Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r cynllun hwn yn cynnwys myfyrwyr sydd i fod i ennill eu SAC ym mlwyddyn academaidd 2021/22 ac mae ar agor rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae'r cynllun grant hwn yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effaith pandemig COVID-19, ac mae ar waith i sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant sydd â’r gallu i gyflawni SAC yn cael y cyfle i wneud hynny. Mae'r cynllun hwn yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i fynd yn ôl i ysgolion partner AGA i gwblhau eu hyfforddiant a dod yn rhan o’r proffesiwn addysgu.

Nod y cynllun yw cefnogi athrawon dan hyfforddiant sydd wedi bodloni holl ofynion academaidd eu Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), ond nad ydynt wedi gallu dangos tystiolaeth lawn o'u cyflawniad ymarferol o SAC oherwydd effaith COVID a diffyg lleoliadau ysgol ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2021/22, fel y'i haseswyd gan eu partneriaeth AGA. Mae'r cynllun hwn yn rhoi cymorth ariannol i'r athrawon cymwys hynny dan hyfforddiant sydd angen y cyfle i gasglu tystiolaeth bellach mewn ysgolion partner AGA i fodloni'r holl ofynion ac ennill eu SAC.

Mae cyfeiriadau at raglenni AGA yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaglenni amser llawn ôl-raddedig
  • Rhaglenni amser llawn israddedig

Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni/cyrsiau hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR PCET) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Meini prawf cymhwystra ar gyfer y grant

Bydd Partneriaethau AGA yn sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant yn bodloni'r meini prawf o ran gweithgarwch a gwariant sy’n cael eu cynnwys o dan y cynllun hwn.

Pwy sy'n gymwys i gael y grant?

Mae'r grant hwn ar gael i athrawon dan hyfforddiant ym mlwyddyn academaidd 2021/2022 sy'n dilyn Rhaglen AGA achrededig amser llawn sy’n arwain at SAC. Ni all myfyrwyr AGA wneud cais uniongyrchol eu hunain i Lywodraeth Cymru ar gyfer y grant hwn. Rhaid i Bartneriaethau AGA wirio, asesu a phenderfynu ar gymhwystra athrawon dan hyfforddiant ar gyfer y grant hwn.

I fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Grant Addysg Gychwynnol i Athrawon mewn ymateb i COVID 19: cefnogi Profiad Ysgol BA 20/21 er mwyn ennill SAC, rhaid i athrawon dan hyfforddiant fodloni’r gofynion canlynol:

  • bod yn astudio rhaglen achrededig amser llawn Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) sy’n arwain at SAC, yng Nghymru
  • disgwyl gorffen eu rhaglen astudio ym mlwyddyn academaidd 2021/22 ac ennill SAC yn haf 2022
  • bod wedi cwblhau a chyflawni gofynion academaidd eu Rhaglen AGA, yn unol â barn broffesiynol eu Partneriaeth AGA
  • yn meddu ar y gallu i ennill SAC os cânt amser ychwanegol (o leiaf 2 wythnos ac 8 wythnos ar y mwyaf) mewn ysgol bartner AGA, yn ôl barn eu Partneriaeth AGA
  • heb fod wedi cyflawni SAC
  • heb fod wedi cael yr amser y gellid bod wedi’i dreulio mewn ysgol bartner AGA i ddangos prawf eu bod wedi llwyddo i fodloni safonau SAC, o ganlyniad i amgylchiadau personol (gan gynnwys cyflyrau meddygol sy'n eu gwneud yn agored i COVID neu ddal COVID) neu o ganlyniad i gau ysgol (Cenedlaethol/Lleol/Penodol)
  • parhau i fodloni'r gofynion diogelu a mynediad sy'n ofynnol ar gyfer ymuno ag unrhyw Raglen Achrededig Addysg Gychwynnol i Athrawon (gyda SAC) yng Nghymru
  • bwriadu ymuno â'r proffesiwn addysgu fel athrawon ysgol cymwysedig

Pa weithgarwch sy'n gymwys?

