waith i fynd i’r afael ag achosion o wahaniaethu yn y sector.

Ymchwil ac arfarniad o opsiynau.

Ymchwil i ganfod pa gymorth o ran tenantiaethau sydd ar gael, a llunio opsiynau i’w atgyfnerthu.

Ymchwil ac arfarniad o opsiynau.

Adolygu ac atgyfnerthu polisïau i gefnogi mynediad i’r sector rhentu preifat.

Bydd Rhentu Doeth Cymru yn datblygu hyfforddiant gwrth-hiliaeth a throseddau casineb i landlordiaid ac asiantiaid (ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu). Caiff gwybodaeth i gyfeirio at help a chymorth hefyd ei rhannu â thenantiaid a’i rhoi ar wefan Rhentu Doeth Cymru.

Datblygu a chyflwyno strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu.

Gwell dealltwriaeth o raddau’r materion a’r rhwystrau yn y sector rhentu preifat er mwyn blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer ymdrin â’r sefyllfa.

Gwell cymorth i denantiaid.

Gwell dealltwriaeth o nifer y tai gorlawn yn y sector rhentu preifat a’r bylchau mewn camau gorfodi; i flaenoriaethu camau unioni allweddol.

Mwy o gymorth i alluogi tenantiaid i gael mynediad i’r sector rhentu preifat a chadw tenantiaethau.

Gwell dealltwriaeth o effaith hiliaeth a chasineb, a hyder ymhlith landlordiaid ac asiantiaid i fynd i’r afael â hiliaeth.

Mwy o gyngor a chymorth i denantiaid sy’n wynebu hiliaeth a throseddau casineb er mwyn lleihau hiliaeth.

Ymgysylltu â thenantiaid a chymunedau ethnig lleiafrifol i lywio polisi’r sector preifat.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Rhentu Doeth Cymru.
  • Llywodraeth Cymru.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.
  • Tai Pawb.
  • TPAS Cymru.
  • Shelter Cymru.
  • Cyngor ar Bopeth Cymru.
  • Sefydliadau partner eraill.

Nod: Sicrhau bod gan bobl ethnig leiafrifol ledled Cymru lais a dylanwad i sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru ynghylch darparu cartrefi yn adlewyrchu amrywiaeth anghenion a blaenoriaethau pobl ethnig leiafrifol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Sicrhau bod deunyddiau ac ymgyrchoedd cyfathrebu Cyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio Llywodraeth Cymru yn apelgar i bobl ethnig leiafrifol yn y ffordd y cânt eu dylunio a’u cyflwyno, a sicrhau y caiff sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol a phobl ethnig leiafrifol eu cynnwys mewn gwaith datblygu, monitro a gwerthuso.

Cynllun Cyfathrebu Cartrefi a Lleoedd sy’n seiliedig ar ymgysylltu â phobl a chymunedau ethnig lleiafrifol.

Gwell ymgysylltu â phobl a chymunedau ethnig lleiafrifol er mwyn sicrhau bod polisi a chyllid Cartrefi a Lleoedd yn adlewyrchu eu hanghenion.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Tai Pawb.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.
  • Cartrefi Cymunedol Cymru.
  • CLlLC.
  • Sefydliadau partner eraill.

Rhaid sicrhau bod gan denantiaid ethnig lleiafrifol sianeli i leisio pryderon, herio a dylanwadu ar bolisi Tai ac Adfywio Llywodraeth Cymru drwy wneud y canlynol:

  • Gweithio gyda sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol a phartneriaid, gan gynnwys Tai Pawb, Cymorth Cymru, y Sefydliad Siartredig Tai, Cartrefi Cymunedol Cymru a TPAS Cymru
  • Gweithio gyda sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol a phartneriaid, gan gynnwys Tai Pawb, Cymorth Cymru, y Sefydliad Siartredig Tai, Cartrefi Cymunedol Cymru a TPAS Cymru i ddatblygu arferion cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol mewn perthynas â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan gynnwys gwrth-hiliaeth

Strategaeth gyfathrebu sy’n sicrhau gwell ymgysylltu â phobl, sefydliadau a chymunedau ethnig lleiafrifol.

Llais a dylanwad ar bolisi a chyllid Cartrefi a Lleoedd Llywodraeth Cymru.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.
  • Sefydliadau partner, gan gynnwys Tai Pawb, Cymorth Cymru, y Sefydliad Siartredig Tai, Cartrefi Cymunedol Cymru a TPAS Cymru.

Meithrin dealltwriaeth well o gyfranogiad tenantiaid a chwalu’r rhwystrau i hynny, a sicrhau mwy o gysondeb o ran atebolrwydd am wasanaethau tenantiaid mewn awdurdodau lleol a chymdeithasau tai; gweithio gyda sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol; CLlLC, Cartrefi Cymunedol Cymru, y Sefydliad Siartredig Tai a TPAS Cymru, i sicrhau bod landlordiaid yn casglu ac yn cyhoeddi data ar gyfranogiad tenantiaid ethnig lleiafrifol.

Data cadarn er mwyn deall profiadau tenantiaid ethnig lleiafrifol a’r rhwystrau a wynebir ganddynt, a monitro a gwerthuso cynnydd.

Gall sefydliadau gymryd camau i chwalu’r rhwystrau a darparu tai a gwasanaethau priodol i bobl a thenantiaid ethnig lleiafrifol.

Rhagfyr 2023 ac yn barhaus/tymor hwy.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.
  • CLlLC.
  • Y Sefydliad Siartredig Tai.
  • Cartrefi Cymunedol Cymru.
  • TPAS Cymru.
  • Tai Pawb.

Yn ystod y cam gwerthuso/datblygu polisi, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol; Tai Pawb, y Sefydliad Siartredig Tai, Cartrefi Cymunedol Cymru, TPAS Cymru, CLlLC a phobl ethnig leiafrifol i ddeall sut y gall potensial Rheoleiddio ar sail Maes (h.y. rheoleiddio awdurdodau lleol yn ogystal â chymdeithasau tai mewn perthynas â gwasanaethau landlordiaid) effeithio ar ganlyniadau i bobl a chymunedau ethnig lleiafrifol.

Gwaith datblygu polisïau ac opsiynau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch manteision posibl rheoleiddio ar sail maes ar gyfer gwasanaethau landlordiaid i bobl a chymunedau ethnig lleiafrifol.

Dylai’r penderfyniad ynghylch a ddylid rheoleiddio ar sail maes roi ystyriaeth lawn i’r effeithiau ar bobl a chymunedau ethnig lleiafrifol ar sail gwybodaeth.

Ni chytunwyd ar amserlenni eto/ tymor hwy.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.
  • Awdurdodau lleol.
  • Y Sefydliad Siartredig Tai.
  • TPAS Cymru.
  • Cartrefi Cymunedol Cymru.
  • CLlLC.
  • Tai Pawb.

Sefydlu Grŵp i barhau i oruchwylio’r broses o roi’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith yn y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio, gan gynnwys strwythurau ar gyfer rhannu gwybodaeth ac arferion effeithiol.

Sefydlu’r Grŵp.

Sefydlu cymuned o arferion effeithiol.

Cyflawni nodau a chamau gweithredu sy’n gysylltiedig â Chartrefi a Lleoedd.

O fewn 6 mis ac yn barhaus.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Sefydliadau a arweinir gan bobl ethnig leiafrifol.
  • Tai Pawb.
  • Cartrefi Cymunedol Cymru.
  • Cymorth Cymru.
  • Y Sefydliad Siartredig Tai.
  • TPAS Cymru.
  • CLlLC a sefydliadau partner eraill.

Llety sipsiwn a theithwyr

Nod: Cydnabod bod angen llety diogel diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau ac er mwyn ymdrin â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Creu rhwydwaith cenedlaethol o ddarpariaeth dramwy er mwyn hwyluso bywydau teithwyr, gan ystyried mannau aros dros dro wedi’u negodi, fel y bo’n briodol.

Creu pum llain o leiaf yng ngogledd a de Cymru.

Mwy o leiniau tramwy.

Defnyddir nifer y diwrnodau o ddefnydd llain fel mesur procsi ar gyfer lleihau nifer y gwersylloedd heb eu hawdurdodi.

Erbyn 2025.

  • Is-adran Cymunedau Llywodraeth Cymru.
  • Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru.
  • Grwpiau Sipsiwn a Theithwyr.
  • Awdurdodau lleol.

Treialu ffyrdd ychwanegol neu newydd o gyllido darpariaeth barhaol.

Darparu cartrefi parhaol i 10 teulu drwy ddefnyddio’r dulliau gweithredu newydd.

Cartrefi ychwanegol wedi’u darparu a dulliau newydd wedi’u mabwysiadu.

Erbyn 2025.

  • Is-adran Cymunedau Llywodraeth Cymru.
  • Grwpiau Sipsiwn a Theithwyr.
  • Awdurdodau lleol.
  • Cymdeithasau Tai.

Ystyried y potensial ar gyfer cynllun rhentu cartrefi symudol wedi’i weithredu drwy dai cymdeithasol er mwyn gwella ansawdd a chost y ddarpariaeth rhentu yng Nghymru.

Adroddiad cwmpasu.

Nodi a oes methiant yn y farchnad a datblygu atebion.

Erbyn 2025.

  • Is-adran Cymunedau Llywodraeth Cymru.
  • Grwpiau Sipsiwn a Theithwyr.
  • Awdurdodau lleol.
  • Cymdeithasau Tai.

Gofyniad cyfalaf ar gyfer cynllun peilot rhentu cartrefi symudol.

Cynllun peilot rhentu.

Nodi a oes methiant yn y farchnad a datblygu atebion.

Erbyn 2025.

  • Is-adran Cymunedau Llywodraeth Cymru.
  • Grwpiau Sipsiwn a Theithwyr.
  • Awdurdodau lleol.
  • Cymdeithasau Tai.

Rhoi cymorth dysgu a datblygu i Aelodau Etholedig Awdurdodau Lleol ar ddiwylliant, anghenion a chryfderau cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Caiff y fanyleb ar gyfer y gwasanaeth ei llunio i sicrhau y bydd y cymorth yn mynd y tu hwnt i godi ymwybyddiaeth ac y bydd yn cynnwys gwrth-hiliaeth.

Comisiynu darparwr a darparu hyfforddiant mewn nifer darged o awdurdodau lleol.

Mae aelodau etholedig yn wybodus ac yn sensitif i anghenion Sipsiwn a Theithwyr.

Ni chaiff iaith, safbwyntiau na gweithredoedd hiliol tuag at gymunedau o Sipsiwn a Theithwyr eu goddef a chânt eu condemnio’n eang.

Erbyn 2025

 

 

Erbyn 2024.

  • Is-adran Cymunedau Llywodraeth Cymru.
  • Grwpiau Sipsiwn a Theithwyr.
  • Awdurdodau lleol.
  • Darparwyr hyfforddiant â phrofiad ymarferol.

Comisiynu rhaglen beilot tair blynedd i ddarparu cyngor annibynnol dibynadwy i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu safleoedd preifat.

Penodi sefydliad i ddarparu’r gwasanaeth.

Gwell mynediad at gartrefi priodol. Bydd fframwaith effaith yn mesur nifer y cysylltiadau, y cymorth a gynigir a chanlyniadau cymorth.

Erbyn 2023.

  • Is-adran Cymunedau Llywodraeth Cymru.
  • Grwpiau Sipsiwn a Theithwyr.
  • Awdurdodau lleol.
  • Cymorth Cynllunio Cymru.

Adolygu’r polisi cyllido presennol ar gyfer safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr ac asesu ei effeithiolrwydd, gyda’r bwriad o dreialu dulliau ychwanegol neu newydd o gyllido safleoedd, gan gynnwys cymorth i safleoedd preifat.

Comisiynu adolygiad o’r dull cyllido gydag argymhellion ar gyfer modelau cyllido amgen ac ychwanegol.

Ffyrdd mwy hygyrch a hyblyg o gael darpariaeth ar safleoedd sy’n briodol yn ddiwylliannol drwy roi’r argymhellion ar waith.

Erbyn 2024.

  • Is-adran Cymunedau Llywodraeth Cymru.
  • Grwpiau Sipsiwn a Theithwyr.
  • Awdurdodau lleol.
  • Cymdeithasau Tai.

Ailddrafftio’r Canllawiau Safleoedd er mwyn sicrhau y caiff anghenion cymunedau o ran dyluniad a lleoliad eu hadlewyrchu’n well yn y ddogfen hon.

Canllawiau safleoedd wedi’u diwygio a’u hailgyhoeddi.

Cartrefi o ansawdd gwell ar safleoedd awdurdodau lleol.

Mwy o foddhad ymhlith preswylwyr ar ôl dros 2 flynedd.

Cost oes gyfan is fesul llain. Lleiniau mwy effeithlon o ran ynni.

Erbyn 2024.

  • Is-adran Cymunedau Llywodraeth Cymru.
  • Grwpiau Sipsiwn a Theithwyr.
  • Awdurdodau lleol.
  • Cymdeithasau Tai.

Comisiynu cynllun hyfforddi cenedlaethol i dimau opsiynau tai awdurdodau lleol yng

Nghymru, a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill, er mwyn gwella’r ffordd y gweithredir a’r cymorth a gynigir i aelodau’r gymuned sy’n gofyn am help mewn perthynas â digartrefedd a phroblemau llety, drwy greu “hyrwyddwyr” neu “arweinwyr” Sipsiwn a Theithwyr ym mhob awdurdod.

Comisiynu datblygwr a darparwr hyfforddiant.

Darparu 12 o sesiynau hyfforddi. Hyfforddi o leiaf 12 o hyrwyddwyr.

Datblygu mesurau effaith procsi ar gyfer darparu gwasanaethau sy’n ystyried agweddau diwylliannol.

Staff awdurdod lleol sy’n wybodus ac yn dangos sensitifrwydd diwylliannol wrth drafod anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr.

Erbyn 2024.

  • Is-adran Cymunedau Llywodraeth Cymru.
  • Grwpiau Sipsiwn a Theithwyr.
  • Awdurdodau lleol.
  • Darparwyr hyfforddiant â phrofiad ymarferol.

Sicrhau y caiff y mecanweithiau cyfreithiol presennol eu defnyddio’n llawn i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth bresennol.

Adolygiad blynyddol o gydymffurfiaeth â Rhan 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Data cryno ar gynnydd tuag at gyflawni’r ddyletswydd a luniwyd ar gyfer y Grŵp Atebolrwydd.

Mwy o leiniau wedi’u darparu.

Erbyn 2023.

  • Is-adran Cymunedau Llywodraeth Cymru.
  • Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru.
  • Awdurdodau lleol.

