Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir a gwybodaeth gyffredinol

  1. Mae'r nodiadau canllaw hyn yn nodi'r telerau y bydd Llywodraeth Cymru fel arfer yn darparu cymorth ariannol i awdurdodau lleol oddi tanynt yn unol â chynllun a sefydlwyd o dan adran 155 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (y Cynllun Cymorth Ariannol Brys, oedd yn arfer cael ei adnabod fel y Cynllun "Bellwin").
  2. Mae’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys yn gynllun dewisol, a allai gael ei ddechrau er mwyn darparu cymorth ariannol arbennig i awdurdodau lleol a fyddai fel arall yn wynebu baich ariannol gormodol wrth iddynt hwy eu hunain ddarparu cymorth ac wrth gwblhau gwaith ar unwaith o ganlyniad i argyfyngau mawr.
  3. Nid oes unrhyw hawl awtomatig i gymorth ariannol: mae gan awdurdodau lleol swyddogaethau statudol i ymdrin ag argyfyngau ac i gynllunio ar eu cyfer. Rhaid i unrhyw ddigwyddiad y ceisir am gymorth o’i achos gynnwys amodau sy’n eithriadol yn ôl safonau lleol, a rhaid i ddifrod i isadeiledd yr awdurdod lleol neu gymunedau fod yn eithriadol o’i gymharu â phrofiad arferol. Bydd y Gweinidog cyfrifol yn penderfynu a ddylid dechrau cynllun ar ôl ystyried yr amgylchiadau yn ofalus.
  4. Yn y gorffennol, mae’r cynllun wedi ei ddechrau yn fwyaf aml o ganlyniad i effeithiau tywydd difrifol, fel llifogydd neu ddifrod storm, er y gallai hefyd gael ei ddechrau mewn ymateb i fathau eraill o argyfwng.
  5. Bydd Cymorth Ariannol Brys yn ymwneud yn bennaf gyda chanlyniadau uniongyrchol digwyddiad, hy y cyfnod ymateb.
  6. Yn ogystal â CCAB, efallai bydd cymorth ychwanegol ar gael yn dilyn argyfyngau eithriadol a mae canllawiau pellach ar gael ym mharagraffau 20 i 25.
  7. Mae’r cynllun, a sefydlwyd o dan adran 155 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ar gael i bob Cyngor Sir a Chyngor Bwrdeistref Sirol, Awdurdod Tân ac Achub a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu. Fodd bynnag, mae’n debygol mai’r awdurdodau lleol fyddai’n delio ag argyfyngau o fewn eu ardaloedd, ac y byddai’r heddlu ac awdurdodau tân ac achub yn darparu cymorth i’r awdurdodau hynny. O dan yr amgylchiadau hyn, y drefn arferol yw i awdurdodau tân ac achub a chomisiynwyr heddlu a throseddu gael eu digolledu am gostau ychwanegol yn uniongyrchol gan yr awdurdod lleol y byddant wedi’i gynorthwyo, yn hytrach na gwneud cais i ddechrau cynllun cymorth ariannol ar wahân. Er mwyn cynnal effeithlonrwydd ariannol a gweinyddol, rydym yn awgrymu y dylai’r ymarfer hwn barhau.

