Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae’r cynllun gwaith diweddaraf yn nodi’r meysydd polisi trethi y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arnynt yn ystod 2020-2021. Ei ddiben yw hysbysu pobl, busnesau a sefydliadau eraill am y syniadau yr ydym yn eu datblygu, a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau neu gyfrannu syniadau. Mae’r dull hwn yn parhau i fod yn gyson â’n ffyrdd sefydledig o weithio gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid ac yn parhau i fod yn gynyddol bwysig yn y cyfnod COVID-19 hwn. Wrth inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar y gwaith ehangach o sefydlogi ac ailadeiladu ein heconomi, byddwn yn sicrhau ein bod yn datblygu polisi trethi Cymru i fodloni anghenion Cymru.

Y llynedd, cwblhawyd y broses o ddatganoli trethi a ddechreuwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Yn ogystal â threthi lleol (y dreth gyngor a threthi annomestig), mae gan Gymru bellach bwerau i amrywio trethi eraill fel Treth Incwm (cyfraddau treth incwm Cymru), a dwy dreth sydd wedi’u datganoli’n llawn – y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, sy’n cael eu gweinyddu a’u casglu gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae cyflwyno trethi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at newid mawr yn y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu hariannu yng Nghymru, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i adolygu sut yr ydym yn defnyddio’r pwerau trethu. Mae’r holl drethi hyn, gan gynnwys y trethi lleol, wedi’u cynnwys yn y cynllun gwaith.

Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi’r gallu technegol i greu trethi datganoledig newydd, ond mae’r broses ar gyfer ceisio cymeradwyaeth i ddatganoli treth newydd i Gymru yn parhau i fod yn heriol. Byddwn yn parhau i fynd ati i sefydlu mecanwaith addas i’r diben i gefnogi ein pwerau trethu datganoledig wrth inni ddatblygu ein gwaith presennol. Mae hyn yn cynnwys ystyried, ar y cyd â rhanddeiliaid, sut y gellid gweithredu’r rhain, nodi materion y byddai angen eu hystyried ymhellach, a helpu i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl.

Byddwn yn parhau i ddatblygu ein syniadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth o drethi a pholisi trethi yng Nghymru, yn arbennig drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’n bwysig bod gan bawb – y rhai sy’n talu trethi, y rhai sy’n cynllunio ac yn gosod trethi, yr ymarferwyr, yr academyddion a’r arbenigwyr eraill sy’n cyfrannu eu sgiliau a’u gwybodaeth - ddealltwriaeth glir o’r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni. Mae hyn yn cynnwys deall a chydnabod lle y gallai fod cyfleoedd i hyrwyddo ein dyheadau polisi a’n gweledigaeth ar gyfer Cymru ymhellach, er enghraifft drwy ddatgarboneiddio ein cymdeithas er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd; a lle y bydd angen inni ddyfalbarhau yn wyneb cyfyngiadau fel COVID-19 ac wrth gwrs, ymadawiad y DU â’r UE. Wrth ddatblygu ein hymateb i’n hymadawiad â’r UE, byddwn yn sicrhau bod goblygiadau unrhyw ddewisiadau polisi ar sail trethi yng Nghymru yn cael eu hystyried yn llawn.

Rwy’n croesawu sylwadau a chyfraniadau at y cynllun gwaith a byddaf yn adrodd ar ei gynnydd cyn diwedd y Senedd bresennol.

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyflwyniad

Mae dros £5 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru bellach yn cael ei ariannu trwy drethi Cymru a threthi lleol - y Dreth Trafodiadau Tir, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, cyfraddau treth incwm Cymru a threthi lleol (y dreth gyngor ac ardrethi annomestig).

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Fframwaith Polisi Trethi i esbonio sut yr ydym yn ceisio datblygu dull strategol, integredig ac effeithiol o ymdrin â threthi yng Nghymru, gyda chyfeiriad hirdymor clir, sy’n seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn.

Dylai trethi Cymru:

  • Godi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mor deg a phosibl
  • Cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, yn enwedig cefnogi twf a swyddi
  • Bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml
  • Cael eu datblygu trwy gydweithredu ac ymwneud
  • Cyfrannu at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal

Mae pandemig y coronafeirws wedi golygu bod angen inni ailystyried a gwerthuso ein hamcanion polisi sefydledig. Nid yw ein gwaith ar bolisi trethi yn wahanol. Byddai’r cynllun gwaith wedi cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth fel rheol, ond cafodd ei ohirio oherwydd bod adnoddau’n cael eu defnyddio i ymateb i’r pandemig. Mae’r oedi hwn wedi rhoi cyfle inni adlewyrchu ar y cyfeiriad strategol, tymor hwy yr hoffem ei ddatblygu efallai ar gyfer ein polisi trethi yng Nghymru. Byddwn yn cymryd y cyfle, pan fydd ar gael, i sicrhau bod ein hegwyddorion treth a’n cyfeiriad strategol ar gyfer polisi trethi yng Nghymru yn parhau i adlewyrchu a datblygu ein blaenoriaethau strategol ar gyfer Cymru.

Ers 2017, rydym wedi cyhoeddi cynlluniau gwaith blynyddol i ddangos yr hyn yr ydym yn edrych arno ar hyn o bryd, ac i alluogi unrhyw un sydd â diddordeb i gyfrannu. Bydd y cynllun diweddaraf yn berthnasol tan etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai 2021. Bydd yn canolbwyntio ar y tair thema ganlynol:

  1. Datblygu polisi trethi mor deg â phosibl, ochr yn ochr â blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru, a chan gydweithio â rhanddeiliaid.
  2. Gweithredu a datblygu trethi Cymru yng nghyddestun y DU.
  3. Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o drethi yng Nghymru.

