Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd, a pham?

Y Cefndir

Haint pestifeirws mewn gwartheg yw'r Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD). 

Mae'n gallu achosi amryfal ganlyniadau clinigol, sy'n amrywio o heintiau isglinigol i ganlyniadau mwy difrifol, gan gynnwys erthyliadau, anffrwythlondeb a’r clefyd mwcosaidd angheuol. Mae BVD yn goroesi mewn poblogaeth fechan o anifeiliaid sydd wedi'u “Heintio'n Barhaus” â'r feirws. Yr anifeiliaid hyn sydd wedi'u heintio'n barhaus yw prif gronfa BVD, ac maent yn cael eu heintio yn y groth yn gynnar yn ystod y beichiogrwydd. Mae heintiau o’r fath yn para gydol y beichiogrwydd ac ar ôl yr enedigaeth drwy gydol oes yr anifail.

Mae BVD yn effeithio ar gynhyrchiant drwy leihau faint o laeth a gynhyrchir ac mae gwartheg heintiedig yn colli'u harchwaeth am fwyd. Gall arwain at ganlyniadau economaidd arwyddocaol i geidwaid gwartheg, ac mae goblygiadau i les yr anifeiliaid hynny hefyd. Mae hefyd yn effeithio ar gynhyrchiant a gall olygu bod ffermydd gwartheg yn llai effeithlon. Bydd hynny’n cyfrannu'n uniongyrchol at fwy o allyriadau CO2 ac at y newid yn yr hinsawdd. 

Mae rhyw 11,000 o fuchesi gwartheg yng Nghymru, ac o'r 8,917 o fuchesi a gafodd eu sgrinio ar gyfer BVD (tua 84%), dangosodd y profion fod 2,473 (28%) yn bositif am y feirws. Nodwyd bod 796 o anifeiliaid yn y buchesi hynny wedi'u heintio'n barhaus. O blith y 796 hynny, roedd y data'n dangos bod 50% ohonynt wedi cael eu cadw ar y fferm, lle byddent yn parhau i ollwng y feirws drwy gydol eu hoes; gwerthwyd 25% ohonynt i ffermydd eraill, a dim ond 25% a gafodd eu lladd. Digwyddodd hynny oherwydd nad oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar hyn o bryd i dynnu anifeiliaid sydd wedi'u heintio o’r fuches, ac ni all hynny gyfrannu at ymdrech effeithiol i ddileu'r clefyd. 

Bydd dileu BVD o Gymru yn gwella safonau iechyd a lles anifeiliaid ac yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau Sero Net yn gynt, oherwydd y gallai dileu BVD o'r fuches nodweddiadol o 40 o wartheg a welir yng Nghymru olygu y byddai 70,200kg yn llai o CO2e yn ein hôl troed carbon bob blwyddyn. Dylai dileu'r clefyd hefyd arwain at fanteision economaidd sylweddol o ran gwell cynhyrchiant ar ffermydd, gan gynnwys cynhyrchu mwy o laeth a gwell cyfraddau atgenhedlu.  Gwnaeth Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru gydnabod bod rheoli BVD yn flaenoriaeth i’r diwydiant yng Nghymru, a bu'n helpu i ddatblygu ac i weithredu cynllun a arweinir gan y diwydiant, o’r enw Gwaredu BVD, ar gyfer Cymru, gan sicrhau cyllid gwerth £9 miliwn o dan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014–20.

Yn ystod y rhaglen wirfoddol, aed ati i sgrinio am BVD ar yr un pryd â'r profion am Dwbercwlosis Buchol (TB). Ategwyd y broses honno gan gyngor milfeddygol a chymorth i adnabod gwartheg wedi'u heintio'n a'u tynnu o'r fuches. Llwyddodd y cynllun i sgrinio rhyw 83.3% o fuchesi gwartheg Cymru, ac arweiniodd hynny at ganfod 940 o anifeiliaid oedd wedi'u heintio'n barhaus. Fodd bynnag, dangosodd data o'r cynllun gwirfoddol nad oes modd sicrhau bod anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaus yn cael eu symud o ffermydd ac nad oes modd dileu BVD drwy ddulliau gwirfoddol.

