Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU 2016 i 2018: Adroddiad Hunanasesu Canol Tymor Llywodraeth Cymru
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi hunanasesiad o'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cafodd trydydd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU ei gyhoeddi ym mis Mai 2016. Nododd y cynllun ymrwymiadau i sicrhau llywodraeth agored yn y DU ac uchelgeisiau Llywodraeth y DU am y ddwy flynedd nesaf. Ym mis Rhagfyr 2016, cafodd ymrwymiadau pob un o'r gweinyddiaethau datganoledig eu cyhoeddi mewn diweddariad i Gynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU.
Fel rhan o gylch dwy flynedd y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol, mae'n ofynnol i lywodraethau lunio adroddiadau hunanasesu canol tymor a diwedd tymor. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi hunanasesiad o'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn.
Crynodeb o'r broses
Roedd Swyddfa'r Prif Swyddog Digidol yn gyfrifol am gydlynu'r broses o ddatblygu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn nhrydydd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU a'u monitro'n barhaus. Bu swyddogion yn cydweithio'n agos â chydweithwyr Swyddfa Cabinet y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill wrth ddatblygu'r ymrwymiadau, gan rannu gwybodaeth ac arfer gorau. Bwriedir i'r trefniant gweithio hwn barhau ar gyfer monitro ymrwymiadau presennol a datblygu ymrwymiadau yn y dyfodol.
Wrth ddatblygu'r ymrwymiadau presennol, nid oedd unrhyw rwydwaith cymdeithas sifil yng Nghymru. Fodd bynnag, cafodd nifer o'r ymrwymiadau eu datblygu gyda mewnbwn gan sefydliadau allanol, gan gynnwys cymdeithas sifil. Ar ôl cyhoeddi'r ymrwymiadau, roedd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid i'w galluogi i sefydlu rhwydwaith cymdeithas sifil yng Nghymru.
Rhoi ymrwymiadau ar waith
Er mai dim ond ers mis Rhagfyr 2016 mae ymrwymiadau Llywodraeth Cymru wedi'u cynnwys, mae cynnydd da wedi'i wneud. Mae'r rhan fwyaf o'r ymrwymiadau ar y trywydd iawn i'w cwblhau o fewn eu hamserlenni penodedig, gyda thri o'r naw ymrwymiad wedi'u cwblhau eisoes, sef:
Protocol Cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyhoeddi ymchwil y llywodraeth yn unol â Phrotocol Cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, gan gyhoeddi teitlau adroddiadau ymlaen llaw a'u cyhoeddi ar dudalennau 'Ystadegau ac Ymchwil' gwefan Llywodraeth Cymru. Mae cyhoeddi adroddiadau ymchwil gymdeithasol, yn unol â phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, yn rhan allweddol o Egwyddorion Ymchwil a Gwerthuso Llywodraeth Cymru.
Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cod ar gyfer ymddygiad moesegol mewn cadwyni cyflenwi, a fydd yn sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gamau gweithredu i liniaru problemau moesegol mewn cadwyni cyflenwi.
Dyletswydd Llesiant ar Gyrff Cyhoeddus Penodedig yng Nghymru
Mae dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, a restrir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i bennu a chyhoeddi amcanion llesiant sy'n amlinellu sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni pob un o'r nodau llesiant a chymryd camau rhesymol i gyflawni'r amcanion hynny.
Ceir manylion am gynnydd yr holl ymrwymiadau a'u cerrig milltir yn Atodiad 1.
Casgliad a'r camau nesaf
Mae'r set gyntaf hon o ymrwymiadau wedi rhoi man cychwyn da iawn i ni adeiladu arno er mwyn parhau i gynyddu natur agored ein llywodraeth. Yn ogystal â gwneud cynnydd da wrth roi'r ymrwymiadau ar waith, mae'r broses ei hun hefyd wedi ein helpu i sefydlu rhwydwaith llywodraethau defnyddiol ledled y DU sydd wedi rhannu cyngor a chymorth drwy gydol y broses.