Llywodraeth leol

Ychydig o dystiolaeth

Mewn arolwg o ymgeiswyr yn etholiadau llywodraeth leol 2017, roedd 2.3% o’r ymgeiswyr ar gyfer cynghorau sir a bwrdeistref sirol a roddodd eu hethnigrwydd a 1.9% o’r ymgeiswyr ar gyfer cynghorau tref a chymuned yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Roedd 1.8% o’r rhai a etholwyd i gynghorau sir a bwrdeistref sirol a 1.2% o’r rhai a etholwyd i gynghorau tref a chymuned yn perthyn i grwpiau ethnig lleiafrifol (Llywodraeth Cymru,

2018). Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2017, amcangyfrifodd dadansoddiad o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth fod 4.7% o’r boblogaeth yn bobl Ddu, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol (Ystadegau Cymru, 2022). Y gyfradd ymateb gyffredinol i’r arolwg o ymgeiswyr llywodraeth leol oedd 18%, felly dylid bod yn ofalus wrth drin y canlyniadau fel rhai nodweddiadol. Serch hynny, mae’n dangos nad yw ein democratiaeth leol mor amrywiol â’n poblogaeth.

Cyflwyniad

Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn cynnwys 22 o gynghorau sir a bwrdeistref sirol, cynghorau tref a chymuned, pedwar awdurdod parc cenedlaethol, tri awdurdod tân ac achub a chyd-bwyllgorau corfforaethol.

Caiff pob un o’r sefydliadau hyn eu harwain yn ddemocrataidd gan gynghorwyr etholedig. Maent yn darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ac yn dilyn fframwaith moesegol a llywodraethu cyffredin. Rhyngddynt, maent hefyd yn gyflogwyr gwasanaeth cyhoeddus mawr. Mae 1,234 o gynghorwyr mewn prif gynghorau, dros 8,000 o gynghorwyr tref a chymuned a thros 125,000 o gyflogeion llywodraeth leol.

Ystyrir y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarperir gan lywodraeth leol mewn rhan arall o’r cynllun hwn. Fodd bynnag, mae llywodraeth leol yn gwneud mwy na darparu gwasanaethau; mae’n cynnig arweinyddiaeth gymunedol ddemocrataidd drwy weledigaeth ac uchelgais leol.

Felly, mae’n hollbwysig bod llywodraeth leol yn gwbl gynrychioliadol o’r amrywiaeth yn ein cymunedau a’i bod yn ymrwymedig i fod yn wrth-hiliol. Mae’n rhaid i hyn gael ei ddangos drwy’r ffordd y mae ei phrosesau democrataidd yn gweithredu, yn ei rôl fel cyflogwr mawr a hefyd fel darparwr gwasanaethau.

Dylai ein democratiaeth leol fod yn gynrychioliadol o’r cymunedau a wasanaethir, er mwyn ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd a sicrhau prosesau gwneud penderfyniadau cadarn. Mae democratiaeth leol sy’n cynnwys aelodaeth amrywiol ac sy’n ymgysylltu’n llawn â’i holl gymunedau yn ddemocratiaeth gryfach a bydd yn gwneud penderfyniadau sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth honno.

Yr hyn a wnawn

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydledig i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth mewn democratiaeth leol ledled Cymru. Mae hwn yn ymrwymiad y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Un Llais Cymru yn ei rannu’n llawn. Felly, wrth roi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda CLlLC, Un Llais Cymru, pleidiau gwleidyddol a phartneriaid eraill i gryfhau a dyfnhau ein hymrwymiad i gefnogi a galluogi pobl ethnig leiafrifol i sefyll am swyddi etholedig lleol, gan gynnwys cymorth ar gyfer cynlluniau mentora priodol a chyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ehangu’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig bresennol ar gyfer pobl ag anableddau i bobl o gefndiroedd mwy amrywiol.

Byddwn hefyd yn adolygu agweddau allweddol ar fframwaith deddfwriaethol llywodraeth leol er mwyn sicrhau ei fod yn hyrwyddo gwrth-hiliaeth drwy brosesau democrataidd, a’r ffordd yr ymgysylltir yn ddemocrataidd. Er enghraifft, rydym am greu amgylchedd lle mae pawb am gymryd rhan mewn democratiaeth, gan gynnwys arfer eu hawl i bleidleisio, ac yn teimlo eu bod yn gallu gwneud hynny. Mae hyn yn golygu ystyried pam nad yw pobl sydd ag etholfraint eisoes yn pleidleisio. Wrth fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, byddwn yn ystyried pa mor hygyrch yw’r broses o gymryd rhan mewn etholiadau i bobl ethnig leiafrifol, er enghraifft pa wybodaeth a chymorth a ddylai fod ar gael i bleidleiswyr.

Yr ochr arall i annog a chefnogi pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth yw sicrhau bod democratiaeth yn agored, yn dryloyw, yn gwrando, yn ymgysylltu ac yn gweithredu ar y fath gyfranogiad ac ymgysylltu. Rydym yn cyflwyno mesurau newydd i helpu llywodraeth leol i ymgysylltu â chymunedau a hyrwyddo cyfranogiad y cyhoedd. Mae’r rhain yn cynnwys strategaethau cyfranogiad y cyhoedd statudol, wedi’u hanelu at gyflwyno ffyrdd newydd i bobl ddod yn rhan o ddemocratiaeth a chynlluniau deisebu ar-lein. Maent hefyd yn cynnwys dulliau newydd o gynnwys pobl yn y gwaith o graffu ar ddemocratiaeth leol, fel y gallant chwarae rhan weithredol i ddwyn cynrychiolwyr etholedig i gyfrif drwy gydol eu cyfnod yn y swydd. Byddwn yn ceisio barn a chyfranogiad pobl ethnig leiafrifol, yn enwedig menywod a phobl ifanc, wrth gyd-lunio’r gwaith hwn, er mwyn sicrhau bod cynghorau, wrth roi’r gofynion newydd hyn ar waith, yn cydnabod anghenion a manteision cyfranogiad amrywiol gan y gymuned. Byddwn yn monitro’r gwaith hwn yn fanwl.

Rydym hefyd yn rhoi fframwaith perfformiad a llywodraethu newydd ar waith ar gyfer cynghorau sir a bwrdeistref sirol. Mae’r fframwaith hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau adolygu eu perfformiad yn barhaus, ac i ystyried safbwyntiau dinasyddion a chymunedau fel rhan o’r asesiad hwn. Byddwn yn sicrhau bod cynghorau’n ceisio barn pobl ethnig leiafrifol fel rhan o’r broses o adolygu eu perfformiad. Bydd yn ofynnol i gynghorau gyhoeddi eu hasesiadau eu hunain ac asesiadau panel ac ymateb yn gyhoeddus i argymhellion.

Rydym hefyd wedi ymrwymo ers tro i hyrwyddo ymddygiad moesegol ymhlith ein cynrychiolwyr etholedig lleol. Mae’r fframwaith moesegol presennol wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn. Rydym wedi pasio deddfwriaeth yn ddiweddar i’w atgyfnerthu, drwy ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr grwpiau gwleidyddol hyrwyddo ymddygiad o’r safon uchaf ymhlith eu haelodau a’i gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Safonau gyflwyno adroddiad blynyddol, gan gynnwys argymhellion ynglŷn â sut y gellir gwella prosesau lleol. Felly, dyma’r amser i adolygu’r holl drefniadau sydd ar waith gennym, ac i sicrhau eu bod yn hyrwyddo ymddygiad gwrth-hiliol.

Mae llywodraeth leol yn rhan hanfodol o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac rydym yn disgwyl i lywodraeth leol osod safonau uchel iddi hi ei hun ym mhob maes, gan gynnwys bod yn gyflogwr gwrth-hiliol. Rydym yn disgwyl i hyn gynnwys ystyried arferion gorau ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru a’r safonau y mae cyrff eraill yn cadw atynt, p’un a yw’r rhain yn ofynion deddfwriaethol ai peidio. Ein disgwyliad yw y dylai llywodraeth leol fod yn esiampl o bartneriaeth gymdeithasol a chymryd camau ar y cyd i gyflawni hyn a defnyddio dulliau ysgogi megis gweithredu cadarnhaol.

Mae pob corff mewn llywodraeth leol yn sofran yn ei rinwedd ei hun ac, o ran ei rôl fel cyflogwr, mae pob corff yn gyfrifol am sicrhau bod diwylliant gwrth-hiliol yn bodoli yn y sefydliad a bod hyn yn sail i’w bolisïau recriwtio, ei bolisïau cwynion, ei delerau ac amodau a phob agwedd ar ei bolisïau cyflogaeth.

Er mwyn cefnogi hyn, byddwn yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol, undebau llafur, cyrff proffesiynol ac Un Llais Cymru i ymgorffori dulliau gweithredu gwrth-hiliol yn eu holl arferion adnoddau dynol mewn llywodraeth leol ac i ehangu ar lefel y data ar niferoedd pobl ethnig leiafrifol a gyflogir gan y sector ar bob gradd, y bwlch cyflog ac a yw camau gweithredu cadarnhaol yn cael eu cymryd.

Arweinyddiaeth

Nod: Sicrhau bod deddfwriaeth a chanllawiau yn herio llywodraeth leol i gynrychioli’n well y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, ac i ymgysylltu’n llawn â nhw.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Ehangu’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol nesaf yn 2027.

Deddfwriaeth a chanllawiau newydd a chyllid.

Mwy o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn sefyll am swyddi etholedig lleol.

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • Y Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru.
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
  • Un Llais Cymru.
  • Pleidiau gwleidyddol.

Adolygu fframwaith moesegol llywodraeth leol a rhoi newidiadau ar waith.

Cyhoeddi canllawiau ar gynhwysiant a chyfranogiad mewn llywodraeth leol.

Cyhoeddi cynlluniau i wella gwybodaeth ac ymgysylltu mewn perthynas â chofrestru a phleidleisio.

Deddfwriaeth a chanllawiau newydd wedi’u cyhoeddi.

Bydd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys ac wedi’u cynrychioli’n llawn gan ddemocratiaeth leol.

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • Y Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
  • Un Llais Cymru.
  • Pleidiau gwleidyddol.

Nod: Sicrhau bod llywodraeth leol yn gyflogwr sy’n dangos esiampl a bod pob polisi cyflogaeth ac adnoddau dynol yn wrth-hiliol er mwyn creu amgylchedd diogel a chynhwysol i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Defnyddio cyllid gwella a ddyrennir i lywodraeth leol i ysgogi arferion gorau mewn polisïau cyflogaeth fel rhan o drefniadau llywodraethu a pherfformiad da.

Cymorth i ymgorffori gwrth-hiliaeth ym mholisïau adnoddau dynol prif gynghorau.

Bydd cyflogeion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn llywodraeth leol yn dweud bod diwylliant gwell (prosesau recriwtio, cadw a datblygu gwrth- hiliol).

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • Y Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru.
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
  • Undebau Llafur.
  • Un Llais Cymru.
  • Pleidiau gwleidyddol.

Adolygu gofynion cyhoeddi data mewn perthynas â datganiadau polisi cyflogau.

Gofynion cyhoeddi data clir ar waith.

Bydd gwell data ar gynrychiolaeth mewn llywodraeth leol ar gael i’w harchwilio.

Erbyn mis Mawrth 2023.

  • Y Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru.
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
  • Undebau Llafur.
  • Un Llais Cymru.
  • Pleidiau gwleidyddol.

Cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg ac entrepreneuriaeth

Cyflogadwyedd a sgiliau

Ychydig o dystiolaeth

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021, y gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 16-64 oed yng Nghymru oedd 68.3%, o gymharu â 73.0% ymhlith pobl Wyn (Ystadegau Cymru, 2022c).

Roedd cyflogeion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fwy tebygol o weithio mewn diwydiannau y dywedwyd wrthynt am gau yn ystod camau cynnar pandemig COVID-19 (20% o gyflogeion ethnig lleiafrifol o gymharu â 15% o gyflogeion gwyn). Roedd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol hefyd yn cael eu cynrychioli’n anghymesur mewn nifer o alwedigaethau y gellid ystyried eu bod yn wynebu mwy o risg o COVID-19, megis gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, cogyddion a gyrwyr tacsi (Llywodraeth Cymru, 2020b).

O’r holl raglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ym maes dysgu seiliedig ar waith yn 2020 i 2021 yng Nghymru roedd 3.9% wedi’u dechrau gan fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (Ystadegau Cymru, 2022a).

Yn ôl yr ymchwil gan Ganolfan Astudiaethau Hydredol Coleg Prifysgol Llundain, Ymddiriedolaeth Carnegie y DU ac Operation Black Vote, mae pobl 18 i 33 oed o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 47% yn fwy tebygol o weithio ar gontract dim oriau, o’u cymharu â’u cyfoedion Gwyn (Coleg Prifysgol Llundain, 2020).

Cyflwyniad

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi uchelgeisiau clir i greu Cymru lle y gall unigolion o bob oedran gael addysg o safon uchel, gyda swyddi i bawb, lle y gall busnesau ffynnu mewn economi sero net sy’n hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb.

Yn ein hadroddiad Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau, rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein rhaglenni cyflogadwyedd wedi’u hanelu at y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur, gan adeiladu ar dystiolaeth a phrofiad byw’r bobl hynny yr ydym yn ceisio eu cefnogi. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod canlyniadau i rai pobl yn y farchnad lafur, gan gynnwys pobl o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod a phobl anabl, yn dal i fod yn waeth.

Rydym yn cynnig nifer o raglenni cyflogadwyedd i alluogi pobl i ddysgu sgiliau ac ennill cymwysterau i’w helpu i gael cyflogaeth, ei chadw a chamu ymlaen, gan gynnwys gwasanaeth cynghori Cymru’n Gweithio, y Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol, a Twf Swyddi Cymru+ i bobl ifanc 16 i 18 oed.

Yr hyn a wyddom

Er bod rhaglenni da ar waith, gwyddom nad yw ein deunyddiau cyfathrebu na’n negeseuon yn cyrraedd cymunedau ethnig lleiafrifol yn gyson. Nid yw pobl ethnig leiafrifol bob amser yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael, i’r rhai sy’n ceisio gwaith neu’r rhai sydd mewn swydd ac yn awyddus i gamu ymlaen. Soniwyd hefyd nad yw darparwyr gwasanaethau yn gweithio mewn ffordd sy’n wrth-hiliol.

Mae sicrhau ein bod yn gwella deilliannau ac yn ehangu mynediad yn flaenoriaethau allweddol yn ein sector ôl-16. Ond rydym yn cydnabod bod angen inni gymryd camau pellach i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol a systemig sy’n atal pobl rhag manteisio ar y sgiliau, yr hyfforddiant a’r rhagolygon cyflogaeth sydd ar gael yng Nghymru.

Yr hyn a wnawn

Mae’n rhaid inni barhau i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol ac arloesol o gyfleu’r hyn a gynigir gennym i gymunedau gwahanol ledled Cymru. Mae’n rhaid inni hefyd ystyried sut rydym yn mynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol a cheisio darganfod sut mae ein rhaglenni yn cynnwys tuedd ymhlyg yn erbyn pobl ethnig leiafrifol a’u hanghenion.

