Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb gweithredol

Ar 1 Ebrill 2013, cafodd Budd-dal y Dreth Gyngor yng Nghymru ei ddisodli gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (y Cynllun Gostyngiadau), a chafodd aelwydydd cymwys eu trosglwyddo'n awtomatig i'r cynllun newydd. Roedd Rheoliadau Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn seiliedig i raddau helaeth ar yr hen reolau ar gyfer Budd-dal y Dreth Gyngor. Roedd hyn yn sicrhau bod aelwydydd yn cadw eu hawl i gael cymorth i gyflawni eu hatebolrwydd i dalu'r dreth gyngor. Rydym wedi diwygio'r Rheoliadau gwreiddiol bob blwyddyn ers hynny er mwyn cynnal yr hawliau hyn. 

Rhoesom £244 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer blwyddyn ariannol 2013 i 2014 i’w galluogi i roi’r cymorth llawn y mae gan bob aelwyd gymwys yr hawl i’w gael. Rydym wedi cynnal y trefniadau ariannu hyn bob blwyddyn ers hynny.

Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am roi Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar waith yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024. Mae hyn yn helpu i sicrhau tryloywder mewn maes y mae cyllid sylweddol yn parhau i gael ei ddyrannu iddo.

Y prif ffigurau

  • Roedd 258,685 o aelwydydd yng Nghymru yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2024, o'i gymharu â 260,912 ym mis Mawrth 2023, sy'n lleihad o 2,227 o achosion (0.9%).
  • Tua £301.1 miliwn oedd cyfanswm gwerth y gostyngiadau a roddwyd drwy’r Cynllun Gostyngiadau yng Nghymru rhwng 2023 a 2024, o’i gymharu â £287.2 miliwn yn y flwyddyn ariannol flaenorol, sy'n gynnydd o oddeutu £13.9 miliwn (4.6%).
  • Roedd 101,563 o aelwydydd pensiynwyr yng Nghymru yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2024, o’i gymharu â 102,526 ym mis Mawrth 2023. Mae hyn yn golygu bod llwyth achosion pensiynwyr yn cynnwys 963 yn llai o achosion (0.9 %).
  • Roedd 157,122 o aelwydydd oedran gweithio yng Nghymru yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2024, o’i gymharu â 158,386 ym mis Mawrth 2023, sy’n lleihad o 1,264 o achosion (0.8%).
  • O blith y 258,685 o aelwydydd yng Nghymru a oedd yn cael gostyngiad, nid oedd 214,434 (82.9%) yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
  • Ym mis Mawrth 2024, roedd 42% o’r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn achosion wedi’u pasbortio, ac 18% yn achosion safonol heb eu pasbortio. Roedd 40% o aelwydydd a gafodd ostyngiad yn y dreth gyngor yn derbyn Credyd Cynhwysol.
  • Roedd 85.1% o'r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn byw mewn eiddo ym mandiau A i C ym mis Mawrth 2024.
  • Cafodd Tribiwnlys Prisio Cymru 26 apêl newydd yn ymwneud â’r Cynllun Gostyngiadau rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, o’i gymharu â 19 yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

Cefndir

Yn yr Adolygiad o Wariant yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bwriad i ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor. Trosglwyddodd y cyfrifoldeb i awdurdodau lleol yn Lloegr ddatblygu trefniadau newydd. Ar yr un pryd, cyhoeddodd gynlluniau i drosglwyddo cyllid i'r llywodraethau datganoledig yng Nghymru a’r Alban, gan ddisgwyl y bydden nhw’n sefydlu trefniadau newydd. Cafodd y cyllid i roi cymorth ar gyfer y dreth gyngor ei drosglwyddo o gyllidebau seiliedig ar alw i gyllidebau sefydlog, gan ei chwtogi 10%.

Ar 1 Ebrill 2013, cafodd Budd-dal y Dreth Gyngor yng Nghymru ei ddisodli gan y Cynllun Gostyngiadau. Cafodd aelwydydd cymwys eu trosglwyddo'n awtomatig i'r cynllun newydd. Roedd y rheoliadau a gyflwynwyd gennym yn 2013 yn seiliedig i raddau helaeth ar yr hen reolau ar gyfer Budd-dal y Dreth Gyngor i gynnal yr hawl i gymorth. Rhoddwyd rhywfaint o ddisgresiwn lleol i’r awdurdodau lleol hefyd, sy’n galluogi pob un ohonynt i ystyried anghenion a blaenoriaethau eu hardal leol.