Yn y dyfodol, mae angen i ni ganolbwyntio ar roi ein set gyntaf o ymrwymiadau ar waith, yn ogystal â phennu ymrwymiadau newydd, uchelgeisiol er mwyn codi'r bar o safbwynt llywodraeth agored ledled Cymru. Rydym yn cydnabod bod Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru yn allweddol wrth wneud hyn, drwy ein dwyn i gyfrif a sicrhau bod ymrwymiadau'r dyfodol yn cael eu datblygu ar y cyd â chymdeithas sifil yng Nghymru. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd ag arweinydd y prosiect byddwn yn mynd ati'n fuan i gytuno ar ddull o ddatblygu ymrwymiadau ar gyfer Cynllun Gweithredu Cenedlaethol 2018-2020.
Ymrwymiad: Cynllun data agored
Datblygu cynllun data agored i Lywodraeth Cymru a'i roi ar waith a gweithio tuag at gyflawni'r ymrwymiadau a amlinellir yn y cynllun.
Adran(nau) arweiniol
Swyddfa'r Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn
-
Amserlen
Mawrth 2016 – Mawrth 2018
Statws cyffredinol yr ymrwymiad
Ar y trywydd iawn / Ar ei hôl hi
Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad
Cyhoeddwyd Cynllun Data Agored Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2016. Mae cynnydd da wedi'i wneud ar nifer o'r ymrwymiadau a bennwyd yn y Cynllun Data Agored. Mae cynnydd ar un neu ddau o'r ymrwymiadau wedi bod yn arafach na'r disgwyl.
Carreg filltir 1: Rhoi’r ymrwymiadau a amlinellir yng Nghynllun Data Agored Llywodraeth Cymru ar waith
Mawrth 2016 – Mawrth 2018
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae cynnydd da wedi'i wneud ar nifer o'r ymrwymiadau a bennwyd yng Nghynllun Data Agored Llywodraeth Cymru. Gwnaed gwaith i wella sgôr natur agored StatsCymru, mae gwybodaeth newydd ar wefan Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi ar ffurfiau agored ac mae cyngor a chymorth yn dal i gael eu rhoi i gyrff y sector cyhoeddus.
Mae gwaith i ddatblygu catalog o setiau data agored a chaffael ardystiad data agored wedi bod yn arafach na'r disgwyl.
Statws: Ar y trywydd iawn / Ar ei hôl hi
Ymrwymiad: Gwasanaeth data agored
Datblygu Gwasanaeth Data Agored i Gymru gyda ffocws ar helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus.
Adran(nau) arweiniol
Pennaeth Daearyddiaeth a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru
Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn
Menter Llywodraeth Cymru sy'n cyhoeddi data i Gymru, y gall rhai darnau ddod o adrannau eraill o'r llywodraeth.
Mae defnyddwyr wedi bod yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu gwefan StatsCymru, e.e. rhoi adborth, a chael y wybodaeth ddiweddaraf mewn fforymau amrywiol i ddefnyddwyr. Mae hyn wedi cynnwys ein grŵp defnyddwyr sy'n cwmpasu'r trydydd sector.
Rydym yn gweithio er mwyn galluogi partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus i gyhoeddi drwy StatsCymru o dan eu logo eu hunain. Hyd yma, dim ond Comisiynydd y Gymraeg sydd wedi gwneud hynny.
Amserlen
Mawrth 2016 – Mawrth 2017
Statws cyffredinol yr ymrwymiad
Ar y trywydd iawn
Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad
Ar y trywydd iawn i raddau helaeth, rhywfaint o oedi ynghylch agweddau ar y catalog data agored, ond mae'r prif bethau y gellir eu cyflawni ynghylch data agored wedi'u cyflawni.
Carreg filltir 1: Mae data StatsCymru yn cael eu cyhoeddi ar ffurf y gall peiriant eu darllen
Mehefin 2016 (parhaus)
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae holl ddata heb eu harchifo StatsCymru (90% o'r cynnwys) bellach ar gael ar ffurf y gall peiriant eu darllen.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 2: Mae deunydd hyfforddiant StatsCymru ar welliannau'n cael ei baratoi a'i gyflwyno
Tachwedd 2016 – Rhagfyr 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Deunydd hyfforddiant yn cael ei gynhyrchu, amserlen gyflawni yn cael ei thrafod.