Mae'r grant hwn ar gael i athrawon cymwys dan hyfforddiant i gefnogi eu costau byw (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i lety, teithio a chynhaliaeth) yn ystod lleoliad ychwanegol athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion partner AGA, er mwyn iddynt gael y profiad atodol sydd ei angen i gyflawni SAC.

Rhaid i athrawon dan hyfforddiant fynd ar leoliadau mewn ysgolion partner AGA yng Nghymru rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023. Rhaid iddynt fod ar leoliad yn ystod y tymor yn un o’r ysgolion partner AGA yng Nghymru; mae gwyliau hanner tymor yn dderbyniol gan fod gwaith yn cael ei gynnal gan staff yn yr ysgol i baratoi ar gyfer dychweliad y disgyblion ac (mae'r cydweithio hwnnw’n rhan allweddol o'r gwaith y dylid rhoi tystiolaeth ohono, er mwyn bodloni safonau SAC).

Nid yw gweithgarwch o dan y grant hwn yn gwarantu bod athrawon dan hyfforddiant yn ennill SAC.

Talu'r grant

Pa grant sydd ar gael?

O dan y grant hwn mae gan bob athro cymwys dan hyfforddiant yr hawl i gael £300 yr wythnos am o leiaf 2 wythnos a dim mwy nag 8 wythnos i gefnogi costau byw. 

Mae isafswm o £600 ac uchafswm o £2,400 ar gael i bob athro cymwys dan hyfforddiant yn ôl amodau’r cynllun hwn. Bydd swm y grant i bob athro cymwys dan hyfforddiant yn cael ei addasu i ddiwallu anghenion lleoliad yr athrawon dan hyfforddiant unigol. Felly ni fydd angen i bob athro cymwys dan hyfforddiant gael yr 8 wythnos lawn o gymorth ac uchafswm y grant.

O dan y grant hwn, mae gan bob ysgol bartner AGA yr hawl i gael £100 yr wythnos, ar gyfer pob athro dan hyfforddiant am 8 wythnos ar y mwyaf, i gefnogi lleoliadau athrawon dan hyfforddiant sy’n gysylltiedig â'r cynllun hwn.

Mae isafswm o £200 ac uchafswm o £800 fesul lleoliad cymwys ar gael i ysgolion partner AGA o dan y cynllun hwn. Rhaid i hyd y cyfnod ar gyfer y lleoliad gael ei addasu i ddiwallu anghenion yr athrawon unigol sydd dan hyfforddiant. Felly ni fydd pob ysgol bartner AGA yn cael yr 8 wythnos lawn o gymorth ac uchafswm y grant sydd ar gael.

Pryd y bydd taliadau'n cael eu gwneud i ddarparwyr AGA

Rhaid i Bartneriaethau AGA gyflwyno ffurflenni datgan unigol i Lywodraeth Cymru ar gyfer pob athro cymwys dan hyfforddiant cyn i athrawon dan hyfforddiant ddechrau eu lleoliad mewn ysgol bartner AGA, ac erbyn 30 Medi 2022 fan bellaf. Mae'r datganiad yn cynnwys gwybodaeth sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru i weinyddu a gwerthuso’r cynllun, a rhaid i Bartneriaethau AGA rannu pob datganiad â Gweinidogion Cymru mewn modd diogel. Mae'r ffurflen ddatgan yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar y tudalennau gwe hyn. Os na fydd Gweinidogion Cymru yn cael y cadarnhad hwnnw, ni ellir gwneud taliadau grant.

Caiff taliadau eu gwneud i bartneriaethau AGA mewn ôl-daliadau. Rhaid i bartneriaethau AGA lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio chwarterol i Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau bod y taliad priodol yn cael ei ryddhau. Bydd Partneriaethau AGA yn cael gwybod am y dyddiadau cyflwyno drwy’r Llythyr Cynnig Grant. 