Byddwn yn parhau i herio hiliaeth yn y ffordd y caiff ein rhaglenni eu datblygu, eu cyfleu a’u rhoi ar waith. Wrth wneud hynny, byddwn yn cael sgyrsiau anodd, ac yn datblygu cynnwys dysgu gwrth-hiliol priodol. Byddwn yn rhannu arferion gorau â’n holl staff a chontractwyr sy’n gyfrifol am gynnig rhaglenni cyflogadwyedd ar ran Llywodraeth Cymru ac yn hyrwyddo arferion gorau y tu hwnt i’r sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda ni.

Byddwn yn cynnal adolygiad gwrth-hiliol o’n rhaglenni cyflogadwyedd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu mewn ffordd gynhwysol, ac nad oes perygl o ddwysáu unrhyw anghydraddoldebau na gwahaniaethau sy’n bodoli eisoes wrth helpu pobl i gael gwaith teg sy’n rhoi boddhad iddynt. Byddwn yn cefnogi hyn drwy raglen o hyfforddiant ar wrth-hiliaeth ar gyfer ein gwasanaethau cyflogadwyedd rheng flaen.

Byddwn yn ystyried effaith ein camau gweithredu ar bobl o grwpiau ethnig lleiafrifol, sy’n ystyriol o’r ffaith eu bod yn wahanol i’w gilydd a bod eu hanghenion yn wahanol, a byddwn yn canolbwyntio ar ddeall yr effaith ar fenywod o grwpiau ethnig lleiafrifol. Byddwn yn adeiladu ar ein gweithgarwch ymgysylltu presennol â rhanddeiliaid o gymunedau ethnig lleiafrifol er mwyn gwella sut rydym yn cyfleu’r hyn a gynigir gennym yn barhaus, a chodi ymwybyddiaeth o’n rhaglenni dysgu a sgiliau ôl-16 ac ennyn ymddiriedaeth ynddynt. Rydym am nodi’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael gafael ar gymorth cyflogadwyedd a sgiliau a chael budd ohono, a chael gwared ar y rhwystrau hynny, a monitro’r gwaith hwn gyda phobl ethnig leiafrifol yn rheolaidd.

Partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg

Ychydig o dystiolaeth

Yn 2019, roedd bwlch cyflog o 1.4% ar sail ethnigrwydd yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod cyflogeion ethnig lleiafrifol yng Nghymru yn cael eu talu 1.4% yn llai yr awr ar gyfartaledd na chyflogeion Gwyn Prydeinig (SYG, 2020b).

Dangosodd canfyddiadau Arolwg Cymru Gyfan i Bobl Ethnig Leiafrifol a gynhaliwyd gan y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid yn 2018 dros gyfnod o dri mis (rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2018) fod mwyafrif o 60% o’r 143 o ymatebwyr yn teimlo bod lleiafrifoedd ethnig yn cael eu trin yn annheg yn y gweithle (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid, 2019).

Cyflwyniad

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda chyflogwyr ac undebau llafur i sicrhau Cymru decach, mwy cyfartal a gwyrddach. Ar lefel yr unigolyn, mae gwaith teg yn grymuso pobl i ddiwallu eu hanghenion, yn rhoi ymdeimlad o foddhad ac yn galluogi unigolion i gyfrannu, datblygu a thyfu. Ar lefel cymdeithas, mae’n galluogi cynhwysiant, cyfranogiad a datblygu cymdeithasol ac economaidd.

Yr hyn a wyddom

Mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw’r cyfleoedd i gael gwaith teg yn gyffredinol nac wedi’u dosbarthu’n gyfartal. Gwyddom fod profiadau bywyd yn aml yn adlewyrchu anghydraddoldebau parhaol, wedi’u gwreiddio’n ddwfn o ran y profiad o waith. Mae hyn yn cynnwys tangynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol mewn uwch-swyddi, cyfraddau cyflog a dyrchafu is, gorgynrychiolaeth mewn swyddi mwy ansicr sy’n talu cyflog is, a pholisïau, prosesau a diwylliannau sefydliadol sy’n atal cynnydd a newid.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn cyflawni ein blaenoriaethau a’n huchelgeisiau i greu ‘gwlad o waith teg’. Mae hyn yn golygu defnyddio pob dull ysgogi sydd gennym i wella bywydau gwaith, drwy gynyddu’r cyfleoedd i gael gwaith teg. Byddwn yn ymdrechu o’r newydd i sicrhau bod gwrth-hiliaeth wedi’i hymgorffori yn y ffordd rydym yn ymdrin â phartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg.

Er mwyn helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd, byddwn yn cynnwys data ar gyflogau pobl ethnig leiafrifol, eu cyflogaeth a data eraill sy’n berthnasol i fyd gwaith wrth fesur canlyniadau gwaith teg. Rydym yn cydnabod y daw tystiolaeth ar lawer ffurf, felly yn ogystal â thystiolaeth feintiol, byddwn yn chwilio am ymchwil ansoddol ac yn gwrando ar brofiadau bywyd gweithwyr ethnig lleiafrifol ac yn gweithredu arnynt.

Yn gyffredinol, byddwn yn ymgorffori arferion gwrth-hiliaeth yn strwythur ein partneriaeth gymdeithasol a’r ffordd y byddwn yn cynyddu faint o waith teg sydd ar gael, yn codi ymwybyddiaeth o arferion, prosesau a diwylliannau gwrth-hiliol yn y gweithlu ac yn eu deall a’u mabwysiadu, ac yn lleihau a chau’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd rhwng cyflogeion ethnig lleiafrifol a chyflogeion gwyn.

Gyda phwy rydym yn gweithio

Byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cyflogwyr ac undebau llafur yn gweithredu fel hyrwyddwyr dros newid, gan ein helpu i ledaenu ymwybyddiaeth ac arferion gwrth-hiliol a thrawsnewid diwylliannau sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu yn elfen gadarn o waith Cyngor y Bartneriaeth Gymdeithasol a Chyngor Partneriaeth y Gweithlu.

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid cymdeithasol i fynd ati i hyrwyddo manteision gweithlu amrywiol i bawb ac amgylcheddau gwaith sy’n helpu gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gymryd rhan, camu ymlaen yn eu gwaith a ffynnu.

Byddwn yn codi ymwybyddiaeth cyflogeion o hawliau gweithwyr ac ymwybyddiaeth a dealltwriaeth cyflogwyr o’u cyfrifoldebau cyfreithiol ac yn gwella lefelau cydymffurfiaeth. Byddwn yn meithrin cydberthnasau mwy effeithiol â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac eraill i gefnogi hyn. Gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau llafur, byddwn yn herio rhagfarn yn y gweithle, yn mynd i’r afael â gwahaniaethu, bwlio ac aflonyddu yn y gweithle ac yn hyrwyddo gwrth-hiliaeth yn y gwaith.

Yn olaf, rydym yn cydnabod bod byd gwaith yn newid o hyd a byddwn yn effro i risgiau a chyfleoedd newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg ac unrhyw effeithiau anghymesur yn ôl hil.

Entrepreneuriaeth

Ychydig o dystiolaeth

Ers 2016, o blith y 5,869 o gleientiaid sydd wedi cael cymorth gan Busnes Cymru i ddechrau busnes, mae 405 (7%) yn ystyried eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. (Data a gasglwyd yn fewnol gan Lywodraeth Cymru).

Mae Busnes Cymru wedi rhoi cymorth yn uniongyrchol i fwy na 13,062 o berchenogion busnes ers 2016 er mwyn helpu eu busnesau i ddatblygu a thyfu. O blith y rhain, mae 578 (4.4%) yn ystyried eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. (Data a gasglwyd yn fewnol gan Lywodraeth Cymru).

Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd cadarnhaol hwn, dim ond 1.5% o fusnesau bach a chanolig (BBaChau) â chyflogeion yng Nghymru oedd yn cael eu harwain gan fwyafrif o bobl ethnig leiafrifol (heblaw Gwyn) yn 2019 (ond mae’n werth nodi bod ethnigrwydd 8.6% o dimau arwain BBaChau yn yr arolwg yn anhysbys ac felly y gallai cyfanswm y bobl ethnig leiafrifol fod yn uwch) (Ffeithiau a Ffigurau Ethnigrwydd, 2020b).

Mae dadansoddiad o hunangyflogaeth yn ôl ethnigrwydd sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos mai dim ond 4.4% o bobl hunangyflogedig yng Nghymru oedd yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol (Llywodraeth Cymru, 2020b).

Cyflwyniad

Mae rhaglen Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cefnogi entrepreneuriaeth yn rhagweithiol drwy bolisïau a rhaglenni sydd wedi’u hanelu at annog unigolion i greu microfusnesau a BBaChau a thwf a datblygiad cynaliadwy’r busnesau hynny.

Mae ein gweledigaeth yn glir, sef gwasanaeth gwrth-hiliol gan Busnes Cymru sy’n ddiwylliannol hyderus ac sy’n cael ei ddwyn i gyfrif drwy gydol y broses o’i gyflwyno.

Yr hyn a wyddom

Gwyddom fod angen i bobl ethnig leiafrifol deimlo’n gwbl hyderus am wasanaeth Busnes Cymru.

Mae Busnes Cymru yn cydnabod bod angen inni fireinio’r ffordd rydym yn cyfathrebu ag unigolion a rhanddeiliaid er mwyn cyrraedd unigolion o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac ymgysylltu â nhw, gan hyrwyddo’r gwasanaeth drwy ddefnyddio modelau rôl i sicrhau bod unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn dod yn ymwybodol o’n gwasanaethau ac yn teimlo’n gwbl hyderus i’w defnyddio.

Yr hyn a wnawn

Er mwyn gwireddu ein huchelgais, byddwn yn gweithio gyda chyrff cynrychioliadol ac unigolion i ddatblygu cynllun gwrth-hiliol ar gyfer y gwasanaeth. Byddwn yn parhau i gryfhau canlyniadau, gan gysylltu gwaith dadansoddi data â gweithgarwch allgymorth bob chwarter. Drwy gontractau yn y dyfodol, bydd Busnes Cymru yn meithrin darpariaeth wrth-hiliol o’r brig i lawr, gydag atebolrwydd cytundebol yn rhan o gyflawni’r contractau hynny. Byddwn yn gwneud hyn drwy ail-lunio ffurf contractau â phobl fusnes ethnig leiafrifol.

Gyda phwy rydym yn gweithio

Mae gwasanaeth presennol Busnes Cymru wedi’i gynllunio i gynnig gwasanaeth sy’n cydnabod anghenion a dyheadau unigolion sy’n ceisio dechrau busnes neu dyfu eu busnes, boed hynny ar sail hunangyflogedig, dechrau busnes twf uchel neu gynnal busnes sy’n bodoli eisoes, ac yn ceisio eu diwallu. Mae Busnes Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid cymunedol sy’n estyn allan i gymunedau er mwyn sicrhau mwy o ymgysylltu.

Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid, y Ganolfan dros Entrepreneuriaeth Affricanaidd ac Assadaqaat Community Finance (ACF).

Cyflogadwyedd a sgiliau

Nod: Gwell gwybodaeth a data perfformiad ar gyfranogiad grwpiau ethnig lleiafrifol yn rhaglenni Sgiliau a Chyflogadwyedd Llywodraeth Cymru.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Adolygu a gwerthuso’r data a gasglwn ar unigolion ethnig lleiafrifol sy’n cymryd rhan mewn Rhaglenni Cyflogadwyedd.

Dadansoddi pwy sy’n cymryd rhan a’u canlyniadau o ran gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn ein hadroddiadau ystadegol, gan ddatblygu data wedi’u dadgrynhoi yn ôl gwahanol grwpiau ethnig lleiafrifol a rhyw.

Adolygu data’n barhaus, gan edrych ar ein rhaglenni cyflogadwyedd, gan gynnwys Cymru’n Gweithio, ReAct+, a Twf Swyddi Cymru+, o safbwynt gwrth-hiliaeth.

Set ddata gydlynol ac wedi’i dadgrynhoi y gellir ei defnyddio i ddeall pa gymorth sy’n gweithio

a lle mae’n rhaid inni wella, a gwella canlyniadau i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn ffordd amlwg, yn enwedig pan fo gwahaniaeth yn ôl rhyw a grwpiau ethnig lleiafrifol penodol.

Dulliau gweithredu wedi’u diweddaru i ymgysylltu â lleiafrifoedd ethnig a chynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan.

Gwell data a mwy o dryloywder, gan arwain at ddealltwriaeth glir o lefelau cyfranogiad a chynyddu nifer y bobl o leiafrifoedd ethnig sy’n cymryd rhan a sicrhau gwell canlyniadau iddynt.

Mawrth 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Darparwyr dan gontract Gyrfa Cymru.
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Nod: Bydd rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn cynnig amgylchedd diogel, cadarnhaol a chynhwysol i bob aelod o staff a phawb sy’n cymryd rhan, lle yr eir i’r afael â hiliaeth.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Adolygiad wedi’i gyd-lunio o’n rhaglenni cyflogadwyedd o safbwynt gwrth-hiliaeth.

Adolygu’r camau gweithredu a gymerir o ran gwrth-hiliaeth yng ngweithlu ein darparwyr dysgu a’n sefydliadau cyflawni ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau cyflogadwyedd.

Adolygu prosesau ymgysylltu â phartneriaid cyflawni i gynnwys ffocws penodol ar ddeall profiadau menywod o gymunedau ethnig lleiafrifol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael.

Adolygu lleoliadau cyflawni cymunedol er mwyn gwneud y ddarpariaeth yn fwy hygyrch i unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Adolygu effaith ein cymorth ar fenywod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn deall y problemau a wynebir ganddynt a sut y gallwn eu helpu drwy ein rhaglenni.

Dealltwriaeth o ble y gellir gwneud gwelliannau uniongyrchol ac effeithiol i’r ffordd y cyflwynir rhaglenni.

Camau gweithredu cadarnhaol wedi’u cymryd i gefnogi gwrth-hiliaeth, gan gynnwys rhaglen o hyfforddiant i ddarparwyr rhaglenni a chodi ymwybyddiaeth i ddysgwyr.

Mwy o ymwybyddiaeth o wrth- hiliaeth yn y gweithle a’r manteision i fusnesau. Mwy o ymgysylltu a chanlyniadau cadarnhaol i bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, gan sicrhau croestoriadedd, mewn rhaglenni sgiliau a gwell cyfleoedd i ddatblygu ac uwchsgilio.

Cynyddu nifer y bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol sy’n cymryd rhan yn rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru a gwella eu profiadau a’u canlyniadau wrth wneud hynny.

Mwy o gyfleoedd ar gyfer gwell cyflogaeth i bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Ebrill 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Darparwyr dan gontract.
  • Gyrfa Cymru.
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  • Y trydydd sector.
  • Awdurdodau lleol.

Adolygu a gwella gwasanaethau Gyrfa Cymru/Cymru’n Gweithio er mwyn cynyddu nifer y bobl ethnig leiafrifol sy’n defnyddio eu gwasanaethau.