Statws: Ar y trywydd iawn
Carreg filltir 3: Lle wedi ei ddatblygu i alluogi defnyddwyr i greu eu mapiau eu hunain
Ionawr 2016 – Ionawr 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Gwasanaeth Beta ar gael i'r holl ddefnyddwyr, system yn cael ei defnyddio'n fewnol er mwyn creu proffiliau mapio.
Mae'r gwaith o wella faint o ddata sydd ar gael i ddefnyddwyr ar gyfer arwynebu mewn mapiau a'i ansawdd cysylltiedig wedi dechrau.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 4: Mae catalog o ddata agored yn cael ei baratoi
Hydref 2016 – Rhagfyr 2016
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae camau paratoadol wedi'u cymryd er mwyn arwynebu cynnwys catalog StatsCymru ar ffurf y gellir ei ddarllen yn awtomatig mewn catalog CKAN ehangach. Bwriadwyd gwneud hyn fel rhan o brawf cysyniad ar gyfer catalog sy'n gallu dod â nifer o ffynonellau ynghyd drwy ddiffinio'r mecanwaith plygio i mewn ar gyfer systemau presennol.
Fodd bynnag, mae oedi wrth osod contract wedi dod i'r amlwg wrth i ni geisio cyfuno'r agwedd hon ag achrediad Sefydliad Data Agored (ODI) awtomatig o'r data ar StatsCymru ond, oherwydd bod achrediad ODI wedi'i gwtogi'n ddiweddar, ni fu hyn yn bosibl.
Statws: Ar ei hôl hi
Ymrwymiad: StatsCymru
Datblygu StatsCymru, sef ystorfa ar-lein Llywodraeth Cymru ar gyfer data ystadegol manwl, er mwyn codi ei statws bod yn agored i 4*.
Adran(nau) arweiniol
Pennaeth Daearyddiaeth a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru
Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn
Menter Llywodraeth Cymru sy'n cyhoeddi data i Gymru, y gall rhai darnau ddod o adrannau eraill o'r llywodraeth.
Mae defnyddwyr wedi bod yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu gwefan StatsCymru, e.e. rhoi adborth, a chael y wybodaeth ddiweddaraf mewn fforymau amrywiol i ddefnyddwyr. Mae hyn wedi cynnwys ein grŵp defnyddwyr sy'n cwmpasu'r trydydd sector.
Rydym yn gweithio er mwyn galluogi partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus i gyhoeddi drwy StatsCymru o dan eu logo eu hunain. Hyd yma, dim ond Comisiynydd y Gymraeg sydd wedi gwneud hynny.
Amserlen
Mawrth 2016 – Rhagfyr 2017
Statws cyffredinol yr ymrwymiad
Ar y trywydd iawn
Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad
Ar y trywydd iawn i raddau helaeth, rhywfaint o oedi ynghylch achrediad a deunydd hyfforddi, ond mae'r prif bethau y gellir eu cyflawni ynghylch data agored wedi'u cyflawni.
Carreg filltir 1: Mae data StatsCymru yn cael eu cyhoeddi ar ffurf y gall peiriant eu darllen
Mehefin 2016 (parhaus)
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae holl ddata heb eu harchifo StatsCymru (90% o'r cynnwys) bellach ar gael ar ffurf y gall peiriant eu darllen.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 2: Mae canllawiau a fideos hyfforddiant StatsCymru yn cael eu paratoi a'u cyhoeddi
Tachwedd 2016 – Rhagfyr 2016
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Deunydd wedi'i baratoi, aros iddo gael ei gyfieithu ac am ddyfynbris gan y contractwyr ar gyfer arwynebu.
Statws: Ar ei hôl hi
Carreg filltir 3: Caiff StatsCymru ei achredu'n llwyddiannus
Medi 2016 – Mawrth 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Cafodd camau paratoadol eu cymryd er mwyn arwynebu cynnwys catalog ar ffurf y gellir ei ddarllen yn awtomatig mewn catalog CKAN, a thrwy feddalwedd achredu Sefydliad Data Agored o ganlyniad i hynny. Fodd bynnag, mae'r diffyg canolbwyntio ar achredu yn ddiweddar gan y Sefydliad Data Agored wedi arwain at oedi wrth gaffael yr agweddau achredu.
