Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Enw'r Cynllun Cymhorthdal

Cymorth ar gyfer Seilwaith Twristiaeth Leol a Chyfleusterau Ymwelwyr

3. Sail gyfreithiol y DU

Adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("Deddf 1996")

Adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ("Deddf 2006")

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar gyrchfannau a lleoliadau pan fo angen strategol clir am fuddsoddiad gwell mewn seilwaith twristiaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar ardaloedd sy'n wynebu nifer uchel o ymwelwyr.

Er na fydd y prosiectau a gefnogir gan y cynllun ynddynt eu hunain yn denu ymwelwyr, bydd y cynllun yn buddsoddi mewn cyfleusterau a fydd yn gwella boddhad ymwelwyr a phobl leol, yn darparu gwell cyfleusterau i ymwelwyr anabl ac yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol cyrchfannau allweddol. Gall yr elfennau hyn, os nad ydynt ar gael neu heb eu rheoli'n iawn, atal ymwelwyr rhag dod neu eu hatal rhag dychwelyd.

Mae amcanion y cynllun fel a ganlyn:

  • Creu cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd
  • Lliniaru pwysau mewn lleoliadau prysur a chefnogi cyrchfannau twristiaeth o ansawdd uchel
  • Twristiaeth gynhwysol a gwella hygyrchedd.
  • Gwella'r cynnig i ymwelwyr

5. Yr Awdurdod cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar gyrchfannau a lleoliadau pan fo angen strategol clir am fuddsoddiad gwell mewn seilwaith, ac mae'n agored i'r canlynol:

  • Awdurdodau Lleol
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Rhaid i bob prosiect ddangos cydweithio mewn partneriaeth â phartneriaid cyrchfannau ehangach ac ymgynghori ar draws sectorau. Bydd angen i Awdurdodau Lleol ddangos eu bod wedi ymgysylltu â phartneriaid cyrchfannau ehangach a chyda'r Partneriaethau / Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau lle maent wedi'u sefydlu. Yn eu ceisiadau, gall Awdurdodau Lleol hefyd gynnwys prosiectau a ddarperir gan bartneriaid o'r trydydd sector.

7. Sector(au) a gefnogir

Gweithgarwch gan wasanaethau eraill

8. Hyd y cynllun

4 Hydref 2024 tan 31 Mawrth 2030

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun

£12,500,000

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael eu dyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Bydd y gronfa yn blaenoriaethu buddsoddiad strategol mewn cyrchfannau twristiaeth, ac o ganlyniad, dim ond ar gyfer Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol y bydd ar gael. Bydd hyn yn ein galluogi i flaenoriaethu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer prosiectau seilwaith mewn cyrchfannau twristiaeth strategol bwysig lle ceir tystiolaeth glir o angen.

Rhaid i'r prosiect gyd-fynd â blaenoriaethau'r gronfa a chyd-fynd â blaenoriaethau o ran seilwaith cyrchfannau / yr awdurdodau lleol eu hunain.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Ni chaiff dwysedd y cymhorthdal fod yn fwy na 80% o'r costau cymwys.

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£500,000

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image