Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Enw'r cynllun cymhorthdal

Cynllun Cymhorthdal Grant Cyfalaf ar gyfer Diogelwch Tân Adeiladau Preswyl Canolig ac Uchel Iawn (Sector Cymdeithasol)

3. Sail gyfreithiol y DU

Caiff Gweinidogion Cymru, yn rhinwedd a.31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“Deddf 2003”), dalu grant i awdurdod lleol tuag at wariant a ysgwyddwyd neu a gaiff ei ysgwyddo gan yr Awdurdod Lleol hwnnw. Mae adran 31(3) o Ddeddf 2003 yn galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu ar swm y grant ac mae a. 31(4) yn darparu y caniateir talu'r grant ar yr amodau hynny a bennir gan Weinidogion Cymru. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i ddarparu cyllid i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o dan adran 18(1) o Ddeddf Tai 1996 mewn cysylltiad â'u gweithgareddau tai. Mae a.18(2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu'r weithdrefn, yr amgylchiadau, y dull a swm y grant a gaiff ei dalu.

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Darparu cyllid i Landlordiaid Sector Cymdeithasol Cymru i fynd i'r afael â gwaith cyweirio cyflym ar gyfer diffygion diogelwch tân a nodwyd yn yr holl adeiladau o fewn y cwmpas (Sector Cymdeithasol yn Unig, 11m+, Diffygion Diogelwch Tân fel y'u Hadeiladwyd) er mwyn diogelu bywydau preswylwyr.

Y canlyniadau a ddymunir ar gyfer y cynllun yw:

  • Diogelu bywyd rhag niwed sy'n gysylltiedig â thân
  • Cyweirio adeiladau yr effeithir arnynt i gydymffurfio â diogelwch tân
  • Adfer hyder cyhoeddus a masnachol o ran diogelwch a hyfywedd Adeiladau Preswyl Canolig ac Uchel Iawn yn y sector cymdeithasol yng Nghymru
  • Penodi contractwyr arbenigol a all ddefnyddio eu harbenigedd i gynyddu'r economi sylfaenol yn y sector hwn yng Nghymru.

5. Yr Awdurdod cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Landlordiaid Sector Cymdeithasol Cofrestredig Cymru o fewn y cwmpas, sef tai preswyl (11m+).

7. Sector(au) a gefnogir

Adeiladu

8. Hyd y cynllun

2020-2032. Bydd cau'r cynllun yn dibynnu ar gwblhau'r gwaith ar gyfer y dyfarniad diwethaf.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun

£128 miliwn

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Meini prawf cymhwysedd allweddol:

  • Mae'r gronfa ar agor i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac Awdurdodau Lleol yn unig.
  • Bydd yn cefnogi gwaith i gyweirio materion tân a diogelwch strwythurol fel y'u hadeiladwyd mewn adeiladau preswyl canolig ac uchel iawn presennol sy'n 11 metr neu fwy o uchder (mwy na phedwar llawr).
  • Mae materion diogelwch tân ar gyfer yr ardaloedd o fewn y cwmpas wedi'u seilio'n glir ar asesu risg a mesurau sydd wedi'u hintegreiddio yn y cynllun diogelwch tân.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Bydd pob grant yn ariannu 100% o'r costau cymwys i ymgeiswyr cymeradwy, a delir mewn ôl-daliadau.

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

Mae dyfarniadau unigol yn cael eu capio ar £20 miliwn

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image