Mae darparwyr AGA yn gyfrifol am wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer rheolaethau rheoli lleol ar draws y garfan o athrawon cymwys dan hyfforddiant ym mlwyddyn academaidd 2021/22, ac am sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario at ddibenion gweithgarwch dyfarnu’r cyllid yn unig.  

Os bydd athrawon cymwys dan hyfforddiant wedi cwblhau, wedi methu â chyflawni SAC neu wedi  tynnu'n ôl cyn diwedd y cyfyngiad amser (8 wythnos) ni ddylid gwneud unrhyw daliadau pellach iddynt, nac ychwaith i’r ysgolion partner AGA y maent ar leoliad ynddynt.

Bydd ffurflenni datgan a hawlio’n cael eu dosbarthu i Bartneriaethau AGA yn uniongyrchol. Os ydych yn Bartneriaeth AGA ac mae gennych gwestiynau sy'n gysylltiedig â'r broses dalu, cysylltwch â ITEducationAddysgGA@llyw.cymru

Pryd y dylid gwneud taliadau grant i fyfyrwyr

Bydd darparwyr AGA yn gweinyddu'r grant hwn yn wythnosol i athrawon cymwys dan hyfforddiant. Bydd y darparwyr AGA yn penderfynu ar yr union ddyddiadau y gwneir y taliadau.

Dim ond i'r athrawon hynny dan hyfforddiant sy'n bodloni'r holl feini prawf o ran cymhwystra a gweithgarwch, ac sydd wedi trefnu lleoliad mewn ysgolion partner AGA rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023 y dylid gwneud taliadau.

Pryd y dylid gwneud taliadau i ysgolion partner AGA

Bydd darparwyr AGA yn gweinyddu'r grant hwn i ysgolion partner cymwys AGA mewn dau ôl-daliad chwarterol cyn 31 Mawrth 2023. Y partneriaethau AGA fydd yn cytuno ar y dyddiadau.

Dim ond i'r ysgolion partner AGA hynny sydd ag adnoddau digonol ac sydd wedi cefnogi athrawon dan hyfforddiant sy'n bodloni'r holl feini prawf o ran cymhwystra a gweithgarwch, gan sicrhau lleoliadau iddynt rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023, y dylid gwneud taliadau.

Pryd y dylai’r taliadau ddod i ben

Cyn gynted ag y bydd digon o dystiolaeth ar gael i ddyfarnu SAC, ni fydd athro/athrawes dan hyfforddiant yn parhau i fod yn gymwys i gael y grant hwn mwyach.

Cyn gynted ag y bydd athro/athrawes dan hyfforddiant wedi derbyn uchafswm y cyllid dros gyfnod o 8 wythnos, ni fydd yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn mwyach.

Os nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud gan athro/athrawes dan hyfforddiant (yn unol â barn broffesiynol y Bartneriaeth AGA berthnasol) ni fydd yn gymwys i gael y grant hwn mwyach.

Os bydd unrhyw athro/athrawes dan hyfforddiant yn methu â chwblhau cyfnod y lleoliad rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023 neu os yw wedi tynnu yn ôl o raglen neu wedi gohirio rhaglen, ni ddylid gwneud taliad.

Cyfrifoldebau Partneriaethau AGA

Nodi athrawon dan hyfforddiant

Partneriaethau AGA sy’n gyfrifol am nodi athrawon dan hyfforddiant sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra.

  • Rhaid i uwch aelodau addas o Bartneriaethau AGA mewn prifysgolion ac ysgolion benderfynu a yw athrawon dan hyfforddiant yn gymwys, gan ddefnyddio eu barn broffesiynol.
  • Rhaid i bob athro/athrawes dan hyfforddiant y bernir eu bod yn gymwys  fodloni'r holl feini prawf o ran cymhwystra a gweithgarwch.
  • Nid ystyrir bod yr athrawon dan hyfforddiant y bernir na allant ennill SAC (waeth beth am amser ychwanegol mewn ysgolion neu'r rhai nad ydynt wedi cwblhau eu gofynion academaidd) erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2021/22 yn gymwys.
  • Rhaid i ddarparwyr AGA wneud y trefniadau angenrheidiol mewn perthynas â rheolaethau rheoli lleol ar gyfer asesu parhaus, er mwyn sicrhau bod yr athrawon dan hyfforddiant hynny'n dal i ddangos bod y gallu ganddynt i ennill SAC.  
  • Dylid defnyddio cerrig milltir allweddol i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ac y gellir gwneud yr argymhelliad ar gyfer SAC cyn gynted â phosibl.

