Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cynllun Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Mae pwerau Gweinidogion Cymru sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi’u cynnwys yn y canlynol:

  • Adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
  • Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
  • Adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Adran 18(1) o Ddeddf Tai 1996

4. Amcan polisi penodol y Cynllun

Mae amcan polisi penodol y cynllun hwn yn gysylltiedig â darparu tai fforddiadwy fel yr amlinellir yn ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i wneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi hyd yn oed yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.

Bydd yn cyfrannu at y targed o ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn nhymor y llywodraeth hon ac unrhyw darged dilynol a fydd yn cael ei osod gan lywodraethau'r dyfodol.

Bydd yn cael effaith gadarnhaol hefyd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gyfrannu'n benodol at Gymru iach a mwy cyfartal. Dangosir hyn gan fuddiannau clir o ran iechyd cael cartref o ansawdd da sy'n fforddiadwy mewn man diogel.

Y Grant Tai Cymdeithasol (SHG) yw'r brif raglen gyfalaf ar hyn o bryd sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel yng Nghymru gan awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae SHG yn rhaglen dreigl gyda llywodraethau olynol yn cytuno ar gyllid. Mae SHG yn darparu cyllid grant i awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gyflwyno cartrefi diogel ac ynni-effeithlon o ansawdd uchel ar gyfer rhent cymdeithasol, rhent canolradd a rhanberchnogaeth ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf.

Mae SHG yn gynllun gwaddol o drefniadau Cymorth Gwladwriaethol yr UE sydd wedi'i gynnwys o dan 'hawliau tad-cu'.

5. Diben y cynllun

Pwrpas y cynllun yw cefnogi'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy sy'n cynnwys y deiliadaethau a'r anghenion penodol canlynol:

Deiliadaeth

  • Tai Cymdeithasol (ar Rent Cymdeithasol)
  • Tai Cymdeithasol (nid ar rent cymdeithasol)
  • Rhent Canolradd
  • Rhanberchnogaeth

Angen

  • Anghenion Cyffredinol
  • Achub Morgeisi
  • Pobl Hŷn
  • Gofal ychwanegol i bobl hŷn
  • Tai â chymorth - Trais Domestig, Camddefnyddio Sylweddau, Cyn-droseddwyr, Digartrefedd, Anableddau Dysgu, Iechyd Meddwl, Ffoaduriaid, Anableddau Corfforol, Camddefnyddio Sylweddau, Pobl Ifanc Agored i Niwed neu unrhyw grwpiau cleientiaid eraill y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru

Math o weithgarwch

  • Prynu tir i adeiladu tai fforddiadwy
  • Adeiladu cartrefi fforddiadwy gan gynnwys dymchwel ac ailadeiladu stoc awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig presennol
  • Prynu cartrefi o'r farchnad agored neu gan ddatblygwyr preifat.
  • Caffael a datblygu adeiladau annomestig, e.e. swyddfeydd, gwestai, cartrefi gofal, llety myfyrwyr i dai fforddiadwy

6. Awdurdod(au) Cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r Cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori(au) o fentrau cymwys

Awdurdodau lleol yng Nghymru a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sydd wedi'u cofrestru gyda Llywodraeth Cymru.

8. Crynodeb o delerau ac amodau'r cynllun

Rhaid i bob cynllun sy'n cael Grant Tai Cymdeithasol:

  • Fod wedi'i leoli yng Nghymru a chael ei ddatblygu yn unol â blaenoriaethau tai strategol yr awdurdod lleol.
  • Cydymffurfio â'r safonau dylunio, ynni a chynnal a chadw perthnasol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
  • Cydymffurfio â pholisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Cymdeithasol a Chanolradd lle bo hynny'n berthnasol.
  • Cydymffurfio â chanllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru ar gyfer pob gweithgaredd o dan y cynllun.
  • Bod â'r holl gymeradwyaethau statudol angenrheidiol ar waith e.e. cynllunio, SAB, Rheoliadau Adeiladu ac ati. 
  • Sicrhau bod yr holl yswiriant angenrheidiol, bondiau perfformiad contractwr, premiymau gwarant yn eu lle.
  • Cydymffurfio â'r holl drefniadau cyllido gan fenthycwyr preifat neu'r PWLB.
  • Cydymffurfio â'r Safonau Rheoleiddio cyfredol ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru fel y nodir yn y Fframwaith rheoleiddio

Rhestrir rhagor o fanylion am y telerau ac amodau sy'n benodol i weithgareddau unigol isod:

Safonau

  • Mae prosesau craffu technegol Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod dyluniadau'n adlewyrchu anghenion cleientiaid fesul cynllun. Lle bynnag y bo'n bosibl, rhaid cynllunio cartrefi i safonau anghenion cyffredinol ar gyfer cartrefi newydd, ac i'r graddau y bo'n ymarferol gwneud hynny, caniatáu byw'n annibynnol.
  • Rhaid i bob cartrefi hunangynhwysol newydd gydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (WDQR 2021).
  • Rhaid i'r holl eiddo sydd ar werth ar y farchnad agored neu eiddo oddi ar y silff a brynwyd gan ddatblygwyr gydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023) o leiaf.
  • Ar gyfer llety a rennir, mae cyfuniadau o Ofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 (WDQR 2021), Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) neu fathau eraill o arfer da yn gymwys yn unol â gofynion penodol y grŵp cleientiaid.
  • Bydd pob cartref hunangynhwysol yn cael ei reoli a'i gynnal i gydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023).

Polisi rhenti

  • Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer anghenion cyffredinol neu bersonau hŷn gydymffurfio â pholisi Rhent Llywodraeth Cymru.
  • Rhaid i bob eiddo a ariennir gan grant ar gyfer rhent canolradd gydymffurfio â pholisi Rhent Canolradd Llywodraeth Cymru.

Gofynion adfachu

Pan fydd eiddo'n cael ei werthu, rhaid ailgylchu'r grant naill ai i'r gronfa Grant Cyfalaf wedi'i Ailgylchu (RCG) neu ei ad-dalu i Lywodraeth Cymru.

9. Sectorau i'w cefnogi

  • Y sector tai yng Nghymru
  • Y sector adeiladu

10. Hyd y cynllun

1 Ionawr 2021 hyd at 31 Mawrth 2026.

11. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn

Hyd at £2,300,000,000 (Dwy biliwn tri chan miliwn o bunnoedd) dros gyfnod y cynllun uchod.

12. Ffurf y cymorth

Darperir cymorth drwy gyllid grant uniongyrchol.

13. Sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

  • Cyfrifir cymorthdaliadau gan ddefnyddio'r Model Hyfywedd Safonol ("SVM"). Mae'r SVM yn fodel gwerth net presennol sy'n dangos y bwlch cyllido, h.y. lefel y grant sydd ei angen i adennill costau. Mae'r SVM yn cynnwys rhagdybiaethau ar incwm rhent a chodiadau rhent a chostau rheoli a chynnal eiddo.
  • Mae pob cynllun yn cael y swm o gymhorthdal sydd ei angen i bontio'r bwlch ariannu rhwng y rhenti dros oes y prosiect a'r costau datblygu/cynnal a chadw, yn amodol ar gap cyfradd grant o 70%. Gellir cynyddu'r cap os yw'r landlord cymdeithasol yn darparu digon o gyfiawnhad nad yw'r cynllun yn hyfyw ar y gyfradd sydd wedi'i gapio.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£30 miliwn

15. Manylion cyswllt

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image