Darparwyd £244 miliwn yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2013 i 2014. Cafodd cyllideb sefydlog o £222 miliwn ei throsglwyddo gan Lywodraeth y DU. Rhoesom £22 miliwn ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i barhau i roi’r cymorth llawn y mae gan bob aelwyd gymwys yr hawl i’w gael. Rydym wedi parhau i gynnal y trefniadau hyn bob blwyddyn ers hynny. Rydym hefyd wedi parhau i gynnal yr holl hawliau i gael cymorth o dan y cynllun. Mae newidiadau yn niferoedd llwythi achosion yn adlewyrchu newidiadau yn nifer yr aelwydydd sy'n ymgeisio ac yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cymorth. 

Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn darparu data diwedd blwyddyn ar gyfer Cymru. Mae’n cynnwys llwythi gwaith a gwerth gostyngiadau rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024 yn seiliedig ar ddata rheoli achosion. Mae hefyd yn darparu dadansoddiad o'r tueddiadau a'r patrymau ers i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor gael ei gyflwyno. Mae'r holl ffigurau sy'n ymwneud â gwerth gostyngiadau wedi'u talgrynnu i'r £1,000 agosaf.

Mae Atodiad a yn darparu ystadegau ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024. 

Y Cynllun Gostyngiadau yng Nghymru

Daw'r data o offeryn modelu a rhagamcanu sy'n tynnu allan gwybodaeth fanwl am achosion Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor o systemau refeniw a budd-daliadau craidd awdurdodau lleol Cymru. Cymerir cipluniau o lwyth achosion Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn fisol a defnyddir yr wybodaeth i amcangyfrif cyfanswm gwerth y gostyngiadau ar gyfer y flwyddyn. Mae'r wybodaeth yn rhoi manylion cyfanswm y llwyth achosion ym mis Mawrth 2024 a gwerth y dyfarniadau a ddarparwyd yn y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024. Mae llwyth achosion yn cyfeirio at aelwydydd yn hytrach nag unigolion. Mewn geiriau eraill, mae rhai achosion yn cyfeirio at unigolyn, ac achosion eraill yn cyfeirio at gwpl neu deulu.

Mae Tabl 1 yn dangos mai 258,685 oedd cyfanswm y llwyth achosion ym mis Mawrth 2024. Mae hyn yn cymharu â 260,912 ym mis Mawrth 2023. Felly, mae’r llwyth achosion wedi gostwng 2,227 o achosion (0.9%).

Mae llwyth achosion 18 o awdurdodau lleol wedi lleihau. Gwynedd welodd y gostyngiad canrannol mwyaf yn y llwyth achosion (4.2%). 

Gwelodd pedwar awdurdod lleol gynnydd mewn llwyth achosion gyda'r cynnydd canrannol mwyaf yn Abertawe (2.5%).

Tabl 1: Llwyth Achosion y Cynllun Gostyngiadau yng Nghymru
Awdurdod lleolMawrth 2023Mawrth 2024% y newid 
Ynys Môn5,5575,524-0.6
Gwynedd8,4498,091-4.2
Conwy9,7429,586-1.6
Sir Ddinbych8,9688,786-2.0
Sir y Fflint10,23110,221-0.1
Wrecsam11,00611,0570.5
Powys9,0658,994-0.8
Ceredigion5,2785,152-2.4
Sir Benfro9,1698,960-2.3
Sir Gaerfyrddin15,14815,2480.7
Abertawe20,56321,0762.5
Castell-nedd Port Talbot15,71915,439-1.8
Pen-y-bont ar Ogwr12,55212,426-1.0
Bro Morgannwg9,0718,951-1.3
Rhondda Cynon Taf23,54423,398-0.6
Merthyr Tudful5,8905,778-1.9
Caerffili15,96516,0340.4
Blaenau Gwent8,4268,269-1.9
Torfaen9,6429,488-1.6
Sir Fynwy5,5315,478-1.0
Casnewydd12,39912,217-1.5
Caerdydd28,99728,512-1.7
Cymru260,912258,685-0.9

Ffynhonnell: Datatank Connect

Gwerth y gostyngiad yw faint y mae’r atebolrwrwydd i dalu’r dreth gyngor wedi’i gostwng ar gyfer aelwydydd sy'n cael gostyngiad. Mae awdurdodau lleol yn cael arian i wneud iawn am yr incwm treth gyngor y byddent yn ei gael fel arall gan aelwydydd sy’n gymwys i gael cymorth ac sy’n gwneud cais amdano. Mae hynny’n golygu bod aelwydydd cymwys yn cael bil treth gyngor llai neu nad oes ganddynt unrhyw fil i’w dalu.

Cyfanswm gwerth y gostyngiadau a ddarparwyd i holl aelwydydd Cymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024 oedd £301.1 miliwn, o'i gymharu â £287.2 miliwn yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae hyn yn gynnydd o £13.9 miliwn (4.6%).

