Mae'r grant datblygu capasiti'r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi cyfle i ysgolion uwchradd ganfod ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â phroblemau staffio tymor byr, gan gynyddu nifer yr athrawon a chynorthwywyr addysgu sy'n siarad Cymraeg.

Gall ysgolion wneud cais am y grant, sy'n agor ar gyfer ceisiadau yr wythnos hon. Bydd modd ei ddefnyddio o fis Medi 2025, gyda £900,000 ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Cafodd Ysgol Rhydywaun yn Aberdâr y grant yn 2024 i hyfforddi athrawon sydd eisoes yn addysgu yn yr ysgol, i addysgu pynciau nad ydynt o fewn eu harbenigedd arferol.
Roedd hyn wedi galluogi'r ysgol i addysgu dau bwnc Safon Uwch ychwanegol, sef Seicoleg a Throseddeg, sy'n golygu bod myfyrwyr wedi gallu parhau â'u hastudiaethau yn y Gymraeg yn yr ysgol, gyda mwy o opsiynau ar gael o ran pynciau.
Mae'r grant hefyd wedi caniatáu i'r ysgol i gydweithio ag ysgolion eraill yn yr ardal i ddatblygu gweithgareddau cyfoethogi, yn benodol mewn Mathemateg.
Dywedodd y Pennaeth, Lisa Williams:
Yma, yn Rhydywaun, mae'r grant i ddatblygu capasiti'r gweithlu addysg wedi sicrhau bod gennym ddarpariaeth ac adnoddau o ansawdd uchel i'n disgyblion a chyfleoedd dysgu proffesiynol llwyddiannus i'n staff.
Diolch i'r grant rydym wedi gallu sicrhau ein bod yn rhagweithiol wrth recriwtio a chadw athrawon a datblygu arbenigedd o fewn y proffesiwn. Oherwydd hynny, gwelwyd gwelliant ym mherfformiad a chyflawniad academaidd y disgyblion."
Y llynedd, dyfarnwyd 55 o grantiau i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog ledled Cymru. Dyma enghreifftiau o'r ffyrdd y mae ysgolion yn defnyddio'r cyllid:
- Darparu cyfleoedd i bobl ifanc sy'n gadael addysg gael profiad gwaith yn ystod blwyddyn allan neu brentisiaethau fel cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg
- Cydweithio ar draws ysgolion i ddarparu dysgu proffesiynol, yn enwedig mewn meysydd pwnc lle mae prinder
- Cynnig lleoliadau myfyrwyr israddedig sy'n rhoi profiad iddynt o fod mewn ystafell ddosbarth a'u hannog i ystyried addysgu fel gyrfa
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae datblygu gweithlu i addysgu Cymraeg fel pwnc, a darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, yn hanfodol er mwyn creu mwy o siaradwyr Cymraeg. Mae'r grant hwn yn un o'r cynlluniau arloesol sydd gennym ar waith i gyflawni hynny.
Rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn ac yn darparu'r cyfleoedd datblygu proffesiynol sydd eu hangen ar athrawon i barhau i godi safonau yn ein hysgolion.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:
Rydyn ni eisiau adeiladu Cymru lle mae pob dysgwr yn cael cyfle teg i siarad Cymraeg. Mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn nodi'r camau nesaf wrth i ni barhau i gydweithio tuag at filiwn o siaradwyr.
Mae grantiau fel hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod gennym y gweithlu i gyflawni'r uchelgais hon.
Mae'r grant ar gyfer datblygu capasiti'r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg yn un o nifer o gynlluniau i wella'r gweithlu addysgu Cymraeg yng Nghymru.
Maent yn cynnwys:
- Cynllun Pontio - cefnogi siaradwyr Cymraeg mewn ysgolion cynradd neu'r rhai sy'n addysgu mewn ysgolion y tu allan i Gymru i ddod yn athrawon ysgolion uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg
- Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory - cymhelliant o £5,000 i fyfyrwyr sy'n astudio i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu i addysgu'r Gymraeg fel pwnc.
- Bwrsariaeth cadw athrawon Cymraeg mewn addysg – bwrsariaeth o £5,000 i athrawon uwchradd sydd wedi dysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg am dair blynedd ers 2020 ac sy'n parhau i gael eu cyflogi yn eu pedwaredd flwyddyn o addysgu
- Parhau i ddatblygu llwybrau amgen i addysgu, gan gynnwys ehangu'r rhaglenni'r Brifysgol Agored a modelau amgen eraill, gan gynnwys rhaglen ysgol Metropolitan Caerdydd a achredwyd yn ddiweddar.
Amrywiaeth o gyrsiau am ddim i ymarferwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a ddarperir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, gan gynnwys cynllun Sabothol.