Statws: Wedi ei chwblhau cyn belled ag y bo'n bosibl ar hyn o bryd
Carreg filltir 4: Mae deunydd hyfforddiant StatsCymru yn cael ei baratoi a'i gyflwyno
Tachwedd 2016 – Rhagfyr 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Deunydd hyfforddiant yn cael ei gynhyrchu, amserlen gyflawni yn cael ei thrafod.
Statws: Ar y trywydd iawn
Ymrwymiad: Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru
Mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod mynediad at setiau data'r llywodraeth ar gael mewn modd diogel at ddibenion ymchwil academaidd a sector cyhoeddus. At hynny, caiff mynediad o'r fath ei hyrwyddo er mwyn sicrhau'r defnydd mwyaf posibl o ddata o'r fath at ddibenion ymchwil a gyhoeddir ac sydd ar gael i helpu i wneud penderfyniadau gwell.
Adran(nau) arweiniol
Prif Ystadegydd, Llywodraeth Cymru
Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn
Awdurdod Ystadegau'r DU
Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol – Cymru (partneriaeth academaidd); Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol; Bwrdd y Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol.
Amserlen
Parhaus
Statws cyffredinol yr ymrwymiad
Ar y trywydd iawn
Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad
Mae rhagor o ymchwil mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru wedi'i chyhoeddi. Mae gwaith sylweddol ar droed i gynyddu nifer y setiau data sector cyhoeddus sydd ar gael i ymchwilwyr yng Nghymru drwy Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ac mae prosiect a gydariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar droed er mwyn treialu'r broses o osod ‘Teclynnau Data Ymchwil Cenedlaethol’ ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i gyflenwi data at ddibenion ymchwil i Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru.
Carreg filltir 1: Cyhoeddi rhagor o ymchwil mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol
Mawrth 2015 – 31 Mawrth 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Cyhoeddodd dau o brosiectau rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwneud y Defnydd Gorau o'r Data Presennol adroddiadau ymchwil yn 2016-17 (cyhoeddodd Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl ei hadroddiad dichonoldeb ym mis Mawrth 2016 a chyhoeddodd Prosiect Cysylltu Data Tlodi Tanwydd ei adroddiad canfyddiadau sylweddol cyntaf: Adroddiad canfyddiadau Rhif 1: canfyddiadau cychwynnol ar effaith y Cynllun Nyth Cartrefi Clyd ar iechyd ar 4 Ebrill 2017) ac mae prosiectau amrywiol o fewn y Rhaglen ar y trywydd iawn i lunio rhagor o gyhoeddiadau o ganfyddiadau ymchwil yn ystod 2017-18, gan gynnwys Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl, a gyhoeddodd ei Adroddiad Cynnydd Blwyddyn Un ym mis Mehefin 2017 a'r Prosiect Cysylltu Data Tlodi Tanwydd.
Statws: Ar y trywydd iawn
Carreg filltir 2: Cynyddu nifer setiau data'r sector cyhoeddus sydd ar gael i ymchwilwyr yng Nghymru drwy Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol
Mawrth 2015 – 31 Mawrth 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn nifer o feysydd er mwyn cynyddu nifer setiau data'r sector cyhoeddus sydd ar gael i ymchwilwyr yng Nghymru drwy Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, gan gynnwys:
- Gweithio gyda phrosiectau academaidd i'w cynorthwyo a'u cynghori ynghylch cael mynediad at setiau data e.e. data ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal/Plant mewn Angen, y mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i sicrhau eu bod ar gael
- Ariannu/cydariannu (e.e. â'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) prosiectau ymchwil cysylltu data sy'n sbarduno'r broses o rannu setiau data ychwanegol, e.e. data ar gyfer cynllun effeithlonrwydd ynni cartref Nyth Cartrefi Clyd a ariennir gan Lywodraeth Cymru
- Cynnwys gofyniad i ddarparu setiau data i Gyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL)/Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn Nhelerau ac Amodau grant rhaglenni cenedlaethol, e.e. Cefnogi Pobl a Dechrau'n Deg, y dechreuwyd sicrhau bod data ar gael ar eu cyfer
