Sut y bydd cynllun cymorth ynni cartref Nyth yn delio â chwsmeriaid a'r hyn y mae'n ei ddisgwyl ganddynt.
Yn Nyth, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf a thrin ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr yn deg. Mae boddhad ein defnyddwyr a’n cleientiaid yn bwysig i ni, yn ogystal ag iechyd a lles ein pobl, ac rydyn ni’n credu bod gan bob cwsmer a chydweithiwr hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Bob dydd mae ein hymgynghorwyr a’n timau arbenigol yn gweithio’n galed i ddarparu gwasanaeth teg, clir a thryloyw ac i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bawb.
Mae Nyth wedi ymrwymo i ddarparu gofal cwsmeriaid a gwasanaeth rhagorol. Rydyn ni’n hyfforddi ein holl staff sy'n dod i gysylltiad â chwsmeriaid mewn sgiliau gofal cwsmeriaid fel rhan safonol o'n rhaglen hyfforddi.
Ein nod yw:
- ymdrin â phob cwsmer mewn modd teg, gonest, cyson a phriodol.
- ei gwneud hi’n glir i bawb beth gallwn ei wneud i'ch cefnogi ac i ateb eich disgwyliadau.
- gwrando'n astud a gweithio'n galed i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon.
- sefydlu beth sydd o fewn ein cylch gorchwyl fel sefydliad.
- bod yn agored ac osgoi codi disgwyliadau na allwn eu bodloni.
- darparu gwasanaeth sy’n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
- sicrhau nad yw ein cydweithwyr, a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r Nyth, yn dioddef unrhyw anfantais neu drallod oherwydd ymddygiad annerbyniol eraill.
Yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl gan ein cwsmeriaid:
- eu bod yn rhoi’r wybodaeth gywir i ni ar yr amser cywir
- eu bod yn rhoi gwybod i ni pan fydd rhywbeth yn newid
- eu bod yn trin ein staff gyda pharch
Rydyn ni’n deall bod materion am ynni yn gallu peri pryder neu fod y prosesau’n gallu bod yn rhwystredig weithiau. Cofiwch mai pobl - fel chi - yw aelodau’r tîm.
Mae trin pobl â charedigrwydd yn golygu popeth i ni, ond weithiau gall geiriau a gweithredoedd gael effaith wirioneddol.