Gan fod y cynllun gwaith diweddaraf hwn yn berthnasol tan ddiwedd y Senedd bresennol, caiff adroddiad ar gynnydd ei gyhoeddi yn nes at yr amser.

A. Datblygu polisi trethi mor deg â phosibl, ochr yn ochr â blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru, a chan gydweithio â rhanddeiliaid

1. Cryfhau’r sylfaen drethu yng Nghymru

Parhau i gymryd camau i gefnogi twf yn y sylfaen drethu yng Nghymru, a datblygu’r modd o fonitro cynnydd.

2. Parhau i adolygu’r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Sicrhau bod y trethi datganoledig yn gweithredu yn unol â’r bwriad, ac ystyried cyfleoedd i ddefnyddio’r trethi fel ysgogiad i gefnogi amcanion polisi ehangach. Mae hyn yn cynnwys ystyried effaith y newidiadau dros dro i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n gymwys i eiddo preswyl mewn ymateb i effeithiau pandemig y coronafeirws.

3. Bwrw ymlaen â Threth ar Dir Gwag

Parhau i geisio pwerau ar gyfer treth ar dir gwag, er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru ystyried opsiynau trethi i gefnogi’r amcan polisi o ddefnyddio tir segur mewn ffordd gynhyrchiol unwaith eto.

4. Nodi opsiynau ar gyfer talu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol

Ystyried sut y gellir defnyddio trethiant i dalu am ofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys datblygu dealltwriaeth o’r cynigion o safbwynt casglu, gweinyddu, dosbarthu a gweithredu sy’n gysylltiedig ag unrhyw gynigion. 

5. Ystyried yr achos o blaid datblygu trethi amgylcheddol newydd i Gymru, gan weithio lle bo’n briodol â Llywodraeth y DU

Parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu a gweithredu treth pecynnau plastig ledled y DU, a datblygu sylfaen dystiolaeth i ddeall yn well effaith trethi eraill yn ymwneud â’r amgylchedd.

6. Ymchwilio i’r achos dros alluogi’r awdurdodau lleol i gyflwyno Treth ar Dwristiaeth

Parhau i gasglu tystiolaeth a thrafod ac asesu gydag amrywiaeth o randdeiliaid ac arbenigwyr a oes achos i roi pwerau caniataol i awdurdodau lleol i weithredu treth ar dwristiaeth (ni fyddai hyn yn digwydd yn nhymor y Senedd bresennol). Bydd hyn yn cynnwys ystyried goblygiadau parhaus COVID-19 ar y diwydiant twristiaeth.

7. Cwblhau’r rhaglen gyhoeddedig o welliannau tymor byr a thymor canolig i’r trethi lleol

Mae’r diweddariad ar Ddiwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019, yn nodi’r camau i’w cymryd dros y flwyddyn nesaf i gwblhau’r gwaith i wella’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn unol â’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.

B. Gweithredu a datblygu Trethi Cymru yng nghyd-destun y DU

8. Archwilio sut y gallai Llywodraeth Cymru ymateb os oes angen gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru

Ystyried yr ymateb i’r ymgynghoriad: Datganoli Trethi yng Nghymru – Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru, sy’n ystyried amrywiaeth o senarios ar gyfer dwy dreth wedi’u datganoli’n llawn, y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, gan gynnwys effaith addasiadau i’r grant bloc o ganlyniad i fesurau a gyflwynwyd gan gyllideb y DU i drethi blaenorol y DU (treth dir y dreth stamp a threth dirlenwi).

9. Datblygu dull gweithredu mwy strategol o ran y ffordd y mae trethi’n gweithredu yng Nghymru

Ymgysylltu â phartneriaid i gydgynhyrchu cytundeb ar y cyd ynghylch y disgwyliadau ar gyfer sut y dylai trethi presennol a threthi’r dyfodol weithredu o safbwynt pobl a busnesau.

10. Asesu’r achos dros ddatganoli trethi ymhellach i Gymru

Wrth i amodau a goblygiadau ymadawiad y DU â’r UE a COVID-19 dod yn gliriach, nodi trethi newydd a phresennol y DU y dylid eu datganoli i Gymru a gwneud achos i Lywodraeth y DU.

C. Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o drethi yng Nghymru

11. Archwilio sut y gallai newidiadau posibl i gyfraddau treth incwm Cymru gael effaith ar drethdalwyr yng Nghymru

Archwilio effeithiau ariannol y codiadau a’r gostyngiadau yng nghyfraddau treth incwm Cymru ar dalwyr treth incwm yn ôl incwm, rhywedd, grŵp oedran, diwydiant, a lle maent yn byw yng Nghymru.

12. Rhannu arferion da ar strategaeth a pholisi trethi

Gweithio gyda Llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, a llywodraethau a sefydliadau rhyngwladol, i gyfnewid arferion da, cydweithredu ar heriau cyffredin a hybu dull gweithredu Cymru o ran polisi trethi.

13. Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am bolisi trethi Cymru

Defnyddio nifer o ddulliau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a chynhadledd dreth flynyddol, ceisio ffyrdd gwell o roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi trethi i drethdalwyr a rhanddeiliaid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth a manylion cysylltu

Mae gwybodaeth am drethi Cymru i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gallwch gysylltu â ni drwy gyfrif twitter Trysorlys Cymru @TrysorlysCymru neu drwy ebost: TrysorlysCymru@llyw.cymru

WG40451

© Hawlfraint y Goron 2020