Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig wedi lansio cynllun cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2020 i helpu ffermwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn llwyddiant y cynlluniau a gyflwynwyd yn 2018 a 2019, bydd cynllun 2020 unwaith eto yn talu benthyciad o hyd at 90% o’r hyn a ragwelir yw gwerth hawliad BPS busnes unigol.

Bydd y taliad hwn yn lleihau’r pwysau byrdymor ar y busnesau ffermio hynny nad ydynt yn cael eu taliad BPS ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu, sy’n dechrau ar 1 Rhagfyr.

Bydd Cynllun Cymorth BPS 2020 yn agor i geisiadau drwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein ar 1 Medi a bydd yn parhau ar agor tan 27 Tachwedd.

Yn amodol ar ymgeiswyr yn bodloni’r telerau ac amodau angenrheidiol, bydd taliad yn cael ei wneud i hawlwyr llwyddiannus nad yw eu hawliad BPS llawn wedi’i brosesu, yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 7 Rhagfyr.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig:

“Mae pandemig COVID-19 wedi hoelio sylw ar y rôl hanfodol sy’n cael ei chwarae gan ein diwydiant amaethyddol o ran sicrhau ein cadernid fel cymdeithas. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae sicrhau bod ffermwyr yn cael yr hyblygrwydd a’r cymorth angenrheidiol i ddiogelu’r cadwyni cyflenwi bwyd a’n cydnerthedd amgylcheddol wedi bod yn flaenoriaeth imi.

“Rwy’n bwriadu adeiladu ar lwyddiant y Cynlluniau Cymorth a gyflwynwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy weithredu Cynllun Cymorth unwaith eto ar gyfer 2020. Bydd hyn yn rhoi’r sicrwydd ariannol sydd wir ei angen ar fusnesau ffermio yng Nghymru yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, tra bo perthynas masnachu’r DU gyda’r UE yn y dyfodol yn dal i fod yn aneglur.

“Bydd angen optio i mewn i’r cynllun hwn a byddwn yn annog pob busnes ffermio i ymgeisio ar gyfer Cynllun Cymorth BPS 2020 gan ddefnyddio’r ffurflen syml ar wefan RPW Ar-lein.”