Lleoli athrawon dan hyfforddiant

Mae partneriaethau AGA yn gyfrifol am leoli athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion partner AGA addas. Er y gallai fod yn ddefnyddiol i athrawon dan hyfforddiant ac ysgolion Partner AGA sydd â pherthynas sefydledig barhau i weithio gyda'i gilydd, nid oes angen i'r lleoliadau hyn ddigwydd yn yr ysgolion Partner AGA blaenorol y mae'r athro/athrawes dan hyfforddiant wedi gweithio gyda nhw.

  • Dim ond mewn ysgolion partner AGA y gall gweithgarwch cymwys ddigwydd.
  • Rhaid bod gan yr ysgolion partner AGA a ddewisir ar gyfer lleoliadau adnoddau digonol i alluogi'r athro/athrawes dan hyfforddiant i ddangos tystiolaeth o fodloni safonau SAC ac i gefnogi'r cynllun hwn.
  • Os nad yw'r ysgol gychwynnol bellach yn briodol i gefnogi lleoliad athrawon dan hyfforddiant oherwydd amgylchiadau y tu allan i reolaeth yr athro cymwys (er enghraifft, cau ysgol, dileu statws ysgol bartner AGA) bydd partneriaethau AGA yn gwneud pob ymdrech resymol i leoli athrawon dan hyfforddiant cymwys o dan y cynllun hwn mewn ysgol bartner AGA amgen.
  • Rhaid i leoliadau athrawon dan hyfforddiant ddigwydd yn ystod sesiwn tymor ysgol bartner AGA, gan eithrio gwyliau'r Nadolig a'r Pasg. Mae gwyliau hanner tymor yn dderbyniol, gan fod gwaith yn cael ei gynnal rhwng staff yn yr ysgol wrth baratoi ar gyfer dychweliad y disgyblion; ac mae'r cydweithio hwnnw hefyd yn rhan allweddol o ddangos tystiolaeth i fodloni safonau SAC.

Gweinyddu'r grant hwn

Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am weinyddu'r grant hwn ar ran Llywodraeth Cymru. Rhaid i bob partneriaeth AGA:

  • sicrhau bod pob athro/athrawes dan hyfforddiant yn deall telerau'r grant
  • sicrhau bod pob ysgol bartner AGA yn deall telerau'r grant
  • nodi Llofnodion Awdurdodedig a dychwelyd y ffurflen lofnodion briodol i Lywodraeth Cymru, mewn modd diogel, cyn i unrhyw leoliad ddechrau, ac erbyn 30 Medi 2022 fan bellaf
  • unwaith y byddant wedi'u nodi, rhowch wybod i bob athro cymwys dan hyfforddiant sut mae cael hyd i ffurflen ddatgan ar gyfer myfyrwyr
  • casglu'r holl ffurflenni datgan wedi'u llofnodi, a’u dychwelyd i Lywodraeth Cymru, mewn modd diogel, cyn i unrhyw leoliad mewn ysgol bartner AGA ddechrau, erbyn 30 Medi 2022 fan bellaf
  • cyflwyno ffurflenni hawlio chwarterol i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr a mis Mawrth fel y nodir yn y Llythyr Cynnig Grant
  • gweinyddu'r taliadau grant i athrawon dan hyfforddiant yn wythnosol, hyd at y pwynt yn hyd y cyfnod y mae gan athro/athrawes hawl iddo
  • rhoi'r trefniadau angenrheidiol ar waith ar gyfer rheolaethau rheoli lleol
  • gweinyddu taliadau’r grant i ysgolion partner AGA mewn ôl-daliadau (Rhagfyr a Mawrth), hyd at y pwynt y mae gan yr ysgol bartner AGA hawl iddo yn seiliedig ar hyd cyfnod lleoliad athrawon dan hyfforddiant
  • mynychu cyfarfodydd monitro rheolaidd rhwng partneriaethau AGA â Llywodraeth Cymru
  • ymdrin ag ymholiadau athrawon dan hyfforddiant ac ysgolion mewn perthynas â'r grant

