Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

1. Mae Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yn haint feirysol mewn gwartheg, ac mae'n gallu achosi problemau iechyd amrywiol, gan gynnwys erthyliad, anffrwythlondeb, a Chlefyd Mwcws, sy'n angheuol. Mae BVD mewn buchesi’n cael ei gynnal gan boblogaeth fach o anifeiliaid sy'n cael eu "Heintio'n Barhaus" (PI) gyda'r feirws.

2. Mae anifeiliaid PI yn cael eu heintio â'r feirws yn y groth yn ystod beichiogrwydd cynnar. Gall anifail PI ymddangos yn iach ond bydd yn cario'r haint am oes ac yn heintio eraill yn y fuches. Mae'n debygol bod 1-2% o anifeiliaid mewn buchesi heintiedig wedi’u heintio'n barhaus.

3. Gall presenoldeb un anifail PI yn unig mewn buches ledaenu'r feirws yn gyflym a chael effaith ariannol sylweddol. Amcangyfrifir mai cost presenoldeb BVD i fferm eidion 100 buwch yw £4,500 y flwyddyn, a'r gost i fferm laeth 130 buwch yw £15,000 y flwyddyn. Mae cael gwared ar anifeiliaid PI yn hanfodol er mwyn dileu'r clefyd ar lefel fferm.

4. Mae'n debygol iawn y bydd anifail PI yn dioddef iechyd gwael ac y bydd yn llai cynhyrchiol gydol ei oes, gan leihau ei werth ar y farchnad ac arwain at broblemau lles. Hefyd, bydd nifer sylweddol o anifeiliaid PI yn marw cyn cyrraedd pwysau lladd, oherwydd system imiwnedd wan.

5. Mae Gwaredu BVD yn cynnig gwasanaeth sgrinio BVD gwirfoddol ar gyfer ceidwaid gwartheg Cymru, ac mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Taliadau Gwledig Cymru. Hefyd, mae'r gwasanaeth yn gallu helpu ceidwaid i adnabod anifeiliaid PI mewn buches a darparu arweiniad ar fod yn rhydd o BVD. Ni fydd cyllid gan Taliadau Gwledig Cymru ar gael ar ôl 1 Ionawr 2023, gan ddod â'r cynllun BVD gwirfoddol i ben.

6. Mae tua 11,000 o fuchesi gwartheg yng Nghymru. Hyd yma, mae tua 9,163 o'r buchesi hyn wedi'u sgrinio ar gyfer BVD (tua 83.3%), ac mae 2,539 (28%) o'r ffigur hwn wedi cael prawf positif am y feirws. Mae 940 o anifeiliaid PI wedi'u nodi yn y buchesi hyn.

7. Dangosodd data a gasglwyd yn ystod cam gwirfoddol y cynllun Gwaredu BVD nad oedd modd sicrhau bod anifeiliaid PI yn cael eu symud o ffermydd a bod BVD yn cael ei ddileu trwy gynllun gwirfoddol. Y rheswm am hyn yw nad oes unrhyw gyfyngiadau ar symud anifeiliaid PI na'u buches. Mae'r gwaith o reoli anifeiliaid PI yng Nghymru wedi bod yn anghyson, gyda rhai ceidwaid yn dewis cadw neu werthu'r anifeiliaid hyn.

8. Mae brechiad ar gael ar gyfer BVD, ond nid yw'n ddull effeithiol o ddileu'r clefyd gan nad oes modd brechu anifeiliaid PI, ac ni allant ddatblygu imiwnedd i'r clefyd. Maent yn parhau i ollwng y feirws gan greu risg gyson o heintio anifeiliaid eraill yn y fuches.

