Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles heddiw wedi croesawu cyllid gan yr UE i ymestyn cynllun sy'n rhoi hwb i ragolygon miloedd o bobl ar draws Cymru.
Mae'r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, sy'n cael ei rheoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, wedi cael £11.5 miliwn arall gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Bydd y cyllid yn caniatáu i sefydliadau trydydd sector ar draws Cymru gynnal prosiectau cymunedol gyda'r nod o wella sgiliau a chyflogadwyedd pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am dros chwe mis, neu sydd wedi'u heffeithio gan ffactorau fel cyflyrau iechyd neu broblemau iechyd meddwl sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio.
Mae'r gronfa hefyd yn darparu lleoliadau gwaith am dâl am hyd at 26 wythnos, gyda'r nod o helpu i bontio tuag at gyflogaeth gynaliadwy.
Lansiwyd y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn 2015, ac mae eisoes wedi helpu dros 11,000 o bobl. Bydd y cyllid ychwanegol hwn gan yr UE nawr yn darparu cymorth i 8,700 o bobl eraill dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys tua 3,000 o bobl ifanc.
Dywedodd Jeremy Miles:
"Rydyn ni eisoes wedi gweld mor llwyddiannus mae'r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol wedi bod yn gweithio gyda phobl i oresgyn rhwystrau rhag cyflogaeth. Mae hyn mor bwysig, nid yn unig i'r economi ond er mwyn codi hyder cymunedau ar draws y wlad.
"Gan ganolbwyntio ar helpu pobl sy'n wynebu heriau ychwanegol yn y farchnad swyddi, bydd y gronfa yn helpu i wneud Cymru'n gymdeithas decach, fwy ffyniannus a chynhwysol.
“Dyma enghraifft wych o'r ffordd mae Cymru'n dal i elwa'n sylweddol ar gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ac rwy’ mor falch y bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi dyfodol cymaint o bobl.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ruth Marks:
"Rydyn ni'n falch iawn o gael y cyfle i barhau i adeiladu ar lwyddiant y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol a chyllid yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, sydd mor bwysig nawr ag erioed. Mewn cyfnod o ansicrwydd i'n gwlad, bydd pawb yn falch o weld bod cyfle o hyd i estyn llaw a gwella bywydau'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur yng Nghymru.
"Ers i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ddechrau dosbarthu cyllid yr Undeb Ewropeaidd i'r trydydd sector, rydyn ni wedi helpu dros 60,000 o bobl i wella'u sgiliau a 10,000 o bobl i gael swyddi, ac rydyn ni'n falch tu hwnt o fedru parhau i gydweithio i wneud gwahaniaeth."