Gwariant sy’n gymwys

  1. Fel arfer, byddai cynllun yn pennu mai gwariant a fyddai’n gymwys am grant fyddai gwariant sy’n codi:
    • o ganlyniad i un neu fwy o awdurdodau lleol yn gwario arian ar gymryd camau ar unwaith (trwy wneud gwaith neu fel arall), neu mewn cysylltiad â hyn, i ddiogelu bywyd neu eiddo, neu i atal dioddefaint neu anghyfleustra difrifol, yn eu hardal neu ymhlith eu trigolion
    • o ganlyniad i ddigwyddiad(au) a bennir yn y cynllun
    • ar waith a gafodd ei gwblhau cyn terfyn amser penodedig (fel arfer o fewn cyfnod o 2 fis ers y digwyddiad, ond bydd Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried mynd yn groes i’r rheol hon lle mae natur a maint y digwyddiad yn cyfiawnhau hynny ac yn disgyn o fewn disgresiwn statudol Llywodraeth Cymru) ac sydd:
      • mewn perthynas â chostau sydd wedi'u hyswirio neu a fyddai’n yswiriadwy fel arfer
      • net o unrhyw dderbyniadau (ee o werthu coed sydd wedi cwympo yn sgil storm sy’n cael ei gynnwys o dan y cynllun)
      • ar fater nad yw o natur cyfalaf nac wedi ei gyfalafu.
  2. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod polisïau yswiriant yn cynnwys rhywfaint o daliadau ychwanegol, ac felly, gall awdurdodau gynnwys y symiau hyn fel gwariant cymwys. Pan fydd cynllun yn cael ei ddechrau, caiff grant ei dalu fel arfer ar gyfer colledion y’u hysgwyddir gan yr awdurdod ar y cyfraddau canlynol:
    • uchafswm o £250 fesul eiddo ar gyfer tai (sy'n eiddo i'r awdurdod lleol), a/neu ei gynnwys
    • uchafswm o £500 fesul eiddo ar gyfer adeiladau addysgol/cyffredinol, a/neu ei gynnwys
    • uchafswm o £1,250 fesul eiddo ar gyfer adeiladau diwydiannol, a/neu ei gynnwys.
  3. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o wariant a fyddai’n debygol o fod yn gymwys o dan gynllun, ar yr amod y bodlonir y meini prawf ym mharagraff 8. Mae’r rhestr hon ond yn rhoi rhai enghreifftiau yn unig a rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol pob digwyddiad:
    • gwaith brys i ddiogelu strwythurau peryglus gan gynnwys sicrhau nad oes modd cael mynediad iddynt heb awdurdod (lle nad oes modd yswirio)
    • gwácau strwythurau peryglus, ac ailgartrefu pobl dros dro
    • darparu bwyd, storfeydd eraill, a gwasanaethau allweddol i gymunedau sydd wedi’u heffeithio
    • cynnal cysylltiadau allweddol, yn enwedig clirio ffyrdd
    • yn nhermau dibenion nad ydynt yn rhai gweinyddol, sefydlu safleoedd dros dro, gan gynnwys costau symud, costau cynyddol oherwydd rhenti, ardrethi, trethi, goleuo, gwresogi, glanhau ac yswirio
    • llogi cerbydau, offer a pheiriannau ychwanegol a mân dreuliau
    • cael gwared ar goed a phren sydd yn beryglus i’r cyhoedd, neu a allai fod yn beryglus, gan gynnwys coed mewn parciau cyhoeddus, coed awdurdodau lleol ar briffyrdd, a choed sy'n eiddo i ddeiliaid tai preifat sydd wedi disgyn ar briffyrdd cyhoeddus neu hawliau tramwy, neu sydd mewn perygl o wneud
    • atgyweiriadau cychwynnol i briffyrdd, palmentydd a llwybrau troed, lle mae coeden neu eitem o ddodrefn stryd neu rwbel o adeilad wedi'i ddifrodi wedi syrthio, a lle bo rhaid ailosod wyneb y ffordd bryd hynny neu ei thrwsio dros dro (ni fyddai unrhyw waith trwsio’n barhaol wedi hynny yn gymwys)
    • lle nad yw gwaith atgyweirio yn ddigonol, tynnu ac ailosod goleuadau stryd, arwyddion stryd, llochesi bysiau a dodrefn stryd eraill, ffensys, rheiliau ac adeiladau eraill heb eu yswirio sydd wedi'u difrodi gan y digwyddiad, pan fônt, yn eu cyflwr wedi'i ddifrodi, yn peryglu diogelwch cyhoeddus
    • gwaith draenio tir cychwynnol i glirio rwbel a dad-rwystro cyrsiau dŵr sydd yn achosi perygl i'r cyhoedd, neu a allai wneud hynny. (Fodd bynnag, ni fyddai gwaith atgyweirio hirdymor neu ailosod strwythurau a oedd eisoes yn beryglus neu wedi’u difrodi yn gymwys)
    • gwaith arall i glirio'r rwbel sy’n achosi rhwystr neu ddifrod i briffyrdd, palmentydd a llwybrau troed
    • gweithwyr dros dro neu gontractwyr ychwanegol, i weithio ar yr argyfwng neu i gymryd lle gweithwyr parhaol sydd wedi gorfod rhoi eu gwaith arferol o’r neilltu
    • taliadau goramser arbennig ar gyfer gweithwyr, naill ai yn ystod yr argyfwng neu yn dilyn yr argyfwng wrth iddynt ddal fyny â gwaith yr oeddynt wedi gorfod ei roi o’r neilltu oherwydd y digwyddiad
    • costau corffdai dros dro.

Gwariant nad yw’n gymwys

  1. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o wariant na fyddai’n gymwys o dan Gynllun Cymorth Ariannol Brys fel arfer:
    • unrhyw gostau sydd wedi'u hyswirio neu a fyddai’n yswiriadwy fel arfer naill ai gan yr awdurdod neu unrhyw barti arall (ee polisïau yswiriant cartref neu fusnes). Ceir diffiniad o beth y gellir ei yswirio fel arfer, at ddibenion cynlluniau a sefydlwyd o dan adran 155, trwy gyfeirio at bolisi SELECT Zurich Municipal ar gyfer costau sydd yn uwch na £100,000. Dylai awdurdodau nodi yn benodol: 
      1. fod sefydlogi neu chwalu adeiladau wedi eu difrodi yn gost y gellid ei hyswirio
      2. byddai awdurdodau sydd â pholisïau sy’n dwyn llai o risg na pholisi SELECT Zurich Municipal dal yn cael eu rhwymo i’w ddiffiniad o risgiau y gellir eu hyswirio fel arfer yn nhermau gwariant sy’n gymwys o dan y Cynllun Cymorth Ariannol Brys; dylai awdurdodau sydd â pholisïau sy’n yswirio yn erbyn mwy o risg na’r polisi SELECT sylfaenol eithrio o’u gwariant sy’n gymwys yr holl gostau sydd yn cael eu cynnwys yn yr yswiriant ac y byddant yn cael eu digolledu amdanynt
      3. bod difrod a achosir gan derfysgaeth yn dal i fod yn gost y gellir ei hyswirio.
    • incwm wedi ei golli (ee oherwydd bod cyfleusterau neu fusnesau wedi cau o ganlyniad i argyfwng), gan fod hyn y tu allan i gwmpas adran 155 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
    • tâl a chyflogau arferol gweithwyr rheolaidd yr awdurdod, p'un a ydynt  wedi rhoi eu  gwaith arferol o’r neilltu neu fel arall, a chostau sefydlog peiriannau ac offer yr awdurdod
    • unrhyw wariant sydd o natur cyfalaf neu wedi ei gyfalafu
    • unrhyw elfen o welliant, ee atgyweirio adeiladau i safon lawer uwch na’u cyflwr ar y diwrnod cyn y digwyddiad
    • unrhyw symiau mewn perthynas â gwaith penodol ar amddiffyn rhag llifogydd neu ddiogelu’r arfordir a oedd eisoes wedi'u neilltuo fel rhan o wariant y gyllideb cyn y digwyddiad. (Fodd bynnag, byddai symiau dilynol ar gyfer gwaith brys yn dilyn y digwyddiad sydd yn uwch na lefel unrhyw symiau wedi’u neilltuo fel hyn fel arfer yn gymwys ar gyfer cymorth.)    
    • unrhyw wariant ar ddiogelu’r arfordir neu amddiffyn rhag llifogydd y bydd Llywodraeth Cymru yn digolledu ar eu cyfer trwy gyfrwng grant penodol
    • gwaith tymor hir ar atgyweirio ac adnewyddu, fel plannu coed neu atgyweirio ac ailwampio strwythurau sydd wedi'u difrodi ond nid rhai sydd mewn cyflwr peryglus
    • taliadau i ddeiliaid tai neu eraill o dan adran 138 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, mewn perthynas ag eitemau nad oes modd eu hyswirio fel ffensys gerddi a choed a llwyni, oni bai y cymerwyd camau ar unwaith oherwydd eu bod yn beryglus i’r gymuned (efallai bydd modd adennill y costau hynny gan y sawl y’u hysgwyddwyd ar eu rhan).