Ar ôl cam gwirfoddol y rhaglen Gwaredu BVD, bwriad rheolwyr y rhaglen oedd cyflwyno rhaglen orfodol, a fyddai'n seiliedig ar ddeddfwriaeth. Roedd Llywodraeth Cymru wedi datgan y byddai deddfwriaeth yn cael ei hystyried, ar yr amod bod y cyfnod gwirfoddol yn llwyddiannus a bod modd darparu tystiolaeth briodol i lywio ac i gyfiawnhau mesurau rheoli deddfwriaethol. 

Yn 2020, cyflwynodd Gwaredu BVD gynnig i Lywodraeth Cymru a oedd yn manylu ar sut y gallai cynllun gorfodol i ddileu BVD weithredu yng Nghymru, ac fe'i cymeradwywyd mewn egwyddor ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. 

Bwriad rheolwyr y rhaglen Gwaredu BVD oedd gweld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ar 1 Ebrill 2021, pan oedd cyfnod gwirfoddol y cynllun i fod i ddod i ben. Oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau cyfreithiol yn sgil COVID-19, ac oherwydd y  gwaith a oedd yn gysylltiedig ag ymadael â'r UE, ni phrofodd hynny'n bosibl, a phenderfynodd y Gweinidog ohirio cyflwyno'r ddeddfwriaeth ar BVD hyd nes y byddai digon o adnoddau cyfreithiol ar gael. 

Yn 2021, cadarnhaodd Gwaredu BVD y byddai’r tanwariant ar y cynllun yn cael ei ddefnyddio i estyn y sgrinio gwirfoddol tan ddiwedd mis Rhagfyr 2022, er mwyn rhoi  amser i Lywodraeth Cymru sicrhau bod adnoddau cyfreithiol ar gael ac i ddatblygu deddfwriaeth ar gyfer cynllun dileu gorfodol. Wrth fynd ati i ymdrechu i ddileu BVD yng Nghymru, byddwn yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd a fydd cyd-fynd ag ymdrechion y gweinyddiaethau eraill, er mwyn dileu'r clefyd mewn ffordd effeithiol ar draws y DU. Byddwn yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau eraill i helpu i sicrhau bod yr ymdrech honno'n cael ei gwneud  ledled y DU. 

Mae deddfwriaeth ar sgrinio gorfodol am BVD ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i gael gwared ar wartheg sydd wedi'u heintio'n barhaus, mewn grym ar hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Mae Lloegr wrthi’n gweithio i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun ar BVD.

Mae'r Tîm Polisi Clefydau Anifeiliaid yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Cyfreithiol i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, a fydd yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2024. 

Y 5 Ffordd o Weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Yn yr Hirdymor

Bydd y cynllun gorfodol i ddileu BVD yn cael ei gyflwyno drwy is-ddeddfwriaeth er mwyn ategu'r mesurau gorfodi angenrheidiol ar gyfer sgrinio am BVD. 

Bydd dileu BVD o fuchesi gwartheg Cymru yn esgor ar y manteision hirdymor a ganlyn:

i. Bydd iechyd a lles cyffredinol gwartheg Cymru yn gwella a bydd y ffaith na fydd unrhyw achosion o BVD yn golygu y byddant yn llai tebygol o ddal clefydau eraill. 

ii. Bydd ffermydd Cymru yn fwy effeithlon, ac ni fydd BVD mewn buchesi yn effeithio'n andwyol ar gynhyrchiant, gan gynyddu'r elw y gall ffermwyr ei wneud ar bob anifail.

iii. Gall ffermydd mwy effeithlon ac anifeiliaid mwy cynhyrchiol leihau ôl troed carbon buchesi a lleihau cyfraniad y diwydiant gwartheg at y newid yn yr hinsawdd.

iv. Bydd llai o'r haint ymhlith gwartheg yn golygu y bydd llai o angen i ddefnyddio gwrthfiotigau ac yn helpu yn y frwydr yn erbyn “ymwrthedd gwrthficrobaidd”. 

v. Bydd y gallu i hysbysebu nad oes unrhyw achosion o BVD yn golygu y bydd masnachu gyda ffermydd Cymru yn fwy deniadol yn fasnachol i wledydd eraill y DU ac i drydydd gwledydd.

vi. Bydd cynllun dileu effeithiol yng Nghymru yn cyfrannu at yr ymdrech sydd ar droed ledled y DU i ddileu'r clefyd. 

