Cyllid i ddarparu a datblygu cyfleoedd Gwaith Ieuenctid i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
Pwy sy’n gymwys
Gall sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol wneud cais os ydynt yn:
- Gweithredu drwy Gymru gyfan (yn weithredol mewn 18 awdurdod lleol o leiaf)
- Darparu gwaith ieuenctid i bobl ifanc 11-25 oed yn unol â’r canlynol:
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid
- Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion
- Y Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid 2019
- Glynu wrth Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc.
Ceisiadau
Cynigir y bydd y cylch cyllido newydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.
I wneud cais am y grant, rhaid llenwi ffurflen gais a dychwelyd copi caled am 10am ar 4 Tachwedd 2019.
Ym mis Rhagfyr 2019 yn unig y bydd ceisiadau yn cael eu cytuno a byddant yn amodol ar ganlyniad yr adolygiad gwario sydd i ddod yn cadarnhau cyllidebau y tu hwnt i 2019-20.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan:
Y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid
Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach,
Cyffordd Llandudno,
LL31 9RZ
Rhif ffôn: 0300 062 5815
E-bost: youthwork@llyw.cymru