9. Gall gwartheg gael eu heintio â BVD drwy:

  • gyswllt trwyn i drwyn â gwartheg heintiedig trosglwyddiad yn y groth gan fam feichiog, heintiedig (sy'n golygu bod y llo yn anifail PI)
  • dull rhywiol trwy semen heintiedig
  • cyswllt â ffomidau halogedig (gwrthrychau neu ddeunyddiau sy'n gallu cario haint, fel dillad neu gerbydau)

10.Mae'n bwysig nodi mai dim ond anifeiliaid sydd wedi'u heintio yn y groth sy'n datblygu’n anifeiliaid PI. Ni fydd anifeiliaid sydd wedi'u heintio mewn ffordd arall yn parhau i fod wedi'u heintio'n barhaol.

11.Mae BVD yn glefyd "atal imiwnedd", sy'n golygu bod anifeiliaid heintiedig yn fwy tebygol o gael heintiau eraill sy'n gallu cael effaith ddifrifol ar iechyd a lles cyffredinol gwartheg.

12.Hefyd, mae BVD yn effeithio ar gynhyrchiant mewn buches; mae'n gallu arwain at golli cynnyrch llaeth a lleihau archwaeth gwartheg gan leihau effeithlonrwydd y fferm. Mae hyn yn arwain at golledion ariannol i geidwaid ac mae'n gallu cynyddu achosion o ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR).

13.Lansiwyd y cynllun gwirfoddol presennol yn 2017 ac mae wedi'i ymestyn tan 31 Rhagfyr 2022. Mae'r gwaith sgrinio’n cael ei wneud ar yr un pryd â phrofion am Dwbercwlosis Buchol (TB) ar ffurf prawf gwrthgyrff gwaed o 5 o'r stoc heb eu brechu rhwng 9 a 18 mis oed.

14.Os yw'r prawf BVD yn dangos statws gwrthgyrff negatif, mae'n dangos nad oes unrhyw haint BVD wedi bod yn y fuches. Bydd statws gwrthgyrff positif yn cadarnhau bod haint BVD yn bresennol, neu wedi bod yn bresennol, yn y fuches. Mae'n bosibl mai anifail PI yw achos yr haint mewn buches â phrawf gwrthgyrff positif.

15.Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen Gwaredu BVD yn darparu cyngor yn ymwneud â buchesi sy'n profi'n bositif am BVD, a hyd at £1,000 i gynnal helfa anifeiliaid PI, gan ddefnyddio dulliau profi ychwanegol i nodi haint BVD gweithredol mewn anifail.

Cynnig ar gyfer cynllun BVD gorfodol

Sgrinio buchesi’n flynyddol

16. Bwriad Llywodraeth Cymru yw disodli'r cynllun BVD gwirfoddol gyda chynllun gorfodol sy'n seiliedig ar ddeddfwriaeth. Bydd y ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i bob ceidwad gwartheg sicrhau bod ei fuches yn cael ei sgrinio am y feirws bob blwyddyn, gan ddechrau gyda phrawf BVD o fewn 12 mis i'r sgrinio gwirfoddol blaenorol. Rhaid i’r profion gael eu cwblhau gan filfeddyg cymeradwy.

17. Byddai’r broses sgrinio’n cynnwys cymryd sampl gwaed o 5 anifail fesul grŵp rheoli (grŵp o anifeiliaid sy'n cael eu cadw ar wahân i grwpiau eraill ar y safle) yn y grŵp oedran 9-18 mis. Os nad oes anifeiliaid o'r fath yn bresennol ar y fferm, caniateir cymryd profion o 5 anifail o grwpiau oedran eraill. Os cymerir sampl gwaed o anifeiliaid sy'n iau na 6 mis oed, bydd angen samplu 10 anifail ym mhob grŵp rheoli. Gwneir hyn i sicrhau bod sampl dda’n cael ei chymryd o’r grŵp, a allai fod wedi cael llai o gysylltiad ag unrhyw feirws sy'n bresennol yn y fuches.

18. Yna byddai'r milfeddyg yn anfon samplau i labordy cymeradwy i'w profi. Bydd canlyniadau'r sgrinio yn penderfynu 'Statws y Fuches”. Bydd buchesi sydd â statws BVD negatif yn cadw'r statws hwn am 12 mis ac ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar symudiadau gwartheg.