- Datblygu a chydariannu (â'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) Prosiect Datblygu Llif Data (hefyd gweler Carreg Filltir 3, isod), a fydd yn gosod ‘Teclynnau Data Ymchwil Cenedlaethol’ ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru; yn ogystal â chynyddu gallu awdurdodau lleol i rannu data o fewn awdurdodau a rhyngddynt, bydd y prosiect hwn yn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu llifau data rheolaidd i SAIL/Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru er mwyn i ymchwilwyr yng Nghymru eu defnyddio
- Mae adneuon data cyhoeddus rheolaidd a sefydlwyd eisoes wedi parhau i gael eu gwneud, e.e. ar gyfer Cronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion ac Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio gyda Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru er mwyn paratoi ‘Sesiynau Briffio Data’ i ymchwilwyr sy'n disgrifio cynnwys setiau data, e.e. ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Statws: Ar y trywydd iawn
Carreg filltir 3: Treialu technegau i awdurdodau lleol ddarparu data at ddibenion ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol
Medi 2016 – 31 Mawrth 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae prosiect a gydariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar droed er mwyn treialu'r broses o osod ‘Teclynnau Data Ymchwil Cenedlaethol’ ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i gyflenwi data at ddibenion ymchwil i SAIL/Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru. Cafodd yr arian ar gyfer cam treial Prosiect Datblygu Llif Data ei sicrhau a dechreuodd y broses recriwtio erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2016-17. Oherwydd oedi wrth gadarnhau arian ac wrth recriwtio, dechreuodd blwyddyn y treial ym mis Mehefin 2017 a bydd yn cefnogi prosiect treialu cyfochrog i brofi'r broses o gasglu data lefel unigolyn ar gyfer Rhaglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru, ac yn ceisio caffael data awdurdod lleol ar gyfer prosiectau eraill Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, e.e. Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl.
Statws: Ar ei hôl hi
Ymrwymiad: Protocol Cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyhoeddi ymchwil y llywodraeth yn unol â Phrotocol Cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, gan gyhoeddi teitlau adroddiadau ymlaen llaw a'u cyhoeddi ar dudalennau 'Ystadegau ac Ymchwil' gwefan Llywodraeth Cymru. Mae cyhoeddi adroddiadau ymchwil gymdeithasol, yn unol â phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, yn rhan allweddol o Egwyddorion Ymchwil a Gwerthuso Llywodraeth Cymru.
Adran(nau) arweiniol
Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn
Llywodraeth Cymru
Amserlen
Er bod protocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ers iddo gael ei gyflwyno yn 2010, bu ymrwymiad gan Weinidogion i ddefnyddio'r protocol ers mis Mawrth 2014.
Statws cyffredinol yr ymrwymiad
Wedi ei gwblhau
Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn protocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ac yn cyhoeddi teitl pob cyhoeddiad ymchwil ymlaen llaw.
Carreg filltir 1: Defnyddio protocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ar gyfer pob cyhoeddiad ymchwil
Mawrth 2010 (parhaus)
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae protocol ar waith ac ni fu achos o dorri'r protocol hwnnw.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 2: Ymrwymiad Gweinidogion i ddefnyddio protocol cyhoeddi Ymchwil Cymdeithasol y Llywodraeth
Mawrth 2014 (parhaus)
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Ymrwymiad Gweinidogion wedi'i ailgadarnhau ar ôl etholiad 2016.
Statws: Wedi ei chwblhau
Ymrwymiad: LLYW.CYMRU
Byddwn yn sicrhau ei bod yn haws dod o hyd i'n gwybodaeth a'n gwasanaethau drwy gyfuno ein cynnwys digidol ar wefan newydd i Lywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion defnyddwyr. Bydd y wefan yn cynnwys gwasanaeth ymgynghori gwell.
Adran(nau) arweiniol
Pennaeth y Tîm Digidol Corfforaethol, Is-adran Cyfathrebu
Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn
Mae dinasyddion Cymru yn cymryd rhan yn y broses o brofi'r wefan.