Bu cynnydd yng ngwerth y gostyngiadau a ddarparwyd ym mhob awdurdod lleol. Yn Abertawe a Chaerffili oedd y cynnydd mwyaf (7.5%), ac yng Ngwynedd oedd y cynnydd lleiaf (1%). Mae Tabl 2 yn dangos ffigurau ar gyfer cyfanswm gwerth y gostyngiadau yn ôl awdurdod lleol.

Tabl 2: Cyfanswm gwerth dyfarniadau’r Cynllun Gostyngiadau yng Nghymru
 Awdurdod lleolCyfanswm 2022 i  2023 (£ mil)Cyfanswm 2023 i 2024 (£ mil)% y newid
Ynys Môn6,1246,2642.2
Gwynedd9,5929,6921.0
Conwy10,88511,7067.0
Sir Ddinbych10,46410,7242.4
Sir y Fflint11,65412,2755.1
Wrecsam11,63412,4336.4
Powys10,62411,1464.7
Ceredigion6,1366,4144.3
Sir Benfro9,3539,8194.7
Sir Gaerfyrddin16,77418,1037.3
Abertawe22,02623,8127.5
Castell-nedd Port Talbot18,02118,6363.3
Pen-y-bont ar Ogwr14,82315,4504.1
Bro Morgannwg10,87911,3944.5
Rhondda Cynon Taf24,26925,2333.8
Merthyr Tudful6,5146,7533.5
Caerffili15,09716,3187.5
Blaenau Gwent9,4849,7122.3
Torfaen10,07210,2641.9
Sir Fynwy7,0827,3894.1
Casnewydd12,25013,0556.2
Caerdydd33,45634,5293.1
Cymru287,213301,1214.6

Ffynhonnell: Datatank Connect

Bydd cyfanswm gwerth y gostyngiadau a ddarperir yn cael eu heffeithio gan godiadau blynyddol yn y dreth gyngor ym mhob awdurdod lleol.

Mae Tabl 3 yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd yn y dreth gyngor yn ôl awdurdod lleol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Tabl 3: Cynnydd yn y dreth gyngor ar gyfer 2023 i 2024 
Awdurdod lleolTreth Gyngor Band D ar gyfartaledd 2023 i 2024 (£)Cynnydd blynyddol (%)
Ynys Môn1,8255.0 
Gwynedd1,9875.0 
Conwy1,9648.9 
Sir Ddinbych1,9284.0 
Sir y Fflint1,9065.0 
Wrecsam1,8435.8 
Powys1,9135.5 
Ceredigion1,9087.4 
Sir Benfro1,6967.4 
Sir Gaerfyrddin1,9097.2 
Abertawe1,8946.2 
Castell-nedd Port Talbot2,1125.0 
Pen-y-bont ar Ogwr2,0525.2 
Bro Morgannwg1,8445.3 
Rhondda Cynon Taf1,972  4.5 
Merthyr Tudful2,1555.1 
Caerffili1,6937.7 
Blaenau Gwent2,1824.0 
Torfaen1,8522.7 
Sir Fynwy1,9606.1 
Casnewydd1,7138.2 
Caerdydd1,7164.6 
Cymru1,8795.8 

 Ffynhonnell: Ffurflenni Gofyniad Cyllidebol oddi wrth awdurdodau lleol

Mae Tabl 4 yn dangos bod 18.3% o aelwydydd ar draws Cymru sy'n agored i dalu’r dreth gyngor yn cael gostyngiad ym mis Mawrth 2024.

Mae'r ffigur hwn yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall. Gan Sir Fynwy y mae'r nifer lleiaf o achosion o ostyngiadau o'i gymharu â'r holl aelwydydd sy'n atebol i dalu’r dreth gyngor (12.8%), a Blaenau Gwent sydd â'r llwyth achosion mwyaf o'i gymharu â'r holl aelwydydd sy'n atebol i dalu’r dreth gyngor (25.7%).

Tabl 4: Achosion y Cynllun Gostyngiadau mewn cymhariaeth ag aelwydydd sy'n agored i dalu’r dreth gyngor
 Awdurdod lleolNifer yr aelwydydd atebol 2023 i 2024 (a)Llwyth achosion Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor Mawrth 2024 (b)Achosion o'u cymharu ag aelwyd atebol (%)
Ynys Môn34,4185,52416.0
Gwynedd57,1918,09114.1
Conwy55,8419,58617.2
Sir Ddinbych44,8438,78619.6
Sir y Fflint68,90810,22114.8
Wrecsam59,30111,05718.6
Powys64,0308,99414.0
Ceredigion33,8565,15215.2
Sir Benfro60,5348,96014.8
Sir Gaerfyrddin86,99615,24817.5
Abertawe108,01021,07619.5
Castell-nedd Port Talbot64,61915,43923.9
Pen-y-bont ar Ogwr64,77512,42619.2
Bro Morgannwg59,8818,95114.9
Rhondda Cynon Taf106,73023,39821.9
Merthyr Tudful26,8355,77821.5
Caerffili78,34616,03420.5
Blaenau Gwent32,1538,26925.7
Torfaen42,1119,48822.5
Sir Fynwy42,7295,47812.8
Casnewydd68,60212,21717.8
Caerdydd150,37328,51219.0
Cymru1,411,082258,68518.3