Datblygu cynigion wedi’u cyd-lunio i godi dyheadau gyrfa pobl ifanc o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Cyflwyno rhaglen o hyfforddiant ar wrth-hiliaeth a sesiynau codi ymwybyddiaeth o wrth-hiliaeth ar gyfer pob darparwr rhaglen a dysgwr, a fydd yn codi ymwybyddiaeth o brofiadau grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys profiad penodol menywod a phobl anabl.

Sicrhau bod darparwyr yn parhau i fonitro risgiau cynyddol COVID-19 wrth ystyried anghenion cyfranogwyr a staff o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Cyflwyno prosesau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant ar arferion recriwtio gwrth-hiliol ac ymwybyddiaeth o wrth-hiliaeth i fusnesau.

Defnyddio Cronfa Ddysgu Undebol Cymru gydag undebau llafur i ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd y gweithlu, gyda phwyslais penodol ar ddileu rhwystrau i’r rhai nad ydynt yn ddysgwyr yn draddodiadol.

Ystyried sut y gellir datblygu a chyd-greu fframwaith ar gyfer dysgu teuluol fel llwybr tuag at ddatblygu sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth.

 

 

 

 

Nod: Cynyddu nifer y bobl ethnig leiafrifol sy’n dechrau ac yn cwblhau Prentisiaethau.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Rhoi adroddiadau ar Gofnodion Dysgu Gydol Oes Cymru sy’n dangos data ar dueddiadau, gwaith dadansoddi a meincnodi i’r Deiliaid Contract Arweiniol.

Monitro data cwblhau ar gyfer pobl ethnig leiafrifol a chamau gweithredu os bydd y gyfradd peidio â chwblhau yn uwch na’r trothwyon.

Defnyddio prosesau rheoli contractau Deiliaid Contract Arweiniol i dynnu sylw at arferion da a meysydd i’w gwella.

Rhannu arferion da drwy Grŵp Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a chynnwys targedau monitro mewn polisi prentisiaethau diwygiedig a monitro Deiliaid Contract Arweiniol yn erbyn y targed hwn.

Sicrhau bod astudiaethau achos a deunyddiau hyrwyddo yn cynnwys pobl ethnig leiafrifol.

Y targed o ran ethnigrwydd a nodwyd mewn polisi diwygiedig wedi’i gyflawni ac wedi’i gynnal.

Mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig yn dechrau prentisiaethau.

Rhagfyr 2022.

  • Deiliaid contract arweiniol.

Partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg

Nod: Ymgorffori gwrth-hiliaeth yn strwythurau ein partneriaeth gymdeithasol ac yn y ffyrdd rydym yn cynyddu cyffredinrwydd gwaith teg.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cynnwys gwrth-hiliaeth yn nhrefniadau gweithredol y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol newydd a Chyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y dyfodol a sicrhau bod gwrth-hiliaeth wedi’i hymgorffori yn eu gwaith a bod lleisiau ethnig lleiafrifol yn cael eu clywed.

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a Chyngor Partneriaeth y Gweithlu lle mae lleisiau ethnig lleiafrifol yn cael eu clywed.

Rhaglenni gwaith sy’n gwneud ymrwymiad clir i fynd i’r afael a hiliaeth hyd y gellir yn eu cylch gwaith.

Bydd cyflogwyr a gweithwyr ethnig lleiafrifol yn nodi gwell lefelau boddhad ac ymgysylltu.

Rhagfyr 2022.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Partneriaid cymdeithasol.
  • Cyngor (Cysgodol) y Bartneriaeth Gymdeithasol.
  • Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Chwilio am ymchwil ansoddol, gan gynnwys adolygiad llenyddiaeth, a gwrando ar brofiadau bywyd gweithwyr ethnig lleiafrifol. Byddwn yn defnyddio hyn i lywio’r gwaith o ddatblygu polisi ar bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg ac ymyriadau perthnasol.

Datblygu polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n diwallu anghenion gweithwyr ethnig lleiafrifol a’i roi ar waith.

Mae gweithwyr ethnig lleiafrifol wedi cael gwell mynediad at amodau gwrth-hiliol a gwaith teg.

Rhagfyr 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Partneriaid cymdeithasol.
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Nod: Codi ymwybyddiaeth o arferion, prosesau a diwylliannau yn y gweithlu sy’n wrth-hiliol, eu deall yn well a’u mabwysiadu.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol i sicrhau bod cyflogwyr ac undebau llafur yn gweithredu fel hyrwyddwyr dros newid wrth godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o arferion gwrth-hiliol a mynd i’r afael ag aflonyddu yn y gweithle. Byddwn yn cyflymu’r gweithgarwch hwn ac yn sefydlu ffyrdd o fesur cynnydd.

Sefydlu dangosyddion gwaith teg.

Cyflogwyr a chyflogeion sydd wedi cael gwell gwybodaeth a lleihad amlwg yn nifer yr achosion o beidio â chydymffurfio â chyfraith cyflogaeth.

Rhagfyr 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Partneriaid cymdeithasol.
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Codi ymwybyddiaeth cyflogeion o hawliau gweithwyr ac ymwybyddiaeth a dealltwriaeth cyflogwyr o’u cyfrifoldebau cyfreithiol, er mwyn cynyddu lefelau cydymffurfiaeth. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu ar ein hymgyrch ar hawliau’r gweithlu a chyfrifoldebau i wella mynediad at wybodaeth, cyngor ac arweiniad perthnasol.

Byddwn yn meithrin perthynas fwy effeithiol a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac eraill i gefnogi’r gwaith hwn.

Gweithgarwch i wella ymwybyddiaeth o hawliau’r gweithlu a chyfrifoldebau cyflogwyr.

Cyflogwyr a chyflogeion sydd wedi cael gwell gwybodaeth a lleihad yn nifer yr achosion o beidio â chydymffurfio â chyfraith cyflogaeth.

Rhagfyr 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Partneriaid cymdeithasol.
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Nod: Lleihau a dileu’r bwlch ethnigrwydd rhwng cyflogeion ethnig lleiafrifol a gwyn.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cyflawni ein Carreg Filltir Genedlaethol i ddileu’r bwlch mewn cyflog yn ôl ethnigrwydd erbyn 2050. Yn y byrdymor, byddwn yn ymgorffori data ar gyflogau a chyflogaeth gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ein dulliau mesur canlyniadau gwaith teg, ac yn datblygu cynlluniau i adolygu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Carreg filltir genedlaethol i ddileu’r bwlch mewn cyflog yn ôl rhyw, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050.

Tystiolaeth bod y bwlch mewn cyflog rhwng gweithwyr ethnig lleiafrifol a gweithwyr gwyn yn cau.

Rhagfyr 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Cyngor (Cysgodol) y Bartneriaeth Gymdeithasol.
  • Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

Gweithio gyda’n partneriaid cymdeithasol i fynd ati i hyrwyddo manteision gweithlu amrywiol i bawb ac amgylcheddau gwaith sy’n helpu gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gymryd rhan, camu ymlaen yn eu gwaith a ffynnu.

Datblygu a lledaenu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad perthnasol.

Bydd y gweithlu ethnig lleiafrifol wedi nodi lefelau boddhad uwch bod gweithleoedd mwy amrywiol, cydlynus a chynhyrchiol sy’n eu galluogi i gyrraedd eu potensial llawn.

Rhagfyr 2023.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Partneriaid cymdeithasol.
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Entrepreneuriaeth

Nod: Creu gwasanaeth Busnes Cymru sy’n wrth-hiliol ac sy’n ymgysylltu â chymunedau amrywiol mewn ffordd ddiwylliannol briodol er mwyn cynyddu nifer y cwmnïau newydd a thwf cwmnïau ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Gweithio gyda chyrff cynrychioliadol ac unigolion, yn enwedig y rhai o’r gymuned fusnes ethnig leiafrifol, i ddatblygu cynllun gwrth-hiliol ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru.

Rhoi hyfforddiant ar wrth-hiliaeth i bob aelod o staff Busnes Cymru.

Cyhoeddi cynllun sy’n ystyried gwasanaeth Busnes Cymru o safbwynt gwrth-hiliaeth.

Gwasanaeth sy’n ymwybodol o’r ffordd y mae hiliaeth yn creu gwahaniaethau, sy’n ddiwylliannol hyderus ac sy’n cynyddu nifer y bobl ethnig leiafrifol sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Mawrth 2023.

  • Caiff partneriaid eu comisiynu i ddatblygu’r cynllun gwrth-hiliol ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru.

Defnyddio trefniadau contractau Busnes Cymru i sicrhau darpariaeth wrth-hiliol drwy drefniadau cytundebol.

Gofynion wedi’u gwerthuso.

Gwasanaeth wedi’i werthuso ac yn seiliedig ar gadwyn gyflenwi wrth-hiliol i ddarparu gwasanaethau.

Proses dendro gychwynnol i ddechrau ym mis Gorffennaf 2022.

 

Cenedl noddfa: cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Ychydig o dystiolaeth

Cynigiodd y DU ddiogelwch, ar ffurf lloches, diogelwch dyngarol, mathau amgen o ganiatâd i aros ac ailsefydlu, i 14,734 o bobl (gan gynnwys dibynyddion) yn 2021. Roedd nifer y bobl y cynigiwyd diogelwch iddynt yn 2021 (naill ai ar ôl cais am loches neu drwy gynllun ailsefydlu) 49% yn uwch nag yr oedd yn y flwyddyn flaenorol, ac yn debyg i’r lefelau a welwyd rhwng 2015 a 2018. Cyfrifir am y cynnydd hwn (o 9,895 yn 2020 i 14,734 yn 2021) drwy gynnydd yn nifer y ceisiadau am loches a ganiatawyd gan y penderfyniad cychwynnol a lleihad yn nifer y ceisiadau a wrthodwyd. Roedd dros hanner (55%) o’r rhain yn rhoi lloches, diogelwch dyngarol neu fathau eraill o ganiatâd i aros (megis caniatâd disgresiynol i aros neu ganiatâd i aros i blant ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches).

Rhoddwyd diogelwch i 1,587 o bobl drwy gynllun ailsefydlu yn 2021, sy’n 93% yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol pan oedd yn rhaid atal y cynlluniau ailsefydlu dros dro oherwydd pandemig COVID-19. Ceir nifer o gynlluniau ailsefydlu, gan gynnwys Cynllun Ailsefydlu’r DU, y Cynllun Ailsefydlu Pobl Agored i Niwed a’r Cynllun Ailsefydlu Plant Agored i Niwed (y daeth y naill a’r llall i ben ar ddiwedd mis Chwefror 2021), y Cynllun Ailsefydlu i Ddinasyddion Affganistan a’r Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid.

Mae’r data uchod yn ymwneud â gwybodaeth a gyhoeddir ar gyfer y DU. Nid yw data sy’n ymwneud yn benodol â Chymru yn cael eu cyhoeddi ym mhob set ddata.

Cyflwyniad

Ein gweledigaeth yw bod Cymru yn Genedl Noddfa lle mae’r broses o integreiddio ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn dechrau ar y diwrnod cyntaf y byddant yn cyrraedd Cymru. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am loches a mudo, yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i leihau’r anghydraddoldebau a wynebir gan geiswyr lloches a ffoaduriaid, gan roi mwy o fynediad at gyfleoedd a gwella cydberthnasau rhwng y cymunedau hyn a chymdeithas yn fwy cyffredinol. Nodir camau gweithredu i gyflawni hyn yng Nghynllun Gweithredu Cenedl Noddfa 2019. Rydym hefyd yn ymrwymedig i driniaeth gyfartal a theg i bawb.

Yr hyn a wyddom

Mae’r gwaith o ddatblygu Cynllun Cenedl Noddfa ac ymgysylltu mwy diweddar â ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi dangos mai’r prif broblemau a wynebir ganddynt yw cael gafael ar wasanaethau iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, cael addysg a chymorth iaith yn benodol, cael llety a gwaith ac osgoi cyni.

Yr hyn a wnawn

Byddwn yn sicrhau ein bod yn mabwysiadu ymagwedd wrth-hiliol tuag at ein hymrwymiadau fel Cenedl Noddfa drwy sicrhau bod pob mudwr dan orfod yn cael yr un cyfleoedd, ni waeth o ble y mae wedi dod. Er ein bod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin a’u helpu i ddod o hyd i gartrefi a gwaith yng Nghymru, byddwn yn sicrhau na chaiff ffoaduriaid eraill eu trin yn wahanol oherwydd lliw eu croen.

Nod: Dod yn Genedl Noddfa drwy roi Cenedl Noddfa: cynllun ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches (2019) ar waith.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Sicrhau y gall mudwyr dan orfod sy’n byw yng Nghymru gael y gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth sydd eu hangen arnynt ac y cânt eu cefnogi i integreiddio’n effeithiol â chymunedau drwy gaffael a rheoli’r Gwasanaeth Cymorth i Geiswyr Noddfa.

Rhoi cyngor arbenigol ar waith achos ar loches, cyngor cyfreithiol ar fewnfudo, cymorth pwrpasol i bobl ifanc a grwpiau eraill sy’n agored i niwed.

Caiff pobl sy’n ceisio noddfa gymorth i sicrhau gwell canlyniadau.

Caiff cydberthnasau da eu meithrin rhwng ceiswyr noddfa a chymdeithas yn fwy cyffredinol.

Gall mudwyr dan orfod gael gafael ar gyngor, gan sicrhau eu bod yn gwybod beth yw eu hawliau ac yn atal canlyniadau mwy niweidiol.

Gall mudwyr dan orfod integreiddio â chymunedau a gall y gymuned ehangach ffynnu.

Gwasanaeth Cymorth i Geiswyr Noddfa i’w gyllido hyd at 2025.

  • Tîm Cynhwysiant a Chydlyniant Llywodraeth Cymru.

Rhoi ein Fframwaith Integreiddio Mudwyr i Gymru ar waith.

Bydd cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau yn deall sut mae eu gwasanaethau a’u data yn helpu i wella dealltwriaeth o integreiddio mudwyr a phrosesau effeithiol.

Bydd llai o aelodau o’r gymuned fudo yn wynebu rhwystrau i integreiddio.

2025.

  • Tîm Cynhwysiant a Chydlyniant Llywodraeth Cymru.

Sicrhau cynaliadwyedd Hybiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) er mwyn darparu asesiadau cyson o ansawdd uchel o ruglder iaith a chyrsiau iaith priodol.

Bydd Hybiau ESOL yn gweithredu yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam (gyda darpariaeth rithwir ehangach).

Caiff mudwyr heb sgiliau Saesneg/ Cymraeg digonol gymorth i ymuno â chyrsiau.

Caiff y broses o gaffael iaith ei chynorthwyo’n ddigonol er mwyn sicrhau mai dim ond yn y byrdymor y bydd iaith yn rhwystr i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant bob amser.

Mae Hybiau ESOL wedi’u hariannu hyd at 2023.

  • Tîm Cynhwysiant a Chydlyniant Llywodraeth Cymru.
  • Tîm ESOL.

Sicrhau y caiff ffoaduriaid eu cefnogi er mwyn osgoi cyni a digartrefedd drwy barhau i ariannu prosiect llety ‘Symud Ymlaen’.