Statws Positif a Helfa PI

19.Bydd statws positif ar gyfer buches yn cael ei ddynodi os oes unrhyw anifail sy'n cael ei brofi fel rhan o'r broses sgrinio yn profi'n bositif am wrthgyrff BVD.

20.Bydd symudiadau buchesi sy'n profi'n bositif am wrthgyrff BVD yn cael eu cyfyngu a bydd yn ofynnol i bob anifail yn y fuches gael ei brofi'n unigol, gan gynnwys y rhai a anwyd yn y 12 mis ar ôl y prawf cadarnhaol. Ar ôl 21 diwrnod, bydd angen cynnal prawf ychwanegol ar anifeiliaid sy'n cael prawf antigenau BVD positif er mwyn pennu a yw'r anifail wedi datblygu imiwnedd.

21.Bydd y profion antigenau eraill hyn yn ceisio adnabod unrhyw anifeiliaid PI, a'r enw am y profion yw "helfa PI”. Mae modd adnabod anifail PI gan y bydd yn cael profion BVD positif yn gyson drwy gydol ei oes ac na fydd byth yn datblygu imiwnedd i'r feirws. Profir hyn trwy ailadrodd y prawf antigenau ar gyfer anifail sydd wedi profi'n bositif am BVD 21 diwrnod ar ôl ei brawf gwreiddiol. Byddai hyn yn rhoi digon o amser i anifail nad yw'n anifail PI ddatblygu imiwnedd i'r clefyd.

22.Bydd gwartheg unigol o fuches â gwrthgyrff positif sy'n profi'n bositif ond yn cael symud i gael eu lladd, oni bai eu bod wedi cael prawf antigenau BVD negatif wedyn a bod 21 diwrnod wedi mynd heibio. Ni fydd hyn yn bosibl ar gyfer anifail PI, o ystyried ei anallu i ddatblygu imiwnedd. 23.Bydd angen i wartheg unigol o fuches â gwrthgyrff positif sy'n profi'n negatif, naill ai yn ystod y sgrinio cychwynnol neu yn dilyn profion ychwanegol, gael prawf cyn symud ar ffurf prawf antigenau negatif 21 diwrnod cyn symud o'r fuches maent ynddi.

24.Bydd ceidwaid buchesi sy'n derbyn statws buches BVD positif yn cael eu hannog i gytuno ar gynllun iechyd anifeiliaid gyda'u milfeddyg preifat ar gyfer sut i reoli'r risgiau BVD ar eu daliad yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.

25.Os yw anifail PI yn cael ei adnabod, bydd yn ofynnol i'r ceidwad ynysu'r anifail oddi wrth weddill y fuches am gyfnod amhenodol. Er mwyn ynysu'r anifail, mae angen ei gadw mewn lloc ar wahân i weddill y fuches neu wartheg cyfagos, mewn amgylchedd sy'n ddigonol i gynnal lles ac ymddygiad arferol yr anifail.

26.Mae'n bosibl y bydd ynysu’n golygu bod angen i anifeiliaid PI unigol gael eu hynysu gydag anifeiliaid cydymaith o'r fuches er mwyn cynnal eu lles a'u rhyngweithiad cymdeithasol.

27.Er mwyn sicrhau bod lles unrhyw anifeiliaid cydymaith yn cael ei gynnal, mae angen cadw o leiaf ddau anifail buchol gyda'r anifail PI yn ystod ei gyfnod ynysu. Bydd hyn yn sicrhau nad yw'r berthynas rhyngddynt yn cael ei heffeithio'n negyddol trwy gyfnod hir o wahanu oddi wrth weddill y fuches, a'u bod yn parhau i fod yn agos at un neu fwy o anifeiliaid eraill o'r fuches ar ôl i'r anifail PI farw neu ar ôl iddo gael ei anfon i'w ladd.

