Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif: adroddiad uchafbwyntiau blynyddol 2023 i 2024
Crynodeb o'r hyn rydym wedi'i wneud yn ystod 2023 a 2024 i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y sefyllfa bresennol
Mae'n flwyddyn ers i ni gyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif. Mae'r cynllun yn nodi ein huchelgais i ddileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif i fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif erbyn 2027. Bydd yr adroddiad uchafbwyntiau blynyddol hwn yn manylu ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar weithredu cynllun Cymru sy'n Falch o'r Mislif.
Yr hyn a gyflawnwyd
Cam Gweithredu 1: mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth mislif am ddim mewn cymunedau ac yn y sector preifat
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer darparu nwyddau mislif am ddim mewn ysgolion a chymunedau. Rhoddir arian hefyd i golegau Addysg Bellach at yr un diben. Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024, llwyddom i gadw lefel uwch y grant a ddarparwyd y llynedd oherwydd costau byw, sydd wedi parhau i gryfhau ymateb awdurdodau lleol i effaith yr argyfwng costau byw ar dlodi mislif. Mae prifysgolion yn cynyddu argaeledd nwyddau urddas mislif a hylendid personol i fyfyrwyr, gan gynnwys nwyddau y gellir eu hailddefnyddio a nwyddau untro ar draws pob campws ac adeilad. Mae cysylltiadau wedi'u sefydlu gydag arweinyddion urddas mislif a phartneriaethau bwyd i weithio ar y cyd ar y cynnig i ddarparu nwyddau i gymunedau.
Cam Gweithredu 2: cynnal gwerthusiad o effaith y grant urddas mislif ar gyfer y cyfnod 2018 i 2022 a defnyddio canfyddiadau'r gwerthusiad i fabwysiadu dull strategol, hirdymor o ddarparu nwyddau mislif ledled Cymru
Dyfarnwyd y contract i M.E.L Research i gynnal gwerthusiad o'r Grant Urddas Mislif ym mis Tachwedd 2022. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ar 26 Hydref. Mae swyddogion nawr yn ystyried sut i weithredu'r argymhellion. Un o'r argymhellion a wnaed oedd cynnwys costau gweinyddu ar gyfer awdurdodau lleol. Mae hyn eisoes wedi'i weithredu ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.
Cam Gweithredu 3: mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymgorffori urddas mislif mewn ysgolion
Mae swyddogion o fewn cangen y Cwricwlwm Iechyd a Lles yn cwblhau manyleb ddrafft i gomisiynu adnoddau ynghylch lles mislif ar gyfer y cwricwlwm. Rhagwelir y bydd y fanyleb yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth 2024. Cadwodd Llywodraeth Cymru y gallu i awdurdodau lleol wario hyd at 20% o Grant Urddas Mislif y Flwyddyn Ariannol 2023 i 2024 ar hyfforddiant ac addysg i ddysgwyr, athrawon ac aelodau'r gymuned. Ar gyfer yr hawliadau canol blwyddyn a gyflwynwyd, defnyddiodd 10 awdurdod lleol yr arian ar hyfforddiant. Ar ôl cyfarfodydd monitro canol blwyddyn, rydym yn disgwyl i'r ffigur hwn gynyddu.
Llwyddwyd i gynnwys dau gwestiwn yn ymwneud â mynediad at nwyddau mislif yn arolwg Ymchwil Iechyd Ysgolion. Bydd hyn yn rhoi data mwy cadarn i ni fonitro faint o ysgolion sy'n manteisio ar y ddarpariaeth mislif am ddim drwy'r grant, sut y gellid gwella hyn, ac a yw myfyrwyr yn derbyn y nwyddau mewn modd sy'n hyrwyddo urddas mislif.