Caiff cyllid parhaus ei ddarparu er mwyn sicrhau y gall sefydliad cymorth i ffoaduriaid yr ymddiriedir ynddo gefnogi ffoaduriaid newydd eu cydnabod sy’n cael eu troi allan o lety lloches.

Bydd y prosiect yn sicrhau y gall ffoaduriaid ddod o hyd i lety amgen, cael cyfrifon banc a gwaith/nawdd cymdeithasol, cyn gynted â phosibl, ac osgoi cyni a digartrefedd.

Caiff cyllid ei ddarparu yn 2022 a 2023.

  • Tîm Cynhwysiant a Chydlyniant Llywodraeth Cymru.
  • Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Diwygio hyfforddiant landlordiaid Rhentu Doeth Cymru i gynnwys esboniad o hawliau tai mudwyr (gan gynnwys sut mae hyn yn berthnasol i ffoaduriaid, y rhai na allant hawlio ‘Arian Cyhoeddus’, dinasyddion yr UE ac eraill), sut i wirio statws mudwyr yn hawdd er mwyn atal gwahaniaethu a sut i ymdrin â hiliaeth a throseddau casineb.

Caiff hyfforddiant landlordiaid Rhentu Doeth Cymru ei ddiwygio i gynnwys yr elfennau hyn.

Dylai mudwyr wynebu llai o rwystrau a achosir gan anwybodaeth a gwahaniaethu.

Dylid ymdrin â throseddau casineb a hiliaeth yn fwy effeithiol.

Cyflwynir hyfforddiant yn 2002-2023.

 

Rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus a chymorth i’r trydydd sector feithrin gallu yn y maes hwn er mwyn sicrhau bod y rhai na allant hawlio ‘Arian Cyhoeddus’ yn gallu manteisio ar y gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl iddynt, er mwyn osgoi sefyllfa lle maent yn mynd yn fwy agored i drais a chamfanteisio a sicrhau eu bod yn cael eu trin â thosturi ac y caiff canlyniadau niweidiol eu hosgoi.

Caiff canllawiau i awdurdodau lleol ar sut i gefnogi’r rhai na allant hawlio arian cyhoeddus eu rhoi ar waith.

Meithrin dealltwriaeth o rôl cynghorau yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau i fudwyr, rhoi gwybodaeth am wasanaethau’r cyngor ar ffurfiau hygyrch (gwybodaeth wedi’i chyfieithu, cysylltwyr cymunedol).

Ymgymerir â hyfforddiant yn rheolaidd er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddeall eu dyletswyddau i gefnogi’r rhai na allant hawlio arian cyhoeddus.

Darperir cyllid i’r trydydd sector i ehangu a phroffesiynoli trefniadau ‘lletya’.

Ystyrir cynlluniau tai cyffredin â darparwyr tai a’r trydydd sector er mwyn dod o hyd i ffyrdd arloesol o gefnogi mudwyr digartref.

Cyllid parhaus i sicrhau bod cyngor cyfreithiol cam olaf ar fewnfudo ar gael.

Bydd awdurdodau lleol yn gweld anghenion person cyn ei statws mewnfudo ac yn rhoi cymaint o gymorth â phosibl.

Caiff awdurdodau lleol eu helpu i ddeall pa gymorth y gellir ei gynnig.

Gellir darparu llety lle y caiff unigolion gyfleoedd i unioni eu statws mewnfudo.

Caiff y rhai y gwrthodir lloches iddynt ond sydd â sail dros herio’r penderfyniad eu helpu i wneud hynny.

Canllawiau wedi’u cyhoeddi yn 2022.

Hyfforddiant wedi’i ariannu yn 2022-23.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Awdurdodau lleol.
  • Sefydliadau perthnasol yn y trydydd sector.

Ceisio lleihau faint o ddata a rennir rhwng cyrff cyhoeddus yng Nghymru a’r Swyddfa

Gartref i’r eithaf, er mwyn ennyn hyder ymhlith mudwyr i ofyn am ofal iechyd angenrheidiol neu gymorth hanfodol arall.

Cynghorir cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyfyngu’r data a rennir â’r Swyddfa Gartref i’r hyn sy’n gwbl angenrheidiol.

Ymgysylltu’n rhagweithiol â chymunedau mudol er mwyn ennyn hyder.

Mudwyr, gan gynnwys y rhai â statws mewnfudo ansicr, yn profi llai o ganlyniadau iechyd niweidiol, cam-drin domestig neu gamfanteisio, am eu bod yn llai ofnus i ofyn am gymorth allweddol.

2025 ac yn barhaus.

Bydd gwaith gyda mudwyr yn cael ei ddatblygu fel rhan o strategaeth

Integreiddio Mudwyr i Gymru.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Cyrff Cyhoeddus.

Lliniaru a lleihau’r anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan fudwyr dan orfod drwy sicrhau cynaliadwyedd Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro, annog unigolion i gael eu brechu a pharhau â’r ffocws ar y cymunedau hyn fel rhan o waith Straen Trawmatig Cymru, yn ogystal â ffocws penodol ar gefnogi gwell mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ymhlith cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Caiff Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ei ariannu i sicrhau cynaliadwyedd Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Bydd rhaglenni brechu yn sicrhau bod mudwyr yn cael eu brechu.

Bydd Straen Trawmatig Cymru yn parhau â’i ffocws ar gefnogi iechyd meddwl ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Caiff mudwyr dan orfod gymorth i gael profion sgrinio iechyd cychwynnol ar ôl cyrraedd.

Ni fydd mudwyr yn wynebu annhegwch o ran mynediad at frechlyn.

Caiff y trawma a brofir gan y rhai y gorfu iddynt fudo ei ddeall a’i leihau.

2023 ac yn barhaus.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Iechyd y Cyhoedd.
  • Iechyd Meddwl.
  • Grwpiau sy’n agored i niwed.

Caiff cyflogadwyedd mudwyr dan orfod ei gefnogi drwy godi ymwybyddiaeth o hawliau mudwyr i weithio ymhlith cyflogwyr, rhaglenni cyflogaeth ar gyfer sectorau penodol, megis Cynllun Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid, ac eirioli dros hawl ceiswyr lloches i weithio.

Eir ati i hyfforddi ac ymgysylltu â chyflogwyr er mwyn dileu rhwystrau i gyflogaeth a gwella dealltwriaeth o’r sgiliau sydd gan fudwyr i’w cynnig.

 

Mae Ailgychwyn wedi’i ariannu tan fis Rhagfyr 2022.

  • Tîm Cynhwysiant a Chydlyniant Llywodraeth Cymru.

Cynyddu cyfleoedd i fudwyr dan orfod ddilyn cyrsiau addysg bellach ac addysg uwch drwy ystyried newidiadau i drefniadau cyllido a sicrhau bod ffoaduriaid yn parhau i gael eu hystyried yn ‘fyfyrwyr cartref’.

Ystyried ffyrdd o sicrhau bod cymorth tebyg i’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gael i geiswyr lloches.

Bydd ffoaduriaid yn parhau i fod yn gymwys i gael statws ffioedd ‘myfyrwyr cartref’.

Gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a sefydliadau addysg uwch i wella prosesau recriwtio a chadw mudwyr dan orfod.

Gall mudwyr dan orfod gyflawni eu potensial yn well ac, yn eu tro, gyfrannu’n fwy effeithiol i gymdeithas yng Nghymru.

 

  • Llywodraeth Cymru.
  • CCAUC.
  • Sefydliadau Addysg Uwch.

Parhau i eirioli dros welliannau i systemau lloches a mudo er mwyn atal canlyniadau niweidiol i geiswyr lloches, ffoaduriaid neu fudwyr dan orfod eraill.

Asesir effaith rhaglenni dosbarthu ceiswyr lloches ac ailsefydlu ffoaduriaid a’r ffordd y maent yn gweithredu a gwneir argymhellion ynglŷn â sut y dylai’r cynlluniau hyn fod yn gymwys yng Nghymru.

Deialog parhaus rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau ac integreiddio cymorth lle y bo modd.

Bydd Llywodraeth y DU yn deall yn llawn effaith ei phenderfyniadau ar Gymru a chyfrifoldebau datganoledig.

Drwy’r broses asesu gellir rhoi gwell cymorth i fudwyr dan orfod.

Gwaith parhaus gyda’r Swyddfa Gartref.

  • Llywodraeth Cymru.

Parhau i gefnogi a pharchu hawliau a buddiannau pennaf plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches.

Datblygu ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ymhellach gydag arweinwyr polisi.

Gall cynghorau gynnig lleoedd priodol a gall plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches fanteisio ar gymorth a gwasanaethau.

 

Yn barhaus.

  • Llywodraeth Cymru.
  • Awdurdodau lleol.

Troseddu a chyfiawnder, gan gynnwys Troseddau Casineb

Caiff y system cyfiawnder troseddol ei nodi’n aml fel maes lle ceir anghyfiawnder ar sail hil.

Ychydig o dystiolaeth

Mae Adolygiad annibynnol Lammy o’r ffordd y caiff pobl ethnig leiafrifol eu trin yn y system gyfiawnder, a’u canlyniadau (Lammy, 2017) yn nodi’r canlyniadau anghymesur sy’n bodoli yn y system.

Rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020 yng Nghymru a Lloegr, am bob 1,000 o bobl Wyn, cafodd chwech eu stopio a’u chwilio, o gymharu â 54 am bob 1,000 o bobl Ddu. Dros yr un cyfnod, am bob 1,000 o bobl ag ethnigrwydd cymysg, cafodd 16 eu stopio a’u chwilio, o gymharu â 15 am bob 1,000 o bobl Asiaidd (Ethnicity Facts and Figures, 2021).

Rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2019 yng Nghymru a Lloegr, roedd pobl Ddu fwy na theirgwaith yn fwy tebygol o gael eu harestio na phobl Wyn – am bob 1,000 o bobl Ddu, cafodd 32 eu harestio, ac am bob 1,000 o bobl Wyn, cafodd 10 eu harestio (Ethnicity Facts and Figures, 2021).

Yn 2020-2021, cofnodwyd 3,052 o droseddau casineb ar sail hil yng Nghymru, sef cynnydd o 16% o gymharu â 2019-2020 (Llywodraeth y DU, 2021).

Troseddau casineb ar sail hil oedd 66% o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2020-2021 (Llywodraeth y DU, 2021).

Noda ymchwil a gyhoeddwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Mawrth 2021 fod pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru yn cael eu gorgynrychioli ar bob cam o’r system cyfiawnder troseddol (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, 2021).

Canfu ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o Adolygiad Lammy (2017) fod mwyafrif o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (51%) yn credu bod y system cyfiawnder troseddol yn gwahaniaethu yn erbyn grwpiau ac unigolion penodol, o gymharu â 35% o’r boblogaeth Wyn a anwyd ym Mhrydain. Mewn ymateb i hyn, argymhella’r Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder (Bowen, 2017) y dylid ehangu’r data presennol ar wahaniaethau ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol i oedolion.

Er enghraifft, yn 2017, lluniodd Mudiad y Teithwyr adroddiad yn ymchwilio i brofiad Sipsiwn, Roma a Theithwyr o ragfarn a gwahaniaethu (Mudiad y Teithwyr, 2017). Yn seiliedig ar arolwg ar-lein o 214 o aelodau o’r gymuned o bob cwr o’r DU, canfu Mudiad y Teithwyr nad oedd 77% wedi ceisio cymorth cyfreithiol yn dilyn achos o wahaniaethu yn eu herbyn.

Yr hyn a wyddom

Cyfiawnder troseddol

Nid yw sawl agwedd ar y polisi cyfiawnder troseddol (carchardai, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, llysoedd a meysydd cysylltiedig) wedi’i datganoli i Gymru. Fodd bynnag, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am wasanaethau datganoledig, megis iechyd, camddefnyddio sylweddau, llety ac addysg. Mae rhyngwyneb agos rhwng y gwasanaethau hyn a’r system cyfiawnder troseddol, ac maent yn chwarae rôl hanfodol o ran cefnogi pobl yn y system cyfiawnder troseddol tuag at fyw bywyd iach heb droseddu.

Oherwydd hyn, rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol, gan gynnwys Plismona yng Nghymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru. Rydym yn defnyddio fforymau fel Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru a Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru i drafod materion strategol a chydweithio i wella canlyniadau yng Nghymru. Drwy ein gwaith ar y cyd, fel y Fframwaith i gefnogi newid cadarnhaol i’r rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru a’r Glasbrint Cyfiawnder Troseddol, nodwyd ein gweledigaeth ar gyfer system cyfiawnder troseddol a lywir gan drawma ac adsefydlu, y mae atal yn rhan greiddiol ohoni. Rydym yn cydweithio’n agos i wireddu’r weledigaeth hon.

Noda ymchwil a gyhoeddwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2021) fod pobl ethnig leiafrifol yn cael eu gorgynrychioli ar bob cam o’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru – fel dioddefwyr troseddau, mewn achosion o stopio a chwilio, yn y boblogaeth carchardai ac yn y boblogaeth prawf. Mae hyn yn dangos bod angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol ar y maes pwysig hwn. Mae angen inni adeiladu ar yr ymrwymiad sy’n bodoli eisoes yn y Fframwaith i flaenoriaethu anghenion pobl ethnig leiafrifol, gan ennyn mwy o ymddiriedaeth a mabwysiadu dull gwrth-hiliol heriol a radical o wella canlyniadau a mynd i’r afael â hiliaeth systemig.

 O ystyried y cyd-destun hwn, mae ein Rhaglen Lywodraethu ar ei ffurf ddiwygiedig yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod elfennau cyfiawnder Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn gadarn ac i fynd i’r afael â’r materion hyn gyda’r heddlu a’r llysoedd.

Troseddau casineb

Diffinnir troseddau casineb fel a ganlyn:

“Any criminal offence which is perceived by the victim or any other person, to be motivated by hostility or prejudice, based on a person’s disability or perceived disability; race or perceived race; or religion or perceived religion; or sexual orientation or perceived sexual orientation or transgender identity or perceived transgender identity.”

Mae amrywiaeth o asiantaethau – gan gynnwys y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2020), Cynghrair Hil Cymru (2020), EYST Cymru (Wiegand a Cifuentes, 2019), a Race Equality First (Williams a Tregidga, 2013) – wedi gwneud argymhellion i fynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y troseddau casineb yng Nghymru. Mae rhai ohonynt yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau a chefnogi’r rhai sy’n dioddef troseddau casineb. Mae eraill yn dadlau o blaid trefniadau cyfeirio gwell at ymatebion cyfreithiol a sefydliadol i fynd i’r afael ag ansicrwydd dioddefwyr ynghylch a yw eu profiadau’n gyfystyr â throseddau casineb; ofn y gallai eu profiadau fod yn rhy ddibwys i roi gwybod amdanynt; canfyddiad na all yr heddlu wneud dim; a diffyg cymorth ffurfiol neu ystyrlon (Williams a Tregidga, 2013). Mae argymhellion eraill yn ceisio hyrwyddo dulliau ataliol sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddau casineb.