28.Er mwyn lleihau'r perygl o ledaenu BVD, ni ddylai'r anifeiliaid cydymaith fod yn anifeiliaid y bwriedir eu defnyddio at ddibenion bridio yn ystod neu ar ôl eu cyfnod ynysu, gan y bydd cyswllt ag anifail PI yn arwain at berygl uwch o gynhyrchu mwy o anifeiliaid PI os yw anifail cydymaith yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bridio wedyn.

29.Unwaith y bydd yr anifail PI a gafodd ei ynysu wedi cael ei symud i'w ladd, neu wedi marw'n naturiol, mae angen defnyddio'r prawf antigenau i brofi'r anifeiliaid cydymaith am haint BVD, ac ni ddylent ddychwelyd i'r fuches heb gael prawf negatif. Os yw'r anifeiliaid yn cael prawf positif, bydd angen cynnal profion eraill ar ôl 21 diwrnod er mwyn sicrhau nad oes perygl y bydd yr anifeiliaid yn trosglwyddo'r clefyd.

30.Gwneir hyn er mwyn atal lledaeniad BVD i weddill y fuches. Mae'n rhaid i'r mesur hwn barhau i fod ar waith wedyn nes bod yr anifail PI yn cael ei ladd neu ei fod yn marw'n naturiol. Ni chaniateir i anifeiliaid PI sydd wedi'u hadnabod gael eu gwerthu na'u symud fel arall oddi ar y fferm, heblaw i’w lladd.

31.Fodd bynnag, caiff llaeth a chig o anifail sydd wedi'i heintio â BVD fynd i mewn i'r gadwyn fwyd gan nad yw BVD yn peri risg i iechyd pobl. 32.Bydd y gofynion sy’n berthnasol i fuches sy'n profi'n bositif am wrthgyrff BVD yn berthnasol hefyd i unrhyw fuches nad yw'n cael ei sgrinio am BVD yn ystod y cyfnod 12 mis.

33.Nod y cynllun BVD gorfodol fydd sicrhau bod buchesi yng Nghymru yn rhydd o BVD. Manteision dileu BVD yng Nghymru yw:

  • gwella iechyd a lles cyffredinol gwartheg Cymru
  • gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb ffermydd gwartheg Cymru
  • gwella rhagolygon masnach ar gyfer ceidwaid gwartheg Cymru yn y DU a chyda Thrydydd Gwledydd
  • bydd ceidwaid gwartheg yn gallu dangos statws iechyd eu buches a'u hanifeiliaid unigol i ddarpar brynwyr, ynghyd â'r ffaith bod yr anifeiliaid yn rhydd o BVD
  • potensial i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac ôl troed carbon, oherwydd dulliau ffermio mwy effeithlon
  • llai o alw am driniaeth feddyginiaethol ar gyfer gwartheg a gostyngiad mewn lefelau o ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR)
  • Cysondeb â gwledydd eraill y DU, sydd naill ai wedi sefydlu neu sydd wrthi'n datblygu eu cynlluniau dileu eu hunain.

Cyfnod pontio

34.Mae'n bosibl y bydd y broses o roi'r cynllun gorfodol ar waith yn llawn yn cael ei rhagflaenu gan gyfnod pontio 3 i 6 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd modd symud gwartheg o ddaliadau os nad oes ganddynt statws gwrthgyrff negatif ar gyfer BVD a gafwyd yn ystod y cyfnod gwirfoddol. Os yw buchesi yn profi'n bositif am wrthgyrff BVD, bydd angen cynnal rhagor o brofion cyn symud ar anifeiliaid unigol cyn y gellir eu symud oddi ar y fferm, oni bai eu bod yn cael eu symud i'w lladd. Amcan y cyfnod pontio yw rhoi digon o amser i geidwaid drefnu sgrinio BVD ar gyfer eu buchesi a pharhau i gydymffurfio â gofynion y cynllun.

