Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen â Chynllun Dychwelyd Ernes sy’n cyflawni dros Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd y penderfyniad mewn datganiad ysgrifenedig.

Eglurodd fod materion wedi cael eu hachosi gan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ‘a etifeddodd Llywodraeth y DU’ gan y weinyddiaeth flaenorol.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies: 

“Gyda Chymru eisoes yn ail yn y byd am ailgylchu, mae'n ein rhoi mewn sefyllfa unigryw o roi cynllun ar waith mewn gwlad sydd eisoes â chyfraddau ailgylchu uchel.

“Mae hynny'n golygu bod datblygu Cynllun Dychwelyd Ernes a fydd yn sicrhau budd i Gymru yn gofyn am ddull sy'n edrych ar Mwy Nag Ailgylchu; un a fydd yn cefnogi Cymru i adeiladu ar ein cynnydd hyd yma a chymryd y cam nesaf drwy gefnogi'r newid i ailddefnyddio.

“Gan gydnabod yr ymdrech y mae pawb ledled Cymru wedi'i wneud i sicrhau ein cynnydd o ran ailgylchu, mae hefyd yn golygu ei bod yn hanfodol y bydd cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes yn adeiladu ar y cynnydd y mae pawb wedi gweithio mor galed i'w gyflawni, ac na fydd yn tynnu oddi wrtho.” 

Mae’r datganiad ysgrifenedig yn mynd ymlaen i esbonio’r sail resymegol dros y penderfyniad heddiw.

“Mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Llywodraethau Datganoledig, rydym wedi bod yn gweithio i gychwyn proses ar y cyd i benodi'r Sefydliad Rheoli Ernes ar gyfer ein cynlluniau priodol yn ddiweddarach y mis hwn,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog.

“Fodd bynnag, yn yr amser sydd ar gael, ni fu'n bosibl mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â gweithredu datganoli a achoswyd gan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, a etifeddodd Llywodraeth y DU gan y weinyddiaeth flaenorol.

“Yn anffodus, mae hyn yn golygu na allwn fwrw ymlaen â'r broses ar y cyd na hysbysu Sefydliad Masnach y Byd mewn perthynas â'r cynllun ar hyn o bryd. ”

Ailadroddodd y Dirprwy Brif Weinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno

“Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer Cymru, gan gefnogi proses bontio’r wlad i economi gylchol.  

“Mae ein gwaith ymgysylltu gweithredol â'r diwydiant wedi tynnu sylw at y ffaith bod amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn o bryd ynghylch y ffordd orau o sicrhau'r newid i ailddefnyddio,” meddai.

“Felly, byddwn yn parhau â'n gwaith ymgysylltu gweithredol i ddatblygu cynllun sy'n cefnogi'r newid i ailddefnyddio ar gyfer yr holl gynwysyddion diodydd, gan gynnwys y rhai a wneir o wydr.

“Wrth wneud hynny, byddwn hefyd yn parhau i ddysgu o arferion gorau rhyngwladol.

“Ochr yn ochr â gwaith datblygu Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru, byddwn hefyd yn parhau â'n gwaith i wella ein hailgylchu, ar ôl gweld cynnydd unwaith eto yn ein cyfraddau ailgylchu diweddaraf eleni.