(a) Ffynhonnell: Ffurflenni Anheddau sy'n Talu'r Dreth Gyngor (CT1) oddi wrth yr awdurdodau lleol
(b) Ffynhonnell: Datatank Connect

Tueddiadau a Phatrymau

Yn ogystal â ffigurau cyffredinol am lwyth achosion a gostyngiadau, mae'r arf modelu a rhagamcanu hefyd yn rhoi gwybodaeth gryno am nodweddion amrywiol yr aelwydydd sy'n cael gostyngiad y dreth gyngor.

Llwyth achosion cyffredinol

Mae Ffigur 1 yn dangos tuedd y llwyth achosion ers i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor gael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2013. 

Image
Mae Ffigur 1 yn dangos tuedd y llwyth achos ers cyflwyno CTRS ym mis Ebrill 2013. Mae hyn yn dangos, rhwng Ebrill 2013 a dechrau Mawrth 2024, bod y llwyth achosion wedi gostwng dros 64,000 i 258,685.

Rhwng mis Ebrill 2013 a dechrau mis Ebrill 2020 mae'r llwyth achosion wedi gostwng dros 50,000. Oherwydd effaith y pandemig, aeth y duedd hon i’r cyfeiriad arall dros dro yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud ac erbyn mis Awst 2020 roedd lefelau wedi cynyddu i 285,553, yr uchaf ers mis Tachwedd 2017. Dechreuodd y llwyth achosion ostwng wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio ac ym mis Mawrth 2024, 258,685 oedd cyfanswm y llwyth achosion. Mae hyn yn ostyngiad o 20% o’i gymharu â mis Mai 2013. Mae Tabl 5 yn dangos y gostyngiad yn ôl oedran gweithio ac aelwydydd oedran pensiwn.

Tabl 5: Llwyth achosion y Cynlluniau Gostyngiadau rhwng mis Mai 2013 a mis Mawrth 2024
AelwydyddMai 2013Mawrth 2024% y gostyngiad
Oedran gweithio186,759157,122 16%
Oedran pensiwn  135,204  101,563 25%
Cyfanswm321,963258,68520%

Ers 2013 mae llwyth achosion cyffredinol aelwydydd pensiynwyr ledled Cymru wedi gostwng 25%. Gallai hyn fod yn rhannol oherwydd newidiadau yn oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer dynion a menywod. Cynyddwyd yr oedran pensiwn i 66 ar gyfer dynion a menywod ym mis Hydref 2020. Mae’n bosibl hefyd y bu gostyngiad yng nghyfran y pensiynwyr sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor am reswm arall. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys pensiynwyr newydd sydd ag incwm uwch sy'n fwy tebygol o fod yn berchen-feddianwyr ac yn llai tebygol o wneud cais am ostyngiad. 

Mae Tabl A1 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau misol ar gyfer y llwyth achosion byw ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024 yn ôl awdurdod lleol. Mae’n rhoi dadansoddiad pellach yn ôl llwythi achosion oedran gweithio ac oedran pensiwn.

Llwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau yn ôl oedran 

Mae Ffigur 6 yn nodi canran yr aelwydydd sy'n cael Gostyngiad y Dreth Gyngor yn ôl grŵp oedran ac awdurdod lleol. 

  • Llwyth achosion cynllun gostyngiadau Caerdydd sydd â'r gyfran uchaf o aelwydydd oedran gweithio (68.3%) ac felly y gyfran isaf o aelwydydd oedran pensiwn (31.7%).
  • Llwyth achosion cynllun gostyngiadau Gwynedd sydd â'r cyfrannau uchaf o aelwydydd pensiynwyr (47.8%) a'r cyfrannau isaf o aelwydydd oedran gweithio (52.2%).
Tabl 6: Cyfran yr aelwydydd sy'n cael gostyngiad y dreth gyngor yn ôl grŵp oedran ym mis Mawrth 2024
Awdurdod lleolLlwyth Achosion Oedran GweithioLlwyth Achosion Oedran Pensiwn
   Caerdydd68.1%31.9%
   Casnewydd64.2%35.8%
   Castell-nedd Port Talbot63.4%36.6%
   Rhondda Cynon Taf63.2%36.8%
   Pen-y-bont ar Ogwr62.8%37.2%
   Torfaen62.6%37.4%
   Abertawe62.3%37.7%
   Merthyr Tudful62.1%37.9%
   Wrecsam61.4%38.6%
   Blaenau Gwent60.7%39.3%
   Bro Morgannwg60.6%39.4%
   Caerffili59.2%40.8%
   Ceredigion58.6%41.4%
   Sir Gaerfyrddin58.6%41.4%
   Sir Ddinbych57.2%42.8%
   Sir Fynwy56.0%44.0%
   Conwy55.5%44.5%
   Powys55.0%45.0%
   Sir Benfro54.9%45.1%
   Sir y Fflint54.9%45.1%
   Ynys Môn54.9%45.1%
   Gwynedd52.2%47.8%

Ffynhonnell: Datatank Connect

Mae Tabl A2 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau ar gyfer y llwyth achosion gwirioneddol yn ôl grŵp oedran gan ddangos y newid canrannol rhwng mis Mawrth 2023 a mis Mawrth 2024.

Ym mis Mawrth 2024, roedd 157,122 o achosion oedran gweithio. Mae hyn yn ostyngiad o 1,264 o achosion o’i gymharu â mis Mawrth 2023 (0.8%). Yng Ngwynedd yr oedd y gostyngiad mwyaf (5.7%), ac yn Abertawe oedd y cynnydd mwyaf (3.9%).

Roedd 101,563 o aelwydydd pensiynwyr yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2024 o'i gymharu â 102,526 ym mis Mawrth 2023. Mae hyn yn lleihad o 0.9%. Yng Ngwynedd oedd y lleihad mwyaf (2.6%), ac yn Nhorfaen oedd y cynnydd mwyaf (0.8%).

Llwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau yn ôl gwerth y dyfarniad

Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, gall aelwydydd sy'n cael gostyngiad yng Nghymru fod â hawl i gael naill ai ddyfarniad Cynllun Gostyngiadau llawn pan fo eu hatebolrwydd i dalu’r dreth gyngor yn gostwng i sero, neu ddyfarniad rhannol pan fo rhwymedigaeth arnynt o hyd i dalu rhan o'u bil treth gyngor.

Yng Nghymru ym mis Mawrth 2024, cafodd 82.9% (214,434) o aelwydydd sy'n cael gostyngiad ddyfarniad llawn ac nid oeddent yn atebol i dalu unrhyw dreth gyngor. Ar draws awdurdodau lleol mae hyn yn amrywio o 76% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn Sir Fynwy i 87.6% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yng Nghasnewydd.

Tabl 7: Canran yr aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor a gafodd ddyfarniad llawn ym mis Mawrth 2024
  Awdurdod lleolCyfanswm nifer y dyfarniadauDyfarniad CTR llawn%
Ynys Môn5,5244,39279.5
Gwynedd8,0916,58281.3
Conwy9,5867,73980.7
Sir Ddinbych8,7867,15681.4
Sir y Fflint10,2218,03378.6
Wrecsam11,0578,71878.8
Powys8,9947,00777.9
Ceredigion5,1524,10779.7
Sir Benfro8,9607,49883.7
Sir Gaerfyrddin15,24812,57482.5
Abertawe21,07618,11686.0
Castell-nedd Port Talbot15,43912,96684.0
Pen-y-bont ar Ogwr12,42610,01780.6
Bro Morgannwg8,9517,28281.4
Rhondda Cynon Taf23,39820,05585.7
Merthyr Tudful5,7784,86284.1
Caerffili16,03413,85686.4
Blaenau Gwent8,2696,53479.0
Torfaen9,4887,65680.7
Sir Fynwy5,4784,16276.0
Casnewydd12,21710,70087.6
Caerdydd28,51224,42285.7
Cymru258,685214,43482.9

Ffynhonnell: Datatank Connect

Llwyth achosion Cynllun Gostyngiadau yn ôl statws asesu

Os yw aelwyd yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA) neu Gredyd Pensiwn (Credyd Gwarant), cyfeirir ati fel ‘achos wedi’i basbortio’. Mae hyn oherwydd y bydd ganddynt hawl i gael cymorth o 100% (llai unrhyw ddidyniadau perthnasol) pan asesir ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau.

Os nad yw aelwyd yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, neu os yw'n cael Credyd Cynhwysol, cyfeirir ati fel ‘achos heb ei basbortio’.

