Cymorth Llywodraeth Cymru i helpu aelwydydd â’r pwysau ar gostau byw.
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 gan eu hawdurdod lleol. Diben yr arian yw rhoi cymorth tuag at dalu biliau tanwydd y gaeaf. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad tanwydd gaeaf sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU.
Bydd y taliad ar gael i bob cwsmer ynni cymwys ni waeth sut y maent yn talu am danwydd. Mae hyn yn cynnwys taliadau a wneir ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol, wedi’u talu bob chwarter neu i’r rhai nad ydynt ar y grid tanwydd.
Mae’r cynllun hwn yn rhan o becyn cymorth gwerth £90 miliwn i fynd i'r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw.
Beth yw’r gronfa
Nod cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru yw lleihau effaith y cynnydd yng nghostau ynni a’r argyfwng costau byw.
Mae’r cynllun wedi’i dargedu at aelwydydd incwm isel ac rydym yn cynyddu nifer yr aelwydydd sy’n gymwys.
Rydym yn deall sut y gall misoedd y gaeaf fod yn rhai o fisoedd anoddaf y flwyddyn. Ni ddylai teuluoedd orfod dewis rhwng gwresogi eu cartref a bwyta.
Pwy all wneud cais?
Bydd y cynllun yn agored i aelwydydd lle mae ymgeisydd yn cael un o’r budd-daliadau cymwys hyn:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credyd Cynhwysol
- Credydau Treth Gwaith
- Credydau Treth Plant
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Lwfans Byw i Bobl Anabl
- Lwfans Gweini
- Lwfans ar gyfer Gofalwyr
- Budd-daliadau Cyfrannol
- Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Rhaid bod yr ymgeiswyr hefyd yn gyfrifol am dalu'r biliau ynni ar gyfer yr eiddo.
Sut i wneud cais?
Gellir gwneud ceisiadau i awdurdodau lleol drwy eu gwefan pan fydd y cynllun yn agor ar 26 Medi 2022.
Cymorth arall sydd ar gael
Ers mis Tachwedd 2021 rydym wedi buddsoddi mwy na £380 miliwn i liniaru effaith yr argyfwng costau byw. Darllenwch ragor o wybodaeth am yr ystod o gymorth sydd eisoes ar gael i lawer o aelwydydd yng Nghymru.
Yn y cyfamser, os ydych yn profi caledi ariannol, gallech wneud hawliad i'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF).