Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn symud ymlaen gyda'n cynllun i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cefndir

Mynediad at nwyddau

Cam Gweithredu 1: mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth mislif am ddim mewn cymunedau ac yn y sector preifat

Yn ystod 2024 i 2025, rhoesom £3.2 miliwn i awdurdodau lleol i sicrhau bod nwyddau mislif am ddim ar gael i:

  • ysgolion
  • colegau addysg bellach
  • sefydliadau cymunedol


Rydym hefyd wedi rhannu ein cynllun gyda rhanddeiliaid yn y sector preifat ac mewn undebau llafur.

Rydym yn gweithio i rannu gwybodaeth yn ehangach drwy weminarau, cylchlythyrau a rhwydweithiau.

Cam Gweithredu 2: cynnal gwerthusiad o effaith y grant urddas mislif ar gyfer y cyfnod 2018 i 2022 a defnyddio canfyddiadau'r gwerthusiad i fabwysiadu dull strategol, hirdymor o ddarparu nwyddau mislif ledled Cymru

Cyhoeddwyd yr adroddiad gwerthuso ym mis Hydref 2023. Rydym wedi ystyried yr adroddiad ac yn trafod sut i weithredu'r argymhellion a wnaed.

Bellach, mae costau gweinyddu yn rhan o'r grant i gefnogi'r gwaith a wneir gan bob awdurdod lleol. Mae newidiadau wedi'u gwneud i'r ffurflen monitro hawliadau grant, gan wella ansawdd a chysondeb y data a gesglir.

Canllawiau a lleihau stigma

Cam Gweithredu 3: mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymgorffori urddas mislif mewn ysgolion

Rhwng 2024 a 2025, roedd awdurdodau lleol yn gallu gwario hyd at 20% o'r grant, a hynny ar hyfforddiant ac addysg i ddysgwyr, athrawon ac aelodau o'r gymuned.
 
Rhoddwyd sylw i Gynllun Cymru sy'n Falch o'r Mislif yn rhifyn mis Tachwedd o Fwletin Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Mae'r bwletin yn cyrraedd pob gweithiwr ac arweinydd ieuenctid ar draws Cymru, gan hyrwyddo'r nwyddau sydd ar gael i bobl ifanc. 

Ym mis Tachwedd 2024, dyfarnwyd contract gennym i gynhyrchu ystod o adnoddau sy'n ymwneud â'r cwricwlwm iechyd a lles. Bydd yr adnoddau hyn, a fydd ar gael yng Ngwanwyn 2025, yn cefnogi dysgu ar les mislif.

Cam Gweithredu 4: gweithio gyda’n hundebau llafur, gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i greu canllawiau a hyrwyddo polisïau ar urddas mislif a’r menopos, ac i sicrhau bod adnoddau urddas mislif addysgol ac ymarferol ar gael

Mae Busnes Cymru wedi hyrwyddo'r Safon Menopos newydd, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig. Mae Busnes Cymru yn hyrwyddo adnoddau urddas mislif addysgol ac ymarferol drwy eu sianeli ar-lein.

Cynhaliwyd sesiynau hyfforddi am ddim i godi ymwybyddiaeth o'r menopos gan Academi rhwng Gorffennaf a Medi 2024.

Cam Gweithredu 5: bydd Llywodraeth Cymru, drwy gydweithrediad y gweithgor cydraddoldeb a gweithgor menopos y staff, yn adolygu, ac yn ailgyhoeddi ein polisi menopos, gan weithio i gynnwys deunydd ehangach ar urddas mislif

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddwyd canllawiau a gweithdrefnau'r adran Adnoddau Dynol ar y mislif a'r menopos i staff Llywodraeth Cymru. 

Mae rhaglen newydd i godi ymwybyddiaeth o'r menopos - 'Menopositive' - bellach ar gael i'r holl staff. Mae'r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant ar:

  • gael sgyrsiau hyderus gyda chydweithwyr am y menopos
  • cyfeirio cydweithwyr at wybodaeth gredadwy a ffeithiol gywir sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • ymchwilio i atebion a syniadau ar gyfer addasiadau rhesymol
  • sut i gofnodi ac adrodd yn gywir am salwch sy'n gysylltiedig â'r menopos.