Mae Ffigur 2 yn nodi cyfran yr aelwydydd sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau yn ôl statws asesu ers mis Mawrth 2019 ac mae'n dangos:

  • Achosion wedi’u pasbortio oedd 42.1% o lwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau ym mis Mawrth 2024. Mae hyn yn cymharu â 61% ym mis Mawrth 2019.
  • Roedd achosion safonol heb eu pasbortio yn cyfrif am 18.0% o achosion y Cynllun Gostyngiadau ym mis Mawrth 2024, o'i gymharu â 27.2% ym mis Mawrth 2019.
  • Aelwydydd a oedd yn cael Credyd Cynhwysol oedd 39.9% o lwyth achosion cyffredinol gostyngiadau yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2024 o'i gymharu ag 11.7% yn 2019.
Image
Mae Ffigur 2 yn dangos y gyfran o aelwydydd CTR yn ôl statws asesu ym mis Mawrth 2019 a Mawrth 2024

Wrth i'r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol barhau, bydd disgwyl i gyfran yr achosion wedi’u pasbortio ac achosion safonol heb eu pasbortio barhau i ostwng, tra bydd disgwyl i gyfran yr achosion Credyd Cynhwysol barhau i gynyddu.

Mae tabl 8 yn dangos cyfran aelwydydd y Cynllun Gostyngiadau yn ôl statws ar gyfer pob awdurdod lleol ym mis Mawrth 2024. Mae'n dangos y canlynol:

  • Yn Wrecsam, mae bron i 46% o aelwydydd y Cynllun Gostyngiadau yn cael Credyd Cynhwysol, gyda 35% o achosion yn cael budd-daliadau wedi’u pasbortio.
  • Mewn cyferbyniad, yng Ngwynedd, mae 45% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn derbyn budd-daliadau wedi’u pasbortio gyda dim ond 34% yn derbyn Credyd Cynhwysol. 
Tabl 8: Canran aelwydydd y Cynllun Gostyngiadau yn ôl statws asesu, mis Mawrth 2024
Awdurdod lleolHeb eu pasbortioWedi'u pasbortio Credyd Cynhwysol
Wrecsam18.7%35.4%45.9%
Torfaen18.1%37.3%44.5%
Caerdydd15.8%39.9%44.2%
Casnewydd14.8%42.0%43.2%
Pen-y-bont ar Ogwr17.9%40.6%41.5%
Merthyr Tudful15.5%43.0%41.4%
Castell-nedd Port Talbot17.2%41.7%41.1%
Abertawe15.2%44.7%40.1%
Rhondda Cynon Taf16.8%43.5%39.7%
Blaenau Gwent19.4%41.5%39.1%
Sir y Fflint23.3%38.0%38.7%
Bro Morgannwg19.6%41.9%38.6%
Sir Fynwy21.7%40.2%38.1%
Sir Ddinbych19.7%42.3%38.0%
Powys21.8%40.6%37.6%
Sir Gaerfyrddin18.6%43.8%37.6%
Conwy19.2%43.4%37.5%
Ceredigion18.7%44.2%37.2%
Caerffili17.3%46.6%36.0%
Ynys Môn20.9%43.1%36.0%
Sir Benfro19.1%45.6%35.3%
Gwynedd20.6%45.3%34.1%

 Ffynhonnell: Datatank Connect

Newidiadau i’r llwyth achosion yn ôl statws incwm

Yn ffigur 3 gwelir y newid mewn llwyth achosion yn ôl statws incwm rhwng Mawrth 2019 a Mawrth 2024. Mae’n dangos y canlynol: 

  • Mae achosion wedi’u pasbortio (JSA, ESA, Cymhorthdal Incwm a Chredyd Pensiwn) wedi gostwng 61,507 ers 2019. 
  • Bu gostyngiad o 29,430 (39%) yn nifer yr achosion safonol heb eu pasbortio. 
  • I'r gwrthwyneb, 103,193 oedd nifer yr achosion Credyd Cynhwysol ym mis Mawrth 2024, o'i gymharu â 32,773 ym mis Mawrth 2019, sef cynnydd o 215%.
Image
Mae Ffigur 3 yn dangos y llwyth achos yn ôl statws incwm ym mis Mawrth 2019 o'i gymharu â Mawrth 2024

Y budd-daliadau pasbortio mwyaf cyffredin oedd ESA a Chredyd Pensiwn a oedd yn cyfrif am 40% o'r holl achosion CTR ledled Cymru.

Mae Tabl A3 yn Atodiad A yn rhoi'r ffigurau ar gyfer y llwyth achosion gwirioneddol yn ôl statws incwm ac awdurdod lleol ar gyfer Mawrth 2024.

Effaith Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Erbyn mis Rhagfyr 2024 mae disgwyl y bydd Credyd Cynhwysol wedi disodli'r chwe budd-dal prawf modd oedran gweithio canlynol: Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA), Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai, Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith.

Rhaid i aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol wneud cais ar wahân am ostyngiad yn y dreth gyngor. Mae hyn yn wahanol i’r rhai a allai fod wedi cael eu hasesu o'r blaen ar gyfer gostyngiad yn y dreth gyngor fel rhan o’r broses o gael eu budd-daliadau pasbortio. Yn yr achosion hyn, nid oedd gofyniad i aelwydydd cymwys fod yn rhagweithiol o ran gwneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor.

