Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Cynllun Grant Safleoedd Cyfalaf Sipsiwn a Theithwyr

3. Sail gyfreithiol y DU

‘Adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ac Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006’ ac ‘Adran 1(2), 1(3)d ac 1(7) o Ddeddf Asiantaeth Datblygu Cymru 1975’.

4. Amcanion polisi penodol y Cynllun

Mae'r dyraniad cyllideb cyfalaf ar gyfer y rhaglen safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn mynd ar drywydd yr amcan polisi i sicrhau bod yr arian hwn yn cyfrannu'n effeithiol at gyflawni'r ymrwymiad sydd wedi'i gynnwys yn y nod (ArWAP):

i gydnabod bod angen llety diogel, sy'n ddiwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o'u bywydau ac i fynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth safleoedd ac ansawdd llety gwael ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.

5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Awdurdodau lleol ar draws Cymru.

7. Sector(au) a gefnogir

  • Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd
  • Adeiladu
  • Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru
  • Cyflenwad dŵr, carthffosiaeth, rheoli gwastraff a gweithgareddau adfer

8. Hyd y cynllun

18 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2029.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun

Y gyllideb flynyddol ar draws Cymru yw £3.44 million.

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Asesodd Swyddogion Llywodraeth Cymru bob cais yn erbyn y meini prawf a nodwyd yn y canllawiau grant cyfalaf, gan argymell pa rai i'w cymeradwyo cyn dyfarnu'r grant. Fel rhan o'r broses fonitro, caiff pob grant ei fonitro trwy gyfarfodydd misol gyda'r awdurdodau lleol yn ogystal ag ymweliadau safle pan fo angen. Bydd ffurflenni cais am grant yn cael eu cyflwyno bob chwarter i hawlio ad-daliad unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau. Dyfernir y cymhorthdal hwn drwy grant cyfalaf i awdurdodau lleol sy'n gwneud cais yn ystod ffenestri bidio penodedig. Rhaid i gais awdurdod lleol am gyllid ddangos yn glir sut mae ei gynnig yn cyd-fynd â chynlluniau strategol lleol (e.e. y Cynllun Datblygu Lleol neu Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr)

Bydd y cymhorthdal hwn yn talu costau:

  • Datblygiad safle newydd (safleoedd preswyl parhaol a safleoedd tramwy). Ar ben hynny, gallai'r cymhorthdal dalu costau cefnogi mannau aros dros dro sy’n diwallu angen tramwy, hyd yn oed os yw’r gofyniad yn un tymhorol yn bennaf ac nid drwy gydol y flwyddyn. Bydd mannau aros dros dro yn cael eu hystyried cyn belled ag y gall awdurdodau lleol ddangos bod y cyfleusterau’n addas ac yn briodol.
  • Estyniadau safle i safleoedd presennol awdurdodau lleol
  • Adnewyddu safleoedd presennol awdurdodau lleol. Gall hyn gynnwys dymchwel blociau amwynder presennol ac adeiladu blociau newydd yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ‘Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr (2015)’.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Dyfernir cymorth yn seiliedig ar gynlluniau prosiect wedi'u costio sy'n amlinellu'r angen a sut y bydd y cymorth yn mynd i'r afael ag o, gyda chyllid yn cael ei ad-dalu yn seiliedig ar ddogfennau hawlio.

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£3 million.

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image