Mae nifer y troseddau casineb a gofnodir yng Nghymru wedi dyblu, fwy neu lai, yn ystod y pum mlynedd diwethaf (Llywodraeth y DU, 2021) ac mae’r drafodaeth a geir yn y cyfryngau ac ar-lein yn ymddangos yn gynyddol ranedig ac ymosodol. Ond gellir teimlo’n obeithiol hefyd, wrth i fwy o bobl nag erioed yng Nghymru nodi eu bod yn perthyn i’w cymuned a bod y bobl yn eu hardal yn trin ei gilydd â pharch (Llywodraeth Cymru, 2022a). Bu’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol ar waith gan Lywodraeth Cymru ers 2012, a bu hefyd yn ariannu gwasanaeth cymorth troseddau casineb ers 2014. Gwyddom fod mynd i’r afael â throseddau casineb hefyd yn golygu mynd i’r afael â’r agweddau a’r gwerthoedd sy’n seiliedig ar gasineb sy’n sail i’r gweithgarwch hwn, gan bwysleisio nad oes unrhyw le i anoddefgarwch, casineb, gweithredoedd sy’n peri rhwyg nac ymddygiadau â chymhelliant hiliol yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda’r partneriaid a’r sefydliadau yn y trydydd sector a ariannwn i gyflwyno rhaglenni a phrosiectau i rannu’r negeseuon hyn, a thros y blynyddoedd, gwelwyd cynnydd yn effaith a phwysigrwydd ein rhaglenni.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Cyfiawnder troseddol

Yn ei adolygiad yn 2017, argymhellodd David Lammy y dylid defnyddio egwyddor ‘esbonio neu ddiwygio’ i ymdrin â gwahaniaethau hiliol yn y system cyfiawnder troseddol. Argymhellodd os na all asiantaethau gynnig esboniad seiliedig ar dystiolaeth am y gwahaniaethau ymddangosiadol rhwng y grwpiau ethnig, yna dylid cyflwyno diwygiadau i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau hynny. (Lammy, 2017)

Gwyddom na allwn gyflawni newid gwirioneddol yn y maes hwn heb ein partneriaid, ac rydym yn gweithio’n agos gydag arweinwyr ym maes cyfiawnder troseddol yng Nghymru i roi egwyddor ‘esbonio neu ddiwygio’ ar waith. Yn unol â’n hymagwedd at gydweithredu yn ehangach, rydym yn gweithio gyda phartneriaid o Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru i ddatblygu dull gwrth-hiliol o ymdrin â chyfiawnder troseddol yng Nghymru ar y cyd, a’i ymgorffori’n llawn.

Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn dwyn ynghyd uwch-gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru, Heddluoedd, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i drafod materion cyfiawnder troseddol strategol. Rydym yn cydweithio i gefnogi’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru ac i wella canlyniadau i bobl sy’n dod i gysylltiad â’r system gyfiawnder, neu sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â hi.

Rydym yn cydweithio â’r partneriaid hyn i ddatblygu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ym maes Cyfiawnder Troseddol i Gymru. Bydd y cynllun hwn yn nodi’r camau gweithredu diriaethol y byddwn yn eu cymryd ar y cyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac i greu system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol. Bydd yn amlinellu gweithgarwch ym mhob rhan o’r system a fydd yn ymgorffori nodau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol hwn ym maes cyfiawnder troseddol. Yn benodol, byddwn yn ceisio mynd i’r afael â’r gwahaniaethau a’r anghyfiawnder a ddangosir yn y dystiolaeth uchod. Rydym yn cydnabod y pryderon enfawr a godwyd gan gymunedau ynghylch y niferoedd anghymesur a phrofiad negyddol dynion ifanc ethnig lleiafrifol yn benodol wrth gael eu stopio a’u chwilio. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid ym maes cyfiawnder troseddol yng Nghymru i sicrhau bod y mater hwn yn parhau ar yr agenda ac yr eir i’r afael ag ef drwy’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ym maes Cyfiawnder Troseddol i Gymru.

Bydd y Bwrdd yn cael adroddiadau o dan y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ym maes Cyfiawnder Troseddol i Gymru, gan sicrhau bod Llywodraeth Cymru a’n partneriaid ym maes cyfiawnder troseddol yn goruchwylio cynnydd a chanlyniadau’n effeithiol. Mae partneriaid ym maes cyfiawnder troseddol wedi ymgynghori’n eang ar y cynllun, a chredwn ei fod yn ddull cadarn a chredadwy o fynd i’r afael â’r rhagfarn y gwyddom ei fod yn rhemp yn y system cyfiawnder troseddol. Bydd yn seiliedig i raddau helaeth ar brofiadau bywyd pobl a fu mewn cysylltiad â’r system gyfiawnder. Mae hyn yn adeiladu ar rywfaint o’r gwaith rydym yn ei wneud drwy’r Glasbrint Cyfiawnder Troseddol i ddeall profiadau menywod ethnig lleiafrifol yn y system gyfiawnder. Mae hefyd yn ategu’r gweithgarwch ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a amlinellir mewn rhannau eraill o’r ddogfen hon.

At hynny, pan fydd gennym ddulliau ysgogi uniongyrchol ac anuniongyrchol, e.e. “pwerau meddal”, byddwn yn parhau i’w defnyddio a nodir y gweithgarwch hwn yn y tabl isod. Mae hyn yn cynnwys cydnabod pwysigrwydd data cadarn a chywir, a pharhau i ddadlau dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru.

Fel y nodwyd mewn nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad ar y ddogfen hon, dim ond pan fyddwn yn llwyr gyfrifol am oruchwylio’r system gyfiawnder yng Nghymru y gallwn gysoni sut mae’n gweithredu ag anghenion a blaenoriaethau cymunedau ethnig lleiafrifol Cymru yn llawn. Credwn mai datganoli’r heddlu a’r system gyfiawnder yw’r ffordd fwyaf cynaliadwy o greu system gyfiawnder sy’n wrth-hiliol ac yn diwallu anghenion amrywiol pobl yng Nghymru yn llawn.

Troseddau casineb

Ein gweledigaeth yw Cymru lle y caiff pawb eu parchu a’u gwerthfawrogi a lle y gallwn fwynhau a dathlu ein gwahaniaethau, gwlad a chymdeithas lle y bydd pawb yn teimlo ymdeimlad o berthyn. Lle na chyflawnir cydlyniant, gall tensiynau ac agweddau atgas ddod i’r amlwg. O dan amgylchiadau eithriadol, mae’r agweddau hyn yn esgor ar droseddau casineb a hyd yn oed weithredoedd terfysgol. Fodd bynnag, ni ddylai canlyniadau cymunedau wedi’u chwalu ddiffinio cydlyniant cymunedol. Mae cydlyniant cymunedol yn ysgogi newid cadarnhaol ac yn hanfodol i wella llesiant pobl.

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod cydlyniant cymunedol, agweddau atgas a throseddau casineb yn cynnwys continwwm. Er mwyn mynd i’r afael â throseddau casineb yn effeithiol, rhaid inni hefyd ymdrin ag agweddau a gwerthoedd sy’n seiliedig ar gasineb, a’r ffaith bod iaith hiliol agored fel petai wedi’i normaleiddio.

Mae angen i bobl a sefydliadau ledled Cymru gyfan gydnabod y niwed a wnaed i’r rhai sydd wedi dioddef troseddau casineb ac agweddau atgas, a’r angen i ymdrin â gweithredoedd ac agweddau’r rhai sydd wedi’u cyflawni. Nid dim ond y dioddefwyr ddylai fod yn gyfrifol am roi gwybod am droseddau casineb ac am fynd i’r afael â throseddau o’r fath. Mae pob un ohonom yn rhannu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi, felly mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i gydnabod troseddau casineb ac agweddau atgas a’u dileu.

Gan fod llawer o’r gwaith polisi hwn yn ymwneud â meysydd heb eu datganoli, mae’n hanfodol ein bod yn meithrin cysylltiadau agos â phartneriaid, fel y pedwar heddlu yng Nghymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Swyddfeydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, yn ogystal â sefydliadau yn y trydydd sector, ac yn eu cynnal. Byddwn yn hwyluso’r trafodaethau hyn drwy Fwrdd Casineb a Thensiynau Cymunedol Cymru.

Byddwn yn sicrhau bod pobl sy’n profi achosion o gam- drin atgas a hiliol, neu sy’n dyst iddynt, yn ymwybodol sut y gallant roi gwybod amdanynt ac y byddant yn teimlo’n fwy hyderus yn gwneud hynny. Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau a phartneriaid ledled Cymru i’w gwneud hi’n haws i bobl wneud hyn a hefyd i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae ein hymateb i droseddau casineb yn cynnwys ein hymateb i Islamoffobia a gwrthsemitiaeth. Gall troseddau casineb ddad-ddynoli’r rhai sy’n eu dioddef ac yn eu cyflawni. O ran cyflawnwyr, er y gall mesurau cosbol gynnig atebion i ryw raddau, yn yr hirdymor, mae’n rhaid cynnig cyfleoedd iddynt ddeall effaith eu gweithredoedd ac ystyried eu system gredoau. Byddwn yn gweithio gyda chyflawnwyr, mewn ffordd debyg i’r rhaglenni llwyddiannus sydd ar waith ar gyfer unigolion sy’n cyflawni mathau eraill o gam-drin, fel y gwasanaethau cam-drin domestig cymunedol achrededig.

Bydd y camau gweithredu yn y cynllun hwn yn ein helpu i ymdrechu o’r newydd i ymdrin ag agweddau atgas cyn iddynt arwain at droseddau casineb, ond byddant hefyd yn ein helpu i roi cymorth gwell i ddioddefwyr pan fydd troseddau’n digwydd.

Cyfiawnder troseddol

Nod: Gweithio gyda’r heddlu a phartneriaid eraill ym maes cyfiawnder troseddol (e.e. Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru a’i aelodau) i greu system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol yng Nghymru, gan fabwysiadu dull heriol a radical o wella canlyniadau a mynd i’r afael â hiliaeth systemig.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Ar y cyd â phartneriaid ym maes cyfiawnder troseddol, cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ym maes Cyfiawnder Troseddol i Gymru, gan nodi’r camau gweithredu diriaethol y byddwn yn eu cymryd ar y cyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac i greu system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol.

Cyflawni’r camau perthnasol y cytunwyd arnynt o dan y Cynllun Gweithredu

Gwrth-hiliaeth ym maes Cyfiawnder Troseddol i Gymru uchod.

Drwy Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ym maes Cyfiawnder Troseddol i Gymru, gan sicrhau cynnydd a gwella canlyniadau.

Rhaglen waith wrth-hiliol wedi’i datblygu a’i chyflwyno ar y cyd gan sefydliadau cyfiawnder troseddol ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, a fydd yn ymgorffori dull gweithredu gwrth-hiliol ym mhob rhan o’r system gyfiawnder yng Nghymru, wedi’i gefnogi gan ddata meintiol ac ansoddol yn ogystal â data ar brofiadau bywyd.

O dan y Glasbrint Troseddwyr Benywaidd, gweithio gyda menywod o gefndiroedd amrywiol o ran hil ac ethnigrwydd er mwyn deall eu profiadau o’r System Cyfiawnder Troseddol yn well.

Llai o wahaniaethu a chanlyniadau amrywiol i bobl ethnig leiafrifol ym mhob rhan o’r system, yn ôl y profiadau bywyd a gofnodwyd ganddynt a data meintiol.

Bydd gan bobl ethnig leiafrifol fwy o hyder ac ymddiriedaeth yn y system cyfiawnder troseddol a, lle y bo’n berthnasol, brofiadau gwell ohoni.

Adroddiad ymchwil ar brofiadau menywod ethnig lleiafrifol yn y system gyfiawnder.

Dealltwriaeth well o’r heriau a wynebir gan droseddwyr benywaidd ethnig lleiafrifol, a fydd yn bwydo i mewn i’r Glasbrint a gwaith ehangach ym maes cyfiawnder. Caiff yr adroddiad ei rannu â’r Grŵp Atebolrwydd Allanol.

Yn barhaus – mae’r gwaith yn debygol o bara sawl blwyddyn. Caiff y camau gweithredu, yr amserlenni, yr effaith a’r mesurau newidiadau penodol eu nodi yn y ddogfen pan gaiff ei chyhoeddi yn ystod haf 2022.

Cyhoeddi’r adroddiad ar brofiadau troseddwyr benywaidd erbyn mis Mawrth 2023.

Rhannu’r adroddiad â’r Grŵp Atebolrwydd Allanol erbyn mis Mawrth 2023.

  • Is-adran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, sy’n cynnwys Plismona yng Nghymru, Gwasanaeth.
  • Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ym maes cyfiawnder.

Nod: Gwneud popeth o fewn gallu Llywodraeth Cymru o dan y system bresennol i fynd i’r afael â gwahaniaethau a chefnogi dull gweithredu gwrth-hiliol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Drwy delerau’r cyllid a ddarparwn ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sicrhau bod heddluoedd yn arfer polisi cyfle cyfartal wrth gyflogi pobl, beth bynnag fo’u hil, rhyw/ hunaniaeth o ran rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chred, oedran neu unrhyw anabledd. Monitro canlyniadau a herio yn ôl yr angen.

Annog mwy o gamau cadarnhaol i recriwtio mwy o bersonél ethnig lleiafrifol ym mhob rhan o’r heddluoedd yng Nghymru ac ar bob lefel.

Defnyddio Grŵp Llywio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu Cymru i fonitro ethnigrwydd y swyddogion hyn yng Nghymru, gan herio mewn modd adeiladol os na fydd y niferoedd yn adlewyrchu poblogaeth ardal pob heddlu.

Cyflwynir ystadegau rheolaidd ar amrywiaeth Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru i’r Grŵp Llywio bob blwyddyn, gan ein galluogi i ddeall a yw cyfansoddiad gweithlu Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cynrychioli ardal pob heddlu ac os nad yw’n gwneud hynny, ei herio.

Cyflwynir adroddiad ar ethnigrwydd a phrofiadau bywyd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, aelodau eraill o’r staff a gwirfoddolwyr yng ngweithlu’r heddlu yng Nghymru sy’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol i Lywodraeth Cymru ac, felly, i’r Grŵp Atebolrwydd.

Gweithlu Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, a gweithlu’r heddluoedd yng Nghymru yn fwy cyffredinol, sy’n fwy cynrychioliadol ac amrywiol, a mwy o ymddiriedaeth yn y gwasanaeth ymhlith pobl ethnig leiafrifol a gwasanaeth mwy effeithiol sy’n adlewyrchu’r bobl a wasanaethir ganddo.

Gwaith monitro parhaus.

  • Is-adran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gyda Plismona yng Nghymru.