Cam Gweithredu 4: gweithio gyda’n hundebau llafur, gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i greu canllawiau a hyrwyddo polisïau ar urddas mislif a’r menopos ac i sicrhau bod adnoddau urddas mislif
addysgol ac ymarferol ar gael
Mae Busnes Cymru wedi hyrwyddo'r safon newydd mewn perthynas â mislif, iechyd mislif, a'r menopos yn y gweithle, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar wefan Busnes Cymru. Mae swyddogion Urddas Mislif a Phartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg wedi cyfarfod â TUC Cymru i drafod sut i fwrw ymlaen â'r cam gweithredu hwn gydag undebau llafur.
Cam Gweithredu 5: bydd Llywodraeth Cymru, drwy gydweithrediad y gweithgor cydraddoldeb a gweithgor menopos y staff, yn adolygu, ac yn ail-gyhoeddi ein polisi menopos, gan weithio i gynnwys deunydd ehangach ar urddas mislif
Mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r adolygiad o'u canllawiau ar ôl meincnodi yn erbyn canllawiau Adnoddau Dynol diwygiedig y Gwasanaeth Sifil a'r Safon iechyd mislif a'r menopos yn y gweithle. Yn dilyn yr ymarfer meincnodi hwn a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid, gwnaed rhai gwelliannau i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar y Menopos ac maent bellach yn cynnwys deunydd ychwanegol ar faterion urddas mislif a iechyd mislif ehangach.
Fel rhan o'r gwaith hwn, cynhaliodd rhwydwaith staff Menywod Ynghyd arolwg ymysg eu haelodau i ganfod mwy am brofiadau cydweithwyr ar draws y sefydliad. Ar ôl dadansoddi eu canfyddiadau, rhoddodd y rhwydwaith nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn eu rhoi ar waith, gan gynnwys darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o'r menopos i reolwyr llinell, codi proffil addasiadau a phasbortau yn y gweithle, a sicrhau bod prosesau recriwtio a dyrchafiad yn ystyried symptomau'r menopos.
Cam Gweithredu 6: cynyddu’r ddarpariaeth o nwyddau di-blastig, nwyddau â llai o gynnwys plastig, llai o ddeunydd pacio plastig, llai o ddeunydd pacio’n gyffredinol neu gynhyrchion di-blastig y gellir eu hailddefnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024, rydym wedi cynyddu isafswm gofynnol y grant a gaiff ei wario ar nwyddau mislif eco-gyfeillgar (h.y., y gellir eu hailddefnyddio ac sy'n/neu sy'n ddi-blastig) i 70%. Ar gyfer yr hawliadau canol blwyddyn a gyflwynwyd o dan y Grant Urddas Mislif, gwariwyd 91% ar nwyddau eco-gyfeillgar.
Cam Gweithredu 7: ymestyn Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica i hyrwyddo prosiectau urddas mislif yn Affrica Is-Sahara yn bwrpasol
Yn Rownd 4 cynllun grantiau bach Cymru ac Affrica, bu un cynnig yn gysylltiedig ag urddas mislif yn llwyddiannus. Prosiect Chomuzangari Women's Cooperative yn Zimbabwe. Nod y prosiect yw darparu hyfforddiant y mae ei angen yn fawr ar feithrin cynnyrch a chapasiti er mwyn gwella iechyd a lles menywod a merched, tra hefyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a lleihau effaith amgylcheddol padiau tafladwy.
Ar gyfer Rownd 5 y grant, neilltuwyd £90,000 ychwanegol ar gyfer y dyfarniad hwn gan ganolbwyntio ar gyfrannu at gydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gynnwys urddas mislif. Ystyriwyd ceisiadau o Rownd 5 cynllun grantiau Cymru ac Affrica gan banel arbenigol ar 19 Ionawr 2024. Roedd y rownd hon wedi'i bwriadu'n benodol ar gyfer prosiectau grymuso menywod naill ai yn Uganda neu yn Lesotho. Mae'r ddau sefydliad canlynol wedi derbyn cyllid ar gyfer eu prosiectau - Care for Uganda, a Teams4U - a fydd yn darparu cymorth hyfforddi ar iechyd mislif, dosbarthu padiau mislif y gellir eu hailddefnyddio a chreu ysgolion sy'n fislif-gyfeillgar.