Cyhoeddir cyfrifoldebau llawn partneriaethau AGA mewn Llythyrau Cynnig Grant unigol. Os bydd gan Bartneriaethau AGA gwestiwn ynghylch y broses o weinyddu'r grant, dylent gysylltu â ITEducationAddysgGA@llyw.cymru

Gohirio (atal dros dro), tynnu'n ôl ac ailddechrau

Os bydd athrawon dan hyfforddiant yn gohirio (atal dros dro) eu lleoliad, ni fyddant yn gymwys i dderbyn taliadau wythnosol pellach. Fodd bynnag, os bydd athrawon dan hyfforddiant yn ailddechrau eu lleoliad dim mwy na phythefnos yn ddiweddarach, dylid cael caniatâd Llywodraeth Cymru i ailddechrau talu’r grant; am gyfnod llawn o 8 wythnos ar y mwyaf. Dim ond amgylchiadau lliniarol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) salwch, profedigaeth neu gau ysgol,  fydd yn cael eu hystyried yn rheswm addas dros gael toriad yn y gweithgarwch cymwys. 

Os bydd athrawon dan hyfforddiant yn ailddechrau eu lleoliadau AGA ar ôl 1 Ebrill 2023, ni fyddant yn gymwys i dderbyn taliadau o dan y cynllun hwn.

Bydd gan unigolion sy'n tynnu'n ôl o'u lleoliadau AGA neu o’u rhaglen AGA cyn 31 Mawrth 2023 yr hawl i daliadau a dderbyniwyd eisoes yn unig, hyd at yr wythnos lawn olaf yr oeddent yn bresennol mewn ysgol bartner AGA.

Os nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud gan athrawon dan hyfforddiant (yn unol â barn broffesiynol ei Bartneriaeth AGA), ni fyddant yn gymwys i gael y grant hwn o hynny ymlaen.

Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt y disgresiwn i arfer neu beidio ag arfer y pwerau hynny, a byddant yn ystyried pob achos unigol ar sail teilyngdod.

Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Weinidogion Cymru:

  1. os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwystra a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn y canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  2. os bydd y derbynnydd wedi darparu yn ei gais am grant, neu mewn cysylltiad ag ef, wybodaeth sy'n anwir neu'n sylweddol gamarweiniol; neu mae tystiolaeth gadarn nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen AGA nac, ar ôl ei chwblhau, ddechrau addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae gwybodaeth y mae athrawon dan hyfforddiant yn ei chyflwyno fel rhan o'u datganiad o dan Gynllun Grant Addysg Gychwynnol i Athrawon mewn ymateb i COVID 19: cefnogi Profiad Ysgol BA 20/21 er mwyn ennill SAC yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR) y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).

Mae athrawon dan hyfforddiant hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr ynghylch:

  1. datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais datgelu o dan yr FOIA neu'r EIR a/neu
  2. esemptio unrhyw wybodaeth o’r gofynion datgelu o dan yr FOIA neu’r EIR
  3. cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu hunaniaeth. Gall Llywodraeth Cymru rannu eich gwybodaeth bersonol ag asiantaethau atal twyll
  4. rhannu a chysylltu gwybodaeth amdanoch â setiau data eraill os yw’r gyfraith yn caniatáu neu â Chyngor y Gweithlu Addysg neu Drydydd Parti sydd wedi'i gontractio i wneud gwaith ymchwil cymeradwy ar ran Llywodraeth Cymru 
  5. rheoli data – Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd (PN00000594) a 'Hysbysiad preifatrwydd: Grantiau Llywodraeth Cymru'