Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Ionawr 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r cynllun hwn yn cwmpasu gwastraff o brosiectau adeiladu, peirianneg sifil a dymchwel. Mae'n anelu at rwystro a lleihau gwastraff a chael rhagor o ailgylchu o fusnesau yn y sector hwn.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Bydd yn gwneud hyn trwy:
- ddylanwadu i newid ymddygiad
- annog ffyrdd gwell o weithio
- datblygu partneriaethau gyda’r trydydd sector
- rheolaethau deddfwriaethol.
Bydd yr amcanion yn cael eu hystyried o’r broses o ddylunio’r cynnyrch neu’r adeiladau i ddymchwel adfer a gwaredu.
Mae’r cynllun hwn yn cefnogi Tuag at Ddyfodol Diwastraff y ddogfen strategaeth wastraff gyffredinol ar gyfer Cymru. Mae’n rhoi manylion y canlyniadau y polisïau a’r camau ar gyfer y sectorau hyn. Rydym am gael eich barn am y ddogfen ymgynghori.
Rydym yn argymell eich bod yn darllen yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gael isod (gan gynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol). Dogfennau perthnasol eraill y dylech eu hystyried yw'r Ddogfennau cefndir Tuag at Ddyfodol Diwastraff ar gael trwy'r ddolen uchod:
- Asesu’r Effaith ar Iechyd
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- sylfaen dystiolaeth.