Yr amgylchedd a datblygiadau rhyngwladol

Cam Gweithredu 6: cynyddu’r ddarpariaeth o nwyddau di-blastig, ‌nwyddau â llai o gynnwys plastig, llai o ddeunydd ‌pacio plastig, llai o ddeunydd pacio’n gyffredinol ‌neu gynhyrchion di-blastig y gellir eu hailddefnyddio ‌flwyddyn ar ôl blwyddyn

Ar gyfer 2024 i 2025, rydym wedi cynyddu'r gofyniad o ran canran arian y Grant Urddas Mislif a gaiff ei wario ar nwyddau mislif sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd i 75%. 

Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2024, roedd 92% o'r nwyddau a brynwyd yn gyfeillgar i'r amgylchedd.

Byddwn yn cynyddu'r gwariant canrannol ar nwyddau mislif ecogyfeillgar bob blwyddyn am y 3 blynedd nesaf. Ein nod yw sicrhau bod 90% o'r holl nwyddau mislif a brynir drwy'r Grant Urddas Mislif yn ecogyfeillgar erbyn 2027.

Cam Gweithredu 7: ymestyn Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica i hyrwyddo prosiectau urddas mislif yn Affrica Is-Sahara yn bwrpasol

Mae cyllid grant ar gael i sefydliadau Cymreig gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Hub Cymru Africa i gefnogi prosiectau. 

Yn 2024, neilltuwyd £90,000 ychwanegol ar gyfer hyn, gan ganolbwyntio ar gyfrannu at gydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gynnwys urddas mislif.

Cafodd Care for Uganda, a Teams4U arian ar gyfer eu prosiectau. Bydd hyn yn darparu cymorth hyfforddi ar iechyd mislif, yn sicrhau y dosberthir nwyddau y gellir eu hailddefnyddio, ac yn creu ysgolion sy'n gyfeillgar i'r mislif.

Yn 2023, dyfarnwyd cyllid i Brosiect Cydweithredol Menywod Chomuzangari yn Zimbabwe. Roedd hyn ar gyfer prosiect i ddarparu nwyddau a hyfforddiant i wella iechyd a lles menywod a merched. Roedd hefyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ac yn lleihau effaith amgylcheddol padiau tafladwy.

Ymgysylltu, Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Cam Gweithredu 8: sicrhau bod modd cael gafael ar nwyddau, a bod canllawiau yn cael eu creu ar sail egwyddor ganolog cydraddoldeb a chynhwysiant

Mae cyfarfodydd monitro rheolaidd a gwelliannau i ffurflen fonitro'r grant yn cael eu defnyddio. Gwneir hyn er mwyn casglu data a chefnogi trafodaethau gyda phob awdurdod lleol. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cyrraedd grwpiau blaenoriaeth yn eu hardaloedd.

Cam Gweithredu 9: cryfhau’r cysylltiadau rhwng arweinyddion urddas mislif awdurdodau lleol, gwasanaethau gofalwyr di-dâl statudol a sefydliadau gofalwyr y trydydd
sector i wella mynediad at wybodaeth a chyngor, gwasanaethau cymorth priodol a lle y gellir cael gafael ar nwyddau mislif

Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymhlith sefydliadau gofalwyr a rhwydweithiau o'r Grant Urddas Mislif. Rydym yn cynghori arweinwyr dynodedig ym mhob awdurdod lleol ynghylch sut y gellir cael gafael ar nwyddau. 

Ym mis Awst 2024, defnyddiodd Cyngor Sir Powys y Grant Urddas Mislif i ddarparu nwyddau mislif am ddim i ofalwyr ifanc yn yr Ŵyl Gofalwyr Ifanc yn Llanfair-ym-Muallt.

Cam Gweithredu 10: mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, asesu effaith y mislif ar fenywod, merched a phobl sy’n cael mislif o ran cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff ac ystyried opsiynau i wella a chynnal lefelau cyfranogi ar gyfer y rhai sy’n cael mislif

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Chwaraeon Cymru i ddeall effaith y mislif ar gyfranogiad unigolion mewn chwaraeon. Rydym yn datblygu cyfres o gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r heriau a nodwyd.

Cynhaliwyd sawl gweithdy bwrdd crwn yn ystod 2024 i gasglu safbwyntiau hefyd gan ystod o gyrff chwaraeon drwy eu Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a'u clybiau.

Cynhaliodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru adolygiad cyflym o'r dystiolaeth bresennol mewn perthynas ag effaith y mislif ar gyfranogiad unigolion mewn chwaraeon.

Ar sail canfyddiadau'r ymchwil, rydym yn gwybod mwy am sut y gallwn weithio'n well o ran gwella a chynnal lefelau cyfranogi'r rhai sy'n cael mislif.