Ymgynghoriad

35. Er mwyn casglu safbwyntiau ar y ddeddfwriaeth arfaethedig, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r ymgynghoriad hwn, a fydd yn caniatáu i gyfranogwyr ymateb i agweddau unigol ar y cynnig. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn coladu ac yn adolygu ymatebion i'r ymgynghoriad cyn cyhoeddi crynodeb.

36. Mae'r ymgynghoriad yn dechrau ar 30 Mehefin 2022 a bydd yn cau ar 25 Awst 2022.

37. Bydd yr ymatebion sy'n dod i law yn cael eu hystyried yn ofalus yn erbyn y cynnig ar gyfer deddfwriaeth BVD, ac os credir eu bod yn fuddiol, mae'n bosibl y byddant yn helpu i lunio neu ddiwygio'r cynnig.

38. Bwriad yr ymgynghoriad yw defnyddio gwybodaeth ceidwaid gwartheg Cymru, y diwydiant a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau bod y cynnig yn fwy addas, yn fwy teg ac yn fwy hygyrch ar gyfer pobl sy'n gorfod cydymffurfio â'r gofynion.

39. Bydd y cwestiynau isod yn gofyn am eich barn ar gyflwyno profion BVD gorfodol a manylion y cynnig hwn.

Cwestiynau ymgynghori

Dileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD)

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd dileu BVD yn dod â manteision lles anifeiliaid ac economaidd sylweddol i geidwaid a'u hanifeiliaid, yn ogystal â masnach i Gymru yn y DU a chyda Thrydydd Gwledydd. Mae yna fanteision ehangach i sicrhau bod ffermydd yn rhydd o BVD hefyd, gan gynnwys gwella effeithlonrwydd a lleihau ôl troed carbon ffermydd Cymru a chefnogi'r ymgyrch yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Byddai cyflwyno deddfwriaeth BVD yn gyson ag ymdrechion yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Gweriniaeth Iwerddon, sydd naill ai wedi cyflwyno eu cynlluniau gorfodol eu hunain, neu'n bwriadu gwneud hynny. Bydd cyflwyno cynlluniau dileu llwyddiannus gan weinyddiaethau unigol yn helpu i ddileu'r clefyd o'r DU yn fwy effeithiol, gyda mesurau a nodau cyson.

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno bod BVD yn broblem i'r diwydiant ffermio yng Nghymru?

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno y bydd dileu BVD yn gwella iechyd a lles gwartheg Cymru?

Cwestiwn 3

Ydych chi’n cytuno y bydd dileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yn fanteisiol i geidwaid gwartheg Cymru?

Cwestiwn 4

Ydych chi’n cytuno â chyflwyno deddfwriaeth i helpu i ddileu BVD yng Nghymru?

Sgrinio BVD

Bydd yn ofynnol i bob buches gael ei sgrinio’n flynyddol ar gyfer BVD (fel y nodir yn y disgrifiad o'r cam gwirfoddol) o fewn 12 mis i unrhyw brawf blaenorol.

Bydd y sgrinio ar ffurf sampl gwaed sy'n cael ei chymryd o'r anifail/anifeiliaid gan filfeddyg preifat cymeradwy a'i hanfon i labordy cymeradwy i'w phrofi.

Bydd hyn yn rhoi "statws buches" a fydd yn cael ei rannu â'r ceidwad gan y milfeddyg preifat a'i adnewyddu'n flynyddol.

Mewn Buchesi sydd â statws BVD negatif, ni fydd gwartheg yn destun cyfyngiadau symud BVD na phrofion unigol.

