Bydd trigolion tref yng Ngogledd Cymru yn cymryd rhan cyn bo hir mewn rhaglen beilot ar gyfer dull digidol newydd o olrhain ailgylchi, gan helpu Cymru ar y daith o fod yn economi ddi-wastraff, gylchol.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymuno â Polytag Ltd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a WRAP i dreialu cynllun dychwelyd ernes newydd yn Colwyn Heights, Conwy.
Bydd y treialon pedair wythnos – y cyntaf o’u bath yng Nghymru – yn cynnwys nifer o gartrefi yn yr ardal, ac mae i ddechrau yn y gwanwyn.
Bydd trigolion yn derbyn cyfres o boteli wedi’u tagio gan Polytag, a byddant yn eu sganio wrth eu rhoi yn eu cynwysyddion ailgylchu, gan ddefnyddio ap am ddim.
Bydd y poteli hefyd yn cael eu sganio wrth eu casgu gan dîm ailgylchu gwastraff cartref Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Am bob potel sy’n cael ei sganio ar bob pen o broses y Cynllun Dychwelyd Ernes, bydd preswylwyr yn derbyn tocyn digidol – a phob tocyn werth 20c yr un.
Yna caiff y tocynnau eu rhoi i godi arian i Ysgol Pen y Bryn, yr ysgol gynradd leol.
Mae Cynlluniau Dychwelyd Ernes digidol yn caniatáu i awdurdodau lleol, brandiau a rheoleiddwyr fonitro cyfraddau ailgylchu, fel y gallant ddadansoddi arferion aelwydydd.
Mae canolfan Polytag ar Lannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru, ac mae eisoes wedi gweld llwyddiant y dechnoleg yn dilyn treialon ym mhentref Greasby yn y Wirral, mewn partneriaeth ag Ecosurety, ble y cafodd 91% o’r pecynnu wedi ei dagio ei ailgylchu yn llwyddiannus.
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
“Dwi’n falch iawn o weld bod treialon y cynllun dychwelyd ernes digidol newydd yn digwydd yn y gwanwyn, a hoffwn ddiolch i bob partner – gan gynnwys Polytag, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a WRAP – am y gwaith y maent wedi ei wneud nid yn unig i sicrhau y gall y treialon ddigwydd, ond hefyd i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn ddiogel ac yn unol â chanllawiau Covid-19.
“Bydd mesurau fel y rhain yn caniatáu system mwy hyblyg i ddefnyddwyr na gorofod dychwelyd eitemau megis poteli neu y cynwysyddion eu hunain, a bydd yn cysylltu’n dda gyda seilwaith presennol y systemau casglu deunydd ailgylchu o gartrefi gan yr awdurdodau lleol.
“Trwy fanteisio ar y technolegau newydd, gallwn symud yn nes at ein llwybr tuag at economi gylchol – a dwi’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r treialon unwaith y byddan nhw wedi digwydd.”
Meddai Phil Sutton, sylfaenydd Polytag a’r Prif Swyddog Technoleg:
“Rydyn ni’n falch iawn bod technoleg Polytag wedi ei gynabod gan lywodraeth genedlaethol fel ateb i wella cyfraddau ailgylchu yn gyflymach.
“Rydyn ni’n hyderus y bydd Polytag yn cael ei gynnwys yn rhwydd o fewn casgliadau gwastraff presennol, a bydd defnyddwyr yn gweld y manteision ar unwaith – fedrwn ni ddim aros i’r rhaglen beilot ddechrau!”
Ychwanegodd Emma Hallett o WRAP Cymru:
“Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r cynllun peilot arloesol hwn, ac yn awyddus i ddeall sut y gall technoleg ddigidol helpu inni adeiladu ar lwyddiant Cymru yn y maes ailgylchu.”
Meddai y Cynghorydd Greg Robbins, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun peilot hwn ar gyfer ailgylchu. Mae’n gyfle cyffrous i ddefnyddio technoleg i olrhain a gwneud y gorau o ddeunyddiau ailgylchu wrth godi arian i’r ysgol leol.”