Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi y bydd cyfnod Datgan Diddordeb mewn cynllun grantiau, gwerth £1.5miliwn, ar agor ar 27 Mehefin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun grantiau ar gael i helpu prosiectau sy'n llesol i'r amgylchedd.

Bydd cyfnod cyntaf cynllun Grantiau Bach Glastir yn rhoi grantiau o hyd at £5,000 fesul cwsmer i gynnal gwaith cyfalaf sy'n lleihau allyriadau carbon, yn gwella ansawdd dŵr, yn lleihau'r risg o lifogydd ac yn cynyddu bioamrywiaeth frodorol Cymru.

Daeth cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet wrth iddi annerch Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru. Yn ei haraith, ailbwysleisiodd y rôl bwysig y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o leihau allyriadau carbon.

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Yn dilyn cyhoeddi cynllun Grantiau Bach Glastir ym mis Chwefror, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd y cyfnod cyntaf Datgan Diddordeb yn agor ar 27 Mehefin, gan ganolbwyntio ar fesurau a fydd yn cloi carbon.

“Bydd cyllid ar gael ar gyfer prosiectau sy'n plannu coetiroedd bychain, plannu coed ac yn creu ac adfer perthi (gwrych).

"Mae ffermio a'r amgylchedd yn mynd law yn llaw ac rwy'n falch o weld bod fy mhortffolio newydd yn dod â'r materion hollbwysig hyn ynghyd. Rydym wedi pennu targedau uchelgeisiol i leihau allyriadau carbon yng Nghymru ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth gyflawni'r nodau hynny. Byddwn felly'n annog ffermwyr a pherchnogion tir i fanteisio ar y cynllun grant hwn.”

Cynllun peilot yw Grantiau Bach Glastir. Mae'r cyfnod datgan diddordeb cyntaf yn werth £1.5miliwn, gyda grantiau o hyd at £5,000 ar gael fesul cwsmer i gynnal prosiectau cyfalaf.

Gofynnir i ffermwyr a pherchnogion tir gyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf cymwys a dewisir ceisiadau fel rhan o broses ddethol gystadleuol.

Y dyddiad cau ar gyfer Datgan Diddordeb yw 29 Gorffennaf 2016.

Rhaid Datgan Diddordeb drwy RPW Ar-lein. Os nad ydych wedi'ch cofrestru gydag RPW Ar-lein ac nad oes gennych god defnyddio, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 cyn gynted â phosibl.

I gael help i lenwi Datganiad Diddordeb Grantiau Bach Glastir ar-lein, ewch i RPW Ar-lein yn www.cymru.gov.uk/rpwarlein.

Telir am Grantiau Bach Glastir gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd fel rhan o Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020.