Mewn Buchesi sydd â statws BVD positif, bydd pob anifail yn cael ei brofi'n unigol, gan gynnwys y rhai a anwyd yn y 12 mis ar ôl y prawf sgrinio positif. Ar ôl 21 diwrnod, bydd angen prawf ychwanegol ar anifeiliaid sy'n cael prawf antigenau BVD positif er mwyn penderfynu a yw'r anifail wedi datblygu imiwnedd. Yn ogystal, bydd pob anifail mewn buches BVD positif yn destun y cyfyngiadau symud canlynol:

  • Dim ond er mwyn cael eu lladd y bydd anifeiliaid sydd wedi cael prawf antigenau positif (PI) yn gallu cael eu symud.
  • Bydd anifeiliaid sydd wedi cael prawf antigenau negatif (anifeiliaid sy'n profi'n negatif adeg eu sgrinio neu ar ôl cael profion ychwanegol) ond yn cael symud o'r daliad sy'n eu cadw os ydynt wedi cael prawf antigenau negatif 21 diwrnod cyn eu symud. Mae'r cyfnod profi 21 diwrnod cyn symud yn seiliedig ar gyngor gwyddonol a milfeddygol.

Bydd buchesi nad ydynt wedi cael eu profi o fewn 12 mis yn cael eu trin fel pe baent wedi profi'n bositif, a bydd y cyfyngiadau symud uchod yn berthnasol iddynt.

Cwestiwn 5

Ydych chi’n cytuno bod angen deddfwriaeth sy'n cyflwyno gofynion ar gyfer sgrinio BVD rheolaidd gorfodol er mwyn dileu'r clefyd?

Cwestiwn 6

Ydych chi’n cytuno y dylid cyfyngu ar symudiadau gwartheg mewn buches sydd â statws BVD positif, sy'n profi'n bositif, oni bai eu bod yn cael eu symud i'w lladd?

Cwestiwn 7

Ydych chi’n cytuno na ddylid caniatáu i wartheg o fuches sydd â statws BVD positif, sy'n profi'n negatif ar gyfer BVD trwy brawf antigenau, adael y daliad lle maent wedi'u lleoli oni bai eu bod yn cael prawf antigenau negatif cyn symud o fewn 21 diwrnod iddynt symud?

Cwestiwn 8

Mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i geidwaid gwartheg dalu am sgrinio eu buchesi, talu am helfeydd PI a thalu am brofion cyn symud er mwyn symud gwartheg o fuches BVD positif. Ydych chi’n cytuno bod hyn, mewn gwyddor, yn ofyniad teg?

Rheoli ac Ynysu Anifeiliaid PI

Mae BVD mewn buchesi’n cael ei gynnal gan boblogaeth fach o anifeiliaid sy'n cael eu "Heintio'n Barhaus" (PI) gyda'r feirws. Mae anifeiliaid PI yn cael eu heintio â'r feirws yn y groth yn ystod beichiogrwydd cynnar. Gall anifail PI ymddangos yn iach ond bydd yn cario'r haint am oes ac yn heintio anifeiliaid eraill yn y fuches.

Trwy adnabod anifail PI a'i ynysu oddi wrth anifeiliaid eraill gydol ei oes, bydd y perygl o heintio anifeiliaid yn y fuches ac mewn buchesi cyfagos yn lleihau'n sylweddol.

Gall y ceidwad naill ai gadw'r anifail PI ar ei ben ei hun nes iddo farw'n naturiol neu anfon yr anifail i gael ei ladd. Unwaith y bydd pob un o'r anifeiliaid PI a nodwyd mewn buches naill ai wedi marw'n naturiol neu wedi cael ei ladd, a bod cyfyngiadau symud effeithiol yn sicrhau nad yw BVD yn dychwelyd, ystyrir y fuches yn "rhydd o BVD”.

Os yw ceidwaid yn dewis cadw anifail PI, bydd yn cael cyngor i gytuno ar Gynllun Iechyd Anifeiliaid gyda'i filfeddyg preifat, sy'n cynnwys ystyriaethau penodol ar gyfer ynysu anifeiliaid PI yn effeithiol ar ei ddaliad, yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth, sydd i'w cyhoeddi ochr yn ochr â deddfwriaeth.