Amserlen
1 Ebrill 2015 – 30 Mehefin 2019
Statws cyffredinol yr ymrwymiad
Ar y trywydd iawn
Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad
Er bod cerrig milltir cychwynnol wedi'u cwblhau'n llwyddiannus, mae'r gwaith sy'n ofynnol er mwyn cwblhau'r broses gyfan o symud cynnwys i'r llwyfan newydd yn cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd. Mae camau unioni wedi'u rhoi ar waith er mwyn cyflawni'r gwaith erbyn dyddiad y garreg filltir.
Carreg filltir 1: Lansio gwasanaeth ymgynghori beta, gan gynnwys ffurflenni ymateb y gall defnyddwyr eu cadw
1 Gorffennaf 2016 – 30 Medi 2016
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Cafodd y llwyfan ymgynghori ei lansio'n brydlon. Mae'n cael ei ddefnyddio'n helaeth a chafwyd adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr mewnol ac allanol.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 2: Lansio llwyfan ymgyrchoedd beta
1 Hydref 2016 – 30 Tachwedd 2016
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Defnyddir y llwyfan ymgyrchoedd er mwyn hyrwyddo ymgyrchoedd ac mae wedi lleihau'n sylweddol y gost a'r amser sydd eu hangen i greu cynnwys.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 3: Lansio llwyfan cyrff cyhoeddus beta
1 Ionawr 2017 – 31 Mawrth 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae nifer o gyrff cyhoeddus wedi symud i'r llwyfan newydd ac mae ymarferoldeb ychwanegol yn cael ei asesu ar gyfer camau datblygu yn y dyfodol.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 4: Cyhoeddi'r tranche cyntaf o gynnwys corfforaethol beta
1 Hydref 2016 – 30 Ebrill 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae tranche cyntaf cyfyngedig o gynnwys wedi'i gyflwyno ac mae'n parhau i gael ei fireinio.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 5: Cyhoeddi gweddill y cynnwys corfforaethol
1 Mai 2017 – 30 Mehefin 2019
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae gwaith ar droed i symud cynnwys i'r llwyfan newydd, ond mae'n cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd.
Statws: Ar ei hôl hi
Ymrwymiad: Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cod ar gyfer ymddygiad moesegol mewn cadwyni cyflenwi, a fydd yn sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gamau gweithredu i liniaru problemau moesegol mewn cadwyn cyflenwi.
Adran(nau) arweiniol
Rheolwr Prosiectau Arbennig, Gwerth Cymru, ESNR
Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn
Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
Busnesau a sefydliadau yn y trydydd sector yng Nghymru.
Amserlen
Mawrth 2016 – dechrau 2017
Statws cyffredinol yr ymrwymiad
Wedi ei gwblhau
Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad
Wedi ei gwblhau
Carreg filltir 1: Y drafft cyntaf wedi'i gwblhau a'i gyflwyno yn Procurex
Mawrth 2016 – Medi 2016
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Cyflwynwyd y Cod yn Procurex yn 2016.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 2: Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu a'r cyfarfod cyntaf wedi'i drefnu
Hydref 2016 – Tachwedd 2016
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Roedd hyn yn llwyddiannus ac arweiniodd at gyhoeddi'r Cod Ymarfer ym mis Mawrth 2017. Mae gwaith ymgysylltu â'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn parhau – gyda gwaith parhaus i oruchwylio'r broses weithredu.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 3: Ymgysylltu â'r sector busnes a'r trydydd sector
Hydref 2016 – dechrau 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae hwn yn weithgarwch parhaus – er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r Cod a sicrhau cynnydd yn nifer y rhai sy'n ymrwymo iddo.
Statws: Ar y trywydd iawn
Carreg filltir 4: Lansio cod ar gyfer ymddygiad moesegol mewn cadwyni cyflenwi
Dechrau 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Lansiwyd ar 9 Mawrth 2017 yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 5: Ymrwymo
Parhaus
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Ym mis Hydref 2017, mae Llywodraeth Cymru, holl brifysgolion Cymru a holl heddluoedd Cymru wedi ymrwymo, yn ogystal ag un awdurdod lleol, dwy gymdeithas dai a mwy na 25 o fusnesau a sefydliadau'r trydydd sector. Mae llawer o sefydliadau eraill wrthi'n gwneud neu'n ystyried hyn.