Nod: Er mwyn ymateb i dystiolaeth glir gan randdeiliaid bod cryfhau’r sylfaen dystiolaeth i nodi gwahaniaethau ar sail hil yn y system gyfiawnder yn hanfodol, byddwn yn casglu ac yn cyflwyno data cadarn, manwl, amserol a chyson ar ethnigrwydd a hil yn y system gyfiawnder troseddol ac yn gweithio’n agos gyda phobl ethnig leiafrifol i wella eu gwybodaeth/ymddiriedaeth o ran y ffordd y caiff eu data eu defnyddio, er mwyn ennyn eu hyder i rannu data â’r llywodraeth a sefydliadau partner.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Codi ymwybyddiaeth o Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil Llywodraeth Cymru ymhlith partneriaid ym maes cyfiawnder troseddol yng Nghymru a nodi’r ffordd orau o helpu pob partner i wella’r dystiolaeth sydd ar gael ar wahaniaethau ar sail hil yn y system gyfiawnder yng Nghymru, a defnyddio hyn i gefnogi penderfyniadau a gwaith monitro polisi gwell.

Nodi’r bylchau mewn tystiolaeth mewn perthynas â phob maes, gan gynnwys data a gasglwyd ac a gofnodwyd ar ethnigrwydd a hil yn y system gyfiawnder troseddol, fel un o flaenoriaethau cyntaf yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil, drwy archwilio casgliadau data a ddelir/allbynnau a luniwyd gan Lywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus/trydydd sector yn fwy cyffredinol.

Gan adeiladu ar yr asesiad cychwynnol hwn, mynd ar drywydd rhaglen o waith i wella’r sylfaen dystiolaeth er mwyn nodi gwahaniaethau ar sail hil yn y system gyfiawnder troseddol, gan gynnwys ymgysylltu’n barhaus â phobl ethnig leiafrifol i wella eu gwybodaeth/ymddiriedaeth o ran y ffordd y caiff eu data eu defnyddio, er mwyn ennyn eu hyder i rannu data.

Asesiad cychwynnol o’r bylchau mewn tystiolaeth mewn perthynas â’r data a gasglwyd ac a gofnodwyd ar ethnigrwydd a hil yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

Rhaglen waith barhaus i wella’r sylfaen dystiolaeth ar ethnigrwydd a hil yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau a nodwyd drwy’r archwiliad o ddata ar gydraddoldeb a deialogau â phobl ethnig leiafrifol.

Dull mwy cadarn, systematig a chyson o gasglu a chofnodi data ar ethnigrwydd a hil yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, gan arwain at sylfaen dystiolaeth gryfach i lywio’r broses gwneud penderfyniadau yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

Mwy o hyder i rannu data wedi’i gofnodi gan bobl ethnig leiafrifol.

Rhoi system monitro y cytunwyd arni ar waith i gofnodi data allweddol erbyn mis Mehefin 2023.

  • Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil Llywodraeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid ym maes cyfiawnder troseddol.

Nod: Meithrin ein sgiliau a’n hyder i ddeall sut beth yw system gyfiawnder wrth-hiliol ac annog a dylanwadu’n gadarn ar bolisi gwrth-hiliol gan Lywodraeth y DU.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Sicrhau y caiff swyddogion allweddol a’r rhai sy’n dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gyfleoedd datblygu a hyfforddi i ddeall a dadlau dros system gyfiawnder wrth-hiliol.

Cymryd pob cam posibl i nodi anghenion a phrofiadau pobl ethnig leiafrifol, a phwysigrwydd dull gweithredu gwrth-hiliol a dealltwriaeth ohono, drwy ein hymateb i bolisi a deddfwriaeth Llywodraeth y DU ym maes cyfiawnder.

Swyddogion polisi hyfforddedig a medrus a all ddadlau sut beth yw system gyfiawnder wrth-hiliol.

Ymatebion i ymgyngoriadau, gohebiaeth Weinidogol a gohebiaeth rhwng ein swyddogion ni a swyddogion Llywodraeth y DU sy’n pwysleisio pwysigrwydd creu system gyfiawnder wrth-hiliol.

Lle y bo modd, hyder ein bod wedi annog a chefnogi dull polisi gwrth-hiliol gan Lywodraeth y DU, gan mai hi sy’n gyfrifol am sawl agwedd ar faes cyfiawnder troseddol.

Yn barhaus.

  • Llywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gydag arweinwyr yn Llywodraeth y DU.

Nod: Parhau i ddadlau dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, a fydd yn adeiladu ar argymhellion adroddiad Comisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru y dylai’r polisi ar ostwng troseddu gael ei bennu a’i gyflawni yng Nghymru.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Cyflawni’r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i ddadlau dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru.

Cyflwyno cyhoeddiad sy’n nodi ein gwaith i wella cyfiawnder ac sy’n dadlau dros ddiwygio pellach.

Parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyflawni argymhellion Comisiwn Thomas ar gyfiawnder cymdeithasol.

Cyhoeddiad yn nodi ein gwaith i wella cyfiawnder ac yn dadlau dros ddiwygio pellach. Bydd hyn yn cynnwys dadl dros system gyfiawnder wrth-hiliol yng Nghymru.

Gweithgarwch a chynhyrchion a fydd yn parhau i ddangos yr achos dros ddiwygio.

Rhaglen o weithgarwch ar y cyd â Llywodraeth y DU i ymateb i Gomisiwn Thomas.

Ymhen amser, system cyfiawnder troseddol wedi’i datganoli i Gymru.

Yn barhaus – byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp Atebolrwydd am gynnydd.

  • Yr Is-adran Polisi Cyfiawnder.

Troseddau casineb

Nod: Sicrhau bod Cymru yn parhau i anelu at fod yn wlad wrth-hiliol sy’n lle diogel i fyw ynddo, drwy ddileu agweddau atgas a chefnogi’r rhai sy’n dioddef troseddau casineb â chymhelliant hiliol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Codi ymwybyddiaeth o effaith troseddau casineb ar ddioddefwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol drwy ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’. Bydd yr ymgyrch hon yn ymdrin â’r rhai sy’n dioddef ac yn cyflawni troseddau casineb, a’r rhai sy’n dyst iddynt, drwy ddeunyddiau amrywiol. Caiff deunyddiau ymgyrchu eu datblygu ar y cyd â’r rhai y mae troseddau casineb ar sail hil wedi effeithio arnynt.

Ymgyrch wedi’i monitro i nodi ‘cyrhaeddiad’ a ‘lefelau ymgysylltu’.

Bydd tystion yn deall troseddau casineb yn well ac yn cael eu cymell i weithredu mewn ffordd wrth-hiliol er mwyn helpu dioddefwyr.

Caiff agweddau atgas eu hystyried yn gymdeithasol annerbyniol.

Bydd cyflawnwyr yn ofni cael eu herlyn ac yn deall effaith eu gweithredoedd.

Lansiwyd ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ ym mis Mawrth 2021 a bydd yn parhau am y ddwy flynedd nesaf o leiaf.

  • Tîm Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.

Gwella’r ffordd rydym yn cefnogi ac yn eirioli dros y rhai sydd wedi wynebu troseddau casineb ar sail hil drwy Ganolfan Cymorth Casineb Cymru ar ei newydd wedd, gan gynnwys ystyried achosion o gasineb croestoriadol a’r cymorth penodol y gall fod ei angen yn yr amgylchiadau hynny.

Bydd Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn cofnodi’r newid yn nifer yr achosion o droseddau casineb a atgyfeirir. Bydd nifer y dioddefwyr y cynigir cymorth iddynt yn cynyddu (nod cychwynnol o 80%). Manteisir ar o leiaf 65% o’r cynigion o gymorth erbyn 2025. Bydd y gyfradd foddhad o 90% o leiaf ymhlith dioddefwyr gyda gwasanaethau Canolfan Cymorth Casineb Cymru.

Bydd mwy o ddioddefwyr yn teimlo’n hyderus wrth fynd â’u camdrinwyr i’r llys neu wrth ddod o hyd i ateb amgen addas.

Bydd mwy o erlyniadau yn codi ymwybyddiaeth o’r broblem ac yn atal darpar gyflawnwyr.

Yn barhaus – bydd y contract yn parhau tan 31 Mawrth 2025 o leiaf.

  • Cymorth Dioddefwyr Cymru.

Ymgymryd â gwaith uniongyrchol gyda chyflawnwyr troseddau casineb er mwyn deall yn well sut y gellir lleihau achosion o gam-drin hiliol.

Cynhelir prosiectau penodol gyda’r rhai sy’n cyflawni troseddau casineb neu unigolion ag agweddau hiliol. Bydd y prosiectau’n ystyried arferion da mewn cynlluniau dargyfeirio cyflawnwyr eraill, yn ogystal â’r cyfle i wneud mwy o ddefnydd o arferion cyfiawnder adferol.

Byddwn yn deall yn well ffyrdd effeithiol o droi darpar gyflawnwyr a chyflawnwyr a gafwyd yn euog yn aelodau gwrth-hiliol o gymdeithas.

Bydd cyflawnwyr a drawsnewidiwyd yn ein helpu i ddarbwyllo eraill i beidio â gwneud yr un camgymeriadau ag y gwnaethon nhw.

Bydd y gwaith yn dechrau yn 2022.

  • Llywodraeth Cymru, gan weithio ar y cyd â phartneriaid allweddol.

Nodi a chynnig gwelliannau i gyfraith a phrosesau troseddau casineb drwy Fwrdd Casineb a Thensiynau Cymunedol Cymru.

Pedwar cyfarfod o Fwrdd Casineb a Thensiynau Cymunedol Cymru bob blwyddyn. Bydd y cyfarfodydd yn dylanwadu ar waith ymgysylltu Cymunedau Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU a Chomisiwn y Gyfraith i annog newidiadau mewn cyfraith a pholisi.

Bydd aelodau’r Bwrdd yn ymrwymo i flaenraglen waith sy’n cynnwys gwaith dadansoddi data gwell, gan dreialu ffyrdd newydd o wella canlyniadau a rhannu gwersi a ddysgwyd.

Rhennir adroddiadau â’r Grŵp Atebolrwydd er mwyn cael ei ymatebion a’i syniadau ynghylch y camau i’w cymryd.

Dylai eiriolaeth ar sail tystiolaeth wedi’i hategu gan brosiectau peilot arwain at well penderfyniadau polisi gan Lywodraeth y DU.

Yn barhaus – bydd y Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter ac yn datblygu’r gwaith hwn drwy gydol y flwyddyn.

  • Bwrdd Casineb a Thensiynau Cymunedol Cymru.

Trechu agweddau atgas hiliol ar-lein.

Gan weithio gyda HateLab Prifysgol Caerdydd, byddwn yn datblygu adnoddau i nodi ac olrhain iaith atgas ar-lein, gan ganolbwyntio’n benodol ar Gymru.

Rhoddir ymyriadau gwrth-gasineb ar waith i darfu ar y casineb hwn.

Gweithio gyda’r cwmnïau technoleg a chyfryngau cymdeithasol i fynd i’r afael â throseddau casineb a chamwybodaeth.

Bydd cymryd rhan yn HateLab yn gwella amlygrwydd agweddau hiliol ar-lein. Bydd yn ein galluogi i brofi dulliau gweithredu er mwyn deall beth sy’n gweithio wrth atal ymdrechion i ledaenu cynnwys atgas.

Bydd cynllun peilot HateLab yn dod i ben ym mis Hydref 2022.

Mae gweithio gyda chwmnïau technoleg a chyfryngau cymdeithasol yn un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu

2021 i 2025.

  • Llywodraeth Cymru.

Darparu cyllid yn y trydydd sector i feithrin cydlyniant cymunedol a mynd i’r afael â thensiynau cymunedol.

Cyllid i grwpiau sy’n cefnogi cymunedau ethnig lleiafrifol i fynd i’r afael â thensiynau cymunedol.

Cynnig cyfleoedd i grwpiau cymunedol ar lawr gwlad a’r rhai sydd agosaf at y materion wneud gwaith i hyrwyddo cydlyniant.

Bydd y gwaith yn dechrau yn 2022.

  • Llywodraeth Cymru.

Nod: Mynd i’r afael â phob math o wrthsemitiaeth.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Creu trefniadau ariannu cynaliadwy i ariannu Diwrnod Cofio’r Holocost.

Parhau i ariannu Rhaglen “Lessons from Auschwitz” Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost.

Atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddiffiniad Cymdeithas Ryngwladol Cofio’r Holocost o wrthsemitiaeth.

Prif ffrydio’r gwaith o fynd i’r afael â gwrthsemitiaeth yn hyfforddiant Llywodraeth Cymru ar wrth-hiliaeth a’i phrosesau llunio polisi.

Sicrhau bod ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ yn tynnu sylw at y niwed a achosir gan gasineb a chulni crefyddol.

Cyllid wedi ei ddyrannu i ysgolion i gynnal gweithgareddau i hyrwyddo gwrthsemitiaeth drwy raglen Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost.

Ymrwymiad i ariannu a chefnogi gweithgareddau addysgol a chodi ymwybyddiaeth.

Negeseuon cefnogol wedi’u hyrwyddo mewn ymgyrch gyfathrebu genedlaethol.

Cyrsiau hyfforddi ar gyfer staff Llywodraeth Cymru i gynnwys ymwybyddiaeth o wrthsemitiaeth.

Dealltwriaeth o sut i roi gwybod am droseddau casineb gwrthsemitaidd a chael gafael ar gymorth mewn perthynas â hynny.

Mae’r gymuned Iddewig yng Nghymru yn teimlo ei bod yn cael ei chefnogi a’i gwerthfawrogi ac yn teimlo ei bod yn gallu cael gafael ar wasanaethau diwylliannol briodol a sensitif ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus.

Mae mynd i’r afael â gwrthsemitiaeth yn cael ei gydnabod a’i brif ffrydio drwy ein gweithgareddau gwrth-hiliaeth.

Bob blwyddyn ar Ddiwrnod

Cofio’r Holocost – 27 Ionawr.

Bob blwyddyn – Cynhelir “Lessons from Auschwitz” yng Nghymru bob mis Chwefror.

Bydd ymgyrch ‘Mae Casineb yn

Brifo Cymru’ yn para am ddwy flynedd o leiaf o 2022.

  • Llywodraeth Cymru.

Cydlyniant cymunedol

Nod: Mynd i’r afael â hiliaeth drwy greu cymunedau cydlynus ac integredig.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Gwella ein cymorth i greu cydlyniant cymunedol drwy adolygu’r llwyddiannau a’r meysydd i’w gwella yn ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol.

Ymateb i ganfyddiadau adolygiad cyflym 2021-2022 o’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol a’u hadlewyrchu yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith ar gyfer ein timau Cydlyniant Cymunedol yng Nghymru.

Caiff Egwyddorion Cydlyniant Cymunedol eu datblygu fel rhan o’r gwaith hwn er mwyn sicrhau cyd-ddealltwriaeth o’r termau, deddfwriaeth a’r dulliau effeithiol dan sylw.

Caiff ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol ei hategu gan ddull gweithredu mwy cyson ar sail tystiolaeth. Dylai hyn gynyddu effaith y Rhaglen. Byddem yn disgwyl i bobl deimlo eu bod yn perthyn yn well i’w hardal ac i nodi gwell cydlyniant cymunedol.