Cyfraddau grant a throthwyon

  1. Mae disgwyl i awdurdodau wneud darpariaeth resymol yn eu cyllidebau i ddelio ag argyfyngau. Felly, os caiff Cynllun Cymorth Ariannol Brys ei ddechrau, byddai disgwyl i’r awdurdod(au) fodloni (neu fod wedi bodloni eisoes yn ystod argyfwng yr hysbyswyd amdano yn gynharach) yr holl wariant cymwys hyd at lefel y trothwy. Caiff y trothwyon eu cyfrifo ar 0.2% o gyllideb flynyddol ofynnol yr awdurdod ac mae’n berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan, yn hytrach nag i bob digwyddiad o fewn y flwyddyn ariannol.
  2. Dylid nodi nad oes modd i gostau sydd o dan gyfrifoldeb un awdurdod lleol gael eu hawlio gan awdurdod arall, er mwyn manteisio ar drothwy is.
  3. Ar gyfer gwariant cymwys sydd uwchben y trothwy, byddai grant fel arfer yn cael ei dalu ar gyfradd o 85% o wariant cymwys. Ar gyfer digwyddiadau mawr lle mae gwariant cymwys yn fwy na 10 gwaith y trothwy, bydd 100% o'r gwariant cymwys uchod hyn yn cael ei ad-dalu.

Hysbysu am ddigwyddiadau

Adrodd am ddigwyddiad

  1. Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu Llywodraeth Cymru am yr argyfwng neu ddigwyddiad yn ysgrifenedig o fewn un mis o ddechrau’r digwyddiad. Argymhellir y dylid gwneud hyn hyd yn oed os nad yw’r gwariant yn debygol o groesi'r trothwy. Y rheswm am hyn yw os bydd digwyddiad arall yn digwydd o fewn yr un flwyddyn ariannol, gallai olygu fod cyfanswm y gwariant ar gyfer y flwyddyn honno yn uwch na'r trothwy, ond ni all y gwariant blaenorol gael ei ystyried os na adroddwyd am y digwyddiad ar y pryd. O fewn un mis o hysbysu Llywodraeth Cymru am y digwyddiad, rhaid i'r awdurdod roi manylion llawn y gwariant a gwybodaeth am raddfa’r digwyddiad a'r camau adferol a gafodd eu cymryd.

Dechrau cynllun

  1. Os ystyrir bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan yr awdurdod yn ddigonol, bydd Gweinidogion yn penderfynu a ddylid dechrau Cynllun Cymorth Ariannol Brys neu beidio. Fodd bynnag, efallai y bydd angen inni ofyn am wybodaeth ychwanegol am y digwyddiad a'r costau cyn gwneud penderfyniad. Mewn achosion lle mae cynllun yn cael ei ddechrau, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi hyn a hefyd ganllawiau ar weithrediad y cynllun.

Cwblhau gwaith cymwys

  1. Mae rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod yr holl waith wedi ei gwblhau o fewn 2 fis ar ôl y digwyddiad; fodd bynnag, gall Llywodraeth Cymru ystyried mynd yn groes i’r rheol hon yn ddibynnol ar natur a maint y digwyddiad.

Cyflwyno hawliad

  1. Bydd ffurflen hawlio ar gyfer gwneud hawliadau cychwynnol a therfynol yn cael ei hanfon at awdurdodau os caiff cynllun ei ddechrau. Bydd manylion llawn ar gael bryd hynny ar gyfer llenwi a dychwelyd y ffurflen, gan gynnwys unrhyw derfynau amser ar gyfer pob cam o’r hawliad. Bydd gofyn i awdurdod ddychwelyd y ffurflen hawlio o fewn chwe mis i ddyddiad y digwyddiad, ac os na fydd ffurflen hawlio wedi ei derbyn erbyn hynny, pennir bod yr hawliad wedi dod i ben.

Hawliadau

  1. Gallai fod yn ddefnyddiol i awdurdodau gadw’r pwyntiau cyffredinol isod mewn cof:
    • rhaid i hawliadau gael eu llofnodi gan Brif Swyddog Cyllid yr awdurdod i'r perwyl eu bod yn cydymffurfio ym mhob ffordd â thelerau’r cynllun dan sylw
    • dylid cadw cofnodion er mwyn cefnogi unrhyw hawliad mewn modd hwylus ar gyfer archwilio
    • dylai awdurdodau sy'n bwriadu defnyddio asiantau i ymgymryd â gwaith nodi y dylai dulliau gweithredu awdurdod fedru dangos bod unrhyw hawliad yn seiliedig ar wariant cymwys, a bod trefniadau priodol wedi eu dilyn wrth nodi manylion y gwaith a sicrhau ei fod wedi'i gwblhau'n foddhaol
    • bydd manylion costau sy’n gymwys o dan gynlluniau eraill yn yr un flwyddyn ariannol yn cael eu darparu lle bo hynny'n berthnasol pan gyhoeddir unrhyw gynllun
    • rhaid i ffurflenni hawlio gael eu hardystio yn ystod y cam terfynol gan yr archwilydd penodedig
    • dylid llenwi dau gopi o’r ffurflen hawlio, gyda chopi yn cael ei roi ar yr un pryd i Lywodraeth Cymru a'r archwilydd erbyn y dyddiad fydd yn cael ei bennu o dan unrhyw gynllun; os na chaiff hawliad ei gyflwyno i’r archwilydd erbyn y dyddiad hwn, gofynnir i’r awdurdod gyflwyno amcangyfrif cynnar o faint tebygol y cais terfynol
    • dylai’r ffigurau a gafodd eu cynnwys yn y ffurflen hawlio derfynol fod yn gysylltiedig â gwariant gwirioneddol a dylent hefyd fod yn fanwl gywir.

Cymorth Ariannol ar gyfer Adfer yn dilyn Argyfwng

  1. Gallai Llywodraeth Cymru ystyried darparu cymorth ariannol i awdurdodau lleol, yn ogystal a’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys (CCAB), er mwyn rhoi cymorth i awdurdod fodloni costau adfer yn dilyn argyfwng ar raddfa fawr.
  2. Byddai unrhyw gymorth o'r fath yn ddewisol, a gallai gael ei ddechrau gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu costau adfer sy'n gysylltiedig ag argyfwng sy'n cael effaith fawr ar gymunedau, ysgolion, ffyrdd, tai, yr amgylchedd ac ati mewn ardaloedd trefol a gwledig. Nid oes unrhyw hawl awtomatig i gael cymorth ariannol mewn achosion o'r fath; bydd Gweinidogion yn penderfynu darparu cyllid neu beidio ar gyfer adfer ar ôl ystyried amgylchiadau'r digwyddiad penodol.
  3. Bydd unrhyw arian fydd ar gael yn gyfyngedig i helpu gyda chostau sy'n ychwanegol at gostau arferol awdurdodau lleol ac sydd y tu allan i gwmpas cynlluniau ariannu eraill, fel CCAB.
  4. Gallai CCAB a chymorth ariannol ar gyfer adfer gael eu hystyried fel modd o gynorthwyo awdurdodau lleol adeg argyfyngau mawr, ond byddai'r ddau gynllun yn gweithredu ar wahân ac ni fyddai dechrau cynllun CCAB yn arwain yn awtomatig at gymorth ar gyfer adfer. 
  5. Gall unrhyw gyllid adfer ddarparu cymorth ariannol ar gyfer gwariant cyfalaf a / neu refeniw.
  6. Gellid gwneud taliadau trwy gyfrwng grant o dan adran 31(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. O dan adran 31(4), gall Llywodraeth Cymru benderfynu ar yr amodau ar gyfer gwneud y taliad a gallai hyn gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynglŷn â sut y dylai’r grant gael ei ddefnyddio, a’r amgylchiadau pan ddylai’r grant gael ei ad-dalu, naill ai’n rhannol neu yn ei gyfanrwydd.

Llywodraeth Cymru
Ebrill 2014