Statws: Ar y trywydd iawn
Ymrwymiad: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – Dangosyddion Cenedlaethol Cymru
Mesur cynnydd tuag at gyflawni'r saith nod llesiant i Gymru a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a chyflwyno adroddiad blynyddol arnynt.
Adran(nau) arweiniol
Prif Ystadegydd
Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn
Cyrff cyhoeddus penodedig o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Amserlen
Mawrth 2016 – dechrau 2017
Statws cyffredinol yr ymrwymiad
Ar y trywydd iawn
Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad
Ar y 25ain o Fedi cyhoeddodd y Prif Ystadegydd am y tro cyntaf adroddiad blynyddol Llesiant Cymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys naratif am ein cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant yn gyfochrog ag adroddiad ar gyfer bob un o’r 46 dangosydd cenedlaethol gan dynnu ar ein data agored Ystadegau Cymru.
Carreg filltir 1: Gosod 'Dangosyddion Cenedlaethol Cymru' gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ebrill 2015 – Mawrth 2016
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Gosododd Llywodraeth Cymru gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru set o 46 o ddangosyddion cenedlaethol er mwyn mesur cynnydd Cymru wrth gyflawni'r saith nod llesiant i Gymru. Cyhoeddwyd dogfen dechnegol ategol er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth am y dangosyddion terfynol.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 2: Llunio'r Adroddiad Llesiant Blynyddol cyntaf i Gymru
Ebrill 2016 – haf 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae adroddiad Llesiant Cymru wedi'i ddatblygu'n dda ac, yn dilyn dadansoddiad pellach o ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru, caiff ei gyhoeddi ar 25 Medi fel adroddiad ar-lein rhyngweithiol sy'n defnyddio ffynonellau data agored.
Statws: Ar y trywydd iawn
Ymrwymiad: Dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru
Mae dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, a restrir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i bennu a chyhoeddi amcanion llesiant sy'n amlinellu sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni pob un o'r nodau llesiant a chymryd camau rhesymol i gyflawni'r amcanion hynny.
Adran(nau) arweiniol
-
Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn
Y 43 o gyrff cyhoeddus a bennwyd o dan y Ddeddf, a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Amserlen
Ebrill 2016 ymlaen
Statws cyffredinol yr ymrwymiad
Wedi ei gwblhau
Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad
Mae'r ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodedig i bennu a chyhoeddi nodau llesiant, a'r ddyletswydd ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i asesu llesiant lleol wedi'u cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Y rhain yw'r dyletswyddau cyntaf y mae angen eu cyflawni er mwyn darparu'r sylfaen a fydd yn galluogi cyrff cyhoeddus penodedig a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni addewid y Ddeddf. Cafodd cerrig milltir 2 a 3 eu cwblhau o fewn yr amserlenni statudol a nodwyd yn y Ddeddf. Y ffocws nawr i gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf yw cymryd camau i gyflawni eu hamcanion yn unol â'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy. I Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, mae'r ffocws bellach ar sefydlu amcanion lleol ar y cyd er mwyn gwella llesiant pobl yn yr ardal honno – tuag at gyhoeddi Cynllun Llesiant Lleol erbyn mis Mai 2018.
Carreg filltir 1: Y ddyletswydd gyfreithiol yn dod i rym
Ebrill 2016 – Ebrill 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Dechreuwyd ar adran berthnasol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar 1 Ebrill 2016.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 2: Cyrff cyhoeddus yn cyhoeddi eu hamcanion llesiant cyntaf
Ebrill 2016 – Ebrill 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae'r holl gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant wedi cyhoeddi eu hamcanion llesiant cyntaf. Gellir gweld yr amcanion hyn ar y gwefannau perthnasol. Ar gyfer rhestr o'r cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant.
Statws: Wedi ei chwblhau
Carreg filltir 3: Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus – Asesiad o lesiant lleol
Ebrill 2016 – Mai 2017
Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad
Mae'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cwblhau eu hasesiad o lesiant lleol a fydd yn sail i'r amcanion lleol a bennir- ganddynt. Ceir rhagor o fanylion yma LLYW.CYMRU
Statws: Wedi ei chwblhau