Atal

Bydd y cynllun gorfodol i ddileu BVD yn cynnwys cosbau cynyddol ar gyfer daliadau na fyddant yn cydymffurfio â'r rheoliadau a'r cyfyngiadau ar symud gwartheg heintiedig neu wartheg sydd heb eu profi. Bydd y mesurau hynny'n helpu i leihau'r risg o ledaenu BVD rhwng ffermydd ac ar draws ffiniau. Bydd yn bosibl hefyd i geidwaid weld beth fydd statws buchesi eraill o ran BVD.

Yn y tymor hir, gobeithio y bydd arferion o'r fath yn cyfrannu at newid agweddau at BVD yng Nghymru, ac at sefyllfa lle na fydd ceidwaid yn goddef achosion o'r clefyd a lle y bydd lleihad cyson yn nifer yr achosion positif yn arwain at ddileu'r clefyd. 

Integreiddio

Bydd y cynlluniau dileu a arweinir gan y diwydiant ym mhob un o wledydd y DU yn cael eu rheoli ar wahân, ond byddant yn ceisio bod yn gydnaws â'i gilydd er mwyn sicrhau na fydd symudiadau ar draws ffiniau yn cael effaith negyddol ar ymdrechion gwledydd eraill y DU i ddileu'r clefyd. Os bydd hynny’n bosibl, bydd y gallu i rannu data perthnasol am statws BVD rhwng ffermydd a rhwng gweithredwyr y cynlluniau yn helpu i liniaru'r broblem honno. 

Cydweithio

Corff Llywodraethu BVD a arweinir gan y diwydiant fydd yn rheoli'r gwaith o gyflwyno'r cynllun i ddileu BVD ac ef, felly, fydd yn gyfrifol am weithredu'r ddeddfwriaeth yn llwyddiannus.

Bydd system cronfa ddata BVDCymru yn blatfform lle bydd ceidwaid yn gallu rheoli a gweld data a fydd yn berthnasol i'w daliadau eu hunain neu i'r daliadau y byddant yn prynu oddi wrthynt neu'n gwerthu iddynt. Bydd y nodwedd hon yn caniatáu i geidwaid gadarnhau statws daliadau eraill o ran BVD.

Bydd profion BVD yn cael eu cynnal gan filfeddygfeydd cymeradwy a bydd cydweithrediad milfeddygon yn hanfodol i lwyddiant y cynllun. 

Bydd profion BVD yn cael eu prosesu gan labordai cymeradwy a bydd cydweithrediad labordai achrededig yn hanfodol i lwyddiant y cynllun.

Cynnwys eraill

Cyn mynd ati i lunio'r ddeddfwriaeth arfaethedig, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 8 wythnos, gan geisio barn am y prosesau a'r cynigion a fydd yn rhan o'r cynllun gorfodol, er mwyn helpu i lywio'r ddeddfwriaeth wrth iddi gael ei drafftio.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 30 Mehefin 2022 a daeth i ben ar 25 Awst 2022. 

Cynhaliodd Gwaredu BVD dderbyniad yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 2022, yng nghwmni'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, i hyrwyddo canlyniadau'r cynllun gwirfoddol ac i drafod y bwriad i gyflwyno deddfwriaeth ar BVD.

Effaith 

Costau ac arbedion

Er y bydd goblygiadau o ran costau i'r diwydiant yn sgil cyflwyno'r profion o dan y ddeddfwriaeth ar BVD, bydd dileu BVD yn golygu y bydd ffermwyr yn gwneud mwy o elw yn y dyfodol. Yn ogystal, bydd dileu'r clefyd yn arwain at fanteision economaidd sylweddol o ran gwell cynhyrchiant ar ffermydd, gan gynnwys cynhyrchu mwy o  laeth a gwell cyfraddau atgenhedlu.

Sut y byddwn yn gweithredu

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, er mwyn dileu BVD o Gymru a hyrwyddo iechyd a lles anifeiliaid.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut y cafodd y bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt eu cynnwys wrth fynd ati i’w ddatblygu?

Cyn mynd ati i lunio'r ddeddfwriaeth arfaethedig, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o 8 wythnos er mwyn ceisio barn aelodau perthnasol o'r diwydiant, milfeddygon, ceidwaid gwartheg, yr undebau ffermio, perchenogion busnesau, ac aelodau eraill o'r cyhoedd. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 30 Mehefin 2022 a daeth i ben ar 25 Awst 2022. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Rhagfyr 2022.