Yn barhaus.

  • Llywodraeth Cymru.

Bydd y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n meithrin cydberthnasau da rhwng grwpiau drwy leihau achosion o wahanu a chynyddu empathi a dealltwriaeth.

Datblygu set ddata drwy’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil a ddefnyddir i ddatblygu llinell sylfaen a mesur cydlyniant ac integreiddio.

Bydd cynlluniau gwaith y tîm cydlyniant yn cynnwys yr angen i weithio gyda sefydliadau ar lawr gwlad ar ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n creu ymdeimlad a rennir o gymuned.

Dylai % y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’w hardal leol; % y bobl sy’n cytuno bod pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu; a % y bobl sy’n cytuno bod pobl yn yr ardal yn trin ei gilydd â pharch oll gynyddu.

Yn barhaus.

  • Llywodraeth Cymru, gan weithio ar y cyd â Thimau Cydlyniant Cymunedol.

Sicrhau bod timau cydlyniant yn gweithredu fel cyswllt rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus er mwyn annog cyfranogiad wrth lunio polisïau a sicrhau cyfle cyfartal i gymunedau ethnig lleiafrifol.

Bydd cynlluniau gwaith y tîm cydlyniant yn cynnwys gofynion i hyrwyddo a monitro rôl mewn prosesau llunio polisi cynhwysol.

Caiff astudiaethau achos o gydgynhyrchu eu nodi a’u rhannu â thimau cydlyniant eraill a chyrff cyhoeddus ledled Cymru.

Dylai prosesau llunio polisïau gynnwys cymunedau ethnig lleiafrifol yn fwy.

Yn barhaus.

  • Llywodraeth Cymru, gan weithio ar y cyd â Thimau Cydlyniant Cymunedol.

Adolygu “Rheoli Gwersylla Diawdurdod” i adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth ers yr adolygiad diwethaf a’r newidiadau i’w cyflwyno o dan Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd arfaethedig.

Gweithio gyda Plismona yng Nghymru i orfodi’r cymalau ar wersylloedd diawdurdod yn y Bil, er mwyn sicrhau bod partneriaid yng Nghymru yn mabwysiadu dull blaengar ac adeiladol o weithio gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

Comisiynu adolygiad allanol.

Ymgynghori â Sipsiwn a Theithwyr a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau’r Heddlu.

Canllawiau diwygiedig i Awdurdodau Lleol i liniaru effeithiau andwyol ar ffyrdd nomadaidd traddodiadol o fyw, preswylwyr sefydlog a thirfeddianwyr.

2022 i 2023.

  • Tîm Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.
  • Y tîm Sipsiwn a Theithwyr, a Plismona yng Nghymru.

Gofal plant a chwarae

Ychydig o dystiolaeth

Er gwaethaf gwelliannau dros amser, mae tystiolaeth o astudiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2018 yn awgrymu bod cyrhaeddiad yn y blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn parhau i fod yn wahanol ymhlith plant o gefndiroedd ethnig gwahanol. Yn benodol, mae cyrhaeddiad disgyblion Du yn is na disgyblion Gwyn Prydeinig yn ystod addysg y blynyddoedd cynnar (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2018).

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau astudiaeth ansoddol o gredoau, ymddygiadau a rhwystrau sy’n effeithio ar benderfyniadau rhieni ynghylch gofal plant ac addysg gynnar. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys naw ardal o Gymru a saith o rieni o gymunedau ethnig lleiafrifol a chanfu’r ymchwilwyr fod y rhan fwyaf o’r teuluoedd o gymunedau ethnig lleiafrifol yn manteisio ar rywfaint o Ddarpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen neu ofal plant, hyd yn oed os nad oeddent yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant. Roedd rhai o’u hystyriaethau wrth fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant ac addysg gynnar yn cynnwys mynd drwy brofiadau addysgol gwahanol o’u cymharu â’u profiadau eu hunain yn eu gwlad enedigol, ceisio efelychu elfennau o’u magwraeth eu hunain a chynnal arferion diwylliannol ac ieithyddol, ac ymdopi â’r normau a’r ymddygiadau cymdeithasol gwahanol a ddisgwylir ym maes gofal plant a Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru. Hefyd, soniodd rhieni o gymunedau ethnig lleiafrifol pa mor wahanol yw’r profiadau addysgol erbyn hyn o’u cymharu â’u profiadau eu hunain, ac roeddent yn awyddus i efelychu rhai elfennau o’u magwraeth eu hunain (Llywodraeth Cymru, 2021a)

Nid oes data ar gael ar hyn o bryd ar ethnigrwydd y gweithlu gofal plant yng Nghymru. Yn y misoedd i ddod byddwn yn sicrhau data i helpu’r cynllun gweithredu.

Cyflwyniad

Yn ystod blynyddoedd cynharaf bywyd plentyn rydym yn gweld cyfnod o dwf cyflym a datblygiad yr ymennydd sy’n cael eu ffurfio gan brofiadau ac amgylcheddau. Mae tystiolaeth wedi dangos bod addysg a gofal plant yn y blynyddoedd cynnar yn allweddol ar y cam hwn i gefnogi datblygiad plentyn. Mae darpariaeth o’r fath yn gosod y sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes i blant, yn hyrwyddo integreiddio cymdeithasol yn ogystal â datblygiad personol.

Mae addysg a gofal plant yn y blynyddoedd cynnar hefyd yn cael effaith gymdeithasol ehangach ar allu rhieni a gofalwyr i weithio ac ymuno â’r farchnad lafur.

Nid oedd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Drafft yn cynnwys camau gweithredu penodol o dan bennawd y sector Gofal Plant a Chwarae. Cododd llawer o gyrff cynrychioliadol a lleoliadau gofal plant a chwarae unigol bryderon am hyn o ystyried rôl allweddol gofal plant a chwarae i gefnogi datblygiad plant a’r economi ehangach. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydym wedi cwmpasu rhai camau gweithredol cychwynnol i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid. Byddwn yn gweithio gyda’r sector gofal plant a chwarae; grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol; a rhieni i ddatblygu a chwmpasu ein camau gweithredu ymhellach dros y chwe mis nesaf. Mae’r nodau o dan bennawd y Sector Gofal Plant a Chwarae yn rhai dangosol a chânt eu datblygu ymhellach yn y misoedd i ddod.

Nid oes unrhyw strategaeth benodol yn amlinellu ein huchelgeisiau ar gyfer gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Fodd bynnag, mae pwysigrwydd mynediad at addysg a gofal plant yn y blynyddoedd cynnar o safon uchel, ynghyd â’r cyfle i chwarae’n rhydd, wedi cael eu cydnabod yn nifer o gynlluniau Llywodraeth Cymru, a chânt eu dwyn ynghyd mewn Cynllun Gweithredu Addysg a Gofal Plant yn y Blynyddoedd Cynnar a ddatblygir yn fuan.

Dylai darpariaeth o’r fath fod yn ddiwylliannol sensitif a chynnig cyfle i blant ddysgu am ddiwylliannau a phrofiadau unigolion eraill. Er nad oes gennym lawer o ddata cadarn ar gyfansoddiad ein gweithlu gofal plant a chwarae, gwyddom nad yw’r gweithlu yn aml yn adlewyrchu’r cymunedau ehangach y mae’n eu gwasanaethu.

Hyd yma, nid ydym wedi cael trafodaethau am ddulliau gweithredu gwrth-hiliol yn y sector gofal plant a chwarae na’r hyn y gall hynny ei olygu o bosibl. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r sector, grwpiau cymunedol a rhieni ar y newidiadau y gallwn eu gwneud i gefnogi Cymru wrth-hiliol.

Yr hyn a wnawn

Mae tangynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol mewn nifer o sectorau a phroffesiynau wedi bod yn thema gyson mewn gwaith ar y cynllun hwn. Y tebyg yw na fydd hyn yn wahanol yn y sector gofal plant a chwarae.

Mae Llywodraeth Cymru a’r sector yn ymwybodol iawn o’r effaith y gall tangynrychiolaeth o’r fath ei chael ar y rhai sy’n gweithio, neu sy’n dymuno gweithio, yn y sector, ond hefyd ar y plant hynny sy’n wynebu tangynrychiolaeth o’r fath. Rydym wedi rhoi cyllid i Gonsortiwm Uno Gofal Plant Cymru (CWLWM) (mae CWLWM yn cynnwys 5 prif gorff cynrychioladol cyffredinol y sector gofal plant a chwarae) i gefnogi ein gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol.

Rydym yn gweithio gyda CWLWM i gytuno ar gynlluniau i ddatblygu, drwy gyd-lunio â phobl ethnig leiafrifol, ei bolisi a’i adnoddau gwrth-hiliol sy’n ymwneud â gwrth-hiliaeth er mwyn helpu’r sector i ymateb. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau a hyfforddiant i gefnogi ymarferwyr gofal plant a hyrwyddo gofal plant cyfrwng Cymraeg mewn cymunedau ethnig lleiafrifol.

Mae pum partner CWLWM wedi cymryd eu camau gweithredu unigol cychwynnol i gefnogi Cymru fwy cynhwysol ac amrywiol. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r consortiwm i symud tuag at ddull gweithredu gwrth-hiliol ym maes gofal plant a chwarae.

Gwella’r profiad yn y gweithle

Nod: Bydd staff yn gweithio mewn amgylcheddau cynhwysol a diogel sy’n seiliedig ar Gynghreiriaeth, ac yn cael cymorth i gyflawni eu potensial llawn a’u grymuso i nodi arferion hiliol a mynd i’r afael â nhw.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyrff cynrychioliadol y sector a chyrff a noddir i ddatblygu cynlluniau i gefnogi Cynllun Gweithredu ar Wrth-hiliaeth i Gymru yn eu gwaith ac adrodd ar y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cyflawni amcanion yn ymwneud â gwrth-hiliaeth fel rhan o waith eu sefydliadau i wireddu’r weledigaeth o Gymru Wrth-hiliol.

 

 

Rhagfyr 2022.

  • Mewn partneriaeth â chyrff cynrychioliadol y sector

a chyrff a noddir.

Gan ganolbwyntio ar brofiad ymarferol, gwrth-hiliaeth, cynghreiriaeth a chymhwysedd diwylliannol, bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid yn y sector a phartneriaid ethnig lleiafrifol i ddatblygu a diweddaru hyfforddiant gwrth-hiliaeth i’r sector ac yn hyrwyddo’r defnydd ohono.

 

 

Rhagfyr 2022.

  • Mewn partneriaeth â chyrff cynrychioliadol y sector a chyrff a noddir.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried, mewn partneriaeth â phartneriaid yn y sector, a ddylai fod yn ofynnol i’r gweithlu gofal plant a chwarae gwblhau rhaglenni hyfforddi mewn perthynas â gwrth-hiliaeth ac, os felly, drwy ba ddulliau.

 

 

Rhagfyr 2022.

  • Mewn partneriaeth â chyrff cynrychioliadol y sector a chyrff a noddir.

Bydd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â phartneriaid yn y sector, yn ystyried sut i goladu ac adolygu pryderon ynglyn â gwahaniaethu yn y gweithlu ac achosion o fwlio a godir gan staff.

 

 

Rhagfyr 2022.

  • Mewn partneriaeth â chyrff cynrychioliadol y sector a chyrff a noddir.

Gan gefnogi newid yn y gweithlu, bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector yn adolygu templedi arferion gorau presennol ar gyfer polisïau a gweithdrefnau’r gweithlu a ddatblygwyd i gefnogi darparwyr o safbwynt gwrth-hiliaeth, er mwyn sicrhau bod polisïau yn adlewyrchu newid.

 

 

Rhagfyr 2022.

  • Mewn partneriaeth â chyrff cynrychioliadol y sector a chyrff a noddir.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a phartneriaid eraill i hyrwyddo arferion gwaith gwrth-hiliol ym mholisïau a gweithdrefnau darparwyr ar gyfer eu gweithlu.

 

 

Rhagfyr 2022.

  • Mewn partneriaeth â chyrff cynrychioliadol y sector a chyrff a noddir.

Gan weithio gyda phartneriaid yn y sector, bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu rhaglen o waith i holi staff o gefndiroedd ethnig lleiafrifol am eu profiadau o weithio yn y sector ac yn llunio cynigion ar y cyd ar gyfer gwella eu profiadau a’u rhagolygon gyrfa.

 

 

Rhagfyr 2022.

  • Mewn partneriaeth â chyrff cynrychioliadol y sector a chyrff a noddir.

Cynnig darpariaeth sy’n fwy priodol yn ddiwylliannol

Nod: Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i wella mynediad at leoliadau gofal plant a chwarae yn ogystal â mynediad at gyfleoedd chwarae.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithgor penodol. Bydd yn cynnwys cyrff cynrychioliadol y sector ac yn gweithio ochr yn ochr â phobl o Gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, er mwyn nodi’r rhwystrau a wynebir gan y cymunedau hyn i gael gafael ar wasanaethau. Bydd y gweithgor yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gellir dileu rhwystrau er mwyn sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau.

 

 

Rhagfyr 2022.

Argymhellion 6-12 mis.

  • Mewn partneriaeth â chyrff cynrychioliadol y sector a chyrff a noddir.
  • Pobl o Gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Bydd Awdurdodau Lleol partner yn ymgysylltu â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn nodi sut y gall barn a phrofiadau ymarferol pobl yn y cymunedau hyn gael eu cofnodi’n fwy effeithiol fel rhan o’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant y mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol ei gynnal.

 

 

Yn barhaus.

  • Awdurdodau lleol.
  • Pobl o Gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Gwella profiad plant

Nod: Caiff pob plentyn gyfle i ystyried a dathlu amrywiaeth hil mewn ffordd gadarnhaol a chefnogol.

Camau Gweithredu

Allbynnau

Effaith

Erbyn pryd

Arweinydd a phartneriaid

Bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector yn gweithio i wella ymwybyddiaeth darparwyr o wrth-hiliaeth yn y cwricwlwm newydd.

 

 

Rhwng mis Mehefin 2022 a mis Mehefin 2023 wrth i’r cwricwlwm newydd ymsefydlu.

  • Mewn partneriaeth â chyrff cynrychioliadol y sector a chyrff a noddir.
  • Pobl o Gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Gan ganolbwyntio ar brofiad ymarferol, gwrth-hiliaeth, cynghreiriaeth a chymhwysedd diwylliannol, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector, ar y cyd â phartneriaid ethnig lleiafrifol, i lunio deunyddiau dysgu er mwyn helpu lleoliadau i gynnwys addysgu cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn lleoliadau gofal plant a chwarae a sicrhau bod ymarferwyr yn cael cymorth i wneud hynny.

 

 

Rhwng mis Mehefin 2022 a mis Mehefin 2023 wrth i’r cwricwlwm newydd ymsefydlu.

  • Mewn partneriaeth â chyrff cynrychioliadol y sector a chyrff a noddir.
  • Pobl o Gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.