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod y newid hwn yn y dull gweithredu yn effeithio ar y llwyth achosion cyffredinol ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yng Nghymru, wrth i aelwydydd a aeth drosodd i’r system Credyd Cynhwysol adael system Gostyngiadau’r Dreth Gyngor oherwydd diffyg ymwybyddiaeth am y dull newydd. Mae Credyd Cynhwysol hefyd yn effeithio ar gymhwysedd aelwydydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor, er enghraifft os oes gan aelwyd incwm uwch yn sgil Credyd Cynhwysol o’i gymharu â’i hincwm o’r blaen, efallai y bydd yn cael gostyngiad llai neu efallai na fydd yn bodloni’r meini prawf o gwbl ar gyfer cael gostyngiad.

Gwnaethom gomisiynu asesiad manwl o effaith Credyd Cynhwysol ar y Cynllun Gostyngiadau yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol gan Policy in Practice ym mis Gorffennaf 2020.

Daw’r adroddiad i’r casgliad bod Credyd Cynhwysol yn newid sylweddol i’r system cymorth lles ar gyfer aelwydydd incwm isel. Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth bod symud i Gredyd Cynhwysol yn cael effaith ar wytnwch aelwydydd a lefelau dyled preswylwyr incwm isel yng Nghymru.

Llwyth achosion y CTRS yn ôl math o deulu

Image
Mae Ffigur 4 yn dangos llwyth achosion CTRS yn ôl math o deulu ym mis Mawrth 2024
  • Y categori mwyaf yw aelwydydd un oedolyn heb ddibynyddion. Roedd yr aelwydydd hyn (163,142) yn cyfrif am 63.1% o gyfanswm yr achosion ym mis Mawrth 2024.
  • Mae nifer yr aelwydydd rhiant sengl (45,727) yn cyfrif am 17.7% o gyfanswm yr achosion ym mis Mawrth 2024. 
  • Mae nifer yr aelwydydd sy'n cynnwys cwpl heb ddibynyddion, 34,085, yn cyfrif am 13.2% o gyfanswm yr achosion ym mis Mawrth 2024.
  • Mae nifer yr aelwydydd sy'n cynnwys cwpl a phlant dibynnol, 15,731 ym mis Mawrth 2024, yn cyfrif am 6.1% o gyfanswm yr achosion.
  • Mae Tabl A4 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau ar gyfer y llwyth achosion gwirioneddol yn ôl math o deulu ac awdurdod lleol ar gyfer mis Mawrth 2024.

Llwyth achosion y Cynllun Gostyngiadau yn ôl band y dreth gyngor

  • Rhoddir pob annedd drethadwy mewn band treth gyngor yn dibynnu ar werth yr eiddo ar y farchnad ar 1 Ebrill 2003. Eiddo band A sydd â’r cyfraddau isaf o'r dreth gyngor ac eiddo band I sydd â’r cyfraddau uchaf (mae Band A- yn adlewyrchu cyfradd ostyngol ar gyfer eiddo a addaswyd ar gyfer pobl anabl).
  • Yng Nghymru, roedd 85.1% o'r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn byw mewn eiddo ym mandiau A- i C ym mis Mawrth 2024. Gellir priodoli hyn yn rhannol i ddosbarthiad cyffredinol anheddau ar draws bandiau'r dreth gyngor yng Nghymru, gyda bron i dri chwarter yr holl anheddau trethadwy yng Nghymru ym mandiau A i D.
Image
Mae Ffigur 5 yn dangos canran llwyth achosion CTRS gan fand y cyngor ym mis Mawrth 2024

Yn Nhabl 9 gwelir canran llwyth achosion cyffredinol pob awdurdod lleol yn ôl bandiau'r dreth gyngor A i C, D ac E i I. Mae'n dangos y canlynol:

  • Ym Mlaenau Gwent, roedd 98.1% o aelwydydd y Cynllun Gostyngiadau mewn eiddo bandiau A i C, gyda 53 o aelwydydd (0.6%) yn unig ym mandiau E i I.
  • I'r gwrthwyneb, yn Sir Fynwy, roedd 61.7% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor mewn eiddo bandiau A i C, a 15% ym mandiau E i I. 
Tabl 9: Canran y cyfanswm achosion yn ôl band y dreth gyngor, Mawrth 2024
Awdurdod lleol% ym Mandiau A i C% ym Mand D% ym Mandiau E i I
Blaenau Gwent         98.1            1.2          0.6 
Merthyr Tudful         97.5            1.5          0.9 
Rhondda Cynon Taf         96.1            2.5          1.4 
Castell-nedd Port Talbot         95.6            2.8          1.5 
Torfaen         94.5            3.1          2.4 
Caerffili         94.1            4.2          1.7 
Abertawe         88.6            7.2          4.2 
Casnewydd         88.0            7.8          4.1 
Pen-y-bont ar Ogwr         87.7            7.6          4.7 
Gwynedd         87.3            7.3          5.4 
Wrecsam         86.5            7.5          6.1 
Sir Gaerfyrddin         85.8            7.5          6.7 
Sir Ddinbych         84.9            9.2          5.9 
Ynys Môn         84.8            8.3          6.8 
Sir y Fflint         82.2            9.5          8.3 
Conwy         81.3          11.7          7.0 
Sir Benfro         81.4          10.2          8.3 
Powys         76.3            9.9        13.8 
Bro Morgannwg         71.4          16.8        11.8 
Ceredigion         70.5          15.8        13.6 
Caerdydd         67.2          19.9        12.8 
Sir Fynwy         61.7          23.4        15.0 