Cam Gweithredu 8: sicrhau bod modd cael gafael ar nwyddau, a bod canllawiau yn cael eu creu ar sail egwyddor ganolog cydraddoldeb a chynhwysiant
Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ag arweinyddion gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, grŵp Cydraddoldeb y Bwrdd Iechyd, a grwpiau cymunedol o Ogledd Cymru i drafod anghenion iechyd pobl LHDTC+.
Cam Gweithredu 9: cryfhau’r cysylltiadau rhwng arweinyddion urddas mislif awdurdodau lleol, gwasanaethau gofalwyr di-dâl statudol a sefydliadau gofalwyr y trydydd sector i wella mynediad at wybodaeth a chyngor, gwasanaethau cymorth priodol a lle y gellir cael gafael ar nwyddau mislif
Mae swyddogion Urddas Mislif a Gofalwyr Di-dâl yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymhlith sefydliadau a rhwydweithiau gofalwyr o'r Grant Urddas Mislif a sut y gellir cael gafael ar nwyddau. Cynhelir adolygiad i wirio pa wybodaeth sydd gan sefydliadau gofalwyr trydydd sector ar eu gwefannau ynglŷn â'u grant.
Cam Gweithredu 10: mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, asesu effaith y mislif ar fenywod, merched a phobl sy’n cael mislif o ran cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff ac ystyried opsiynau i wella a chynnal lefelau cyfranogi ar gyfer y rhai sy’n cael mislif
Mae Swyddogion Urddas Mislif wedi bod yn cwrdd â ChwaraeonCymru ac mae 2 weithdy wedi'u trefnu ar gyfer Ebrill 2024. Caiff dros 20 o wahanol gyrff chwaraeon cenedlaethol yng Nghymru eu gwahodd i ddatblygu'r cam gweithredu hwn ymhellach. Cyflwynwyd cais i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) i gynnal adolygiad cyflym o'r dystiolaeth bresennol mewn perthynas ag effaith mislif ar gymryd rhan mewn chwaraeon. Llwyddiannus oedd ein cais a bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ebrill 2024.
Edrych tuag at y dyfodol
- Parhau i asesu'r ddarpariaeth ac opsiynau ar gyfer darparu nwyddau mislif mewn gwahanol leoliadau iechyd fel ysbytai, meddygfeydd, clinigau iechyd rhywiol a mannau iechyd cymunedol.
- Gweithio gydag Arweinyddion Urddas Mislif a chydweithwyr Addysg Bellach ar argymhellion y gwerthusiad o'r Grant Urddas Mislif.
- Llywodraeth Cymru i ddatblygu hyfforddiant ymwybyddiaeth o'r menopos; datblygu hwb adnoddau a lansio fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r canllawiau ynghylch y mislif a'r menopos.
- Cynyddu'r gwariant canrannol ar nwyddau mislif eco-gyfeillgar i 75% ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025, gyda'r nod o gyrraedd targed o sicrhau bod 90 i 100% o'r nwyddau mislif a brynir trwy'r grant yn eco-gyfeillgar erbyn blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
- Ymgysylltu â'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl a grwpiau cynrychioliadol eraill i nodi rhwystrau, ac opsiynau y gellir eu defnyddio i wella darpariaeth ac arweiniad.
- Nodi grwpiau â blaenoriaeth sydd wedi'u heithrio ar hyn o bryd o'r ddarpariaeth bresennol ac archwilio opsiynau ar gyfer cyrraedd grwpiau o'r fath, gan gynnwys drwy ddarparu cyllid e.e. Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid; Sipsiwn, Roma a Theithwyr; carcharorion; a'r digartref