Mae swyddogion wedi bod yn llunio'r cynnig deddfwriaethol ar BVD ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol, gan wneud hynny ar sail yr ymatebion i'r ymgynghoriad er mwyn gwella'n dealltwriaeth o BVD a sicrhau bod y diwydiant gwartheg yn cefnogi'r rhaglen i ddileu'r clefyd.

Cynhaliodd Gwaredu BVD dderbyniad yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 2022, yng nghwmni'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, i hyrwyddo'r cynllun gwirfoddol. 

8.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol – y rhai cadarnhaol a'r rhai negyddol?

Yr effaith gadarnhaol

Effeithiau cadarnhaol y cynllun i ddileu BVD fydd y cyfraniad hirdymor at ddileu'r clefyd o Gymru (ac felly, y DU). Dyma'r manteision a nodwyd uchod: 

  • gwella iechyd a lles gwartheg yn gyffredinol
  • gwneud ffermydd Cymru yn fwy effeithlon
  • mwy o elw posibl i geidwaid
  • lleihau ôl troed carbon y diwydiant gwartheg yng Nghymru
  • defnyddio llai o feddyginiaethau gwrthficrobaidd mewn systemau cynhyrchu gwartheg, gan helpu yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd
  • gwell rhagolygon masnach i Gymru, oherwydd na fydd ynddi unrhyw achosion o BVD
  • cyd-fynd â'r ymdrech i ddileu'r clefyd ar draws y DU
  • cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith ffermwyr am bwysigrwydd bioddiogelwch ac am yr angen i fod yn gyfrifol wrth brynu gwartheg. 

Yr effaith negyddol

Dyma effeithiau negyddol posibl y cynllun i ddileu BVD: 

  • y baich gweinyddol trymach ar geidwaid yn sgil yr angen i reoli profion, i ynysu gwartheg sydd wedi'u heintio'n barhaus, ac i gyfyngu ar symudiadau
  • mwy o faich ariannol ar geidwaid, oherwydd y bydd gofyn iddynt dalu am sgrinio a phrofi am BVD 
  • bydd y rheoliadau ar BVD yn newydd i geidwaid gwartheg, a gall problemau o ran cydymffurfiaeth godi yn y tymor byr, gan arwain at gyfyngiadau a chosbau i ddaliadau

8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

    Bydd y cynlluniau dileu a arweinir gan y diwydiant ym mhob un o wledydd y DU yn cael eu rheoli ar wahân, ond byddant yn ceisio bod yn gydnaws â'i gilydd er mwyn sicrhau na fydd symudiadau ar draws ffiniau yn cael effaith negyddol ar ymdrechion gwledydd eraill y DU i ddileu'r clefyd. Os bydd hynny’n bosibl, bydd y gallu i rannu data perthnasol am statws BVD rhwng ffermydd a rhwng gweithredwyr y cynlluniau yn helpu i liniaru'r broblem honno. 

8.4 Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?  

Bydd cyfathrebu da, rhoi gwybodaeth glir i geidwaid am sut mae'r cynllun yn gweithio, am y rhesymau dros ei gyflwyno, ac am y cosbau am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau, yn allweddol er mwyn sicrhau bod yr ymdrech i ddileu'r clefyd yn llwyddo. Bydd yn rhaid gofalu ein bod yn darparu ar gyfer pobl nad oes ganddynt fawr o fynediad ar-lein drwy ddefnyddio gwahanol ffyrdd o gyfathrebu, gan gynnwys milfeddygon, a fydd yn gallu rhoi cyngor ar lafar, bwrdd llywodraethu BVDCymru, sioeau amaethyddol, marchnadoedd, ac eraill. 

Mae cefnogaeth ceidwaid yn hanfodol i lwyddiant y cynllun, a bydd yn rhaid inni arfer cysondeb wrth gysylltu ac ymwneud â nhw er mwyn sicrhau newid hirdymor yn eu hagwedd at BVD. Byddem yn disgwyl i geidwaid elwa ar brofiad eu cymheiriaid er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion ac er mwyn bod ar eu hennill yn sgil dileu BVD. 

Dylai cyngor ymarferol, dwyieithog fod ar gael i geidwaid nad ydynt yn deall y cynllun neu nad ydynt yn cydymffurfio â'i reoliadau.