Ffynhonnell: Datatank Connect

Mae Ffigur 6 yn dangos cyfran yr holl anheddau trethadwy sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn ôl band y dreth gyngor. Band A sydd â'r gyfran uchaf o anheddau sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor, sef 40.6%. Bandiau E i I sydd â’r gyfran isaf o anheddau sy'n cael gostyngiad, sef 4.2%.

Image
Mae Ffigur 6 yn dangos cyfran yr aelwydydd sy'n derbyn CTRS fesul band treth gyngor ym mis Mawrth 2024

Mae Tabl A5 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau ar gyfer cyfran yr aelwydydd sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn ôl awdurdod lleol a band y dreth gyngor ym mis Mawrth 2024.

Meysydd disgresiwn lleol

O dan Reoliadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru fabwysiadu ei gynllun ei hun ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod erbyn 31 Ionawr. Mae’r cynlluniau hyn, yn seiliedig ar y gofynion cenedlaethol, yn cynnwys meysydd o ddisgresiwn lleol er mwyn i'r awdurdodau allu cymryd anghenion a blaenoriaethau eu hardal leol i ystyriaeth. Mae pob awdurdod wedi mabwysiadu cynllun, ond os byddai unrhyw un ohonynt yn methu â gwneud hynny, byddai’r cynllun cenedlaethol diofyn yn cael ei orfodi i sicrhau bod aelwydydd cymwys yn dal i gael cymorth ariannol i gyflawni eu hatebolrwydd i dalu'r dreth gyngor.

Dyma’r meysydd disgresiwn lleol lle gall awdurdod lleol ddewis cyflwyno darpariaethau mwy hael na’r gofynion sylfaenol yn y rheoliadau:

  • Cyfnod gostyngiad estynedig: gall awdurdodau lleol gynyddu’r cyfnod lle bydd gan ymgeiswyr hawl i barhau i gael gostyngiad mewn rhai amgylchiadau, y tu hwnt i’r cyfnod safonol o bedair wythnos.
  • Ôl-ddyddio ceisiadau: gall awdurdodau lleol ôl-ddyddio ceisiadau am ostyngiadau y tu hwnt i’r cyfnod safonol o dri mis.
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel a Phensiwn Rhyfel Gweddw: gall awdurdodau lleol ddiystyru mwy na’r swm statudol o £10 a gafwyd mewn perthynas â’r pensiynau hyn wrth gyfrifo incwm.

Ceir manylion cynllun pob awdurdod lleol ar eu gwefannau unigol.

Apelio

Tribiwnlys Prisio Cymru 

Ers i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor gael ei gyflwyno ar 1 Ebrill 2013, Tribiwnlys Prisio Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am wrando ar apeliadau sy’n deillio o’r penderfyniadau ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Caiff unigolion sy’n talu’r dreth gyngor gyflwyno apêl, dim ond ar ôl codi cwyn yn uniongyrchol gyda'u hawdurdod lleol.

Mae Tabl 6 yn dangos canlyniad apeliadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gyflwynwyd i Dribiwnlys Prisio Cymru yn y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024. Daeth 26 apêl i law a chafodd 23 eu dwyn ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol.

Cafodd 11 achos eu setlo cyn gwrandawiad panel y tribiwnlys. Fel arfer, mae canlyniadau’r achosion hyn yn mynd o blaid yr apelydd, gan fod awdurdod wedi ailystyried ei benderfyniad cychwynnol ar ôl cael tystiolaeth ychwanegol ynghylch hawliad yr apelydd. Ar ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd 21 o achosion heb eu cwblhau eto.

Tabl 10: Apeliadau i Dribiwnlys Prisio Cymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024
Wedi dod i lawWedi'u dwyn ymlaen o'r cyfnod blaenorolWedi’u setlo cyn gwrandawiad y tribiwnlysWedi’u penderfynu gan y tribiwnlysDileuWedi’u dwyn ymlaen i'r cyfnod nesaf
26231117021