Gall hyn gynnwys ynysu anifeiliaid PI unigol gydag o leiaf ddau anifail cydymaith nad ydynt yn anifeiliaid PI o'r fuches er mwyn sicrhau eu lles (noder na ddylid defnyddio anifeiliaid cydymaith ar gyfer bridio, er mwyn lleihau'r risg o ledaenu BVD).

Ni fu'n bosibl sicrhau bod anifeiliaid PI yn cael eu rheoli'n effeithiol trwy gynllun gwirfoddol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod modd sicrhau cynnydd tuag at fod yn rhydd o BVD yng Nghymru trwy gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod anifeiliaid PI yn cael eu hynysu a'u symud o fuchesi’n effeithiol.

Cwestiwn 9

Ydych chi’n cytuno bod angen deddfwriaeth sy'n cyflwyno gofynion gorfodol i ynysu anifeiliaid PI er mwyn dileu'r clefyd?

Rheoli Data BVD

Gall y data canlynol gael ei gasglu gan neu ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â sgrinio a phrofi BVD:

  • Enw a manylion cyswllt y ceidwad
  • Cyfeiriad, enw a math o fusnes (e.e. fferm wartheg/fferm laeth)
  • Statws buches gwrthgyrff BVD a dyddiadau sgrinio blaenorol
  • Canlyniadau profion antigenau BVD ar gyfer anifeiliaid unigol
  • Anifeiliaid y nodwyd eu bod wedi'u heintio'n barhaus (PI) yn y fuches
  • Gwybodaeth am achosion o beidio â chydymffurfio â gofynion y cynllun

Cynigir y bydd statws BVD buches a chanlyniadau profion antigenau anifeiliaid unigol ar gael i geidwaid gwartheg eraill trwy fewngofnodi i EIDCymru ar borth ar-lein Amlrywogaethau Cymru Llywodraeth Cymru.

Bydd hyn yn golygu bod ceidwaid sy'n prynu gwartheg yn gallu gweld statws BVD buches y maent yn prynu gwartheg ohoni (h.y. a yw anifeiliaid yn y fuches honno wedi cael canlyniadau positif am wrthgyrff BVD yn ystod y cam sgrinio). Bydd hyn yn sicrhau bod ceidwaid yn ymwybodol os ydynt yn prynu o fuches BVD positif. Hefyd, byddant yn gallu gweld statws antigenau unigol yr anifail y maent yn ei brynu.

Dim ond lleiafswm o wybodaeth BVD a fydd yn cael ei harddangos i geidwaid er mwyn sicrhau bod modd prynu ar sail gwybodaeth. Ni rennir unrhyw wybodaeth bersonol na sensitif, neu unrhyw wybodaeth yn ymwneud â pheidio â chydymffurfio â'r cynllun.

Trwy sicrhau bod gwybodaeth berthnasol am BVD ar gael i geidwaid, bydd ymwybyddiaeth ac arferion prynu cyfrifol yn lleihau lledaeniad y feirws, a bydd nifer yr anifeiliaid heintiedig sy'n symud yn lleihau'n sylweddol hefyd. Bydd hyn yn caniatáu i geidwaid ddiogelu eu buchesi a refeniw eu fferm trwy sicrhau mai dim ond anifeiliaid iach sy'n dod i'w buchesi a bod y risg i'w busnesau’n is.

Caiff yr holl wybodaeth ei storio a'i defnyddio'n ddiogel er mwyn diogelu hawliau defnyddio data ceidwaid.

Cwestiwn 10

Ydych chi’n cytuno y dylai statws BVD buchesi ac anifeiliaid unigol ar ffermydd (os yw statws y fuches yn BVD positif) fod ar gael yn ddiogel i geidwaid eraill trwy borth ar-lein Amlrywogaethau Cymru adeg prynu gwartheg?

