Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cymorth i ffermio yng Nghymru yn cynnig dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant a'r amgylchedd, meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig heddiw wrth i gynlluniau ar gyfer cynllun ffermio wedi Brexit gael eu datgelu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynigion manwl - a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a'n Tir - yn anelu at ddiogelu'r tir a'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, tra'n cynnig incwm sefydlog i ffermwyr drwy Gynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

O dan y cynlluniau hyn, bydd ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am ganlyniadau amgylcheddol megis ansawdd aer gwell, lleihau allyriadau carbon a gwella ansawdd y pridd, nad ydynt yn cael eu gwobrwyo gan y farchnad. Bydd hyn yn helpu i gryfhau busnes y ffermwr a chynnig manteision i bawb yng Nghymru.

Yn dilyn ymgynghoriad y llynedd, Brexit a'n Tir a'r ymateb eang iawn a gafwyd, cyflwynwyd nifer o newidiadau polisi.

Mae'r ymgynghoriad diweddaraf, Ffermio Cynaliadwy a'n Tir, yn rhoi cynaliadwyedd yn elfen ganolog yn fferm y dyfodol yng Nghymru wedi Brexit - gan gyfuno y cyfraniad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sylweddol gan ffermwyr.

Bydd cyflwyno un Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn cyfuno y cynlluniau ar gyfer cadernid economaidd a nwyddau cyhoeddus yn Brexit a'n Tir a gynigwyd yn wreiddiol.

Mae'r ymgynghoriad newydd yn cynnwys cynigion manwl ac yn arwain y ffermwyr drwy sut y gallai'r cynllun weithio yn ymarferol. Yn yr hydref, bydd y cynigion yn cael eu cynllunio ymhellach yn uniongyrchol gyda'r ffermwyr drwy 'raglen cynllunio ar y cyd' i sicrhau eu bod yn ymarferol.

Ceir mynediad i'r cynllun newydd drwy Adolygiad Cynaliadwyedd Fferm, fydd yna'n cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos â'r ffermwr mewn Cynllun Cynaliadwyedd Fferm.

Yn ogystal â'r ffrydiau incwm rheolaidd, bydd ffermwyr hefyd yn gallu cael mynediad i ystod eang o gymorth busnes drwy'r cynllun megis cyngor, buddsoddi cyfalaf a datblygu sgiliau.

Mae cyfnod pontio dros sawl blwyddyn  yn cael ei gynnig i helpu ffermwyr a Llywodraeth Cymru baratoi a symud oddi wrth y cynlluniau cyfredol at drefniadau newydd. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn holi barn ar wasanaeth cynghori newydd a fframwaith rheoleiddio syml newydd i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Dywedodd y gweinidog:

Mae'r ffordd yr ydym yn cefnogi ffermwyr wedi Brexit yn newid ac mae Brexit yn gyfle inni greu cynllun sydd wedi'i wneud yng Nghymru.

Ni fu amheuaeth erioed ynghylch a ydym am barhau i gefnogi ffermwyr - y cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau o wneud hynny.

Mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ymateb i argyfwng yr hinsawdd a gwyrdroi'r gostyngiad mewn bioamrywiaeth yn dri o'n heriau pwysicaf heddiw. Rydym yn credu y dylai cymorth i ffermydd yn y dyfodol adlewyrchu hyn a gwobrwyo ffermwyr sy'n gweithredu i fodloni'r heriau hyn.

Rydym am gael ffermydd cynaliadwy sy'n cynhyrchu bwyd yn ogystal â manteision ehangach i wella llesiant ffermwyr, cymunedau gwledig a phawb yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol.

Fodd bynnag ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain ac mae angen inni weithio gyda ffermwyr yn uniongyrchol i sicrhau bod ein cynigion yn gweithio yn ymarferol. Hoffwn annog i unrhyw un sydd â diddordeb sicrhau fod gan ffermio ddyfodol cynaliadwy wedi Brexit i fod yn rhan o hyn a rhannu eu safbwyntiau.

Mae'r ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a'n Tir yn cael ei gynnal tan 30 Hydref 2019.