Gorfodi

Bwriedir i fethiant i gydymffurfio â'r cynllun gorfodol fod yn drosedd o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Y bwriad yw sicrhau bod buchesi yng Nghymru yn cael eu sgrinio'n briodol ac yn rheolaidd ar gyfer BVD ac nad yw anifeiliaid sydd heb gael prawf, neu anifeiliaid sy'n BVD positif, yn cael eu symud i'w gwerthu. Y bwriad yw sicrhau bod ceidwaid gwartheg yn parhau i gydymffurfio â gofynion y cynllun gorfodol a rheoli'r peryglon BVD ar eu ffermydd yn effeithiol. Byddai'r troseddau arfaethedig yn cynnwys:

  1. Peidio â sgrinio eich gwartheg ifanc am wrthgyrff o fewn yr amserlen a ganiateir
  2. Symud stoc o fuches bositif heb brawf antigenau
  3. Peidio ag ynysu anifail sydd wedi profi'n bositif yn sgil prawf antigenau

Cynigir y bydd gan Awdurdodau Lleol y grym i orfodi pob rhan o'r ddeddfwriaeth gan gynnwys pwerau mynediad (h.y. ymweld â ffermydd), a byddem yn disgwyl iddynt weithredu'n gymesur yn unol â'u polisi gorfodi arferol.

Cynigir y byddai cosbau'n cael eu cyflwyno yn unol â Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 gan gynnwys dirwy ddiderfyn neu ddedfryd o garchar.

Cwestiwn 11

Ydych chi’n cytuno y dylai ceidwaid sy'n methu cydymffurfio â gofynion y cynllun gorfodol arfaethedig gael eu cosbi?

Cwestiwn 12

Ydych chi’n ymwneud â'r sector cadw gwartheg?

Cwestiwn 13

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r cynllun gorfodol i ddileu dolur rhydd feirysol buchol yng Nghymru yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Pa effeithiau y byddai’n eu cael, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 14

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall y polisi arfaethedig cynllun gorfodol i ddileu dolur rhydd feirysol buchol yng Nghymrugael ei lunio neu ei addasu er mwyn: cael effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 15

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma.

Sut i ymateb

Byddwch cystal â chyflwyno'ch sylwadau erbyn 25 Awst 2022, yn un o'r ffyrdd canlynol:

Eich hawliau

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gwefan: ico.org.uk

Geirfa

  1. Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) – Clefyd atal imiwnedd gwartheg.
  2. Clefyd atal imiwnedd – Clefyd sy'n lleihau ymateb imiwnedd yr anifail sydd wedi'i heintio.
  3. Ceidwad gwartheg – Y perchennog neu'r sawl sy'n gyfrifol am y gwartheg. 
  4. Anifail sydd wedi'i heintio'n barhaus (PI) – Anifail sydd wedi'i heintio â BVD yn y groth yn ystod beichiogrwydd ac sy'n parhau i fod yn heintus gydol ei oes.
  5. Grŵp rheoli – Unrhyw grŵp o anifeiliaid sy'n cael eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill ar y safle. 
  6. Prawf gwrthgyrff – Prawf i benderfynu a yw anifail wedi cynhyrchu gwrthgyrff yn erbyn haint feirysol penodol (h.y. a yw'r anifail wedi'i heintio'n flaenorol). Gellir gwneud hyn trwy gymryd sampl gwaed, profion meinweoedd a thagiau neu (ar gyfer ffermydd llaeth) trwy samplu symiau mawr o laeth.
  7. Prawf antigenau – Prawf i benderfynu a yw anifail wedi'i heintio â feirws ar hyn o bryd.
  8. Helfa PI – Y mesur ar gyfer cynnal profion antigenau BVD ychwanegol ar fferm er mwyn adnabod anifeiliaid sydd wedi'u heintio a'u heintio'n barhaus (PI).
  9. Gwaredu BVD – Cynllun dan arweiniad y diwydiant, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n hwyluso profion BVD ar ffermydd.
  10. Statws buches – Dynodi a yw BVD yn bresennol mewn buches ai peidio.

Rhif: WG45481